Yn BARN Mai mae Tweli Griffiths yn trafod y don o Geidwadaeth sy'n sgubo drwy Brydain a Rhys Llwyd yn gweld peryg yn yr awgrym y dylai deiliaid swyddi cyhoeddus, fel Tim Farron, roi eu credoau personol o'r neilltu. Yn ei golofn 'O Ewrop' mae Dafydd ab Iago yn sôn am yr agwedd ar y cyfandir tuag at y Saeson cenedlaetholgar. Y grefft o ddod â stori, boed mewn nofel neu gyfres deleu neu ffilm, i ben, yw pwnc Elin Llwyd Morgan, tra mae Beca Brown yn trafod effaith un gyfres arbennig, Three Girls, arni hi. Hyn a llawer mwy rhwng cloriau rhifyn swmpus arall.
Mehefin 2017 / Rhifyn 653

Achub cam Oscar – a phob dyn hoyw arall
Ychydig flynyddoedd yn ôl bûm yn ciniawa gyda chyfaill i mi, dyn hoyw o genhedlaeth fy rhieni. Roedd y priodasau cyntaf rhwng dau o’r un rhyw newydd ddigwydd ym Mhrydain. Amser i ddathlu a meddwl am y dyfodol oedd hi i’r rhan fwyaf, ond dal i fyw gyda chreithiau’r gorffennol oedd llawer un. Cynigiodd fy ffrind fynd â fi am dro i dafarn neilltuol. ‘Mynwent yr eliffantod’ oedd enw’r dafarn ar lafar gwlad, gan mai yno yr ymgasglai dynion hoyw oedrannus a fu’n gorfod byw rhan fawr o’u bywydau yn y dirgel. Dyma frodorion yr oes cyn ‘priodas gyfartal’, pan oedd rhyw rhwng dynion yn ‘anweddustra dybryd’ ac yn dwyn gwarth cyhoeddus a dedfryd o garchar.
Am ganrifoedd lawer, mater i’r llysoedd eglwysig oedd gwrywgydiaeth. Perygl i’r enaid oedd e...

Cofio Rhodri Morgan, 1939–2017
Er mor hoff o boeri llysnafedd at bawb a phopeth yw llaweroedd o ddefnyddwyr y gwefannau cymdeithasol, cryn gamp oedd dod ar draws yr un trydarwr oedd â gair drwg i’w ddweud am Rhodri pan gyhoeddwyd ei farwolaeth annisgwyl ar 17 Mai. Priodol yw cyfeirio ato wrth ei enw cyntaf. Felly yr oedd o’n cael ei adnabod ar hyd a lled Cymru. ... Doedd Rhodri ddim y taclusaf o greaduriaid. Sylw meistres y gwisgoedd HTV pan fynnodd Rhodri, Aelod Seneddol newydd Gorllewin Caerdydd ar y pryd, ymddangos ar sioe siarad mewn siwmper a throwsus na fyddai’r un siop elusen wedi meiddio ceisio eu hailwerthu oedd: ‘Mi ydach chi’n ddewr iawn’.
Ac mi oedd Rhodri’n ddyn dewr mewn pob math o ffyrdd. A ninnau wedi cael yn agos i ugain mlynedd i ymgynefino â’r Cynulliad Cenedlaethol, mae’n hawdd anghofio gwrthwynebiad greddfol, gwaelodol llaweroedd o gefnogwyr Llafur i’r cysyniad o ddatganoli...

Ymgyrch ‘Ie’ Gymreig
Cyfweld Iestyn ap Rhobert, cadeirydd Yes Cymru
Wrth i ni ddynesu at Etholiad Cyffredinol, edrych ymlaen y tu hwnt i hynny at y dyfodol y mae Iestyn ap Rhobert, cadeirydd Yes Cymru.
Mae’n gobeithio y bydd y pleidiau, a’u cefnogwyr, yn fwy parod i drafod yn agored y posibilrwydd o annibyniaeth i’r wlad unwaith y byddant mewn sefyllfa lle nad oes angen iddynt boeni am adlach gan y pleidleisiwr cyffredin.
‘Mae yna nifer yn gweld annibyniaeth fel poisoned chalice, ond ddyle fe ddim bod o gwbl,’ meddai. ‘Dyle unrhyw gymdeithas iach fod yn gallu trafod sut orau i ddatblygu’r gymdeithas honno. Ar ôl yr etholiad dwi’n gobeithio y gallan nhw fagu bach mwy o hyder dros eu cenedl nhw, a dod mas i gefnogi annibyniaeth.
‘Dydw i ddim yn disgwyl cael cefnogaeth y Ceidwadwyr nac UKIP. Ond mae hyd yn oed Neil Hamilton wedi dweud nad yw yn erbyn annibyniaeth i Gymru ar egwyddor!’...

Pwy fagai blant yn Awstralia?
Doedd neb yng nghapel Cymraeg Melbourne yn disgwyl y byddai fy mab tair oed yn gallu siarad Cymraeg. Roedden nhw yno ers degawdau, a ninnau newydd gyrraedd Awstralia. Doedd gen i ddim calon i ofyn a oedd eu plant nhw’n siarad Cymraeg – fe’m rhybuddiwyd ei fod yn bwnc sensitif i sawl un a oedd heb drosglwyddo’r iaith i’r genhedlaeth nesaf. Ond doedd Teilo ddim yn deall eu cwestiynau Saesneg, gan mai Cymraeg yw ei unig iaith ef o hyd. Ond am ba mor hir fydd hynny’n para?
Fu’r Cymry ddim yn dda am gadw’r iaith yma. Yn ôl un astudiaeth academaidd gan Dr Arthur F. Hughes o agweddau mewnfudwyr wedi’r rhyfel, ‘When the children of Welsh-speaking parents started school in Australia they became English monolinguals within one or two years. This was the experience of all the Welsh-speaking families irrespective of parental attitudes’...

Y Gwasanaeth Iechyd ‘am ddim’ – amser ailfeddwl?
Wrth imi ysgrifennu’r pwt yma mae’r Deyrnas Unedig yn chwysu ym merw’r dwymyn etholiadol. Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn daten boeth sy’n cael ei thaflu o un i’r llall fel arfer wrth i’r gwleidyddion o bob lliw geisio denu’r pleidleiswyr. Gyda maniffesto pob prif plaid wedi ei gyhoeddi erbyn hyn, gofynnir cwestiynau rif y gwlith ynglŷn â dyfodol y GIG ac a fydd gwasanaethau’n parhau i fod am ddim ar adeg eu derbyn (‘free at the point of delivery’) o’r crud i’r bedd.
Mae’r GIG yn cael ei glodfori fel sefydliad na ellir ei gyffwrdd – ac yn wir, y mae’n rhyfeddol sut mae’r fath wasanaeth yn gallu cael ei gynnal o ystyried cyn lleied o wariant sydd arno o’i gymharu â’r gwariant y pen mewn gwledydd eraill. Mae ewyllys da ar ran staff y rheng flaen yn bendant yn chwarae ei ran – ond mi fyddwn i’n dweud hynny, byddwn?...

Rhagolygon y blaid biws yn ddu
Fel y bydd unrhyw un a fu’n darllen y golofn hon dros y ddau ddegawd diwethaf yn gallu tystio, tydw i fawr o broffwyd! Ond go brin fy mod wedi cael fy mhrofi’n fwy anghywir yn fwy cyflym nag yn y mis ers ysgrifennu’r golofn ddiwethaf. Bryd hynny roeddwn yn darogan yn dalog fel a ganlyn am y blaid sydd wedi chwyldroi gwleidyddiaeth y Deyrnas Gyfunol dros y blynyddoedd diwethaf:
‘Y disgwyl felly yw y bydd cefnogwyr UKIP yn ysglyfaeth rwydd i ymdrechion y Ceidwadwyr i’w hudo i gefnogi eu hymgeiswyr hwy. Ond tybed? Mae’n werth nodi un ffaith fach ddiddorol. Er gwaethaf ei helbulon amlwg a dirifedi, mae’r arolygon barn yn awgrymu fod tua un mewn deg o’r etholwyr yn parhau’n ffyddlon i UKIP...’

Hud ar Ddyfed?
Cyfweld Dyfed Elis-Gruffydd
O’r fferm lle cefais i fy magu ger Llangynog roedd y Preselau, ar ddiwrnod clir, yn codi’n felyn-borffor uwchben gwyrddni gogledd-orllewin Sir Gâr... Mae’n debyg fod rhywbeth am y Preselau, rhywbeth hudol ac anghyffwrdd, rhamant anodd ei ddisgrifio a’i ddeall a oedd yn fy nenu. Mae Preselau: Gwlad Hud a Lledrith gan Dyfed Elis-Gruffydd yn ceisio portreadu’r ‘rhin a’r rhamant’ hwnnw ond hefyd yn ceisio ‘nithio’r gwir rhag y gau’, addysgu ac esbonio.
Gwyddonydd daear yw Dyfed... [ac] o gofio’r cefndir yma... nid yw’n syndod ei fod eisiau gwybod beth yw’r dystiolaeth sy’n sail i hanesion poblogaidd. Er nad oedd chwalu mythau yn fwriad ganddo – ‘does neb yn awyddus i chwalu myth oni bai bod tystiolaeth o blaid hynny’ – ac er bod chwedlau a llên gwerin yn cael lle teilwng ganddo, mae rhai o’r mythau hynny’n dod dan chwyddwydr pwerus iawn...