Yn hongian uwchlaw Rhodfa’r Gorllewin yng Nghaerdydd – wedi’i baeddu gan lygredd yr heol – mae baner lipa ac arni’r geiriau ‘NO WAR ON ROJAVA’. Ple ydyw i osgoi rhyfel – ond un sydd wedi ei hanwybyddu. Enghraifft sy’n cadarnhau hen ddywediad y Cwrdiaid mai eu ‘hunig gyfaill ydi’r mynyddoedd’. Rhy hawdd, fodd bynnag, ydi cyfeirio at y Cwrdiaid fel y bobl a fradychwyd yng nghanol cymhlethdod difrifol Syria.
Ar ôl penderfyniad byrfyfyr arall gan arlywydd America i dynnu lluoedd yr Unol Daleithiau o Syria, mae Cwrdiaid gogledd Syria yn wynebu lluoedd Twrci, byddin ail fwyaf NATO. Ar wahân i rodd o dunelli o arfau, cwta fil o luoedd arfog America a oedd yn y rhanbarth p’run bynnag. Yn sicr bydd yr arfau yn cael eu tanio at y Twrciaid a’u cynghreiriaid Islamaidd yr FSA (Free Syrian Army). Dyma eu gelyn pennaf nhw, yn hytrach nag ymladdwyr IS.
Yn y rhyfela parhaus a fu yn Syria ers 2011, byddin dramor sydd yn awr yn bygwth cyfnod newydd o ladd, glanhau ethnig a chwalu cymunedau. Mae penderfyniad Donald Trump yn golygu mai llywodraethau Iran, Twrci a Rwsia sy’n rheoli dyfodol Syria.