Ers sefydlu trefedigaeth gyntaf Awstralia ar lannau Warrane, enw gwreiddiol Cildraeth Sydney, mae hanes y bobl frodorol wedi bod yn stori o dristwch ar ben tristwch. Colli tir, colli teulu, colli iaith.
Ar 14 Hydref fe gafwyd pennod drist arall sef methiant refferendwm i’w cydnabod yn y Cyfansoddiad a chreu corff ymgynghorol brodorol yng nghoridorau’r llywodraeth ffederal. ‘Y Llais’ oedd yr enw a fathwyd ar ei gyfer gan ddwsinau o arweinyddion pobl frodorol y tir mawr ac ynyswyr Culfor Torres mewn cyfarfod yn 2017 yng nghysgod Uluru (Ayers Rock y dyn gwyn).
Pwrpas y ‘Llais’ arfaethedig oedd gwella cyflwr y 983,700 o bobl Awstralia (3.8% o’r boblogaeth) sydd o dras frodorol. Er gwario sylweddol dros ddegawdau mae eu safonau byw yn llawer is na gweddill y boblogaeth.