Y diwrnod wedi Gŵyl San Steffan oedd hi. Un o’r diwrnodau llwm heb enw hynny sy’n rhyw stwna ar gynffon ’Dolig, yn ymddiheuro am fodoli. Ond roedd Jane wedi bod yn edrych ymlaen at y llymder hwn, at y diwrnod yma oedd â diffyg sglein a phwrpas i bawb yr un fath.
Gwnaeth yr uwd yn y sosban a’i droi’n freuddwydiol yn fwy nag oedd raid. Cafodd foddhad yn plymio’i llwy i mewn i’r syrap melyn a’i wylio’n disgyn yn ddioglyd i mewn i’r uwd, gan greu pwll bach euraid yn y canol. Roedd blas da arno bora ’ma, y melyster yn falm. Yn gwmni.
Dechreuodd y peipiau wneud rhyw sŵn pan oedd hi wrthi’n golchi’i llestr a’i mwg, rhyw hen riddfan annifyr oedd yn awgrymu fod y peipau ar fin pwdu. Gan ei bod wedi bod yn anarferol o oer eleni, roedd hi wedi clywed hyn o’r blaen cyn i’r peipiau gracio.