Mae tair o orsafoedd cynhyrchu trydan Iwerddon yn cael eu tanio gan dair miliwn tunnell fetrig o fawn yn flynyddol. Ond mae gorgynaeafu yn peryglu’r elfen sylfaenol hon yn hunaniaeth y wlad a’i phobl.
Wrth ystyried yr holl Wyddelod alltud dechreuodd cwmni Taste Ireland werthu hamperi Nadolig yn llawn nwyddau Gwyddelig: te Barry’s, creision Tayto, pwdin gwaed Clonakilty. Ond un peth na ellir ei roi mewn hamper yw arogl Iwerddon –arogl cynnes melys tân mawn.
Rhagfyr 2015 i Ionawr 2016 / Rhifyn 635-636

Arogl Mawn, Arogl Cenedl

’Dolig ar blât
Perchennog deli Bant a la Cart ym Mhontcanna, Caerdydd, sy’n cynnig deg o gynghorion ar gyfer paratoi pryd mwyaf heriol y flwyddyn.
Mae e’ ’ma ’to, yn troi cogydd bach cartref call yn un all herio sêr Hunllefau Cegin Ramsay. Fe ddaw e fewn yn llechwraidd reit yn troslunio delweddau brawychus o’r pryd Nadolig perffeithach na pherffaith. Ydi, mae panig gastronomig y Dolig wedi dychwelyd i guddio dan dinsel drws y gegin.

Paris Dan Warchae
Mis Medi 1070 oedd hi pan gyrhaeddais Ysgol Coed-y-bryn yn O Bwll-trap i Baris mewn deuddeg awr: daeth galwad gan y pennaeth newyddion yn hwyr nos Wener pan oeddwn gyda chyfeillion ger Sanclêr. Diolch i garedigrwydd David Gravell, Cydweli, cefais fenthyg car i yrru’n syth i Lundain a dal y trên Eurostar gyda’r wawr.
Glaniais y tu allan i theatr y Bataclan fore Sadwrn. Gwaed a darnau gwydr hyd y pafinau...

Y Gwefreiddiol a’r Gwachul
Ddiwedd Medi agorodd arddangosfa uchelgeisiol yn yr Amgueddfa Brydeinig – Celts: art and identity. Bu PEREDUR LYNCH yn ei gweld ac yn myfyrio ynghylch y Celtiaid a Cheltigrwydd.
Dychmygwch ymweld â Basilica Sant Pedr yn Rhufain. O gyrraedd, dychmygwch mai’r peth cyntaf sy’n eich wynebu yw rhybudd caredig: ‘Nid oes unrhyw sicrwydd hanesyddol mai yma y claddwyd Sant Pedr’.
Rhyw deimlad tebyg i hynny a geir wrth gamu i mewn i’r arddangosfa hon.

Troi Cynulliad yn Senedd – hynny yn awr o fewn ein cyrraedd
Nid ar chwarae bach y mae’r awdur yn urddasoli digwyddiadau drwy eu galw’n ‘hanesyddol’. Cafodd un digwyddiad sylw lled eang – cyhoeddiad y Canghellor y gallai Cymru amrywio peth ar y dreth incwm. Ond diystyrwyd y llall: tro pedol Carwyn Jones ar sefydlu Awdurdodaeth Gyfreithiol Gymreig.
... Tua diwedd mis Tachwedd cafwyd dau ddatblygiad o fewn deuddydd, digwyddiadau y mae’r naill a’r llall ohonynt yn haeddu cael eu galw’n ‘hanesyddol’.

Cyngor Cynwyd, Mrs X a Mr Bennett
Sail athronyddol ymosodiad yr Ombwdsmon, Nick Bennett, ar Gyngor Cymuned Cynwyd sy’n ddadlennol. Sbïwch ar allweddeiriau ei adroddiad: ‘eithrio’, ‘peidio â chynnwys’, ‘allgau’. Bu’r Cyngor yn neilltuol ‘ddi-ildio’ wrth beidio â darparu agenda Saesneg er gwaethaf cais Mrs X (nad yw’n aelod o’r cyngor, nac ychwaith yn byw o fewn ei ddalgylch), ac roedd hyn wedi achosi ‘i Mrs X ddioddef anghyfiawnder’.
Mae ‘anghyfiawnder’ yn derm â naws penodol iddo ym maes athroniaeth iaith...