Tachwedd 2010

Byrhewch nosweithiau hir y gaeaf trwy ddarllen Barn. Yn y rhifyn diweddaraf mae Andrew Misell yn gofyn i ble mae’r trên datganoli yn mynd, a Dafydd Glyn Jones yn gofyn beth a wnâi Twm o’r Nant o Gymru heddiw. Will Patterson sy’n trafod adeiladau hyllaf yr Alban, a Bethan Kilfoil yn arswydo rhag y toriadau arfaethedig yn Iwerddon. Mae Hefin Wyn yn condemnio cyngerdd croeso ystrydebol Cwpan Ryder gan gynnig lein-yp fyddai wedi bod yn llawer gwell. Ac os nad yw hynny’n ddigon o wledd rhowch gynnig ar rysait carbonara Annes Gruffydd.

Llafur - plaid Kinnock unwaith eto?

Richard Wyn Jones

Gorfoleddodd Neil Kinnock ym muddugoliaeth EdMiliband. A bedyddiwyd y arweinydd newydd yn Red Ed gan y wasg asgell dde. Ond amheus yw’r awdur a yw Llafur o ddifrif ar fin dychwelyd “at ei gwreiddiau”.

 

Richard Wyn Jones
Mwy

Cwrs y Byd : Chile a Chymru

Vaughan Hughes

Ar setiau teledu ledled y byd gwyliodd biliwn o bobol y cyntaf o fwynwyr Chile yn cael ei ryddhau. Roedd Florencio Avalos a’i gydweithwyr, 33 ohonyn nhw igyd, wedi bod yn gaeth dan ddaear am 69 o ddyddiau. Fel y tystia anferthedd y gynulleidfa deledu, a phresenoldeb 1,500 o newyddiadurwyr o bum cyfandir, roedd yr ymdrechion i achub mwynwyr gwaith copr ac aur San José wedi cyffwrdd â chalonnau’r ddynoliaeth gron gyfan. Yn enwedig, felly,pobloedd cenhedloedd sydd â thraddodiad maith o fwyngloddio. Fel mae erthygl Alun Lenny yn y rhifyn hwn o Barn (tud.21) yn ein hatgoffa, mae Cymru ymhlith y cynharaf a’r mwyaf nodedig o’r cenhedloedd hynny. Mae tystiolaeth bod dynion wedi bod yn tyllu am fwynau ym mynyddoedd a dyffrynnoedd a chymoedd Cymru ers miloedd lawer o flynyddoedd.

Vaughan Hughes
Mwy

Y Gêm Brydferth

Beca Brown

Nid yn aml mae rhywun yn cael ei gymharu efo Alex Ferguson – yn enwedig rhywun fel fi. Yr unig debygrwydd sy ’na, decini, ydi gallu’r ddau ohonom i ddefnyddio sychwr gwallt yn bwrpasol a chydag arddeliad. Hynny, a thuedd y ddau ohonom i regi a mynd yn goch pan fydd pethau’n mynd o chwith – sef bob penwythnos y dyddia yma, i Alex o leia’.

Beca Brown
Mwy

Fi, hi - a'r delyn

Ioan Roberts

Y tu ôl i bob cerdd dantwraig o fri mae yna wr ufudd a diwyd sy’n aberthu popeth er mwyn hybu llwyddiant ei gymar ym myd y canu gyda’r tannau. Ar drothwy Gwyl Gerdd Dant 2010, mae un ‘gweddw cerdd dant’ yn rhannu ei brofiadau.

 

Ioan Roberts
Mwy

Ai diwedd y gân yw'r geiniog?

Griff Lynch

Na, ond mae’n help, meddai prif leisydd Yr Ods sydd hefyd yn un o gyflwynwyr C2 ar Radio Cymru.

Yn ddiweddar mi fûm i mewn cyfarfod a gynhaliwyd gan Sefydliad Cerddoriaeth Cymru yn y Galeri, Caernarfon. Y pwnc dan sylw yn y seminar oedd breindaliadau cerddorion Cymraeg. Efallai nad yw’n swnio fel y ffordd ddifyrraf dan haul o dreulio prynhawn, ond rydw i’n falch imi fynd. Yn wir, fe ddylai pawb sy’n malio am ddyfodol canu cyfoes Cymraeg gymryd sylw o’r hyn a drafodwyd yno.

Griff Lynch
Mwy