Barnu Eos – “mae ganddynt le i gywilyddio”
Dyfrig Jones
Darlithydd mewn Astudiaethau Creadigol, Prifysgol Bangor
Ganol Rhagfyr y llynedd daeth y newydd o Gaernarfon fod Eos, y corff sy’n casglu breindaliadau (rhai) o gerddorion, cantorion a chyfansoddwyr Cymraeg Cymru wedi methu yn eu brwydr fawr â’r BBC. Yn y wasg ac ar y cyfryngau bu cryn wylofain a rhincian dannedd o du’r Cymry Cymraeg. Dyma’r sefydliad Prydeinig yn sathru unwaith eto ar ein diwylliant a ‘Bwrdd Bradychu Cymru’ yn haeddu’r enw, eto fyth. Ond tu ôl i’r llenni, mae ’na stori arall yn dechrau dod i’r wyneb. A yw’r hyn a ddigwyddodd mor ddu-a-gwyn ag y mae Eos, a’u cefnogwyr, yn ei honni?
Mae hanes hir a chymhleth i’r anghydfod rhwng y ddwy garfan. Yn wir, nid ffrae rhwng y BBC ac Eos oedd hon ar y dechrau, ond ffrae rhwng Y Gynghrair – corff sy’n cynrychioli cerddorion, cyfansoddwyr a chyhoeddwyr cerddoriaeth Gymraeg Cymru – a PRS for Music, y corff sy’n casglu breindaliadau ar draws Prydain. Yn 2007 penderfynodd y PRS y byddent yn adolygu’r modd yr oedden nhw’n rhannu’r arian a gesglid oddi wrth fusnesau preifat. Mae amrywiaeth anferthol o fusnesau drwy Gymru benbaladr yn talu i’r PRS am yr hawl i ddefnyddio cerddoriaeth ei aelodau. Yn eu plith mae tafarndai, siopau trin gwallt, modurdai – pobman lle y chwaraeir cerddoriaeth. Dyna’r drefn hefyd yn achos y gerddoriaeth sy’n dod lawr y ffôn wrth i chi aros i gael siarad ag aelod o staff pob math o fusnesau a gwasanaethau
Yn 2007 sylweddolodd y PRS fod y busnesau hyn yn defnyddio llawer iawn llai o gerddoriaeth Gymraeg nag oedd y casglwr breindaliadau wedi ei amcangyfrif cyn hynny – tua 95% yn llai. O sylweddoli hynny, newidiwyd y drefn o dalu cerddorion Cymru, a syrthiodd incwm y sector yn sylweddol.
Wedi ymrafael rhwng Y Gynghrair a’r PRS, daeth yn amlwg nad oedd gobaith am adfer y taliadau a fodolai cyn 2007. Penderfynodd nifer helaeth o aelodau’r Gynghrair y byddent yn creu corff newydd i weinyddu hawliau darlledu, a throdd y corff hwn – Eos – eu golygon tuag at y BBC. Radio Cymru oedd un o ddefnyddwyr mwyaf yr hawliau a oedd yn awr ym meddiant Eos, ac roedd Eos yn benderfynol o wneud iddynt dalu gwell pris amdanynt. Aeth trafod yn fargeinio, bargeinio yn anghydfod, ac anghydfod yn streic. Ar y cyntaf o Ionawr 2013 gwrthododd Eos roi caniatâd i’r BBC ddarlledu caneuon eu haelodau.
Y cyfnod hwnnw oedd dechrau’r diwedd. Wrth i’r tonfeddi gael eu llenwi â cherddoriaeth glasurol a cherddoriaeth dramor roedd Eos a’r BBC wrthi, tu ôl i ddrysau caeedig, yn ceisio dod i delerau. Ychydig iawn o fanylion ynglyn â’r trafodaethau hynny a gafodd eu cyhoeddi ar y pryd gyda’r ddwy garfan yn mynnu bod rhaid parchu cyfrinachedd. Yr unig wybodaeth arwyddocaol a ddaeth allan yn ystod y trafod oedd pwt bach mewn stori newyddion BBC Wales ar 29/12/12, cyn dechrau’r streic. Wedi ei gladdu yng nghanol y stori honno roedd yr haeriad fod y BBC wedi cynyddu’r swm yr oeddent yn fodlon ei dalu – ‘a substantial offer’ yn ôl y BBC. Doedd y naill ochr na’r llall yn fodlon manylu, ond yn ôl disgrifiad Eos roedd y cynnig yn ‘joke’, ‘wasn’t even a gesture, 1% of budget’.
Gyda’r trafodaethau yn digwydd ymhell o lygaid y cyhoedd, mae’n anodd gwybod pryd y cynigwyd beth i bwy. Ond mae lle i gwestiynu’r modd yr ymatebodd Eos i’r cynnig ‘sylweddol’ yma. Er eu bod wedi dweud y byddent ‘yn datgan manylion wedi i’r trafodaethau ddod i ben’, flwyddyn yn ddiweddarach mae Eos yn parhau’n dawedog iawn. Serch hynny, mae Barn wedi siarad â thair ffynhonnell a oedd yn agos at y trafodaethau. Cafwyd cadarnhad fod y BBC wedi cynnig £500,000 i Eos, er mwyn dod â’r anghydfod i ben. Mae’r ffigwr hwn yn sylweddol uwch na’r £100,000 yr oedd Eos yn ei honni i’r BBC ei gynnig yn ystod y cyfnod yma.
Pam, felly, y gwrthodwyd y cynnig? Yn ôl y wybodaeth mae Barn wedi ei derbyn, nid oedd y BBC yn fodlon cynnig y £500,000 cyfan fel breindal. Yn hytrach, roedd y BBC yn benderfynol o lynu at y ffigwr gwreiddiol o £100,000 fel breindal, gan osod £400,000 ychwanegol mewn cronfa nawdd ar gyfer cerddorion Cymraeg. Roedd tair anfantais i’r trefniant hwn, o safbwynt Eos. Yn gyntaf, byddai modd i unrhyw gerddor neu gyfansoddwr wneud cais i’r gronfa am gyllid – nid aelodau Eos yn unig. Dan drefn o’r fath byddai ymdrechion Eos wedi bod o fantais i’r rhai a benderfynodd aros yn driw i’r PRS, lawn cymaint ag i aelodau Eos. Yn hynny o beth, mae safbwynt Eos yn ddigon dealladwy.
Ond gellid dadlau fod dwy anfantais arall i’r trefniant arfaethedig hwn. Does dim sicrwydd ynglyn â sut y byddai’r gronfa yn cael ei dosrannu, ond mae’n deg tybio y ceid ymdrech i sicrhau rhyw fesur o gyfartaledd, gyda chyllid yn mynd i artistiaid mawr a bach, fel ei gilydd. Bellach nid yr artistiaid a gâi eu chwarae droeon bob dydd ar Radio Cymru fyddai’n derbyn y rhan fwyaf o’r arian. A’r anfantais olaf? Cerddorion a chyfansoddwyr yn unig fyddai’n gallu gwneud cais am arian o’r gronfa. Yn hanesyddol, mae cwmnïau recordio wedi derbyn cyfran sylweddol o freindaliadau PRS. Petai Eos wedi derbyn cynnig y BBC, mae’n bosibl iawn y byddai cyfran y cwmnïau recordio wedi ei gyfyngu i’r £100,000 yn unig, heb obaith o elwa o’r £400,000 ychwanegol.
Gwrthodwyd y cynnig gan dîm trafod Eos, gan arwain at ddwyn yr holl fater gerbron tribiwnlys. Diwedd y gân oedd buddugoliaeth ddiamheuol i’r BBC. Dyfarniad y tribiwnlys oedd y dylai’r BBC dalu £100,000 y flwyddyn i Eos – yr un swm a gynigwyd iddyn nhw ar ddechrau’r helynt. A faint oedd cyfanswm costau’r BBC? £360,000: deugain mil yn brin o’r swm a fyddai wedi llenwi’r gronfa newydd.
Does dim dwywaith, serch hynny, bod dadleuon Eos wedi amlygu gwendidau’r BBC. Er bod iddi adain Gymreig a Chymraeg, mae’n gorfforaeth sy’n nodweddiadol am ei strwythur canolog, Prydeinig. Bychan a distaw yw’r lleisiau Cymraeg o fewn y BBC, ac mae’n her i’r Gymraeg gael ei chlywed yng Nghaerdydd, heb sôn am Lundain. Mae dyfarniad y tribiwnlys hefyd yn tynnu ein sylw at y modd y mae syniadaeth neo-ryddfrydol yn tra-arglwyddiaethu dros sefydliadau cyhoeddus celfyddydol. Cynnyrch masnachol, i’w brisio fel llaeth neu datws, ydi cerddoriaeth i’r BBC erbyn heddiw. Methodd Eos â chynnig dull amgen o fesur gwerth ein diwylliant.
Wrth edrych yn ôl dros yr hanes, mae’n eithriadol o anodd peidio â gweld bai ar Eos am y modd yr aethant i ryfel. Gwnaeth eu llefarwyr a’u lladmeryddion yn fawr o safiad Eos dros y diwylliant Cymraeg. Ond o ystyried y cynnig a wnaed gan y BBC – y £400,000 a aeth i boced y cyfreithwyr, ar ddiwedd y dydd – mae’n anodd gweld sut y bu eu safiad o fudd i’r diwylliant poblogaidd Cymraeg. Rhoi buddiannau eu haelodau, neu yn hytrach buddiannau rhai o’u haelodau, o flaen budd ein diwylliant a wnaeth Eos. Ac am hynny, mae ganddynt le i gywilyddio.
Barnu’r tribiwnlys – ergyd i gerddoriaeth Gymraeg
Gwilym Morus
Cadeirydd Eos
Ar ôl chwe mlynedd o ymgyrchu am freindaliadau gwell, roedd nifer fawr ohonom wedi disgwyl dyfarniad tecach gan y tribiwnlys hawlfreintiau mis Rhagfyr diwethaf. Eu penderfyniad oedd bod rhaid i Eos roi trwydded i’r BBC i ddarlledu caneuon eu haelodau am £100,000 y flwyddyn. Er bod y drwydded hon ychydig yn llai na dwywaith y swm blynyddol a dderbyniwyd gan PRS yn y 2011–12, ni fydd dwywaith yn fwy o’r nesaf peth i ddim yn gwneud llawer o wahaniaeth i ddiwydiant sydd eisoes wedi gweld colledion enfawr. Mae’n annhebygol bydd yr hanner can mil ychwanegol yn adfer y swyddi a gollwyd nac yn gwneud iawn am yrfaoedd na chychwynnwyd na’r cynnyrch na chafodd ei greu. Yn wir, heb sôn am ddyfodol y diwydiant proffesiynol, mae’n anodd gweld sut y gall Eos ei hun barhau fel asiantaeth mewn amgylchiadau mor anffafriol.
Nid yn unig yr oedd ein hymgyrch yn ymgais i warchod bywoliaeth yr ychydig iawn o gerddorion proffesiynol a oedd yn gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg, roedd hefyd yn ymgais i ddiogelu amrywiaeth iach ein diwylliant torfol. Gwarchod mynediad y to iau o gerddorion i adnoddau safonol, a hynny’n annibynnol ar agenda unrhyw gorff ariannu – dyna oedd fy mhrif amcan i fel un o ‘hoelion wyth’ yr ymgyrch. Ond gyda llawer llai o arian ar gael i unigolion a chwmnïau fuddsoddi mewn cynnyrch newydd, bydd tuedd anffodus i ffafrio cerddoriaeth ddiogel sy’n apelio at drwch y genhedlaeth hyn. Mewn sefyllfa o’r fath bydd cerddoriaeth fentrus, arbrofol ac arloesol yn fwy tebygol o gael ei gadael ar y silff, a dyma’r union gynnyrch a fyddai’n hybu poblogrwydd hir dymor ein cerddoriaeth. Mae hynny’n sefyllfa beryg i ddiwylliant sydd yn barod yn ei chael hi’n anodd denu’r ifanc i gyfranogi.
Felly pam na ddaru’r tribiwnlys gymryd hyn i ystyriaeth? Roedd yr astudiaeth a gyhoeddwyd gan Brifysgol Bangor yn 2009 sy’n amlinellu’r materion hyn i gyd yn rhan o’r dystiolaeth a gyflwynwyd iddynt, felly nid anwybodaeth oedd y rheswm. Mae’n debyg felly fod rhywbeth tu hwnt i faterion Cymru a’r Gymraeg yn pwyso ar eu meddyliau. Un o’r negeseuon cryfaf a gyflwynwyd i’r tribiwnlys oedd hyn: petaent yn dyfarnu o blaid Eos, y diwrnod wedyn byddai’r PRS yn cnocio ar ddrws y BBC yn gofyn am fwy o arian. Yr honiad oedd y byddai unrhyw ddyfarniad o blaid Eos yn gallu tanseilio cytundeb hir dymor y BBC a PRS, gan osod cynsail i aildrafod gwerth y cytundeb. Byddai trafodaeth o’r fath yn debyg o droi’n fater cyfreithiol ac mae’n debyg nad oedd gan y tribiwnlys y stumog i hynny. Felly doedd a wnelo’r dyfarniad ddim â gwerth cerddoriaeth Gymraeg. Petaem ni wedi gofyn am £150 o filiynau neu £500 o filoedd, ni fyddai ymateb y tribiwnlys wedi bod yn ddim gwahanol gan mai gwarchod y status quo oedd eu hunig amcan. Roedd hynny’n bwysicach iddynt na diogelu dyfodol diwydiant cerddoriaeth proffesiynol Cymraeg.
Ond pam ei bod hi’n gyfrifoldeb ar y BBC i ddatrys problemau’r diwydiant cerddoriaeth Gymraeg? Pam ein bod ni’n gosod y baich ar eu hysgwyddau nhw? Mae’r ateb yn syml. Y BBC, fel prif ddefnyddiwr cerddoriaeth Gymraeg, sydd fwyaf ar eu hennill yn yr argyfwng presennol. Maent yn medru cymryd mantais o bris eithriadol o rad am gynnyrch eithriadol o brin. Mae’r BBC yn un o gyrff cyhoeddus mwyaf Ewrop, gyda chyllid o £5.1 biliwn yn 2013 a chyflogau eu huwchswyddogion yn y cannoedd o filoedd. Ar yr union ddiwrnod y cyhoeddwyd dyfarniad y tribiwnlys roedd aelodau seneddol yn barnu ‘cronyism’ y BBC, gyda chyn-weithwyr fel George Entwistle yn derbyn £450,000 jest am adael yn dawel. Eto fydd y BBC ddim ond yn talu £100,000 y flwyddyn am gael defnyddio cynnyrch cerddorol cenedl gyfan, a hynny pan fydd y rhan fwyaf o grëwyr y cynnyrch hwnnw yn gwneud hynny ar golled. Ond nid oes unrhyw ddewis gan yr asiantaeth – ar ôl dyfarniad y tribiwnlys byddai Eos yn torri’r gyfraith petaen ni’n gwrthod trwyddedu’r BBC am y swm yma.
Ar hyn o bryd mae Eos yn cynrychioli 300 o gyfansoddwyr ac awduron ac ychydig dros 30 o gyhoeddwyr. Mae cynnyrch y rhain i gyd yn cyfateb i tua 20% o holl ddarlledu Radio Cymru, ac eto nid ydym yn cael ein talu llawer mwy na 0.6% o gyllid yr orsaf am y fraint. 20% o’r cynnwys am 0.6% o’r cyllid. Ac nid unrhyw 20% mohono chwaith ond degawdau o glasuron pop Cymraeg, hen a newydd. Mae’r 20% hwnnw’n cynrychioli’r gerddoriaeth sy’n rhoi stamp unigryw ar Radio Cymru fel gorsaf genedlaethol, sef gwasanaeth cynhwysfawr sy’n adlewyrchu diwylliant bob dydd y Cymry Cymraeg. Ni fyddai Radio Cymru’n haeddu’r enw heb gerddoriaeth Eos.
Yn y bôn dadl yw hon am sut i rannu arian cyhoeddus. Ar hyn o bryd y diwydiant cerddoriaeth yw’r unig sector creadigol yng Nghymru sydd, ar y cyfan, yn bodoli heb nawdd ffurfiol. Mae llyfrau Cymraeg, cylchgronau, theatr, dawns, arlunio a phob math o weithgaredd diwylliannol yn ddibynnol i raddau sylweddol ar nawdd. Mae rhai cyfleoedd i gerddorion fanteisio ar nawdd, ond nid yn agos at y lefelau a welir yn y meysydd creadigol eraill. Mae hyd yn oed ein gwasanaethau radio a theledu’n llwyr ddibynnol ar arian cyhoeddus ar ffurf y drwydded deledu, gyda’r BBC yn gwario tua £92 miliwn eleni ar gynnal darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg, arian sy’n cyllido cwmnïau cynhyrchu masnachol ynghyd â gweinyddiaeth ein cyfryngau. Ond yn ôl dyfarniad y tribiwnlys, nid yw’r diwydiant sy’n creu’r gerddoriaeth boblogaidd ar gyfer y gwasanaethau hyn yn cael edrych tuag at y BBC am fwy na £100,000 o’i gyllid.
Wrth geisio datrys yr argyfwng presennol rhaid i ni ystyried un agwedd bwysig ar hyn oll: mae’r cyfryngau’n newid. Fel y cydnabu’r BBC yn ystod yr haf diwethaf, mae’n anodd denu gwrandawyr ifanc at Radio Cymru. Rhaid peidio â meddwl mai diffyg mewn safon ydi’r rheswm am hynny, mae cynhyrchwyr a chyflwynwyr Radio Cymru yn gweithio’n galed i ddarparu gwasanaeth da, a rhaid eu llongyfarch ar y safon uchel o ddarlledu sy’n cael ei chynnal er gwaethaf cyfyngiadau ariannol honedig Llundain. Nid safon y gwasanaeth yw’r broblem, ond y dechnoleg. Mae patrymau gwrando radio yn newid yn raddol gan fod y to iau bellach yn genhedlaeth o ddefnyddwyr, nid yn gynulleidfa o wrandawyr goddefol. Mae’r dechnoleg newydd, hynny yw gwrando drwy gyfrwng y we, yn llawer rhy hwylus i’w defnyddio o’i chymharu â’r hen radio gynt, gan gynnig dewisiadau di-ri dim ond wrth bwyso botwm.
Diogelu cynnwys safonol, a chynnwys sy’n hawdd ei ddefnyddio ar y we, yw’r unig beth sy’n mynd i ddenu defnyddwyr ifainc at wasanaethau’r BBC, a dim ond y to iau sy’n gwybod sut i greu’r mathau newydd o gynnwys a fydd yn sicrhau dyfodol i’r Gymraeg fel cyfrwng torfol. Bydd cerddoriaeth yn hollol ganolog i unrhyw ymgais i hyrwyddo diwylliant poblogaidd mewn unrhyw gyfrwng, ac yn benodol yn y Gymraeg bydd diogelu mynediad cyfansoddwyr newydd i’r dechnoleg newydd yn angenrheidiol. Os nad yw datrysiad masnachol i’r argyfwng presennol bellach yn bosibl, mae datrysiad golygyddol a thechnolegol yn dal yn opsiwn. Byddai ailgyfeirio adnoddau at gyfryngau cerddorol llwyr ddigidol, gyda chyfundrefn olygyddol a thechnolegol lawer llai canolog, yn un ffordd o warchod cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg at y dyfodol.
___________
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Eos: eoscymru.com
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
