Richard Wyn Jones
Gwleidyddiaeth ar ffurf opera sebon sy’n mynd â bryd yr awdur y mis hwn wrth iddo ddilyn y troeon diweddaraf yn helyntion a helbulon Teulu Ty Glas.
(Nid dychmygol yw’r cymeriadau.)
Reit, gadewch i mi weld a ydw i wedi deall y sefyllfa’n iawn…
Mae Byron yn meddwl fod Nick wedi cael cam gan Andrew felly mae o wedi pwdu a mynd ar streic. Ar ben hynny, mae Byron wedi llyncu mul hefo William gan ei fod yn meddwl fod William wedi bod yn dan din wrth gymryd lle Nick ar ôl i Nick gan y sac gan Andrew. O ganlyniad mae Byron yn mynnu na fydd ei streic yn dod i ben nes bod Andrew yn rhoi’r sac i William hefyd.
Craidd y drwg yw bod Nick, Antoinette, Mohammad a Janet wedi myllio hefo Andrew, ac Andrew yntau hefo hwythau. Hynny oherwydd bod Nick, Antoinette, Mohammad a Janet yn anghytuno hefo syniadau Andrew ac yn hytrach wedi dewis cytuno hefo syniadau David J, George a David C. Serch fod George a David C ar fin newid eu safbwynt (erbyn i’r rhifyn yma o Barn gyrraedd o’r wasg, debyg) a chefnogi syniadau Andrew wedi’r cyfan. Ar y pwynt hwnnw bydd David J wedi martsio Nick, Antoinette, Mohammad a Janet i ben y bryn – gyda Byron i’w canlyn – gan eu gadael wedi eu hynysu yno oddi wrth Paul, Angela, Darren, David M, Suzy, Russell a Mark, heb sôn, wrth gwrs, am William ac Andrew. A dagrau pethau yw nad oes unrhyw lwybr amlwg yn ôl iddynt at lawr y dyffryn...
Dyna’n fras, gyfeillion, yw cyflwr presennol truenus y Blaid Geidwadol Gymreig.
* * *
Yn y blynyddoedd ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru fe ddaeth yr haeriad mai’r Torïaid sydd wedi addasu orau i ddatganoli yn dipyn o diwn gron ymysg sylwebwyr. A pha ryfedd? Mae’r gosodiad yn agor y drws ar sawl strôc rethregol ogleisiol. Fe aed cyn belled â honni fod y blaid a fu mor daer ei gwrthwynebiad i ddatganoli wedi ei hachub gan yr hyn a oedd unwaith yn esgymun yn ei golwg – ac yn benodol gan gyfundrefn etholiadol fwy cyfrannol a ystyriai’n gwbl wrthun. Y fath eironi!
A dyna chi wedyn y ffaith fod cenedlaetholwyr Cymreig, hyd yn oed os ydynt bellach wedi hen gefnu ar y math o genedlaetholdeb Cristnogol a anwylwyd gan Gwynfor a Dr Tudur, yn dal yn driw i ergyd dameg y ddafad golledig: ‘bydd mwy o lawenydd yn y nef am un pechadur sy’n edifarhau nag am naw deg a naw o ddynion sy’n meddwl nad oes arnynt angen edifeirwch’...