Dafydd Fôn Williams
Mae cyn-Weinidog Addysg Cymru wedi cyhoeddi llyfr – ac nid un ymddiheurgar mohono. Dyma argraffiadau ein colofnydd ar ôl ei ddarllen o glawr i glawr.
Un tro roedd yna ddau Weinidog Addysg yn cydbortffolioeiddio, un bob ochr i’r Clawdd, ac roedd tebygrwydd rhyfeddol rhyngddynt. Treuliodd y ddau tua phedair blynedd gyda’u portffolio yn eu gwahanol wledydd, a diswyddwyd y ddau o fewn rhyw flwyddyn i’w gilydd. Ganed un yn y Barri yn 1957 a’r llall yng Nghaeredin yn 1967. Aeth un i Fangor a mynd i’r chwith, er nad ymaelododd â’r Blaid Lafur tan wedi’r refferendwm ar ddatganoli yn ’97, tra aeth y llall o aelwyd Lafur i Rydychen a datblygu’n Dori rhonc. Aethant ill dau i fyd y cyfryngau cyn i un fynd i’r Bae (2003), a’r llall i San Steffan (2005). Esgynnodd y ddau yn gyflym, y Cymro i bortffolio Addysg Cymru yn 2009, a’r Albanwr i’r un portffolio yn Lloegr yn 2010. Er y deuai’r ddau at addysg o gyfeiriadau ideolegol hollol groes i’w gilydd, roedd y ddau ar grwsâd dros eu gwahanol syniadau ac yn uchel iawn eu proffil – a’u cloch – wrth ymyrryd yn gyson ym mhob twll a chornel o gyfundrefnau addysg eu gwlad. Dau nodedig am amlder bwledog eu polisïau, ond dau hefyd a lwyddodd i wneud gelynion lu, a chael sawl cam gwag. Yn y pen draw, dyna oedd achos cwymp y ddau – chwifio baner Ysgol y Pentre yn achos y Cymro, a chael ei orseddu’n rhy aml ar gadair Yr Hogyn Drwg yn Private Eye yn achos yr Albanwr. O’u diswyddo, y naill yn 2013 a’r llall eleni, parhaodd tebygrwydd, canys dilynwyd y ddau gan weinidogion sydd (yn fwriadol?) yn cadw proffil llawer is na’u rhagflaenwyr ac yn meithrin perthynas lawer mwy cyfeillgar gyda’r gwahanol randdeiliaid yn y cyfundrefnau addysg, yn enwedig felly athrawon a’u hundebau. Leighton Andrews a Michael Gove – dau berson hollol wahanol yn agor dwy rych hynod o debyg, a’r ddwy yn cyrraedd yr un dalar yn yr un modd.
Wrth ddarllen cyfrol ddiweddar Leighton Ministering to Education y daeth y meddyliau hyn imi. Ynddi mae’r cyn-Weinidog Addysg yn disgrifio’i gyfnod wrth y llyw yn y Bae yn fanwl iawn; mor fanwl, yn wir, nes peri amau ei fod, tra’n ymddangosiadol ladd nadroedd addysgol, yn treulio’r un faint o amser yn cofnodi pob un manylyn er mwyn medru cyflawni ei fagnwm opws pan ddeuai’r fwyell anochel.
Yn sicr, roedd y dasg a wynebai Leighton Andrews yn un anodd, gan fod cydnabyddiaeth gyffredinol nad oedd popeth yn fêl i gyd – o bell ffordd – yn y byd addysg yng Nghymru, a bod angen codi safonau. Yn gyffredinol, roeddwn yn cytuno efo llawer iawn o'i syniadau, ac yn cymeradwyo mwy nag un o’i strategaethau – er fod ambell un, megis bandio ysgolion, yn wallgo. Ond yn ei frys gwyllt i’w gweithredu yr oedd y drwg. Fel y dywed ei hun, mae’n berson diamynedd. ‘My biggest weakness… and my greatest strength… is my impatience’, meddai, gan ddweud hefyd, ‘I make no apology for the pace of change’. Ac ni cheir yr un ymddiheuriad. Pwrpas ei gyfrol, amheuaf, yw cyfiawnhau ei weithredoedd, a phan mae angen cyfiawnhau, cyfyd cwestiynau sylfaenol...