Rhagfyr 2017 i Ionawr 2018 / Rhifyn 659-660

Cam-drin rhywiol a swyddogaeth y wasg
Defnyddiwyd geiriau fel ‘witch hunt’ a ‘ hysteria’ i ddisgrifio ymddygiad ac ymdriniaeth y wasg a’r cyfryngau o’r cyhuddiadau o gam-drin rhywiol a sgubodd fel corwynt o Hollywood Harvey Weinstein i San Steffan a Bae Caerdydd. Mae’n bosib fod sail i gyhuddiadau o’r fath o safbwynt America gan fod y gyfraith yno yn wahanol i’n cyfraith ni. Mae mwy o ryddid gan wasg yr Unol Daleithiau, ac mae’n anos i unigolyn ddwyn achos enllib yn erbyn y cyhoeddwr/darlledwr. Ond ar wahân i’r gwahaniaethau cyfreithiol, ac oni bai fy mod i wedi colli rhywbeth, dwi ddim yn credu bod gwasg a chyfryngau Prydain wedi gwneud dim byd o’i le.

Cwis i’n darllenwyr
Ewch ati i gystadlu yn ein cwis yn rhifyn Rhagfyr / Ionawr am y cyfle i ennill pecyn cynhwysfawr gwerth £50 o gaws Sir Gâr. Yn ôl yr arfer, mae’r atebion i’w cael rhwng cloriau BARN, dim ond i chi ddarllen ac ystyried yn ofalus. Ceir y cwestiynau yn rhifyn Rhagfyr / Ionawr, ac anfonwch eich atebion i Swyddfa Barn, Y Llwyfan, Caerfyrddin, SA31 3EQ gyda’ch enw a’ch manylion cyswllt, neu at swyddfa@barn.cymru, erbyn dydd Gwener 12 Ionawr.

Plesio llygad a sbarduno cof
Dilyn trywyddau tebyg y mae dwy o’r arddangosfeydd celf cyfredol yn y gogledd, sef Lle yn Oriel Plas Glyn-y-weddw, Llanbedrog, ac Ynys Môn – Trwy Lygaid Artist yn Oriel Môn, Llangefni. Maent ill dwy yn cynnig golwg inni ar leoedd arbennig drwy lygaid gwahanol artistiaid, y rhan fwyaf ohonynt yn Gymry ond ambell un wedi symud yma o fannau eraill. Mae tirlun a golygfeydd y wlad yn amlwg yn y rhan fwyaf o’r lluniau, ond mae triniaeth rhai artistiaid o’u testun yn llawer mwy haniaethol. Yr amrywiaeth rhyfeddol oddi mewn i un thema sy’n gwneud ymweld â’r ddwy oriel ar hyn o bryd yn brofiad mor ddiddorol.

Nid Wonderland yw Sunderland
Ychydig flynyddoedd yn ôl, a minnau’n wirion hen o anghyfrifol, cefais dair dirwy am oryrru o fewn ychydig fisoedd i’w gilydd – dwy yng Nghaerdydd yr un diwrnod, os gwelwch chi’n dda, ac un arall ar wastadeddau Bronaber ger Trawsfynydd. Pan glywodd fy nghyfaill Williams drws nesaf am y naw pwynt oedd gennyf ar fy nhrwydded, gyda’i ffraethineb arferol dywedodd fod gennyf ‘fwy o bwyntiau na Sunderland’. Y mae tîm pêl-droed trafferthion ers tymhorau lawer, trafferthion a gododd o gamweinyddiaeth a diffyg gweledigaeth ynghyd.

Entente cordial: Cymru a’r Alban
Ychydig wythnosau yn ôl fe drefnodd Canolfan Llywodraethiant Cymru gynhadledd ym Mrwsel i drafod agweddau yn y gwledydd datganoledig tuag at Brexit. Roedd yr ystafell dan ei sang wrth i Mark Drakeford o Lywodraeth Cymru a Michael Russell, y Gweinidog yn Llywodraeth yr Alban sy’n gyfrifol am Brexit, amlinellu gwrthwynebiad cryf iawn y ddwy lywodraeth i’r ffordd y mae Llywodraeth Theresa May yn ymdrin â datganoli yn yr holl broses o ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Un o’r pethau mwyaf trawiadol am y sesiwn oedd lefel y cytundeb rhwng y ddau Weinidog. Er bod Drakeford yn Llafurwr a Russell yn gynrychiolydd yr SNP, roedd y cytgord rhyngddynt yn amlwg i bawb.
Holiadur
Mae BARN yn awyddus i ddatblygu a gwella’r cyclhgrawn ar gyfer y dyfodol, ac i wneud hynny hoffem gasglu adborth oddi wrth ein darllenwyr. Byddem yn gwerthfawrogi’n fawr os fyddai modd i chi ateb ein holiadur arlein trwy ddilyn y ddolen yma. (https://www.surveymonkey.co.uk/r/BPK6WRL)
Diolch yn fawr!

Cofio Bobi Jones (1929–2017) – Cyfraniad aruthrol y sefydliad undyn
Mae'n anodd gen i gredu bod Bobi Jones, o bawb, wedi ein gadael. Gwyddem ei fod yn heneiddio, er nad oedd pall ar ei weithgarwch, ac un gweithgar ryfeddol fu Bobi erioed. Mae ei lyfrau yn hawlio sawl silff yn fy nghartref, ac yr wyf wedi darllen pob un. Darllenais rai o leiaf deirgwaith, wrth eu tywys drwy’r wasg fel golygydd a swyddog gweinyddol Barddas gynt. Cyhoeddais ryw bymtheg o’i lyfrau i gyd, gan gynnwys ei gerdd hir arloesol ac athrylithgar, Hunllef Arthur. Darllenais honno bum gwaith, a chael fy nghyfareddu ganddi bob tro. Ni wn sut i ddechrau ei ddisgrifio. Roedd Bobi yn sefydliad ynddo’i hun, yn sefydliad undyn, neu, yn hytrach, yn sefydliad deuddyn: R.M. Jones, y beirniad llenyddol a’r ysgolhaig, a Bobi Jones, y bardd a’r llenor. Y peth pwysicaf a ddigwyddodd iddo erioed, ac eithrio’i dröedigaeth yn 1953, oedd canfod yr iaith Gymraeg.
Cip ar weddill rhifyn Rhagfyr/Ionawr
Diwedd pennod i Sinn Féin – Bethan Kilfoil
Beth ddaw o S4C? – Gwion Owain
Y digartref amlwg a chuddiedig – Andrew Misell a Catrin Evans
Golwg yn ôl ar 2017 – Guto Harri, Meg Elis, Meic Birtwistle a Tim Hartley
Stori dymhorol gan Ruth Richards
Hen feddyginiaethau’r werin – Arwyn Tomos Jones
Gwin ar gyfer ’Dolig – Shôn Williams
Teyrngedau i J. Gwynn Williams, Betty Campbell, Martin Rhisiart a George Little
Adolygiadau o lyfrau a cherddoriaeth yr ŵyl
...A llawer mwy. Mynnwch eich copi nawr

Yr Undeb Ewropeaidd - yr ymerodraeth newydd
Wel, dyna glatsien go galed gan Richard Wyn Jones (BARN mis Tachwedd) gafodd pobl fel fi a bleidleisiodd dros Brexit! Mae’n ymddangos ei fod e’n cyhuddo pawb ohonom o ddyheu am ddyddiau gwych yr hen ymerodraeth Eingl-Brydeinig. Rhyfedd, felly, i mi fynd i’r carchar yn hytrach nag ymuno â’i lluoedd arfog hi ac imi wrthod derbyn aelodaeth o ‘Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig’ gan ddweud wrthynt mai dyna’r peth mwyaf atgas gennyf yn yr holl fyd. Nid wyf yn amau fod beirniadaeth Richard yn addas ar gyfer rhai o’r rheiny gafodd amlygrwydd yn yr ymgyrch dros Brexit, ond yn sicr nid yw’n wir am bobl fel Gisella Stewart, AS, Cadeirydd yr Ymgyrch.

Zimbabwe - Ffarwelio â’r Cigydd a chroesawu’r Crocodeil
Mae’r ’Dolig yn amser prysur i’r cigydd. Nid yn unig y bwtsiar sy’n hogi ei gyllyll ar gyfer ein gwleddoedd ond hefyd i’r cigyddion gwleidyddol – yn Zimbabwe ac yn Iwgoslafia, gynt. Newydd ei ddedfrydu i weddill ei oes yng ngharchar mae Ratko Mladic, ‘Bwtsiar Bosnia’. Ond dyrchafiad mae un o fwtsieriaid Zimbabwe wedi ei gael. Wrth weld y llawenydd a’r rhyddhad a ddilynodd y newydd fod Mugabe wedi mynd, ac mai Emmerson Mnangagwa fyddai’n ei olynu, hawdd oedd anghofio mai fel ‘Bwtsiar Matabeleland’ yr adwaenir Arlywydd newydd Zimbabwe. Ac mae Mnangagwa yn cael ei adnabod wrth enw arall hefyd – y Crocodeil. Enw y mae o’n ymhyfrydu ac yn ymfalchïo ynddo.