Nid syndod oedd darllen sylwadau John Idris Jones (BARN, Hydref 2020) am benderfyniad Hitachi i roi’r gorau’n llwyr i’w cynllun i godi dau adweithydd niwclear enfawr yn yr Wylfa, ac yntau’n un a fu’n rhan o’r diwydiant niwclear ar hyd ei yrfa. Roedd y penderfyniad yn anochel gan nad oedd Hitachi yn fodlon defnyddio’u cronfeydd sylweddol eu hunain fel cwmni i dalu am y gwaith adeiladu. Pa ddisgwyl wedyn oedd i fuddsoddwyr eraill dalu am y dechnoleg fudr, beryglus, hen ffasiwn ac eithriadol ddrud hon? Nid dyma’r enghraifft gyntaf o roi’r gorau i gynllun adeiladu niwclear. Tynnodd NuGen, sef partneriaeth rhwng Toshiba ac Engie o Ffrainc, allan o gynllun i adeiladu adweithyddion AP1000 Westinghouse, ar safle Moorside drws nesaf i Sellafield, oherwydd diffyg diddordeb gan unrhyw un i fuddsoddi. Diddorol hefyd yw nodi gwrthwynebiad gwleidyddol cynyddol gan gynghorau yn Suffolk ac Essex i gynlluniau Sizewell C a Bradwell B, dau gynllun y mae gan gorfforaeth niwclear wladwriaethol Tsieina ddiddordeb ynddynt.
Felly, beth nesaf?