Ydi, mae’r rhifyn dwbl wedi cyrraedd, yn llawn dop o erthyglau gwych. Bethan Kilfoil yn sôn am Arlywydd newydd Iwerddon, Tweli Griffiths yn cofio’i gyfweliad rhyfeddol gyda Gadaffi, a’r Dyn Mynd a Dwad yn ail-fyw ei daith ddiweddar ar draws yr Unol Daleithiau. Yn nes at adref, mae Dafydd Hughes yn dweud hanes CPD Bangor wrth iddynt ffarwelio â’u cartref hanesyddol yn Ffordd Farrar. Daw diwedd blwyddyn â chyfle i edrych yn ôl – Simon Brooks, Alun Wyn Bevan, Kate Crockett, Lowri Haf Cooke a Pwyll ap Siôn sy’n cloriannu gwleidyddiaeth, chwaraeon a chelfyddydau Cymru 2011. Ar nodyn Nadoligaidd mae Bethan Jones Parry yn olrhain hanes ‘Dawel Nos’, a Nia Roberts yn trafod mins peis. Rhaid ichi ddarllen Barn i gael barn ein hadolygwyr am lyfrau newydd y Nadolig – pa well canllaw wrth wneud eich siopa? Ac un rheswm da arall i ddarllen y rhifyn o glawr i glawr – er mwyn gwneud ein Cwis Nadolig a chael cyfle i ennill gwobr ardderchog!
Vaughan Hughes
Mae pob un o’r milwyr a oroesodd y Rhyfel Mawr wedi marw erbyn hyn. Ym mis Mai 2011 y claddwyd yr olaf ohonyn nhw, Claude Choule. Roedd o’n 110. Efallai mai oherwydd i ’Nhaid ddweud celwydd am ei oed ac ymrestru’n ddwy ar bymtheg oed y mae gen i’r fath ddiddordeb yn y rhyfel diangen hwnnw. Dyma’r gyflafan, yn ôl yr Encyclopedia Britannica, a hawliodd 9,750,103 o fywydau.
Fe ddaeth fy nhaid yn ôl yn allanol ddianaf o ffosydd Ffrainc. Chefais i wybod fawr o ddim am ei brofiadau yn y rhyfel, ac fel sawl un arall o ’nghenhedlaeth, dwi’n difaru na fyddwn i wedi pwyso arno am ragor o fanylion. Nid y byddai hynny, mae’n debyg, wedi peri iddo ddatgelu dim oll. At ei gilydd, amharod iawn oedd bechgyn y ffosydd i sôn am eu profiadau.