Mehefin 2023 / Rhifyn 725

Michelle O’Neill, dirprwy arweinydd Sinn Féin
Iwerddon

Michelle O’Neill a’r coroni

Peidiwch â phoeni, nid erthygl am y coroni per se mo hon – dim ond pwt ynglŷn ag arwyddocâd yr holl beth cyn belled ag y mae Iwerddon yn bod.

Pa arwyddocâd, gofynnwch? Beth sydd a wnelo achlysur brenhinol o’r fath o gwbl â gweriniaeth fodern fel Iwerddon? Wel, yn un peth mae Gwyddelod yn mwynhau gwylio sioe liwgar lawn cymaint ag unrhyw frenhinwyr. Fe benderfynodd RTÉ ddarlledu’r cyfan, ac fe ddewisodd 200,000 o bobl ei wylio ar RTÉ – o bosib er mwyn cael gogwydd Gwyddelig.

Yn ail, ymhlith y cant o arweinwyr rhyngwladol yn yr abaty roedd y Taoiseach Leo Varadkar a’r Arlywydd Michael D. Higgins. Dyma’r tro cyntaf i gynrychiolaeth Wyddelig o’r fath fod mewn seremoni coroni yn Llundain.

Ond y prawf mwyaf bod pethau wedi newid yn y berthynas rhwng Iwerddon a Phrydain, a hefyd ar ynys Iwerddon, oedd presenoldeb dirprwy arweinydd Sinn Féin, Michelle O’Neill yn yr abaty.

Bethan Kilfoil
Mwy
Côr meibion yn cystadlu yn yr Eisteddfod
Materion y mis

Pwy piau’r eisteddfod?

Bu’r Eisteddfod Genedlaethol yn y newyddion yn ddiweddar oherwydd cyhoeddiad am newidiadau digynsail i fformat cystadlaethau torfol ar y llwyfan yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd eleni. Asgwrn y gynnen yw mai dau bafiliwn fydd, gyda rowndiau cynderfynol i’r holl gystadlaethau torfol a’r tri pherfformiad gorau yn unig yn ymddangos ar y llwyfan mawr. Hynny yw, rhagbrofion i bawb.

Daeth y newidiadau yn sgil ‘adolygiad’ o’r gweithgareddau llwyfan. Yr awgrym yw bod gormod o berfformiadau ansafonol ar y llwyfan mawr (‘dathlu’r goreuon yw rôl yr Eisteddfod’) a bod angen chwynnu. Penderfynwyd hefyd newid dyddiau cystadlu yr holl gystadlaethau torfol, a hynny ychydig fisoedd cyn yr Eisteddfod…

Wedi trafodaeth gyda chynrychiolaeth o’r rhai oedd yn gwrthwynebu’r newidiadau, gwnaed tro pedol ar y dyddiau cystadlu. Yna, gyda llawer o gorau yn dal i fygwth peidio cystadlu, daeth tro pedol arall wrth i’r Eisteddfod gyhoeddi na fyddai rowndiau cynderfynol ym Moduan, ond gan ychwanegu mai am eleni yn unig y bydd hyn ac y bydd y drefn newydd yn cael ei chyflwyno yn y Rhondda yn 2024. Beth oedd pwrpas yr holl drafodaethau felly?

Bethan Smallwood
Mwy
Darn o waith celf Luned Rhys Parri - Ar y ffordd o’r hen siop zinc
Celf

Merched ar ras

Roedd Oriel Plas Glyn‑y‑Weddw dan ei sang ar bnawn Sul yng nghanol Mai wrth i Dafydd Iwan agor Rhwng y Cŵn a’r Brain, arddangosfa ddiweddaraf yr artist o’r Groeslon, Luned Rhys Parri. Roedd awyrgylch hynod Gymreig yno wrth i’r bobl leol ddod i weld pa ryfeddodau newydd oedd gan eu hoff artist i’w cynnig.

Gwir y dywedodd Dafydd Iwan mai’r hyn sy’n nodweddu cymaint o’r lluniau yw ‘merched ar ras’. Rydym, fel merched, wrth ein boddau efo nhw, am ein bod yn gweld ein hunain yn y portreadau, boed ni’n siopa efo bag Co‑op, ar feic, yn gwthio pram, yn dianc rhag bachgen, yn protestio, yn dal ci ar dennyn, yn coginio neu’n cario pentwr o lyfrau. Mewn gair, gwelwn ein hunain yn ceisio cyflawni’r dyletswyddau diddiwedd hynny y mae merched yn eu gwneud.

Angharad Tomos
Mwy
Cassie - un o gymeriadau Pobol y Cwm
Teledu

Mae sebon yn bwysig

’Wy’n reit hoff o sebon, rhaid dweud. Dydw i ddim wedi sôn am operâu sebon yn y golofn hon o’r blaen, sy’n fai ar fy rhan i, ond ’wy ddim am i chi feddwl nad ydyn nhw’n bwysig. I’r gwrthwyneb – maen nhw’n faromedr da o fywyd cyfoes. Nid ffol‑di‑rol ffrothi yw opera sebon, mae’n rhywbeth i’w gymryd o ddifrif. Mae Pobol y Cwm wedi bod yn rhan o’n DNA cenedlaethol ni ers yn agos at hanner can mlynedd nawr, sy’n hirach nag y mae rhai ohonon ni wedi bod ar y blaned hon. Ac mae Rownd a Rownd, yr opera sebon a grëwyd ar gyfer plant a phobl ifanc ’nôl yn y 1990au, hithau’n anelu at ei chanol oed, ac wedi hen ennill ei lle yn ein calonnau. Mae sebon yn bwysig i’n hiechyd ni, a ddim jyst yn y bath.

Elinor Wyn Reynolds
Mwy
Pryfed yn heidio at lamp
Gwyddoniaeth

Herio fflam â chorff o lwch

Pry’r Gannwyll, Gwyn Llewelyn, a gyhoeddwyd yn 1975, oedd un o’r nofelau Cymraeg cyntaf i gydio yn fy nychymyg. Hyd heddiw, daw i’r cof bob tro yr af ar hyd yr A470 rhwng Llanfair‑ym‑Muallt a Llys‑wen, lleoliad un o’i phenodau mwyaf dramatig. Fe’m hatgoffwyd eto amdani wrth ddarllen adroddiad ar wefan bioRχiv ganol mis Ebrill. Teitl y papur yw ‘Pam y mae pryfed yn casglu o gwmpas golau artiffisial’; gosodiad nid cwestiwn.

Mae tynfa farwol pryfed tuag at fflamau a lampau yn ymddygiad sydd wedi diddori dynoliaeth ers miloedd o flynyddoedd. ‘Herio fflâm â chorff o lwch/ Oedd ei farwol ddifyrrwch,’ meddai John Penry Jones yn ei englyn cofiadwy am bry’r gannwyll. Bu sawl ymgais i esbonio’r dynfa dros y canrifoedd.

Deri Tomos
Mwy
Chwaraewyr tîm pêl-droed Wrecsam yn dathlu
Colofnydd

Llawenhau yn llwyddiant Wrecsam

Gwn nad pawb (a Chymry yn eu plith) sy’n cyd‑lawenhau yn llwyddiant tîm pêl‑droed Wrecsam, ond fel un sy’n aelod o’r clwb ac yn byw yn y Fwrdeistref Sirol, ychwanegu at yr ‘holl ffws dros ben llestri’ fydda i yn y golofn hon.

Wedi’r cyfan, roedd dyrchafiad Wrecsam i’r Ail Adran yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn Boreham Wood ar ôl pymtheg mlynedd hir yn anialdir y Gynghrair Genedlaethol yn destun dathlu a llawenydd mawr, yn enwedig gan iddyn nhw golli yn rownd gynderfynol gemau ail gyfle’r llynedd.

Wrth gwrs, mae’r diolch pennaf am drawsnewidiad y clwb o garpiau i gyfoeth i’r actorion Rob McElhenney a Ryan Reynolds, a brynodd CPD Wrecsam yn 2020. A hyn, yn anochel, sydd wedi ennyn beirniadaeth ac eiddigedd gan dimau eraill a’u dilynwyr ar brydiau, ynghyd â sylwadau yn gwarafun yr holl sylw a chyhoeddusrwydd a ddaeth yn ei sgil.

Elin Llwyd Morgan
Mwy
Golygfa theatr mewn ysbyty
Darllen am ddim

Iechyd – darlun tywyll a rhagolygon gwaeth

Oes yna unrhyw un yn dal i gredu bod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn well na’r un yn Lloegr? Os oes, mae’n amlwg nad ydynt yn un o’r 30,000 o gleifion sy’n disgwyl dros ddwy flynedd am driniaeth ar ein rhestrau aros. Does bron neb yn aros cyhyd â hyn dros Glawdd Offa, yn ôl ystadegau diweddar.

Ond Cymry ydan ni, yntê? Yn ddiolchgar fod y cyfrifoldeb am y GIG wedi ei ddatganoli i Senedd Cymru a heb gael ei reoli gan yr hen Dorïaid cas yna yn Llundain. Pris gwerth ei dalu! Tybed?

Dychmygwch fod â phen-glin neu glun hynod boenus sy’n golygu na allwch gerdded ond ychydig lathenni heb gael eich llorio. Neu fod â philen ar y llygad sy’n eich rhwystro rhag darllen neu yrru car, gan wybod bod triniaeth yn fater eithaf syml. Ac yn y blaen, ac yn y blaen. At bwy mae pobl sy’n aros cyhyd am driniaeth yn mynd pan fo’r broblem yn achosi poen corfforol neu feddyliol gynyddol iddynt? At y meddyg teulu wrth gwrs. Mae’r meddyg teulu’n gwybod yn union beth yw’r ateb, sef cael barn a thriniaeth arbenigol. Ond dydi hynny ddim ar gael, i rai, am ddwy flynedd a mwy.

Un o’r prif resymau ei bod yn anodd cael apwyntiad efo’r meddyg teulu yw bod cleifion sy’n aros am driniaeth ysbyty yn gwaelu ac yn digalonni wrth fod ar restr aros cyhyd, ac felly’n ceisio cyngor y meddyg teulu, drosodd a throsodd ar adegau. Mae eraill o’r herwydd yn methu cael gweld y cyfryw feddyg ac yn gorlethu adrannau brys ein hysbytai gyda materion nad ydynt yn ddamweiniau nac angen sylw ar frys. Felly mae’r cylch dieflig yn parhau.

Catrin Elis Williams
Adam Price yn annerch cynhadledd Plaid Cymru
Darllen am ddim

Ystum plentynnaidd Plaid Cymru

Beth bynnag oedd ei wendidau, penderfyniad ynfyd oedd cael gwared ar Adam Price fel arweinydd meddai cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru.

Wir Dduw, mae’n anodd gwybod pa un ai i chwerthin neu i grio.

Rydym yn byw mewn gwladwriaeth sydd wrthi’n gwneud difrod sylweddol i’r hyn sy’n weddill o’n heconomi trwy’n gwahanu oddi wrth ein prif farchnadoedd, a hynny wrth arwyddo cytundebau masnach newydd sy’n amlwg niweidiol i fuddiannau Cymru. Mae gennym lywodraeth yn Llundain sy’n ein hamddifadu o biliynau o bunnoedd y gallesid eu gwario ar ein hisadeiledd truenus o annigonol. Ar ben hynny, mae gennym lywodraeth yng Nghaerdydd sy’n parhau’n gyndyn i geisio mynd i’r afael o ddifrif â’r heriau mawr sy’n ein hwynebu fel cenedl, ond sy’n hytrach yn fwy cysurus yn beio eraill ac yn rhaffu geiriau gweigion.

A beth mae Plaid Cymru – y blaid sy’n honni ei bod yn rhoi Cymru’n gyntaf – yn ei wneud yn wyneb hyn oll? Mae’n diorseddu ei harweinydd heb unrhyw obadeia pwy neu beth a ddaw yn ei le gan sicrhau cyfnod o fogail-syllu solipsistaidd ar y union adeg pan ddylai’r blaid fod yn ceisio cynnig gweledigaeth amgen ar gyfer dyfodol gwell.

Wrth reswm, fe chwaraeodd Adam Price ei ran yn ei dranc ei hun. Heb ei fai heb ei eni, ys dywed yr hen air. Yn achos cyn-arweinydd Plaid Cymru, mae ganddo wendidau a oedd yn rhwym o olygu y byddai ei arweinyddiaeth yn destun rhwystredigaeth, yn enwedig i rai o’i gyd-aelodau etholedig.

Er ei fod yn ŵr sy’n ennyn teyrngarwch anghyffredin ymysg y rhai sydd agosaf ato, mae’n ffaith hefyd fod elfen swil a braidd yn ynysig i’w gymeriad. Un o effeithiau hyn, yn baradocsaidd, yw bod Price yn ŵr sy’n gallu swyno torfeydd mawr a grwpiau bach fel ei gilydd, ond mae’n llawer iawn llai cyffyrddus mewn grwpiau canolig eu maint. Nid oes ganddo’r gallu naturiol nac efallai’r amynedd i adeiladu synnwyr o esprit de corps ymysg criw ehangach o wleidyddion.

Richard Wyn Jones

Cip ar weddill rhifyn Mehefin

Mymryn o gysur i’r SNP wedi etholiadau lleol Lloegr?Will Patterson
Gweithio ar ôl oed yr addewidCatrin Evans
Y pentref dan y tywodAndrew Misell
Llwyfannu stori Jemima NicholasGareth Llŷr Evans
Luton Hoo a Phenmaenmawr - ysgrif goll Saunders LewisPeredur Lynch
Fideos cerddorol a diwylliant gweledol cwiar Dylan Huw
Arwyr Angof: D. Eirwyn MorganD. Densil Morgan

Mwy
Cefndir cyffredinol Barn
Darllen am ddim

Chwilio am aelodau i grŵp ffocws

Mae cylchgrawn BARN yn gwahodd unigolion o’r mwyafrif byd-eang (h.y. unigolion Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol) sy’n siarad Cymraeg i fod yn rhan o astudiaeth beilot.

Pwrpas yr astudiaeth fydd canfod, trwy grŵp ffocws, beth yw ymwybyddiaeth/canfyddiad yr unigolion o gylchgrawn BARN o safbwynt amrywiaeth a chynhwysiant.

Bydd y syniadau/argymhellion a fydd yn deillio o’r astudiaeth yn cael ystyriaeth gennym wrth ddatblygu’r cylchgrawn i’r dyfodol.

Bydd y grŵp ffocws yn cyfarfod unwaith am tuag 1 awr yn ystod haf 2023, a hynny ar-lein.

Mae croeso i unigolion sydd ag unrhyw lefel o allu yn y Gymraeg sy’n cynnwys gallu darllen.

Bydd yr unigolion hynny sy’n cymryd rhan yn derbyn tâl bychan am eu gwaith ynghyd â thanysgrifiad i BARN (neu adnewyddiad i danysgrifiad cyfredol).

Os oes gennych ddiddordeb, hoffem glywed gennych erbyn 4 Gorffennaf.
Anfonwch e-bost at: ymchwilbarn@gmail.com