Trowyd y clociau, mae'n nosi'n gynt. Ond na hidiwch – estynnwch am Barn ac ymgollwch mewn rhifyn arall llawn dop o erthyglau diddorol. Cewch ragflas o gofiant newydd dadlennol Hywel Gwynfryn i Ryan a Ronnie, golwg ar dwf rhyfeddol Triathlon gan Nia Peris, a chip ar fyd swreal Caffi'r Caban, Pontcanna, gan Tony Bianchi. Mae Geraint Lewis yn dweud pam mae Benjamin Britten – 'cyfansoddwr mwya'r 20g.'– yn haeddu cael ei gofio, tra mae Andrew Misell yn trafod cynnyrch cyfoeswr i Britten, sef C. S. Lewis, awdur nofelau 'gwleidyddol anghywir ond gafaelgar'. Eisiau llonydd i fwrw ymlaen i ysgrifennu ei nofel hithau y mae Elin Llwyd Morgan, ac agweddau rhywiaethol at famau sy'n gweithio sydd wedi gwylltio Beca Brown. Wrth i Hywel Griffiths ymateb i ganfyddiadau diweddaraf y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd, mae Deri Tomos yn edrych ymhellach eto i'r dyfodol wrth ofyn cwestiynau mawr am ddyfodol bywyd ar y ddaear. Am hyn a llawer mwy, bachwch gopi.
Richard Wyn Jones
Mae’r awdur yn croesawu’r adroddiad sy’n galw am gynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad o 60 i 100. Ond mae angen gwneud mwy na hynny i ddod â gwir ddemocratiaeth ac atebolrwydd i Gymru.
Mae’n debyg ein bod ni’r Cymry ar un adeg yn giamstars am ysgrifennu cyfansoddiadau. Dwn i ddim a yw haneswyr cyfoes yn cytuno, ond yr honiad oedd bod canran uchel o’r rheini a fu wrth y gwaith o ysgrifennu cyfansoddiad Unol Daleithiau America – traean a mwy ohonynt – yn hanu o gefndir Cymreig. A beth bynnag ei thrafferthion presennol yn sgil agweddau gwrthnysig y Tea Party bondigrybwyll, go brin y byddai unrhyw un yn amau na phrofodd y cyfansoddiad hwnnw’n gampwaith o’i fath.