Ydi, mae'r rhifyn mawr wedi cyrraedd i'ch difyrru dros y gwyliau, yn orlawn o erthyglau amserol i brocio'r meddwl. Mae Angharad Tomos yn gwaredu at Gyngor Môn yn croesawu cynllun enfawr Land&Lakes, Derec Llwyd Morgan yn trafod stad enbyd cae chwarae Stadiwm y Mileniwm, Gwyn Thomas, mewn cyfweliad arbennig, yn herio ambell fyth am ei farddoniaeth, a'n colofnydd teledu newydd Sioned Wiliam yn dechrau'n awchus ar ei gwaith. Yn naturiol, mae sawl cyfrannwr yn gofyn cwestiynau Nadoligaidd amserol, e.e. a yw Gwr y Llety wedi cael bai ar gam? (Andrew Misell); a yw un o draddodiadau Nadolig yr Iseldiroedd a Fflandrys yn hiliol? (Dafydd ab Iago); a – cwestiwn tra phwysig – pa win sydd orau i olchi'r twrci i lawr? (Shôn Williams). Hyn heb sôn am 19 o gwestiynau i chi bendroni drostynt yn ein Cwis os am gyfle i ennill gwobr hardd ac unigryw, ac i goroni'r cwbl stori newydd gan Manon Steffan Ros. Prynwch, blaswch, atebwch... a byddwch lawen.
Bethan Kilfoil
Yn ystod Cwpan y Byd 2002 a gynhaliwyd yn Japan a Chorea cafodd Keano, capten a chwaraewr gorau Gweriniaeth Iwerddon, ei anfon adre ar ôl iddo golli ei limpyn yn y modd mwyaf arswydus efo’i reolwr ac efo uwch-swyddogion Cymdeithas Bêl-droed ei wlad.
Anaml iawn mae penodiad rheolwr cynorthwyol tîm pêl-droed yn haeddu sylw, heb sôn am hawlio’r penawdau newyddion am ddyddiau. Ond dyna ddigwyddodd gyda phenodiad Roy Keane fel rheolwr cynorthwyol Iwerddon.