Thema dywyll Thema golau

Gwlad Islwyn Ffowc

Pentref gwledig yn y pellter Pentref gwledig yn y pellter
Golygfa dros bentref Glyn Ceiriog

Un o drigolion Dyffryn Ceiriog sy’n ein tywys ar daith gerdded o gwmpas mannau pwysig ym mywyd cynnar un o’n llenorion mwyaf poblogaidd.

‘Dipyn bach o’r Nefoedd ar y Ddaear’. Dyna sut yr oedd neb llai na David Lloyd George wedi disgrifio’r rhan unigryw yma o Gymru adeg yr ymgyrch ofer i foddi tua thraean ohoni yn 1923. Yn fwy diweddar, mae eraill wedi crynhoi dirgelion y dyffryn fel rhywle sy’n rhy bell i’r gogledd i fod yn rhan o Bowys, yn rhy bell i’r de i fod yn Sir Ddinbych ac yn rhy orllewinol i fod yn Sir Wrecsam. Gweriniaeth Dyffryn Ceiriog amdani, felly! Ond, ers 1996, mae’r hen ddyffryn chwarelyddol yma yn rhan o sir yr Eisteddfod. Mae genau’r dyffryn, yn y Waun, yn llai na hanner awr o’r maes a chewch ar ei hyd ddewis eang o deithiau cerdded ar gyfer pob lefel ffitrwydd. Llynedd, fel rhan o’r dathliadau i goffáu canmlwyddiant geni un o feibion galluocaf y fro, Islwyn Ffowc Elis, trefnwyd taith gerdded yn ei hen gynefin, heibio cartrefi’i faboed a’i ysgol gynradd ym mryniau Nantyr. Gwnaed yr un daith eto ddiwedd Mehefin eleni er mwyn codi arian at yr Eisteddfod. Os am gael blas o ardal fu’n gwbl ffurfiannol yn hanes y llenor, beth am i chwithau roi cynnig arni?


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Blas a rhin ardal y ffin

Ymlaen >

Cynnyrch clodwiw Llaethliw