Rhagfyr 2010 i Ionawr 2011

Rhagfyr 2010 / Ionawr 2011

Do, mae Barn wedi cael diwyg newydd ar gyfer yr 21ain ganrif, diwyg sy’n adlewyrchu bywiogrwydd ei gynnwys. Ac yn rhifyn dwbl Rhagfyr/Ionawr ceir can tudalen o’r ysgrifennu gorau ar bopeth o helynt S4C i’r datblygiad tai dadleuol ar gyrion Caerfyrddin ac o drafferthion ariannol Iwerddon i goginio ffesantod. Mae yna hefyd adran yn cloriannu 2010 mewn gair a llun, cyfweliadau gyda Ned Thomas a Siwan Jones, heb sôn am ein colofn newydd ‘Caffis Cymru’. A pheidiwch â meddwl am brynu llyfr yn anrheg Nadolig heb ddarllen barn ein hadolygwyr!

Nid Carwriaeth Ond Partneriaeth Gadarn

Richard Wyn Jones

Mae clymblaid Cymru’n Un, y bartneriaeth rhwng Llafur a Phlaid Cymru, wedi gweithio’n syndod o dda. Ond beth am y glymblaid chwe mis oed yn San Steffan? Gallai honno beri niwed mawr i’r Democratiaid rhyddfrydol yn etholiadau’r Cynulliad yn y flwyddyn newydd.

Gyda chlymblaid y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ddim ond cwta chwe mis oed, a chlymblaid Cymru’n Un bellach o fewn chwe mis at gyrraedd ei therfyn, fe ellid dadlau nad ydym yn cymharu tebyg at ei debyg wrth gymharu’r ddwy glymblaid. A dyna i chi wedyn y ffaith fod y pwerau a’r cyfrifoldebau a leolwyd yn Llundain a Chaerdydd o faintioli mor wahanol i’w gilydd.

 

Richard Wyn Jones
Mwy

O'r Alban - Lawr â fo

Will Patterson

Rhai garw ydan ni’r Albanwyr am ddathlu. Nid dathlu’r gwyliau amlwg yn unig – y Nadolig a Hogmanay. Dyw hynny ddim yn ddigon. Rhaid cychwyn ar 30 Tachwedd, Dydd Gwyl Andreas, ein nawddsant. Daliwn ati’n ddygn dros wyl y Geni a’r Flwyddyn Newydd hyd at 25 Ionawr. Honno yw Noson Burns. Fiw anghofio’n bardd cenedlaethol, siwr iawn! Dyna i chi ddau fis o ddathlu mawr ac yfed mwy. Mae yfed yn rhan o’n gwead cenedlaethol. A wyddoch chi am genedl arall ar wyneb daear sydd wedi rhoi ei henw i un o’r gwirodydd mwyaf poblogaidd yn y byd? Mae’r Rwsiaid yn llowcio fodca wrth y galwyn, ond chlywch chi neb yn cyfeirio at y gwirodyn arbennig hwnnw fel ‘Rysian’! Ond mae pobol ar bum cyfandir yn gofyn am boteleidiau o Scotch.

Will Patterson
Mwy

Iaith Fyw?

Alun Ffred Jones

Yn ystod mis rhagfyr bydd Gweinidog Treftadaeth Cymru yn cyhoeddi strategaeth newydd ar gyfer yr iaith Gymraeg. Yma mae o’n amlinellu ei weledigaeth mewn perthynas â dyfodol y  Gymraeg.

 

Gadewch i ni ddechrau gydag ystadegau moel. Bob blwyddyn mae 3,000 yn llai o bobol yn siarad Cymraeg yng Nghymru. Dyma’r ffaith sobreiddiol yn ôl ymchwil gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Ac, o ystyried bod mwyafrif y rhai hynny yn debygol o fod yn bobol hyn a fagwyd yn siarad Cymraeg yn rhugl, a oes rhyfedd bod cynulleidfa S4C, er enghraifft, wedi crebachu dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf? Ond, howld on, meddech chi; onid oedd y cyfrifiad diwethaf yn dangos cynnydd yn nifer o siaradwyr Cymraeg? Cywir. Yn 2011 roedd 20.8% yn honni eu bod yn medru’r Gymraeg. Cynnydd ar ffigwr 1991, sef 18.7%. O gyfrif pennau, 582,400 yn 2001. 508,100 yn 1991. Achos dathlu, onide?

Alun Ffred Jones
Mwy

Ysgrif goffa Catrin (Kathleen) Dafydd (1938-2010)

Mei Jones

“Kathleen, y siopwraig, yr hyfforddwraig, yr actores – Brenhines ei bro.” Teyrnged “mab” i’w “fam”.

 I’w chyd-Gymry, mae’n bur debyg mai Lydia Tomos, mam Wali oedd hi. Catrin Dafydd oedd hi i’w chydactorion. Ond yn Llyn, Kathleen fydd hi am byth. A Kathleen gamodd oddi ar awyren yn Buenos Aires yn 2004, sefyll ar y grisiau gyda’i breichiau ar led a chyhoeddi i’r byd, ‘Dyma fi yno!’ Ar ei ffordd yr oedd hi i Batagonia i gyflwyno’r ddrama Y Dalar Deg gyda Chwmni Drama Llwyndyrys, dan ofal Gwilym Griffiths. Dyna oedd ei pherfformiad olaf. Yn agos i drigain mlynedd ynghynt, ’roedd Gwilym a hithau’n rhannu llwyfan Ysgol Uwchradd Frondeg, Pwllheli yn y ddrama Tri Hen Longwr, ei pherfformiad cyntaf. nad oedd dyfodol iddi fel actores am nad oedd ‘y siâp iawn’. Gadawodd yr ysgol a chael gwaith yn siop W. H. Smith – yn Aber-soch! Maes o law, fe agorodd ei siop ei hun (Siop Kathleen) yn gwerthu danteithion a geriach glan-môr.

Mei Jones
Mwy

"Nid yn ofer y bu'r brwydro..." - gobeithio

Bethan Kilfoil

Cywilydd, embaras, euogrwydd, siom, tristwch, dicter. Dyna’r geiriau y mae’r awdur yn eu defnyddio i ddisgrifio’r teimladau yng ngweriniaeth Iwerddon wrth i’r wlad orfod cael ei hachub rhag methdaliad.

Ai er mwyn hyn yr aberthodd gw?r 1916 eu bywydau? Er mwyn derbyn cardod gan Ganghellor yr Almaen, a swllt neu ddau o gydymdeimlad gan Ganghellor Prydain?’ Dyna ofynnodd erthygl olygyddol yr Irish Times ar y bore tyngedfennol hwnnw yng nghanol Tachwedd pan ddaeth swyddogion yr IMF a’r Comisiwn Ewropeaidd i Ddulyn i gynnig cymorth ariannol i Iwerddon. Ai achubwyr ynteu gormeswyr oedden nhw? Fe ddibynnai hynny ar eich safbwynt.

Bethan Kilfoil
Mwy