Rydw i’n barsial iawn i wylio pob math o ’nialwch ar deledu pan fo’r hwyl iawn arna’i. Pleserau euog maen nhw’n galw gwylio rhaglenni rwtsh ond dydw i ddim yn teimlo’n euog o gwbwl. Wannwl, toes ’na ddigon o bethau eraill inni deimlo’n euog amdanyn nhw mewn bywyd d’wch.
Ond dydw i rioed wedi gallu gwylio rhaglenni Jeremy Kyle am fwy na dau funud – do, dwi wedi trio, ond roedd y gweiddi’n ormod imi i ddechrau arni, heb sôn am y bychanu a’r creulondeb a’r gwneud i bobl grio. Daeth marwolaeth un o gyn-westeion y rhaglen â’r gyfres i ben am byth, diolch i’r drefn, ac mae llawer o drafod wedi bod ers hynny am rôl rhaglenni eraill sy’n dod o dan ymbarél yr hyn sy’n cael ei alw’n ‘poverty porn’ ar ein sianeli – rhaglenni fel Benefit Street ar Channel 4 a Can’t Pay We’ll Take It Away ar Channel 5 ac ati.
Yn y bôn, rhaglenni sy’n defnyddio trallod pobol dlawd fel adloniant ydi’r rhain…