Ym mis Tachwedd 1962 y cyhoeddwyd Barn am y tro cyntaf a rhwng cloriau’r rhifyn pen-blwydd hwn cewch gip ar rai o’r pethau pwysig a dadleuol a ddywedwyd ac a ddarluniwyd yn y cylchgrawn ers hynny. Dyma draddodiad sy’n parhau – yn y rhifyn hwn mae Simon Brooks yn ymateb i’r ensyniad fod rhaid newid yr Eisteddfod i blesio’r di-Gymraeg, a Dafydd Wigley’n trafod ‘rhyddid’ ac ‘annibyniaeth’ yng nghyd-destun Cymru tra mae Dafydd ab Iago’n edrych ar ymateb ffyrnig o wrthwynebus cynheiliaid y drefn yn Sbaen i’r gefnogaeth gynyddol i Gatalonia annibynnol. Trafod crefydd ymhlith pencampwyr blaenllaw y mae Derec Llwyd Morgan, ac mae Lowri Haf Cooke wedi bod yn Efrog Newydd ar drywydd celfyddyd hynod bersonol y Gymraes Kathryn Ashill o Bontardawe. A pha winoedd sydd dan sylw ein colofnydd gwin Shôn Williams y mis hwn? Gwinoedd dathlu wrth gwrs. Mynnwch eich copi o rifyn disglair sy’n pefrio mewn mwy nag un ffordd!
Menna Baines
Betsan Llwyd yw cyfarwyddwr artistig newydd Theatr Bara Caws. Bu’n sôn wrth Barn am ei chynlluniau.
Cyfweliad: Menna Baines