Thema dywyll Thema golau

Y llythyren R

Gwta bythefnos sydd yna ers i mi ysgrifennu'r blog cyntaf, ac erbyn hyn mae'r byd meddygol a nyrsio yn fyd gwahanol iawn. Clywn bob dydd am niferoedd y cleifion sy'n profi'n bositif ac am y niferoedd sy'n marw. Medrwn hefyd droi at Doctor Google, at ganllawiau Ffion ar Facebook a Twm ar Twitter sydd i gyd â rhyw fath o sylwebaeth neu farn i ni i gyd ei ddilyn. Ond rhaid dweud mai profiad arbennig ar ddydd Llun y Pasg oedd cymryd rhan yn fideo fy nghydweithiwr Rhys Jones, Nyrs Arbenigol a drefnodd i gael staff Ysbyty Gwynedd i anfon y neges am aros adra i'r byd cyfryngau cymdeithasol. Mae wardiau yn Ysbyty Gwynedd yn wag iawn, yn disgwyl am y drychineb i ddigwydd. Soniais yn fy mlog blaenorol am y darparu a'r ymarfer defnyddio'r PPE, a'r cynllunio i gael gwelyau ychwanegol yn yr ysbyty a'r ysbytai cymunedol. Ond pam, meddech chi? Yn ystod cyfnodau pandemig mae'r epidemiolyddion yn cyfrifo gwerth R0 yr haint, sef i ba raddau y mae'r haint yn trosglwyddo o un person i'r llall. Mae gwerth R0 Covid-19 yn gyfystyr â rhwng 2 a 3, hynny yw am bob un person sy'n cael yr haint mae ganddo'r modd i heintio 3 arall. Difyr iawn yw cymharu hyn â brech yr ieir (chickenpox) sydd â gwerth R0 o 10 –12, sy'n golygu y gallai un person wedi ei heintio â brech yr ieir heintio deg arall. Gobeithio bod hyn yn rhoi i ni syniad pam bod rhaid darparu, yn ôl yr epidemiolyddion, am y sefyllfa lle y gallai pob un person â Covid-19 heintio tri arall, a'r tri'n troi'n naw ac wedyn yn 27 ac ymlaen ac ymlaen. Cafodd y modelau hyn eu cyfrifo, wrth gwrs, ar boblogaeth ddwys dinasoedd ac nid ar gefn gwlad Cymru. Ond tybed a wnaeth hunanynysu a phellhau cymdeithasol achub y dydd i ni yn ein hardaloedd gwledig? Cawn weld. Mae erthygl ddiddorol gan Lizzie Crook yn defnyddio animeiddio i egluro sut y mae'r mesurau pellhau cymdeithasol yn medru torri'r gadwyn heintio. A yw'r mesurau hyn yn gweithio? O edrych ar y niferoedd yn Ysbyty Gwynedd mae'n ymddangos felly. Gwelwn achosion newydd yn feunyddiol, ond mae amcangyfrif yr epidemiolyddion a'r gwir niferoedd ymhell iawn oddi wrth ei gilydd ar hyn o bryd. Ni olyga hyn y dylem ymlacio a chodi'r holl fesurau sy'n bodoli. Y gwir yw fod yr haint yn lledaenu ymysg y mwyaf bregus, sef yr henoed. Nid yn unig yn yr ysbytai y mae'r Covid-19, ond hefyd mewn nifer o gartrefi preswyl. Mewn ysbyty mae'n llawer haws cadw at bellter cymdeithasol, ond mae'n her sicrhau pellter cymdeithasol mewn cartref preswyl. Nid yn unig preswylwyr allai fod wedi'u heintio ond gall y firws fynd i'r afael â'r gweithlu gan heintio gofalwyr, glanhwyr a staff arlwyo, sy'n ei gwneud hi'n anodd iawn rhoi gofal i'r henoed. Fel pawb yn y proffesiwn gofal maent yn tynnu at ei gilydd ac yn goresgyn y rhwystr i sicrhau bod yr henoed yn cael y gofal sydd ei angen arnynt. Wrth orffen, newyddion da am y claf a dreuliodd bythefnos yn uned ddwys Ysbyty Gwynedd yn dychwelyd adref. Tan tro nesaf cadwch yn saff. Dafydd Williams yw Arweinydd Gwasanaeth Clinigol Atal Heintiau (Gorllewin) Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Covid-19: Hen feddyginiaethau, ac un Cymreig!

Ymlaen >

Amser i alaru, ac amser i ddawnsio