Fel arfer nid yw gwleidyddion un wlad yn ymyrryd ym materion mewnol gwlad arall. Nid ydynt eisiau cael eu cyhuddo o fusnesu. Ac maen nhw’n llawn sylweddoli hefyd y gallai ymyrraeth o’r fath wneud mwy o ddrwg nag o les i’r achos dan sylw. Ond mae Brexit yn wahanol…
O’r cychwyn, pan ddaeth hi’n amlwg gyntaf fod refferendwm yn debygol o gael ei chynnal ym Mhrydain ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd fe benderfynodd llywodraeth Iwerddon neidio i mewn i’r ddadl.
Y cyfiawnhad dros wneud hynny yn yr achos penodol hwn oedd yr effaith sylweddol y gallai Brexit ei gael ar Iwerddon – y De a’r Gogledd. Yn wahanol i Brydain ranedig, yma mae pawb, bron – y llywodraeth, busnesau mawr a bach, ffermwyr, pobl ifanc – yn bendant o’r farn mai peth drwg iawn i Iwerddon fyddai i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.
Beth felly, fyddai effaith Brexit ar Iwerddon?...
Mehefin 2016 / Rhifyn 641

Gadael Ewrop – pryderon dwfn Iwerddon

Allez les Rouges!
... Yn grwt ifanc yng ngogledd Caerdydd sylweddolais o ’nyddiau cynnar taw math arbennig o wladgarwr oedd yn clymu sgidiau a gwisgo crys pêl-droed Cymru...
Tra’n treulio hanner tymor gyda Nain a Taid yn Llanfair Caereinion mi aethom i noson lawen gyda Dafydd Iwan ac Ar Log i’r ‘Institute’. Y gwladgarwr gwadd y noson honno oedd John Mahoney. Wn i ddim hyd heddiw a fedrai’r Gymraeg, ond safai’n barchus a’i gefn yn unionsyth yng nghanol y neuadd, fel y safodd yng nghanol y cae y noson honno pan gurodd Cymru Dwrci...
Trwy’r degawdau llwm a ddilynodd, cefais yr anrhydedd o weld Cymru yn colli yn rhannau mwyaf estron y byd yng nghwmni cyd-Gymry ffyddlon a theyrngar, a’n cariad tuag at y bêl gron yn ein clymu...
Wrth gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Ewro 2016 yn Ffrainc rydym wedi rhoi Cymru, ein diwylliant a’r iaith Gymraeg ar lwyfan byd-eang. Mae’n fwy nag y gall unrhyw wleidydd nac ymgyrchwyr iaith ei gyflawni.
Pan lawiodd yr Albanwr Joe Jordan y bêl, y noson dyngedfennol honno yn Anfield yn 1976, fe rewodd pêl-droed Cymru a’n hunanhyder fel cenedl. Collwyd cyfle i ymddangos ar lwyfan rhyngwladol Cwpan y Byd yn yr Ariannin yn 1978. Yn fuan iawn ar ôl hynny, yn refferendwm ’79 ar ddatganoli, enillodd Neil Kinnock a chriw’r bleidlais ‘Na’ o fwyafrif llethol. Tybed beth fyddai wedi digwydd pe bai’r canlyniad wedi bod yn wahanol y noson honno yn Lerpwl?
Mae mwy nag un deigryn wedi’i golli dros y blynyddoedd llwm. Dagrau o lawenydd fydd yn Stade de Bordeaux ar 11 Mehefin, wrth ganu’r anthem ac wrth groesawu ein hogie NI i’r llwyfan rhyngwladol gerbron camerâu’r byd. Fedrwch chi ddim gofyn am fwy. Mae’r freuddwyd wedi ei gwireddu. Ry’n ni yna! Allez les Rouges!

Tristwch ieithyddol a gwleidyddol
Mae dadlau am ba ffurf Gymraeg ar enw mynydd i’w roi ar arwydd yn hurt, yn ôl ein colofnydd, yn enwedig yn wyneb gormes cyffredinol enwau lleoedd Saesneg yn ein gwlad. Ac mae llwyddiant Ukip yn etholiad y Cynulliad yn arwydd pellach o’r gred ymhlith llawer o drigolion Cymru eu bod yn byw yn Western England.
Fesul tŷ, nid fesul ton,
Y daw’r môr dros dir Meirion
meddai Gerallt graff a phroffwydol. A beth, tybed, mae rhai o drigolion da tir Meirion yn ei wneud yn wyneb y bygythiad hwn? Cywir; dadlau am fanion, hollti blew, gan anwybyddu ymchwydd y môr anghyfiaith sy’n eu boddi. Ac, wrth gwrs, roedd ein cyfryngau mewnblyg yno i chwyddo storm mewn botwm bol yn storm mewn pwced.
Roedd y storm oherwydd enw un o’n mynyddoedd uchaf, Cadair Idris...

Brigau, broc môr a bywyd - Wil Rowlands a’i gynefin
Mae tirlun ei ynys enedigol yn parhau i ysbrydoli artist o Fôn, ond mae ei waith diweddaraf (Briga’, Oriel Plas Glyn-y-weddw hyd 20 Gorffennaf) hefyd yn dangos newid cyfeiriad diddorol mewn sawl ffordd.
Wrth ysgrifennu Crwydro Môn yn y 1950au ymlwybrodd Bobi Jones, a oedd yn athro ysgol ifanc yn Llangefni ar y pryd, drwy’r llu o lannau sydd ar yr ynys, megis Llanddeusant, Llanfaethlu, Llanrhuddlad, Llanbabo, Llandyfrydog, ac ymlaen wedyn i gyfeiriad Llannerch-y-medd, Amlwch a Mynydd Parys. Gan syllu ar yr olygfa a welai yno, ‘Pe bawn i’n baentiwr,’ meddai, ‘byddai fy lliwiau’n batrwm o harddwch ar gynfas o’m blaen i y munud yma.’
Gŵr a welodd yr un olygfa droeon yw Wil Rowlands, a fagwyd ym mhlwyf Llandyfrydog, ac sy’n byw nid nepell o’r plwyf hwnnw yng Nghemlyn ger Cemaes. Ac y mae o’n baentiwr, un a lwyddodd i ddarlunio’r union ardal mewn sbloet o liwiau trawiadol...

Gwahodd llwynog i’r cwt ieir – a digwyddiadau etholiadol eraill
Bu’r awdur yn pendroni dros beth oedd gwir arwyddocâd canlyniadau etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016 i’n pleidiau gwleidyddol.
O safbwynt y blaid fuddugol, Plaid Lafur Cymru Carwyn Jones – a noder y personoli bwriadol a chwbl haeddiannol – cafwyd cadarnhad eto fyth o’i gafael ar wleidyddiaeth Cymru. Yn wir, yn sgil buddugoliaeth mis Mai fe gaiff Llafur yn awr fod yn sicr o ddathlu canrif o ddominyddiaeth dros wleidyddiaeth Cymru. Mae’n anodd meddwl am unrhyw genedl yn unman sydd wedi gwirfoddoli, fel y gwnaethom ni, i dderbyn ffawd o’r fath!...
O ran y pleidiau sy’n weddill, rhaid wrth ddyfarniad mwy amwys.
UKIP, wrth gwrs, oedd buddugwyr mawr yr etholiad. Rwy’n sicr y bydd llawer iawn o ddarllenwyr Barn yn gwaredu at y fath beth. Onid dyma enghraifft o lwynog peryglus yn cael ei wahodd i breswylio yn y cwt ieir?

Cymryd digrifwch o ddifri
Yn ôl ROGER OWEN, mae’r sioe un dyn hon yn un lawn hwyl a doniolwch – ond mae lle i finiogi’r dychan a’r feirniadaeth wleidyddol sy’n rhan ohoni.
Allan o Diwn gan Emyr ‘Himyrs’ Roberts
Theatr Bara Caws
Cyfr. Betsan Llwyd
Theatr Felinfach, 12 Mai
Mae’n debyg mai Idwal Jones a ddywedodd am y Cymry nad oedden nhw’n cymryd eu digrifwch yn ddigon o ddifrif. Yr hyn a olygai oedd bod digrifwch yn rhan bwysig o ddiwylliant hyfyw, ac yn beth y mae’n rhaid wrtho er mwyn darbwyllo cyd-gyfranogwyr yn y diwylliant hwnnw fod eu profiad yn un cyflawn. Hynny yw, er mwyn ei chynnal ei hun, mae’n rhaid i gymdeithas fedru creu’i dwli neu ffwlbri ei hun, ar ei thelerau ei hun.
Rwy’n dweud hyn ar ôl gweld – a mwynhau – Allan o Diwn, sioe Emyr ‘Himyrs’ Roberts ar gyfer Bara Caws. Cymysgedd o hunangofiant, stand-up a sioe gabaret yw hi, yn llawn hwyl ac ar brydiau yn ddoniol tu hwnt. Ond mae hi, dan yr wyneb fel petai, yn sioe ddigon difrifol hefyd. A hoffwn pe bai hi, yn driw i haeriad Idwal, wedi cymryd ei digrifwch yn fwy o ddifrif...