Thema dywyll Thema golau

Alun Gibbard 1960-2025

Alun Gibbard. Llun: Y Lolfa

Newyddiadurwr a chanddo ddiddordeb greddfol mewn pobl a’u straeon ac awdur rhyfeddol o gynhyrchiol a gofnododd hanes rhai o Gymry amlycaf ei oes.

Yn sail i holl waith a gyrfa Alun Gibbard roedd ei hoffter o bobl a gwir barch at eu straeon. Roedd yn awdur toreithiog llyfrau dogfennol a bu ei gyfraniad, yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn aruthrol. Un o’i dalentau arbennig fel awdur oedd y gallu i droi ei law at feysydd mor amrywiol, o’r dwys i’r ysgafn. Ond roedd gwleidyddiaeth a chwaraeon yn amlwg yn mynd â’i fryd. Mae ei lyfrau yn y maes cyntaf yn ymestyn o fywgraffiad y cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones i hanes cythryblus etholaeth Caerfyrddin yn y gyfrol Gwynoro a Gwynfor (2018) ac i stori’r cyn-Aelod Seneddol Siân James a’i chyfraniad anferth adeg streic y glowyr. Mae ei gyfrol ar fywyd yr eicon rygbi Carwyn James yn gofnod hanesyddol pwysig fel mae hanes Llanelli yn curo’r Crysau Duon a hanes clwb y Scarlets. Gan Alun fe roddwyd hefyd straeon sêr y byd rygbi Nigel Owens, George North a Delme Thomas rhwng dau glawr.

Ar ddechrau ei yrfa yn y BBC y bûm i’n ddigon lwcus i ddod i adnabod Alun gyntaf, er i’r ddau ohonom gael ein codi yn gyfoedion yn Sir Gaerfyrddin. Ganwyd Alun yn Llanelli, yn fab i’r diweddar Barchedig Noel Gibbard a oedd hefyd yn hanesydd crefydd amryddawn. Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Gymraeg Brynsierfel, Ysgol Ramadeg y Bechgyn Llanelli, a chafodd radd yn y Dyniaethau o Goleg Polytechnig Pontypridd.

Daeth yn amlwg yn fuan yn y BBC ei fod yn newyddiadurwr a gohebydd naturiol, gyda dawn i adnabod stori dda a’r gallu i sicrhau bod straeon pobl yn ganolog i’w waith. Roedd ganddo hefyd adnabyddiaeth o’r gynulleidfa a pharch ati. Bu’n gyflwynydd ar nifer o gyfresi i S4C yn y dyddiau cynnar, rhai fel Ar y Ffordd, sef ateb S4C i Top Gear, a bu’n gyflwynydd a chynhyrchydd ar raglenni crefyddol hefyd, Dechrau Canu Dechrau Canmol yn un ohonynt, a hynny’n dangos ochr ddidwyll ei gymeriad a chryfder ei fagwraeth.

Yna daeth i weithio fel gohebydd gyda ni ar Heno, gyda’i hoffter greddfol o bobl yn ei wneud yn ohebydd poblogaidd. Fe gynhyrchodd raglen arbennig ac eitemau niferus am ei arwr Dylan Thomas, a phan ymwelodd Johnny Depp â hen gartre Dylan Thomas ym mis Gorffennaf 2023, ’allai’r seren Hollywood ddim fod wedi gofyn am neb gwell nag Alun Gibbard i’w dywys o gwmpas gyda’i wybodaeth ddofn am y bardd. Am sawl blwyddyn, bu wrthi’n egnïol yn cynnal digwyddiadau, gweithdai a darllediadau byw o 5 Cwmdonkin Drive. Mae’n braf gwybod bod gwaith darlledu Alun ar hanes Dylan Thomas bellach yn adnodd cyhoeddus yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Tristwch ei golli yn rhy gynnar o lawer i greulondeb canser yw iddo fethu â chwblhau ei waith olaf, sef hanes bywyd cynnar Dylan Thomas.

Roedd hefyd yn gyfrannwr cyson i gylchgrawn Golwg a phapur newydd y Western Mail gan ysgrifennu dros fil o eitemau ar eu cyfer. Ond, yn sicr, y gwaddol mwyaf yw ei lyfrau. Yn ychwanegol at y cyhoeddiadau a nodwyd uchod, roedd ganddo ddawn hefyd i gloriannu bywydau personoliaethau poblogaidd fel Aled Hall, Arfon Haines Davies ac Owain Tudur Jones yn ogystal â straeon ingol a theimladwy fel yn y gyfrol er cof am y ferch fach April Jones a lofruddiwyd ym Machynlleth.

Yn sgil ei gyfraniad, sicrhaodd Alun fod lleisiau Cymraeg a Chymreig sy’n bwysig i’n bywyd cenedlaethol yn cael eu clywed yn glir a hyderus. Mae pob cyfrol yn adlewyrchu yr un safonau ag a ddiffiniodd ei fywyd proffesiynol: brwdfrydedd, cynhesrwydd, chwilfrydedd, a pharch at ei destun a’i ddarllenwyr. Ysgrifennodd nid i greu argraff, ond i greu cysylltiad – i roi mewnwelediad, i rannu straeon, a rhoi hanesion pwysig ar gof a chadw. Mae’r hyn a gyflawnodd Alun Gibbard yn mynd i barhau gyda ni. Diolchaf am gael ei adnabod.

• Ganed Alun Gibbard ar 30 Mai 1960. Bu farw ar 19 Tachwedd 2025.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Cledwyn Fychan 1936-2026

Ymlaen >

Eigra Lewis Roberts 1939-2026