Mae’r rhifyn yma yn barsel llawn a lliwgar. Yn ogystal â’r erthyglau a welwch yma, darllenwch am dreth a allai adfywio economi Cymru, am y teithwyr Gwyddelig, am Nadolig llyfrwerthwr, am waith celf Cefyn Burgess, am fwyty newydd gwych ger Castellnewydd Emlyn a llawer mwy.
NEWYDDION DA! Mae pawb sydd ynghlwm â Barn yn hapus iawn fod y Cyngor Llyfrau wedi gweld yn dda i barhau i Gefnogi’r cylchgrawn trwy gynnig nawdd iddo am y ddwy flynedd nesaf. Am ymateb y golygyddion i’r dyfarniad, ewch i'r ddewislen ar frig y wefan, dewis y cylchgrawn cyfredol, a chlicio 'Erthyglau'.