Beth amser yn ôl ymwelodd cyfaill i mi ag oriel gelf ffasiynol yn Efrog Newydd. Gan deimlo galwad natur, ymlwybrodd tua’r lle chwech. Ac yno, wynebodd ddewis. Ar y drysau, yn ogystal â’r symbolau cyfarwydd o ddyn ag ysgwyddau llydan a dynes mewn sgert drionglog, roedd neges a’i synnodd yn arw. Neges i’r perwyl hwn: ‘Er bod yr arwyddion traddodiadol ar y ddau ddrws hwn, mae croeso i chi fynd i mewn drwy’r drws sy’n gydnaws â’r modd yr ydych chi’n diffinio eich rhywedd’. A dyna lle cafodd fy nghyfaill ei epiffani. ‘Ie,’ meddai wrtho’i hunan, ‘dyna pam yr enillodd Trump’. Yn hyn o beth, roedd e’n adleisio pryderon sawl un ar y Chwith yn America fod y pwyslais ar hawl unigolyn i ddewis ei hunaniaeth a’i arddel ymhobman wedi tyfu ar draul ymdrin â materion bara menyn sy’n berthnasol i drwch y boblogaeth.
Mehefin 2018 / Rhifyn 665

Bargen wael i Gymru
I lawer, gan gynnwys nifer o ddarllenwyr BARN mi dybiaf, y broblem gyda gwleidyddiaeth a gwleidyddion ydi’r cyfaddawdu parhaus. Y ffaith fod egwyddorion cadarn, o’u trosglwyddo i’r byd gwleidyddol, fel petaent yn cael eu trin fel ymrwymiadau amodol y gellir yn hawdd eu hepgor pan fo hynny’n gyfleus. Mae dirmyg tuag at y fath lithrigrwydd ‘diegwyddor’ wedi gwneud llawer i danio’r dadrithiad cyffredinol â gwleidyddiaeth ‘sefydliadol’ sy’n nodwedd mor amlwg ar fywyd gwleidyddol mewn cymaint o wladwriaethau democrataidd. Mae hefyd yn egluro poblogrwydd y gwleidyddion gwrth-sefydliadol hynny, megis Jeremy Corbyn a Nigel Farage, sydd fel petaent yn cadw’n driw i’w hegwyddorion costied a gostio. Efallai fod Neil McEvoy yn enghraifft arall o’r brid.

'Dedfryd Oes'
Roedd Iwan a’i ddau fab yn wên o glust i glust. ‘Mae’r plant ’ma wedi’u difetha,’ meddai’r tad balch wrth bostio llun ohono fe a Lleu a Caeo ar ei gyfrif Facebook, y tri ohonynt ar y cae yn dathlu. ‘Dedfryd oes!’ atebais innau gan wybod bod yna fwy o boen nag o bleser i ddod wrth i’r plant dreulio eu bywydau yn dilyn tîm pêl-droed Dinas Caerdydd.
Ond am y tro, hyd nes i gárnifal yr Uwch Gynghrair ailgychwyn ym mis Awst, gallwn ni i gyd ymfalchïo yn llwyddiant un o dimoedd llai ffasiynol y byd pêl-droed. Na, dyw e ddim wedi bod yn dymor i’r puryddion. Roedd ein gwaredwr, y rheolwr Neil Warnock, yn gwybod yn union beth oedd ei angen i ennill dyrchafiad. Undod o fewn y garfan, cicio’r bêl mor bell ag oedd yn bosib, a chicio’r gwrthwynebwyr hefyd, o fewn rheolau’r gêm, wrth gwrs. Pêl-droed ‘diwydiannol’ efallai, ond llwyddiannus hefyd.
Dyna’r math o chwarae y mae cefnogwyr Caerdydd wedi arfer ag e ers dyddiau’r cyn-reolwyr Frankie Burrows, Eddie May a Dave Jones. Yn wir, dyma’r pêl-droed ry’n ni’n ei lecio. Ac am unwaith fe lwyddodd y dull hyll. A’r tymor nesaf bant â ni’r Adar Gleision i Old Trafford a’r Emirates yn hytrach nag i Barnsley a Burton.
Prin fu’r cyfnodau o bêl-droed agored y tymor hwn. Chwaraewr y tymor oedd yr amddiffynnwr a’r capten Sean Morrison, nid rhyw seren o streicar deugain gôl. A dyna lle mae penodi Warnock wedi talu ar ei ganfed. Gydag adnoddau prin, fe lwyddodd i greu tîm allan o chwaraewyr cymedrol eu gallu, gydag undod a dycnwch yn gwneud iawn am eu diffyg sgìl a thalent. ‘Rwy’n hoffi Caerdydd,’ meddai yn un o’i gyfweliadau cyntaf wedi derbyn y swydd. ‘Fy math i o glwb, fy math i o bobol.’ A dyna pam y mae dyrchafiad y tro hwn gymaint yn fwy pleserus. Achos bod y tîm wedi gweithio am bob un pwynt, a ninnau’r cefnogwyr wedi dioddef pob cic, pob cerdyn a phob anaf gyda nhw. Siwrne oedd hi. Tymor o ffydd, gobaith a gwaith caled. Ac o edrych yn ôl, mi wnes i fwynhau pob munud ohono.

Grym stori a delwedd: Holi Clive Hicks-Jenkins
Yn ôl Clive Hicks-Jenkins, mae waliau ei stwdio yn ei gartref yn Llanilar yn blastar o ddarnau o farddoniaeth – yn wir mae mwy o farddoniaeth yno na dim byd arall, meddai. A does dim rhyfedd: mae cerddi, llenyddiaeth, llên-gwerin a chwedlau wedi bod yn ysbrydoli neu’n bwydo ei waith ers y dechrau’n deg.
‘Dwi wrth fy modd yn cymryd darnau o destun ac yn eu troi nhw’n ddelweddau, yn enwedig os ydi’r geiriau wedi’u gosod ynghyd yn grefftus ac yn hardd,’ meddai. ‘Mae delweddau’r bardd neu’r awdur fel petaen nhw’n fy arwain i greu fy nelweddau newydd fy hun.’

Gwarth profion canser diffygiol
‘Dwi’n marw − ond ddylwn i ddim bod. Dydi o ddim yn deg. Mae fy mhlant yn mynd i fod hebdda i, a dwi’n mynd i fod hebddyn nhw. Dwi wedi trio gwneud popeth yn iawn − bod adre efo fy mhlant − a rŵan dwi ddim hyd yn oed yn gwybod a fydd yr ieuengaf yn fy nghofio i o gwbl.’
Geiriau torcalonnus Emma Mhic Mathúna, merch 37 oed, a mam sengl i bump o blant. Mae Emma’n dioddef o ganser ceg y groth. Ar 10 Mai, fe gafodd hi’r newyddion ofnadwy nad oes ganddi unrhyw obaith gwella. Y rheswm pam y mae pawb yn Iwerddon wedi gweld y lluniau o Emma yn cerdded gyda’i phlant ar y traeth yn Baile na nghall, yn y Gaeltacht yng ngorllewin Kerry, ac wedi clywed ei stori drist, ydi bod trasiedi Emma yn rhan o argyfwng sydd wedi effeithio ar gannoedd o ferched.

Pam yr holl sôn am Drydydd Rhyfel Byd?
Y Rhyfel Byd Cyntaf oedd ‘y rhyfel i orffen pob rhyfel’ ond ymhen ychydig dros ugain mlynedd fe ddigwyddodd y cyfan eto. A bu cynnydd mawr yn ystod mis Mai eleni yn y darogan y gall yr un nesaf ddigwydd yn fuan. Does dim amheuaeth ei bod yn gyfnod gofidus unwaith eto. Mae yna sawl fflachbwynt allai arwain at gyflafan fyd-eang arall. Yn fwyaf diweddar lladdwyd degau o Balestiniaid mewn ffrwydrad arall o brotest yn erbyn Israel. Ond yn hanesyddol dyw trais yn y rhan honno o’r byd ddim yn ymledu i lefel fyd-eang. Yng nghyswllt y rhyfel oer newydd rhwng y Gorllewin a Rwsia, y sefyllfa fwyaf ymfflamychol o hyd yw’r un yn Syria. Eisoes parodd y rhyfel yn erbyn IS am un mlynedd ar bymtheg. Yn y cyfnod hwnnw costiodd dros dair mil biliwn o bunnau. Yn y broses lladdwyd dros filiwn o bobl. Mae’n bosib dadlau − neu o leiaf ofyn y cwestiwn − ai dyma’r trydydd rhyfel byd?
Cip ar weddill rhifyn mis Mehefin
Gwell byd yn Armenia? – Iolo ap Dafydd
Cael gwared ar y tabŵ tai haf – Huw Prys Jones
Rhyddid newydd – Elin Llwyd Morgan
Cerddoriaeth newydd Iwan Huws a Y Cyffro
Y Sianel a’r straeon mawr – Sioned Williams
Teyrngedau i Chris Grooms, Emyr Oernant a Gwyn Griffiths
…a llawer mwy. Mynnwch eich copi nawr.