Etholiad arall, buddugoliaeth arall i’r Blaid Lafur Gymreig.
Mae’n syn meddwl bod rhyw sylwebydd gwleidyddol yn rhywle wedi bod yn ysgrifennu amrywiad ar y geiriau hyn ers bron iawn i ganrif. Yn wir, o ystyried yr ymateb gwerthfawrogol i raglen ganlyniadau’r sianel eleni, tybed oni ddylai S4C drefnu cyfres o raglenni arbennig ar gyfer 15 Tachwedd 2022, sef canfed pen-blwydd tra-arglwyddiaeth etholiadol Llafur yng Nghymru? Wedi’r cwbl, nid oes dim yn cymharu â’r fath hirhoedledd mewn unrhyw wlad ddemocrataidd arall yn y byd. Licio fo neu beidio, mae’n rhan o’r hyn sy’n ein diffinio fel cenedl.
Cawn ddychwelyd eto at Lafur Cymru a’i gafael rhyfeddol ar yr etholaeth Gymreig. Y tro hwn, fodd bynnag, yr wyf am droi fy ngolygon at blaid a gafodd etholiad llawer llai llwyddiannus. Wedi’r cwbl, onid yw hefyd yn wir dweud ein bod i gyd bellach yn hen gyfarwydd ag amrywiad ar y geiriau canlynol: etholiad arall, siom arall i Blaid Cymru? Y cwestiynau amlwg yw pam a beth sydd i’w wneud?
+ + +
Cyn bwrw iddi, mae’n deg cychwyn trwy nodi bod elfennau digon calonogol i’r etholiad o safbwynt yr achos cenedlaethol yng Nghymru yn ei ystyr ehangaf.
Fyth ers cyhoeddi canlyniadau refferendwm Brexit yn 2016, mae dealltwriaeth llawer iawn o bobl o natur ein gwleidyddiaeth wedi ei hystumio gan y ffaith fod canlyniadau’r refferendwm hwnnw yng Nghymru yn debycach i’r canlyniadau yn Lloegr nag yr oeddynt i’r canlyniadau yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban. O’r herwydd, drosodd a thro yn ystod yr un cyfnod clywyd sylwebwyr yn trin ‘EnglandandWales’ fel uned gyfansawdd gan gadarnhau’r hen ragfarnau hynny sydd wedi gwreiddio mor ddwfn yn niwylliant gwleidyddol y wladwriaeth Brydeinig ac sydd wedi eu mewnoli gennym ni’r Cymry. Ar ôl etholiadau mis Mai mae hynny’n anos o lawer. Nid yr Alban mo Cymru, wrth gwrs. Eto fyth, nid Lloegr mo Cymru chwaith. Mae’n bwysig ein bod wedi’n hatgoffa ein hunain (ac eraill) o hynny.