Rhagfyr 2012 i Ionawr 2013

Ydi, mae’r rhifyn dwbl wedi cyrraedd, ac mae’n llawn dop o erthyglau difyr. Rhagflas ohonynt yn unig a welir yma. Ymhlith rhai eraill, mae Daniel G. Williams yn sôn am ffilm sy’n ymwneud â chefndir Affricanaidd Barack Obama, ffilm a wnaed gan un sy’n hanner Affricanes a hanner Cymraes, a Bethan Kilfoil yn edrych ar y digwyddiad trasig sydd wedi dod â phwnc erthylu yn ôl i’r penawdau yn Iwerddon. Mae Roger Owen yn dweud pam y mae dramâu Gwenlyn Parry yn berthnasol o hyd a Derec Llwyd Morgan yn trafod ‘rygbi rigor mortis’. Gwaredu at ymgais Llywodraeth y Cynulliad i sensro Pobol y Cwm y mae ein colofnydd teledu, Sioned Williams – y ffaith i’r ymgais wallgof hon fethu sy’n esbonio’r mochyn daear joli ar ein clawr. Hyn oll ynghyd â stori newydd amserol gan Aled Islwyn, barn ein hadolygwyr am lyfrau a chryno-ddisgiau’r wyl, a llawer mwy. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda!

Cymru a Slofenia - Beth yw'r Gwahaniaeth?

Gareth Miles

Sut mai lled-fyw y mae Cymru heddiw tra mae gwlad fechan debyg o ran maint fel Slofenia yn ffynnu?

Ryw ddwy flynedd yn ôl gwahoddwyd Wiliam O. Roberts a phum llenor Cymraeg arall i Wyl Lenyddol Vilencia yn Slofenia, ac yn sgil eu hymweliad gofynnodd un o olygyddion Taliesin i’r nofelydd sgrifennu llith am y wlad a’r hyn a welodd ac a glywodd tra y buont yno. Cytunodd â’r cais ond ni chyhoeddwyd mo’i ysgrif hyd yn hyn ac nid yw hynny’n debyg o ddigwydd, sy’n biti, gan ei bod, yn fy marn i, yn debycach o blesio darllenwyr y cylchgrawn nag yw erthyglau golygyddol cosmopolitaidd, myfïol ac athronyddu syrffedus ar ‘themâu’ fel ‘Yr Enaid’, ‘Y Daith’ a’r ‘Bogail’.

Gareth Miles
Mwy

Materion y Mis - Pwyll, Weinidog Addysg, Pwyll

Anna Brychan

Beth bynnag fo barn pobl am Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, does neb all amau ei barodrwydd i dynnu nyth cacwn i’w ben os creda y byddai tarfu ar y nyth hwnnw yn llesol i system addysg Cymru.

Ac felly y bu hi’r wythnos ddiwethaf. Cyhoeddodd adolygiad (arall) i edrych ar rôl awdurdodau addysg leol a’u gwaith yn cefnogi a gwella safonau addysgol. Ymhlith yr opsiynau y bydd yr adolygiad yn eu hystyried bydd tynnu’r cyfrifoldeb am addysg oddi ar awdurdodau lleol a chyfeirio’r gwaith o’r canol.

Anna Brychan
Mwy

Y Pridd A'r Concrid - Hiliaeth cefn gwlad

John Pierce Jones

Ar bridd y fam ynys y bydd y Dyn Mynd a Dwad yn bwyta ei wydd y Nadolig hwn, ymhell bell o Arizona ei deulu yng nghyfraith, ac yn ddigon pell hefyd o goncrid Caerdydd. Ond cyn mynd i ysbryd yr wyl – a’r wydd – mae o angen cicio penolau a dweud y drefn wrth rai o’n ffermwyr ifainc.

Treulio’r Nadolig yn Niwbwrch fyddwn ni eleni yn deulu bach cytûn. Mae Iwan ein mab yn edrych ymlaen yn eiddgar. Newidiodd ei ddewis o anrhegion yn ddyddiol. Pob un yn electronig. A phob un ymhell y tu hwnt i gyrraedd ariannol ei fam a finnau.

John Pierce Jones
Mwy

Ar Y Groesffordd - Dyfodol Datganoli

Richard Wyn Jones

Bu misoedd yr hydref yn rhai pwysig o ran gwleidyddiaeth Cymru. Prin y bu wythnos lle na welwyd rhyw ddatblygiad neu’i gilydd, boed hynny’n draddodi araith arwyddocaol, rhyddhau adroddiad hirddisgwyledig neu gyhoeddi dyfarniad llys pwysfawr. O ganlyniad i hyn oll daw’n gynyddol amlwg beth yw’r opsiynau sydd o’n blaenau – y rhai dichonadwy, o leiaf – o ran dyfodol ein cyfundrefn lywodraethol.

Mae Cymru, fe ymddengys, yn sefyll ar groesffordd. O ddewis un llwybr fe ellir disgwyl gweld sefydlu, erbyn diwedd y degawd fan bellaf, fframwaith o sefydliadau gwleidyddol a all oroesi dros gyfnod estynedig i’r dyfodol. Fframwaith o sefydliadau a fydd yn ddigon gwydn i allu cynnal ein breichiau pa bynnag ddyfodol cenedlaethol a ddewiswn ar ein cyfer ein hunain. Ond, o ddewis y llwybr arall, fe fydd Cymru’n parhau i gropian yn llesg, yn herciog ac wysg ei thin i gyfeiriad rhywbeth sy’n haeddu’r enw ‘setliad’ wrth ddisgrifio ei chyflwr cyfansoddiadol.

Richard Wyn Jones
Mwy

Annwn ac yn ôl - Gwaith Iwan Ap Huw Morgan

Lowri Haf Cooke

Mae artist perfformiadol o Gaerdydd yn tynnu ar brofiadau anodd ei orffennol ac ar chwedloniaeth Geltaidd yn ei waith, ac yn awr mae ar fin mynd i Beriw i astudio siamaniaeth.

Mae dyn yn gorwedd ar wastad ei gefn mewn ystafell dywyll. Ar wasgar o’i gwmpas y mae canhwyllbren potel wisgi, rholyn tin-ffoil arian a chwistrellau di-ri. Mae ei freichiau ar led, balaclafa am ei ben a rhaff wedi’i chlymu’n dynn am ei wddw. Ymhen dim, y mae ar ei draed, yn tynnu gwaed o’i glun chwith trwy chwistrell cyn chwistrellu’r gwaed dros ei wyneb ei hun.

Lowri Haf Cooke
Mwy

Dwyieithrwydd Twyllodrus

Simon Brooks

Mae’r syniad o ddwyieithrwydd absoliwt sy’n cael ei goleddu gan lawer yn y Gymru gyfoes yn niweidiol iawn i’r iaith Gymraeg, yn ôl awdur yr erthygl hon.

 

Er mor anffodus ydoedd, gobeithio y daw rhyw les o’r bleidlais i beidio cyfieithu’n llawn gofnodion y Cynulliad gan iddi ddatgelu’r drwg sydd wrth wraidd un o brif ideolegau’r Gymru gyfoes. Diffinnir dwyieithedd yn arbenning o wael yng Nghymru, ac yn naïf iawn daethom i gredu mai ei ystyr yw y bydd pob sill a gair yn cael ei ynganu ddwywaith. Ond bu honno’n ddelfryd unochrog erioed, ac mae’r methiant i’w gwireddu yn ein deddfwrfa genedlaethol o bob man yn ein rhyddhau o leiaf o’r ddyletswydd i orfod gwneud popeth yn slafaidd ddwyieithog yn y byd Cymraeg. Dim mwy o alwadau am gadw cofnodion cynghorau bro mewn ardaloedd gwledig Cymraeg yn y ddwy iaith, ac yn sicr dim cydsynio i hynny! Mae’n hen bryd inni ymagweddu’n fwy beirniadol tuag at ddwyieithrwydd a chanolbwyntio yn hytrach ar luosi sefyllfaoedd lle mae’r Gymraeg yn brif gyfrwng, gan mai mewn llefydd felly mae ieithoedd llai yn ffynnu.

Simon Brooks
Mwy