Thema dywyll Thema golau

Nofel Tegla am Ryfel y Degwm yn 100 oed

Un o ddarluniau Leslie Illingworth yn argraffiad gwreiddiol Gŵr Pen y Bryn Un o ddarluniau Leslie Illingworth yn argraffiad gwreiddiol Gŵr Pen y Bryn
Ystrydeb bellach yw honni ein bod yn byw yn ‘oes aur’ rhywbeth neu’i gilydd. Bid a fo am hynny, rydym yn sicr yn byw mewn cyfnod toreithiog yn hanes y nofel Gymraeg. Nid felly y bu hi. I gryn nifer o’n cyndeidiau Anghydffurfiol, ‘ffugchwedl’ oedd y nofel – peth Seisnig neu, gwaeth fyth, Ffrengig. Yn lle afradloni oriau ar y fath storïau ffansïol, anogid y Cymry i droi at yr Ysgrythur Lân neu gofiannau hoelion wyth y pulpud Cymraeg. Eironi hyn oll, fel y nododd yr Athro John Rowlands, oedd mai’r nofel oedd ‘y ffurf a chwiliai am y gwir’. Ymdrech oedd hi i dorri’n rhydd o lyffetheiriau’r traddodiadau llenyddol a barddol, a chynnig llun o fywyd fel roedd e. Yr hyn a wnâi arloeswyr y nofel Gymraeg, fel Daniel Owen yn anad neb, oedd dal drych at eu cymdeithas. Ac yn Gŵr Pen y Bryn yn 1923, aeth Edward Tegla Davies – ‘Tegla’ i bawb – ati i geisio dangos bywyd ‘enaid cyffredin’ a oedd yn byw trwy un o gyfnodau mwyaf cythryblus hanes Cymru yn y cyfnod: Rhyfel Degwm y 1880au.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Cip ar weddill rhifyn Chwefror

Ymlaen >
Adeiladau wedi eu dinistrio gan ddaeargryn Twrci

Esgeulustod a llygredd yn dwysáu trychineb naturiol