…ac mor llawn ag arfer o’r ysgrifennu gorau ar faterion cyfoes a’r celfyddydau. Mae Alwyn Roberts yn trafod ‘Problemau Prifysgol’ a Will Patterson yn beirniadu ‘ffyliaid cibddall’ Llafur yr Alban. Mae Gwyn Griffiths yn flin fod y Celtiaid yn cael cam gan raglenni hanes a Sioned Williams yn pryderu am effaith toriadau BBC Cymru ar ddarlledu Cymraeg. Ceir argraffiadau Luned Aaron o wyl gartwnau ryngwladol yn Ffrainc, golwg ar waith yr artist Martin Wenham, barn Megan Eluned Jones am y ‘broblem adolygu’, cip ar hoff stafell yr actores Delyth Wyn… a llawer mwy.
Gwion Lewis
Wrth benodi Meri Huws i swydd Comisiynydd yr Iaith Gymraeg, mae Llywodraeth Cymru yn dilyn un o’r ffasiynau rhyngwladol diweddaraf ym maes polisi iaith. Mae Iwerddon bellach wedi ailbenodi ei An Coimisináir Teanga am ail dymor o chwe mlynedd, cymaint fu llwyddiant Sean O’Cuirreáin yn ei dymor cyntaf. Mae’n ymddangos fod Canada hithau yn fodlon â Graham Fraser, cyn-newyddiadurwr rhadlon yr olwg sydd wedi bod yn Gomisiynydd Ieithoedd Swyddogol y wlad am bum mlynedd bellach. Ef yw’r chweched i gael ei benodi i’r swydd, sydd wedi bod yn rhan annatod o gymdeithas sifig Canada er 1970.