Yr Arglwydd Elystan Morgan
“Senedd sy’n bwysig, nid Arwisgiad”
Roedd yr Arglwydd Elystan Morgan yn Aelod Seneddol Llafur Ceredigion ac yn is-ysgrifennydd yn y Swyddfa Gartref adeg yr Arwisgiad ym 1969. Yn arbennig ar gyfer Barn mae o’n trafod hinsawdd elyniaethus y cyfnod a’r bygythiadau a fu i’w saethu’n farw. Ond mae’r Arglwydd Elystan yn sicr fod gan Gymru erbyn hyn fater pwysicach o lawer nag Arwisgiad i’w ystyried.