Mae’r atgofion cyntaf sydd gennyf am Aneurin y person, yn hytrach na’i waith fel artist, yn mynd â fi’n ôl i ganol y 1980au pan sefydlwyd Gweled, y mudiad i hybu’r celfyddydau gweledol yng Nghymru drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf i sefydlu’r gymdeithas yn 1984 a hynny yn fy nghartref yn Nhalybont, Aberystwyth. Roedd Aneurin yno ymysg nifer o artistiaid oedd yn awyddus i weld newid yn y ffordd yr oedd y celfyddydau gweledol yn cael eu trafod yng Nghymru. Y bwriad oedd rhoi pwysau ar gyrff fel yr Eisteddfod Genedlaethol, yr Amgueddfa Genedlaethol a’r cyrff darlledu i godi safon y drafodaeth.
Roedd Aneurin erbyn y cyfnod hwn yn adnabyddus fel artist o fri, a’i baentiadau yn dal bywyd cefn gwlad Cymru mewn ffordd sensitif ac unigryw. Roedd cael ei gefnogaeth i Gweled a’i bresenoldeb yn y cyfarfodydd yn rhoi statws a hygrededd i’r gymdeithas.