Thema dywyll Thema golau

Diwrnod hanesyddol yn Barcelona

erthygl-chwefror-2018-1847-746 erthygl-chwefror-2018-1847-746
Rwy’n ysgrifennu’r llith hwn ar 17 Ionawr, diwrnod ymgynnull a sefydlu Senedd newydd Catalwnia a etholwyd ar 21 Rhagfyr 2017. Dros y pedwar mis diwethaf gwelwyd ar strydoedd y wlad honno ymgyrchu torfol ac arwrol dros ddemocratiaeth, y drefn amherffaith ond anhepgor honno y mae gweddill Ewrop heddiw yn ei chymryd yn ganiataol. Nid arwriaeth mudiadau chwyldroadol yr 20g. a gafwyd, gyda’u gobeithion iwtopaidd a’u haberth gwaedlyd, y math a brofodd George Orwell ar strydoedd Barcelona yn 1937, eithr arwriaeth gadarn ond heddychlon, fodern, ddyfeisgar a llawn asbri. Chwyldro a gwên ar ei wyneb. Dynion tân, cynghorwyr bro a thref, dinasyddion da o bob cefndir yn amddiffyn y bythau pleidleisio yn ddi-drais yn erbyn ymosodiadau treisgar y Guardia Civil. Ond o heddiw ymlaen mae llwyfan a chywair y ddrama’n newid. Os dilynir y drefn arferol gallwn ddisgwyl gweld urddo arlywydd newydd erbyn i’r rhifyn hwn o Barn weld golau dydd a’r person hwnnw’n barod i arwain llywodraeth glymblaid ac iddi raglen waith benodol. Dyna’r adeg hefyd y bydd y pwerau a atafaelwyd gan Madrid fis Hydref diwethaf yn dychwelyd i Barcelona. Ond os methir cytuno ar y trefniadau mewn pryd, bydd y cloc yn tician ar gyfer etholiad arall. Prif Weinidog Sbaen, Mariano Rajoy, a ddefnyddiodd ei bwerau dros dro i orfodi etholiad. Ei obaith oedd ailsefydlu ‘normalrwydd’, sef y drefn flaenorol o senedd ranbarthol, ond gyda mwyafrif unoliaethol. Mae yn agos i hanner yr aelodau seneddol yn gorfod credu mai corff rhanbarthol o’r fath sydd heddiw’n ymgynnull, ond maen nhw yn y lleiafrif o ryw ychydig. Fel y gwyddom, cryfhau mandad y pleidiau sydd o blaid annibyniaeth (tair ohonynt i gyd) a wnaeth yr etholiad. Iddyn nhw, dyma Senedd y Weriniaeth annibynnol a gyhoeddwyd gyntaf yn syth wedi refferendwm 1 Hydref. Nhw sydd yn y mwyafrif a’u bwriad fydd dangos parhad y weriniaeth honno drwy ethol yr union Arlywydd a gyhoeddodd annibyniaeth, sef Carles Puigdemont. Mae’n draddodiad mai aelod hynaf y Senedd sy’n cael siarad gyntaf adeg agor Senedd newydd. Fe bwysleisiodd y cenedlaetholwr bytholwyrdd Ernest Maragall, 75 oed, mewn araith dawel, rymus nad oedd y sefyllfa yn normal o bell ffordd. Mae Carles Puigdemont yn un o bum aelod seneddol sy’n alltud ym Mrwsel. Mae tri aelod seneddol arall, gan gynnwys Oriol Junqueras, arweinydd yr ail fwyaf o’r pleidiau sy’n cefnogi annibyniaeth, yn y carchar o dan amheuaeth o deyrnfradwriaeth neu annog gwrthryfel ac yn cael eu dal yn wystlon i bob pwrpas heb eu dwyn o flaen llys. Mae pum aelod arall wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth ond yn wynebu’r un cyhuddiadau. Safbwynt Ciudadans, y blaid unigol fwyaf yn y Senedd ac unoliaethwyr rhonc, yw mai yn y carchar y dylai’r gwrthryfelwyr i gyd fod. a dyna hefyd farn yr ychydig aelodau sydd ar ôl yn Senedd Catalwnia o’r Partido Popular, plaid Mariano Rajoy. Yn eistedd drws nesaf iddynt mae’r cenedlaetholwyr, hwythau am fanteisio ar y cyfle i atgoffa pawb am y rhai fethodd fod yno – gosodwyd rhubanau melyn ar eu seddi gwag – a phwy sy’n gyfrifol am hynny. Pan ddaeth sesiwn gynta’r Senedd i ben safodd pawb ar eu traed, ond ychydig iawn ar ochr yr unoliaethwyr a ymunodd yn yr anthem genedlaethol. Wedi’r anthem dyma’r cenedlaetholwyr yn curo dwylo ac yn bloeddio ‘Llibertat, Llibertat’ gan alw am ryddhau eu cyd-aelodau o’r carchar. Dyna pryd y cerddodd yr unoliaethwyr allan o’r siambr. Awyrgylch wenwynig, medd un o newyddiadurwr Barcelona. Prif fusnes y diwrnod oedd ethol cadeirydd ac aelodau’r pwyllgor bach a fydd yn llywio gwaith y Senedd – mae’r cadeirydd hefyd yn llywio sesiynau. Dyn ifanc 31 oed o blaid genedlaethol yr ERC gafodd ei ddewis. Mae gwaith anodd o’i flaen. Mi wnaeth araith ddigon cymodlon ond ni chododd arweinwyr y pleidiau unoliaethol i ysgwyd ei law fel sy’n arferol. Ac yn fuan wedyn, mewn cynhadledd i’r wasg, beirniadwyd ef am fod yn rhy gymodlon gan lefarydd y blaid fechan wrthgyfalafol sy’n rhan o’r glymblaid debygol dros annibyniaeth. Mae ymlyniad diwyro wrth ddim llai na gweriniaeth annibynnol yn amod cydweithio ganddynt. Bydd wythnosau cynta’r Senedd yn troi’n ddadl am brosesau’r sefydliad. A gaiff aelodau alltud bleidleisio o bell? Mae angen eu pleidleisiau. Oes modd i Puigdemont gael ei arwisgo o bell neu drwy ddirprwy? A fydd yn llywodraethu wedyn drwy Skype a twitter? Ai Senedd Catalwnia sydd â’r hawl i greu neu addasu’r rheolau? Mae pawb yn y niwl ar y cwestiynau hyn, ond gallwn fod yn ffyddiog y caiff pob tacteg ei defnyddio gan y pleidiau gwrth-annibyniaeth i rwystro urddo Puigdemont. A phetai hynny’n digwydd, mae Prif Weinidog Sbaen wedi bygwth atafaelu pwerau Senedd Catalwnia unwaith eto – neu mi allai fynd â’r mater i Uchel Lys Sbaen. Ond byddwch yn barod am bopeth. Mi allai Puigdemont wedi’r cwbl sleifio i mewn i Barcelona yn ddiarwybod i heddlu Sbaen a chael ei urddo yn y cnawd. Ar Senedd Catalwnia a’i gweithgareddau y mae llygaid pawb heddiw, yn naturiol, ond ffactor yr un mor allweddol yn nyfodol y wlad fydd yr hyn a ddigwydd yng ngwleidyddiaeth Sbaen a’r Undeb Ewropeaidd. Ergyd i’r chwith Sbaenaidd o bob lliw oedd canlyniadau etholiad Catalwnia. Bu ardaloedd helaeth o ddinas Barcelona gynt yn gadarnle i’r Blaid Sosialaidd Gatalanaidd (PSC), chwaer-blaid y PSOE Sbaenaidd, ond nid bellach; ac fe welodd yr ymgyrch etholiadol rwyg yn agor o fewn Podemos Catalunya. A sioc i blaid lywodraethol Sbaen, y Partido Popular, oedd colli cymaint o dir i Ciudadans, plaid o’r un anian â nhw. Petai’r un shifft yn digwydd mewn mannau eraill yn Sbaen (ac mae Ciudadans yn sefyll ym mhob man er bod ei gwreiddiau yng Nghatalwnia) byddai’n ddiwedd ar y Partido Popular fel plaid gredadwy. nid yw hynny’n amhosib o ystyried y cwmwl sydd drosti oherwydd achosion o lygredd. Mae rhai’n credu na fydd Rajoy ei hun yn goroesi’r llanast a greodd yng Nghatalwnia, ond gwaetha’r modd mae yn ei blaid fwy na digon o bobl sydd ymhellach i’r dde nag yntau. Roedd presenoldeb grŵp bach o ultras adain dde wedi eu gwisgo â baneri Sbaen y tu allan i’r Senedd heddiw yn ein hatgoffa ni o hyn. Cyfeiriodd Maragall yn ei araith agoriadol at yr Undeb Ewropeaidd, sy’n allweddol i strategaeth y pleidiau dros annibyniaeth. Cydnabu na fu ymateb cynta’r gwladwriaethau yn gadarnhaol ond serch hynny, meddai, Ewropeaid ydym ni sy’n benderfynol o gyfrannu at lunio strwythurau’r dyfodol. Ni fyddai, mwy na minnau, yn derbyn dadansoddiad gorsyml Emrys Roberts (Barn Rhagfyr 2017/Ionawr 2018) o’r UE fel uned fonolithig sydd o’i hanfod yn elyn i obeithion Catalwnia a chymunedau bychain. Mae’n wir ei bod yn glymblaid o wladwriaethau a bod ar nifer o’r rheiny ofn i’r dwymyn annibyniaeth ymledu i’w lleiafrifoedd nhw, ac er bod eraill megis Slofenia – a ymwahanodd yn heddychlon oddi wrth Iwgoslafia – yn cydymdeimlo’n fawr â Chatalwnia, byddai’n ormod i ddisgwyl gweld sefydliadau Ewrop yn brysio i gydnabod y weriniaeth newydd. Wedi dweud hynny, pan gododd llywodraeth Sbaen warant Ewropeaidd i arestio Carles Puigdemont, buan iawn y bu’n rhaid iddynt ei thynnu’n ôl wedi deall na fyddai na Gwlad Belg nac unrhyw wlad arall yn yr Undeb yn ei estraddodi ar sail cyhuddiadau mor chwerthinllyd o annemocrataidd. Mae’n rhydd i deithio lle y myn o fewn yr UE ac ar fin mynd i annerch cyfarfod yn Nenmarc. Hyn am fod yr UE nid yn unig yn glymblaid o wladwriaethau ond hefyd yn drefn gyfreithiol wedi ei seilio ar egwyddorion democrataidd. Mae’r syniad o ddinasyddiaeth Ewropeaidd hithau wedi dechrau gwreiddio. Dyna sy’n rhoi hawl i hanner cant o aelodau seneddol Ewropeaidd o bob cwr o’r cyfandir gondemnio trais y Guardia Civil yng Nghatalwnia. A da bod Senedd Cymru wedi gwneud yr un peth – fe sylwyd ar hynny yng ngwasg Catalwnia. Ond faint o sylw gaiff unrhyw lais o Brydain ar y lefel Ewropeaidd heddiw? Dyna fy nghwyn fwyaf yn erbyn Brexit – ei fod yn ein hamddifadu o’r hawl i gyfrannu at lunio’r math o Ewrop y gallwn anadlu o’i mewn. Tra bo ein dinasyddiaeth Ewropeaidd yn parhau, fodd bynnag, gallwn bwyso ar ein haelodau seneddol Ewropeaidd i amddiffyn democratiaeth yng Nghatalwnia. Does dim rhaid bod yn genedlaetholwr chwaith i wneud hynny. Mae’n ddigon i fod yn ddemocrat.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-chwefror-2018-1845-745

Mark Drakeford – y ffefryn i olynu Carwyn?

Ymlaen >
erthygl-mawrth-2018-1853-749

Canmlwyddiant y bleidlais i fenywod