RHIFYN TACHWEDD AR WERTH YN AWR
Beth arall sydd yn rhifyn Tachwedd? Yr ateb yw rhagor o ysgrifennu treiddgar ar bob math o bynciau, er enghraifft Gwion Lewis yn trafod y Gorchymyn Iaith, Dot Davies yn sôn am arian mawr y byd pêl-droed, Sioned Webb yn parhau â’i chyfres ar gyfansoddwyr Cymreig, a Beca Brown yn gofyn beth yw’r holl ffws yngl?n â gwerthu alcohol ar faes Eisteddfod yr Urdd. Ac mewn rhifyn lle mae’r Gweinidog Treftadaeth yn mynegi pryderon am gyflwr y theatr Gymraeg, mae ein hadolygydd Roger Owen yn cael ei siomi yn nrama newydd Meic Povey. Hyn oll a llawer mwy!