Pan welais ddwy stori’n ddiweddar, un yn y Western Mail ar 27 Medi, a’r llall yn Golwg ar 6 Hydref, daeth Alwyn D. Rees ar unwaith i’r meddwl. Stori’r Mail oedd bod Comisiynydd y Gymraeg wedi gorfod dweud wrth Gyngor Sir Mynwy na allai godi arwyddion uniaith Saesneg, er i’r cynghorwyr ddadlau bod arwyddion dwyieithog yn mynd i ddrysu’r gwasanaethau brys. Roedd stori Golwg yn codi o erthygl newyddiadurwr dan hyfforddiant ar y Daily Telegraph am yr un pwnc, yn cydymdeimlo gyda’r Cyngor Sir a’u dadl gan fod cyn lleied o Gymry Cymraeg yn y sir, er ei fod yn cyfaddef bod cyfanswm y Cymry Cymraeg yno wedi dyblu ers 2011. Dychmygais glywed llais cryf a phendant Alwyn Rees yn dweud wrthyf ar y ffôn bod ganddo ddeunydd gwych at ei olygyddol nesaf yn BARN, ac ambell berl o ddyfyniad ar gyfer ei golofn ‘Geiriau Gwirion’.
Tachwedd 2022 / Rhifyn 718

Un penwythnos yng Nghymru 2022
Diwrnod pen-blwydd Gwyn Alf Williams, dydd Gwener 30 Medi. Dyddiad da i fod yng Nghanolfan Soar, Merthyr, yn nhre enedigol yr hanesydd dylanwadol ar achlysur y ddarlith goffa flynyddol yn ei enw. Trwy gyd-ddigwyddiad roeddwn yn eistedd drws nesa i Simon, mab Gwyn Alf, yn y ddarlith.
Doeddwn i ddim yn gwybod hynny ar y pryd, ond dyna ddechrau cyfres o gysylltiadau a fyddai’n ymestyn trwy’r nos Wener a’r dydd Sadwrn canlynol. Dafydd Iwan, Eddie Butler, Ifor ap Glyn, Will Hayward, Mike Jenkins – dyna rai o enwau eraill fy mhenwythnos. Ymgais i roi trefn bersonol ar hyn oll yw’r geiriau hyn, i roi siâp ar y cae hir rhwng Merthyr a Chaerdydd.
Bethan Sayed, merch o Ferthyr a chyn-aelod cynulliad, a draddododd darlith goffa Gwyn Alf. Nododd cyn dechrau fod eleni’n hanner can mlynedd ers sefydlu Ysgol Santes Tudful yn y dre. Mae hi’n gyn-ddisgybl. Roedd nodi’r dathliad hwnnw yn ddechrau calonogol ac arwyddocaol. Ni fyddai gan Gwyn Alf unrhyw amgyffred o’r fath beth.

Comisiwn y Comisiynydd?
Fedrwn i ddim peidio â gwenu wrth weld ymateb Cymdeithas yr Iaith i benodiad Efa Gruffydd Jones fel Comisiynydd y Gymraeg wrth ei chyhuddo o droi ei chefn ar fwriad canolog Deddf Iaith 2011. Gallaf dystio fel y gweinidog oedd â chyfrifoldeb am y ddeddf fod y Gymdeithas ar y pryd wedi ymosod ar amrywiol wendidau’r union ddeddf honno gydag arddeliad! Ond dŵr dan y bont ydi hynny. Oes gan y Gymdeithas le i bryderu tybed?
Yr awgrym ydi y bydd y Comisiynydd newydd yn mynd ati i wneud gwaith hyrwyddo ‘meddal’, yn hytrach na chyflawni ei gwaith creiddiol i sicrhau bod y Safonau Cymraeg yn cael eu plismona’n llym ac yn cael eu hymestyn i sefydliadau newydd. Pe bai hynny’n wir mi fyddai’r Comisiynydd yn sicr yn bradychu ei dyletswydd dan y Ddeddf.
Wrth osod allan ei stondin fel ymgeisydd am y swydd mae Efa Gruffydd Jones yn pwysleisio mwy nag unwaith mor hanfodol yw bod pobl yn siarad ac yn mwynhau defnyddio’r iaith a bod rhagor yn gwneud hynny.

Diwedd y daith i Truss
Beth bynnag oedd ei amheuon am y posibilrwydd o weld Syr Keir Starmer yn Brif Weinidog a Llafur yn llywodraethu, erbyn hyn mae’r awdur yn fwy na pharod i lyncu ei eiriau wrth i hygrededd y Ceidwadwyr ddiflannu’n llwyr.
Pwy welodd ffasiwn beth erioed? Roedd rhywun yn tybio nad oedd dyfnderoedd hyd yn oed oerach a mwy digroeso i’w plymio. Nad oedd selerydd mwy rhynllyd a thywyll islaw’r rheini y buom yn gaeth ynddynt dros y blynyddoedd diwethaf. Ond na. Erbyn hyn rydym yn gwybod yn well. Wedi parlys diffaith cyfnod May a chelwyddau a llygredd cyfnod Johnson, wele, lywodraeth Liz Truss. Heb os, y llywodraeth fwyaf di-glem a brofodd y wladwriaeth hon yn ei hanes modern.
Ysgrifennaf hyn o eiriau drannoeth cyhoeddiad Truss ei bod yn ymadael â’r Brif Weinidogaeth. Gwnaeth hynny mewn araith a oedd yn gwbl nodweddiadol ohoni: prennaidd, mulaidd o hunangyfiawn, a chwbl ddiurddas. Doedd dim gair o ymddiheuriad. Yn wir, ni chafwyd y mymryn lleiaf o gydnabyddiaeth ganddi o ba mor drychinebus y bu ei chyfnod yn Downing Street a’i chyfrifoldeb personol hi am hynny. Cawn glywed eto am yr union broses a arweiniodd at ei hymadawiad – pwy’n union a lwyddodd i’w hargyhoeddi i wynebu realiti. Ond roedd unrhyw rym ymarferol heb sôn am statws wedi hen ddiflannu, a hynny er mai dim ond ar 5 Medi y’i hetholwyd yn arweinydd y Blaid Geidwadol.

Rhwng hiraeth a gobaith – gwaith tri o Wcráin
Agorwyd arddangosfa dra arbennig yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw ddechrau Hydref, sef Adar a Chewyll Gwag, sy’n cynnwys gwaith tri o artistiaid o Wcráin. Gwyn Jones, cyfarwyddwr yr oriel, a esboniodd sut y llwyddwyd i ddenu’r arddangosfa i Lanbedrog.
‘Mi fuom yn lwcus o anlwcus,’ meddai. ‘Roedd artist a gytunodd i arddangos yma yn Hydref wedi gorfod tynnu’n ôl. Felly roedd gennym slot gwag. Cofiais fod Gwenan Williams o Forfa Nefyn, sy’n un o ymddiriedolwyr yr Oriel, wedi galw heibio ym mis Mai eleni, ac wedi dangos lluniau inni, yn y caffi, o waith rhyfeddol gan driawd o artistiaid o Wcráin. Mi welais i ar unwaith fod yna rywbeth arbennig iawn yng ngwaith y tri. Wnes i ddim petruso o gwbwl. Dyma estyn gwahoddiad iddyn nhw i lenwi’r slot ac arddangos yn yr oriel. Felly yma, yn y brif oriel, y mae gwaith Alla Chakir, Roman Nedopaka ac Oleksandra Davydenko – y fam, y mab, a phartner y mab.’

O’r hen i’r newydd – treftadaeth dan fygythiad
Mae newidiadau pellgyrhaeddol wedi bod yn digwydd ym maes addysg yng Nghymru. Efallai mai’r prif ddatblygiad yw cyflwyno’r cwricwlwm newydd i Gymru, ond newid mwy gweledol a disymwth yw’r ysgolion eu hunain. Yn 2009, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, sef rhaglen hirdymor o fuddsoddi cyfalaf er mwyn gwella amgylcheddau dysgu. Hyd yn hyn mae wedi effeithio ar oddeutu 30% o’r holl ysgolion a gynhelir, boed hynny wrth iddynt gael eu hadnewyddu, eu hestyn, eu cau, eu huno neu’u dymchwel.
Yn ogystal, mae nifer fawr o ysgolion newydd sbon wedi cael eu hadeiladu. Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yw’r buddsoddiad strategol mwyaf yn seilwaith addysgol Cymru ers y 1960au gyda’r cam presennol yn gweld buddsoddiad pellach gwerth £2.3 biliwn yn y seilwaith hwnnw. Er bod hyn yn newyddion da i addysgwyr mae’n siŵr, un o ganlyniadau’r Rhaglen yw peri newid trawiadol yn amgylchedd adeiledig Cymru.

Catalwnia, bum mlynedd wedi’r refferendwm
Mae Catalwnia’n ysbrydoliaeth i gefnogwyr annibyniaeth yng Nghymru a’r Alban, a’i baner i’w gweld yn ddi-ffael mewn gorymdeithiau. Eleni, treuliais haf hir yng ngwres Girona, cadarnle annibyniaeth lle mae’r Estelada’n chwifio o bob yn ail balconi. Profais angerdd ac argyhoeddiad y rhai sydd o blaid – ac yn erbyn – Catalwnia rydd.
Efallai nad yw holl ddarllenwyr BARN yn ymwybodol fod llywodraeth Catalwnia, y Govern, heddiw’n dadfeilio. Cymaint yw’r dyhead am annibyniaeth ymysg gwleidyddion fel bod dwy blaid o ddwy ochr y sbectrwm gwleidyddol yn cyd-lywodraethu ers 2021, Esquerra Republicana de Catalunya ar y chwith a Junts per Catalunya ar y dde. Daeth y tensiynau rhyngddynt i’w penllanw ym mis Hydref pan bleidleisiodd aelodau Junts dros adael y llywodraeth wedi i’r Arlywydd Pere Aragonès (Esquerra) ddiswyddo ei is-Arlywydd Jordi Puigneró (Junts). Mae Esquerra bellach yn llywodraethu heb fwyafrif, a’u mandad yn fregus.
Cip ar weddill rhifyn Tachwedd
Trawsfynydd – labordy niwclear y DG? – Robat Idris
Y dull Gwyddelig o alaru – Bethan Kilfoil
‘Heddlu moesoldeb’ Iran – Catrin Evans
Croesawu dau lyfr am brotestio – Arwel Vittle
Tîm criced Morgannwg – sgorio uchel ond dim dyrchafiad – Derec Llwyd Morgan
Dychmygion cynllwyn – Beca Brown
DNA yn cynnig goleuni newydd ar ddyfodiad y Saeson – Deri Tomos

Iasol ac oesol – adolygiad o ‘Un Nos Ola Leuad’ Bara Caws
Wrth fynd i mewn i Neuadd Ogwen, Bethesda i weld perfformiad agoriadol Theatr Bara Caws o’r ddrama a seiliwyd ar un o nofelau mwyaf yr iaith Gymraeg, roedd rhyw awyrgylch arallfydol bron yn treiddio drwy’r awditoriwm. Mae’r ddrama, a addaswyd gan Betsan Llwyd o sgript o waith John Ogwen a Maureen Rhys, yn glynu’n bur agos at brif themâu’r nofel. Mae’r niwl sy’n treiddio drwy’r neuadd wrth i chi fynd i mewn yn creu ias ac ymdeimlad o ddirgelwch, gan gonsurio byd lle gallech yn hawdd weld ysbrydion. Ac mae’r lleuad lawn uwchben copaon y mynyddoedd ar gefn y set yn ychwanegu at hynny.
Mae’r set ei hun yn llwyddo i gynrychioli’r math o dirwedd mae’r cymeriadau yn byw ynddo. Ceir rampiau a grisiau i gynrychioli llethrau a dringfeydd, a hefyd bonciau’r chwarel. Mae’r ‘hogia’ yn neidio, rhedeg a phrancio hyd y llwyfan gan chwarae gemau a rhoi rhwydd hynt i ddychymyg plentyn wrth sylwi a rhyfeddu at wahanol bobl neu bethau.