Derec Llwyd Morgan
Y mae gweld ble y saif prifysgolion Cymru yn rhengoedd y Complete University Guide ar gyfer y Deyrnas Unedig am 2015 yn ddigon i dorri calon dyn. Prifysgol Caerdydd yw’r uchaf: y mae’n 23ain yn y rhestr. Nid teg dweud mai Glyndwr yw’r sefydliad Cymreig isaf ar y rhestr (110fed) am y rheswm syml nad yw’r Drindod Dewi Sant yno o gwbl (rhaid na lenwodd neb yng Nghaerfyrddin y ffurflenni perthnasol – pam, tybed?). 87fed truenus iawn yw Aberystwyth (yr oedd yn y deugain uchaf ddeng mlynedd yn ôl).
Y mae’r Guide yn rhoi marciau am nifer o bethau pwysig, gan gynnwys safonau mynediad i’r prifysgolion a’u cyflawniadau ym meysydd dysgu ac ymchwil. Bu rhai ohonom yn cwyno ers blynyddoedd nad yw Llywodraeth Cymru yn ariannu prifysgolion Cymru cystal ag yr ariennir prifysgolion Lloegr a’r Alban; ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf buom yn feirniadol iawn o bolisi’r Llywodraeth yn talu rhan dda o ffî pob myfyriwr o Gymru sy’n dewis astudio yn Lloegr a’r Alban. Canlyniad hyn yw bod llai o fodd gennym i ddenu a chyflogi staff o’r radd flaenaf i Gymru, ac, yn wir, bod arian a ddylai aros yng Nghymru yn chwyddo coffrau sefydliadau mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Gyfunol.
A beth yw ymateb y Llywodraeth? Ychwanegu at arian ymchwil a dysgu? Annog myfyrwyr i astudio yn eu mamwlad? Dim o’r pethau hyn. Ar hyn o bryd y mae bil gerbron y Cynulliad yng Nghaerdydd sy’n ‘ceisio deddfu’ er mwyn (1) ‘sicrhau trefn reoleiddio gadarn... ar gyfer sefydliadau yng Nghymru y mae eu cyrsiau’n cael eu cefnogi gan grantiau a benthyciadau Llywodraeth Cymru’; a (2) ‘diogelu’r cyfraniad at les y cyhoedd sy’n deillio’ o’r cymhorthdal ariannol hwnnw. Yr hyn a fyn yw atebolrwydd pellach ynghylch pethau na ellir hyd yn oed eu hiawn ddiffinio. A’r corff a fydd yn y pen draw yn arolygu’r broses atebol hon fydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, corff y mae ganddo lawer gormod o rym a dylanwad yn barod.
Sefydliadau dysg yw prifysgolion. Eu gwaith yw ychwanegu at wybodaeth dyn, gan ddehongli’r wybodaeth honno yn y fath fodd ag i gyfrannu at adnabyddiaeth y ddynolryw o’i byd ac ohoni hi ei hun. Y mae gan y prifysgolion oll eu llywodraethwyr annibynnol eu hunain. A hwy ddylai benderfynu a ydynt yn cael eu rhedeg yn iawn, ac a ydynt yn cyflawni eu hamcanion...