Dwi’n hollol gefnogol i’r Cynulliad. Ond credaf, hefyd, fod yna chwarel dda iawn y gallai cyfres Y Gwyll ei chloddio yng ngweithrediadau’r Senedd – onid oes sawl dirgelwch yno? Wele sgerbwd ar gyfer cyfres arall o ymchwiliadau tywyll DCI Mathias.
Pennod 1: Dirgelwch y Siambar Sorri
Pam mae’r Siambr mor ofnadwy o farwaidd, gyda phawb mor gythreulig o gwrtais? Lle mae’r emosiwn a’r tân? Hefyd – ar beth maen nhw’n edrych? Ydi cyfrifiadur o’ch blaen yn gwneud ichi ymddangos yn bwysicach? Ofar tw iw, Mathias?
Pennod 2: Dirgelwch y Polisi
Pwy sy’n gyfrifol am bolisïau Llywodraeth Cymru? Yn rhy aml, ymddengys fod polisi yn gyfan gwbl ddibynnol ar farn y Gweinidog sy’n ei weithredu. Cymerwch faes pwysig llywodraeth leol. Yn ystod teyrnasiad y tri gweinidog diwethaf cyflwynwyd polisïau gwahanol a hynny, hyd y gwela i, heb damaid o drafodaeth. Sôn am lunio polisi cenedlaethol ar gefn paced sigaréts…