Mae’r amrywiaeth fyrlymus arferol i’w chael rhwng cloriau’r rhifyn cyfredol. Fel y gwna awdur Cwrs y Byd, mae Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, yn ymateb i ‘Sgwrs’ Radio Cymru, a Dafydd Fôn Williams a John Pierce Jones yn trafod ‘syrcas’ etholiadau diweddar Cyngor Môn – ai codi dau fys ar Gaerdydd wnaeth y Monwysion? Byd iechyd yn Iwerddon sydd dan sylw gan Bethan Kilfoil – busnes drud yw bod yn sâl yno meddai. A busnes pwysig yw cwsg i bawb ym mhobman, yn enwedig yr ifanc, yn ôl Deri Tomos. Mae Bethan Jones Parry yn cymryd golwg ar hanes Caernarfon fel canolfan bwysig i’r wasg brint, ar drothwy cynhadledd sy’n dathlu’r hanes hwnnw. W. J. Gruffydd – golygydd praff, ymlith pethau eraill – yw gwrthrych y gyntaf o ddwy erthygl gan Dafydd Glyn Jones, yn dychmygu beth fyddai barn WJG petai’n dychwelyd i Gymru heddiw, ac mae Derec Llwyd Morgan yn cofio rheolwr pêl-droed a roddodd ystyr newydd i’r enw Fergie. Hyn oll a mwy – mynnwch gopi.
Geraint Lewis
Cyfweliad Barn
Mae’r gwr sydd bellach wrth lyw Opera Cenedlaethol Cymru yn fwy ymwybodol na neb o orffennol anrhydeddus y cwmni, ond wrth fynd ati i wireddu ei weledigaeth ar ei gyfer mae golygon David Pountney yn gadarn ar y dyfodol hefyd.