Tra oeddwn ar daith gwaith i’r gogledd yng nghanol mis Mawrth fe glywais newyddion mawr. Ro’n i’n swpera â chyd-berchennog Manorhaus Rhuthun (a chadeirydd Twristiaeth Gogledd Cymru) Chris Frost, pan dderbyniodd alwad frys. Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, oedd ar y ffôn. Ei neges? ‘Paratowch i gau eich busnes am chwe mis.’
Yn syfrdan braidd, es i ymlaen ar fy nhaith i brofi lletygarwch Castell Deudraeth. O dan yr amgylchiadau – ac wythnos cyn cyhoeddi’r clo mawr – doedd ’nunlle gwell i ddod yn ôl at fy nghoed. Roedd fy ymweliad â Phortmeirion, sy’n gwneud cymaint dros Gymru a’r Gymraeg ar lefel ryngwladol, yn falm i’r enaid. A serch gofidiau cwsmeriaid a staff, dyfalbarhau a wnaeth pawb â’u gwaith, gan gyrraedd safonau uwch nag erioed o ragoriaeth. Gadewais dan deimlad, â baneri Cymru a’r Undeb Ewropeaidd yn cyhwfan yn dawel uwch afon Dwyryd.
Wrth nadreddu fy ffordd tuag adref i Gaerdydd, pasiais ddrysau caeedig Bistro Bermo a Bwyty Mawddach gydag un cwestiwn ar fy meddwl: be nesa?