Dolig gwyn Dol’ddelan
Mae rhaglen ddogfen y bydd S4C yn ei darlledu cyn y Nadolig yn olrhain hanes ffilm arloesol a wnaed gan Americanwr yng Ngwynedd dros hanner canrif yn ôl. Yr hyn sy’n rhyfedd yw nad oes cofnod ohoni hyd yn oed yn astudiaeth orchestol yr awdurdod pennaf ar hanes ffilm yng Nghymru. Cynhyrchydd y rhaglen sy’n ymhelaethu yma. 1961. Roedd yr Avengers ar y teledu, y bilsen atal cenhedlu ar gael am y tro cynta’ erioed, a phymtheg mil o brotestwyr gwrth-niwclear wedi eu harestio ar Sgwâr Trafalgar. O ia, ac mi enillodd Spurs y lîg am y tro ola’ yn eu hanes.Yn Nolwyddelan (Dol’ddelan i’w thrigolion), roedd bywyd yn mynd yn ei flaen heb ryw lawer o ffys. Mae’n bosib bod un o’r Jaguar E-Type newydd ’na wedi chwyrnellu trwy’r pentra, ar ei ffordd i rwla arall, neu ar goll. Ond rhyw le digon di-stwr fu Dolwyddelan er 1283 pan gipiwyd y castell gan y Saeson.Newidiodd hynny am gyfnod byr ym mis Rhagfyr 1961 pan gyrhaeddodd Americanwr o’r enw Marvin Lichtner y pentra – bron fel dyfodiad Clint Eastwood yn Pale Rider – ar wahân i’r ffaith nad gwn Smith & Wesson oedd gan Lichtner ond camera Hasselblad. Yn ddiweddarach yn y chwedegau enillodd y ffotograffydd fri am gyfres o luniau o’r Beatles a dynnwyd ganddo yn Hyde Park ar gyfer Time Magazine. (Yn y lluniau mae’r pedwar yn eistedd ar fainc gyda dyn busnes mewn het bowler.) Tynnodd Lichtner hefyd luniau eiconaidd o JFK, Cassius Clay, Racquel Welch a Malcolm X.Ond yr hyn a wnaeth Lichtner yn Nolwyddelan, reit ar ddechrau ei yrfa, sy’n berthnasol i ni, ac sy’n allweddol i hanes ffilm yng Nghymru. Dod yna wnaeth Lichtner i wneud ffilm.Does dim sôn amdani yng nghampwaith Dave Berry, Wales and the Cinema – sy’n beth od, achos mae pob dim arall yn y gyfrol. Holwch unrhyw un sy’n ymddiddori ac yn ymhél â hanes ffilm yng Nghymru am ffilm Gymreig Lichtner, ac mi edrychan nhw’n syn arnoch chi – bron fel petai cyrn wedi sbrowtio o’ch pen. Holwch bentrefwyr dan ddeugain oed Dolwyddelan hyd yn oed, a’r un fydd yr ymateb. Mae fel petasai’r hanes wedi mynd yn gyfrinach – yn omertà Maffiosaidd – ymysg to hyn y pentra. A nhw ymddangosodd ynddi wedi’r cyfan.***********************************Naw mlynedd cyn i Marvin Lichtner gyrraedd Dolwyddelan sefydlwyd cwmni o’r enw Caedmon Audio yn Efrog Newydd gan Barbara Cohen a Marianne Roney, dwy ferch ifanc oedd wedi taro ar syniad go dda. Eu bwriad oedd mynd ati i recordio beirdd a llenorion amlycaf y dydd yn darllen eu gwaith a gwerthu recordiau o’r darlleniadau. Cydnabyddir Caedmon fel catalydd y diwydiant llyfrau siarad enfawr sydd bellach â’i werth, yn yr Unol Daleithiau’n unig, oddeutu $2 biliwn y flwyddyn.Targed Caedmon ar gyfer eu record gynta’ oedd Dylan Thomas. (Ymddiheuriadau i’r sawl ohonoch sy’n dioddef o Dylanoffobia, salwch sydd wedi lledu’n raddol trwy’r wlad ers bron i flwyddyn bellach yn sgil canmlwyddiant ei eni.) Roedd Dylan, wrth gwrs, yn enw mawr yn Efrog Newydd ar y pryd, a phan gyfarfu’r bardd â’r ddwy bartneres ym mwyty’r Little Shrimp dros ginio yn Ionawr 1952, cytunodd i gael ei recordio. Digwyddodd hynny yn Neuadd Steinway ar 22 Chwefror. Cyn terfyn y sesiwn recordio sylweddolwyd nad oedd digon o gerddi i lenwi dwy ochr y record arfaethedig. Gofynnwyd iddo a oedd ganddo unrhyw ddeunydd arall. ‘Well, I did this story that was published in Harper’s Bazaar that was a kind of Christmas story,’ atebodd. I bob pwrpas felly, ar hap a damwain yr aeth y stori, A Child’s Christmas in Wales, i gymaint o gartrefi ar hyd a lled America...
10 Rhagfyr 2014
ganEuros Wyn
Caffis Cymru: Pantri Blakeman, Caerfyrddin
Dros y ffordd o orsaf bysiau Caerfyrddin cewch groeso twymgalon a bwyd blasus di-lol gan y perchnogion mewn bwyty sy’n gyrchfan cymdeithasol poblogaidd yng nghanol y dref. Mae Caerfyrddin yn gawdel o dre lle mae adeiladau modern yn bwrw’u talcen ar yr hen. Does dim o gwrteisi’r bensaerniaeth Sioraidd a welir yn Llandeilo i’w weld yma ond mae adlais hynafol, a chraidd yr hen dre yn sefyll yn gyfan gwbl ar ei sylfeini canoloesol. Yng nghanol y perfedd ieir yma o strydoedd mae Pantri Blakeman yn Heol Las, ar gornel Bull Lane, yr hen lôn gul a ddefnyddid gan fasnachwyr ganrifoedd yn ôl. Dyw e ddim yn amlwg o gwbl, mwy fel ogof o fwyty mewn lloft uwchben siop garpedi.Wedi dringo’r star i’r bwyty mae’r awyrgylch bwriadus Gymreig yn eich taro’n syth: murlun mawr o Gastell Dryslwyn, ryseitiau fel ‘Cawl Mam-gu’ ar y mur a’r peth mwya rhyfedd: dol mannequin anferth mewn het uchel, siôl, pais a betgwn. ‘Ma’ honna’n gweitho’n galetach na ti!’ rhuodd Moyra ataf am y ddol ryw dro.Moyra Blakeman ydy perchennog y bwyty, ac mae hi a’i chwaer, Carol (y brif gogyddes), yn rhan o gyfaredd parhaol y Pantri. Mae Moyra’n siarad mewn datganiadau, gyda’r ffraethineb yn tasgu hyd y lle a’r cwsmeriaid yn mwynhau pob eiliad o’r tynnu coes. Siarad parod cegin ffarm a glywir yn y pantri beth bynnag fo’ch tras a’ch cefndir. Cofiaf fod yno rywdro a Saeson urddasol iawn ar y ford gyferbyn â mi. Roedden nhw wedi gorffen eu saig ac nawr yn rhyw baratoi at symud. Wele Moyra yn dod fel mellten atynt, ac efallai byddid yn disgwyl rhyw grafu fel ‘Did you enjoy your meal?/Was everything satisfactory?’. Ond na. Gwên fawr gawsant gan Moyra wrth iddi edmygu eu platiau gwag a bloedd o gwestiwn: ‘ALL GONE?’ Dyna hanfod yr awyrgylch, a rhan o’r bodlonrwydd sydd wedi rhoi’r Pantri ar frig y rhestr o fwytai tref Caerfyrddin ar wefan TripAdvisor.A beth am y bwyd ei hun? Bwyd cartref blasus a weinir yma, wedi ei baratoi yn ffres. Fyddai na Moyra na Carol yn ystyried trefnu rhyw ddiwyg rhwysgfawr ar y prydau bwyd. Dim hen faldod, ond safon a blas. Mae’r ffefrynnau Cymreig yn cael eu lle, fel cawl, cocos lleol (£3.35), bara lawr (£3.95) a brithyll (£4.75). Ceir pob math o brydau pasta, omledau a byrbrydau, ac mae pob pryd o dan £5.00. Un o’r uchafbwyntiau ydy’r cwpwrdd gwydr yn llawn danteithion melys amrywiol (£2.80, pob un), gyda phopeth yn hyfryd ac wedi ei baratoi ar y safle...
10 Rhagfyr 2014
ganEmyr Evans
Rhagori ar Roy of the Rovers
Canodd y teleffon, ac atebais ef. ‘Dr Morgan?’ ‘Ie.’ ‘Syrjeri Coed-y-glyn sy ma. Ddowch chi i fewn i gael pigiad ffliw, y nghariad i?’ Yn serchiadol fel yna y mae’r hyfrytaf o dderbynwragedd y feddygfa bob amser yn cyfarch ei chleifion. ‘A gaf i bigiad yr eryr yr un pryd, os gwelwch yn dda?’ ‘Wrth gwrs y cewch chi, nghariad i. Dach chi’n rhydd ddydd Iau am dri?’ A’r dydd Iau am dri i mewn â mi. Gan imi ddarllen catalog Gwledd y Nadolig Cyngor Llyfrau Cymru cyn mynd, a gweld ynddo hysbysebion am ddwsin o hunangofiannau, gofynnais i Nyrs Jane a gawn i drydydd pigiad. ‘A ph’un yw honno?’ gofynnodd gyda’i phlaendra deniadol arferol. ‘Pigiad rhag hunangofiantitis,’ atebais. ‘Ddim ar yr NHS,’ ebe hi. ‘Ond fe’i cewch am dâl.’ Ac fe’i cymerais.Aeth ychydig ddyddiau heibio. Ni ddioddefais ddim o’r ffliw, ac ni chefais yr un bangfa eryrol. Ond mi gefais y twtsh lleiaf o hunangofiantitis. Wrthi’n darllen yn y Times ddetholiadau o’r cofiant newydd i Roy of the Rovers yr oeddwn pan afaelodd dimeiwerth o’r dwymyn ynof. Yn fy myw ni allwn beidio â mynd yn ôl drigain mlynedd i gofnodi fel yr awn unwaith yr wythnos, o’r Ysgol Ramadeg yn Rhydaman i’r siop bapur-newydd oedd ar bwys gorsaf fysus James, i brynu copi o’r Tiger. Yn y comic newydd sbon hwnnw y ganed ac y maged Roy Race, seren dra disglair Melchester Rovers, pêl-droediwr na ddeuai George Best, y ddau Ronaldo, Messi a Bale, hyd yn oed o’u rowlio’n un, ddim yn agos at gystadlu â’i gampau chwaraeyddol a’i anturiaethau goruwch-hanesyddol. Ar hynny bach aeth y twtsh o hunangofiantitis heibio. Yr oeddwn wedi bwriadu adrodd bod y Central Cafe gyferbyn â’r siop bapur-newydd honno yn Rhydaman. Ac i mi yn y caffe hwnnw, naw mlynedd yn ddiweddarach, gael ffa pôb ar dost gyda neb llai na Waldo Williams. Ond, fel y dywedais, aeth y dwymyn heibio. Eto, nid cyn i mi ymfalchïo taw un o’r cyfeillion a ddeuai gyda mi i ôl comic Roy Race oedd Roy arall, a ddaeth ymhen blynyddoedd yn ddarlledwr gyda’r gorau ar Radio Wales, Roy Noble. Brolio yr wyf pan ddywedaf i mi ar gae rygbi yn 1960–61 roddi pás bert i Roy sgorio ar yr asgell yn erbyn Ysgol Ardwyn Aberystwyth, pás bert y mae ef yn fythol ddiolchgar amdani. Brolio ymhellach yr wyf pan ddywedaf fod tîm Mr Noble a mi y tymor hwnnw wedi ennill pob un o’i gemau – camp na chyflawnodd Melchester Rovers mohoni yn ei holl hanes ysblennydd.
10 Rhagfyr 2014
Y Gwir yn Erbyn y Byd
Mae cyn-Weinidog Addysg Cymru wedi cyhoeddi llyfr – ac nid un ymddiheurgar mohono. Dyma argraffiadau ein colofnydd ar ôl ei ddarllen o glawr i glawr.Un tro roedd yna ddau Weinidog Addysg yn cydbortffolioeiddio, un bob ochr i’r Clawdd, ac roedd tebygrwydd rhyfeddol rhyngddynt. Treuliodd y ddau tua phedair blynedd gyda’u portffolio yn eu gwahanol wledydd, a diswyddwyd y ddau o fewn rhyw flwyddyn i’w gilydd. Ganed un yn y Barri yn 1957 a’r llall yng Nghaeredin yn 1967. Aeth un i Fangor a mynd i’r chwith, er nad ymaelododd â’r Blaid Lafur tan wedi’r refferendwm ar ddatganoli yn ’97, tra aeth y llall o aelwyd Lafur i Rydychen a datblygu’n Dori rhonc. Aethant ill dau i fyd y cyfryngau cyn i un fynd i’r Bae (2003), a’r llall i San Steffan (2005). Esgynnodd y ddau yn gyflym, y Cymro i bortffolio Addysg Cymru yn 2009, a’r Albanwr i’r un portffolio yn Lloegr yn 2010. Er y deuai’r ddau at addysg o gyfeiriadau ideolegol hollol groes i’w gilydd, roedd y ddau ar grwsâd dros eu gwahanol syniadau ac yn uchel iawn eu proffil – a’u cloch – wrth ymyrryd yn gyson ym mhob twll a chornel o gyfundrefnau addysg eu gwlad. Dau nodedig am amlder bwledog eu polisïau, ond dau hefyd a lwyddodd i wneud gelynion lu, a chael sawl cam gwag. Yn y pen draw, dyna oedd achos cwymp y ddau – chwifio baner Ysgol y Pentre yn achos y Cymro, a chael ei orseddu’n rhy aml ar gadair Yr Hogyn Drwg yn Private Eye yn achos yr Albanwr. O’u diswyddo, y naill yn 2013 a’r llall eleni, parhaodd tebygrwydd, canys dilynwyd y ddau gan weinidogion sydd (yn fwriadol?) yn cadw proffil llawer is na’u rhagflaenwyr ac yn meithrin perthynas lawer mwy cyfeillgar gyda’r gwahanol randdeiliaid yn y cyfundrefnau addysg, yn enwedig felly athrawon a’u hundebau. Leighton Andrews a Michael Gove – dau berson hollol wahanol yn agor dwy rych hynod o debyg, a’r ddwy yn cyrraedd yr un dalar yn yr un modd.Wrth ddarllen cyfrol ddiweddar Leighton Ministering to Education y daeth y meddyliau hyn imi. Ynddi mae’r cyn-Weinidog Addysg yn disgrifio’i gyfnod wrth y llyw yn y Bae yn fanwl iawn; mor fanwl, yn wir, nes peri amau ei fod, tra’n ymddangosiadol ladd nadroedd addysgol, yn treulio’r un faint o amser yn cofnodi pob un manylyn er mwyn medru cyflawni ei fagnwm opws pan ddeuai’r fwyell anochel. Yn sicr, roedd y dasg a wynebai Leighton Andrews yn un anodd, gan fod cydnabyddiaeth gyffredinol nad oedd popeth yn fêl i gyd – o bell ffordd – yn y byd addysg yng Nghymru, a bod angen codi safonau. Yn gyffredinol, roeddwn yn cytuno efo llawer iawn o'i syniadau, ac yn cymeradwyo mwy nag un o’i strategaethau – er fod ambell un, megis bandio ysgolion, yn wallgo. Ond yn ei frys gwyllt i’w gweithredu yr oedd y drwg. Fel y dywed ei hun, mae’n berson diamynedd. ‘My biggest weakness… and my greatest strength… is my impatience’, meddai, gan ddweud hefyd, ‘I make no apology for the pace of change’. Ac ni cheir yr un ymddiheuriad. Pwrpas ei gyfrol, amheuaf, yw cyfiawnhau ei weithredoedd, a phan mae angen cyfiawnhau, cyfyd cwestiynau sylfaenol...
10 Rhagfyr 2014
Breuddwydio mewn lliw: Arlunydd a’i dyheadau
Gwelodd 2014 sawl carreg filltir i’r arlunydd MARY LLOYD JONES: pen-blwydd arbennig, tair arddangosfa’n cydredeg, cyhoeddi hunangofiant, ac – efallai – dechrau gwireddu breuddwyd am weld canolfan i’r celfyddydau gweledol yng Nghymru. Bore braf o aeaf yn Aberystwyth a minnau’n mynd i gyfarfod Mary Lloyd Jones yn yr Hen Goleg, lle mae ganddi stiwdio. Mae’r gwynt yn fain yn Stryd y Brenin a chamaf i mewn yn ddiolchgar drwy borth tywodfaen un o adeiladau hynotaf Cymru; ‘this most exotic of High Victorian buildings’, yn ôl The Buildings of Wales: Carmarthenshire and Ceredigion. Adeg cyhoeddi’r llyfr hwnnw yn 2006 roedd yr adeilad yn dal yn rhan weithredol o goleg y Brifysgol, yn ferw gan fyfyrwyr fel y buasai erioed, ond daeth y dydd y bu’n rhaid i’r Adran Gymraeg, hyd yn oed, godi’i phac a’i llusgo’i hun yn anfoddog i fyny rhiw Pen-glais. Does yna fawr neb o gwmpas heddiw, dim ond ychydig fyfyrwyr o’r ysgol gelf yn braslunio’r bensaernïaeth ‘egsotig’. ’Sgen i ddim syniad ble i gael hyd i Mary ond nesâf at y cwad yn obeithiol. ‘The interiors have suffered neglect and need some spirited colour decoration’ oedd barn awduron y gyfrol uchod. Tybed a fyddai Tom Ellis yn cytuno? Dacw fo yn y pellter, ei fraich yn yr hanner gwyll yn ymestyn i gyfeiriad y galeri fel petai’n dweud ‘Galle fan’ne wneud efo chydig o liw i ddechre!’ Ond na phoener, mae Mary Lloyd Jones wedi ’morol am hynny, oherwydd mae unarddeg o’i baneri yn hongian yn osgeiddig a hyderus o’r oriel, yn llenwi’r gofod â lliwiau a ffurfiau, marciau a geiriau. A dim ond dechrau yw hyn, fel y clywaf wedyn. Mae gan Mary gynlluniau ar gyfer y lle! Diolch byth down ar draws ein gilydd cyn i mi fynd ar goll yn y gwningar gothig yma, a dyma setlo i lawr yn ei stiwdio siriol olau i gael sgwrs go iawn, gan ddechrau gyda’i chefndir.No Mod Cons yw teitl ei llyfr, gyda’r ‘No’ yn cyfleu, mewn modd negyddol, cyfnod ei magwraeth ym Mhontarfynach y 1930au a’r 1940au: dim trydan, dim dwr i’r ty, dim ty bach dan yr unto na stafell molchi, ar adeg pan oedd trigolion Aberystwyth yn mwynhau cyfleusterau’r 20g. Ar yr ochr gadarnhaol, fodd bynnag, cafodd blentyndod dedwydd, a phob anogaeth i arlunio, gan brofi caredigrwydd a chymdeithas cymdogaeth dda Gymraeg ar ei gorau. ‘Everyone,’ ysgrifenna, ‘who took part in these sociabilities spoke Cymraeg. Cymraeg was the unquestioned norm.’ Felly pam sgwennu yn Saesneg?‘O’n i eisiau i bobl – ’ meddai’n bwyllog, ‘ – oedd ddim yn siarad Cymraeg, yn ogystal â’r Cymry, i ddeall beth oedd y problemau, sut beth oedd hi i fod yn artist ac yn byw yng ngorllewin Cymru, a bod yn fenyw. Allen i ddim bod wedi sgrifennu tan nawr – achos dim ond nawr rwy’n gweld y patrwm. Mae e lot i’w wneud â darllen, a deall, am agweddau gwahanol artistiaid, ac am ieithoedd lleiafrifol. Erbyn hyn dw i wedi cael amser i feddwl, a dod i gasgliadau am rai pethau.’Roedd mynychu Ysgol Ramadeg Ardwyn, gyda’i haddysg a’i gogwydd Seisnig, yn dipyn o sioc i ferch fach swil o’r wlad, ac ymrodd i arlunio fel ffordd o oroesi, ac, yn y pen draw, i ragori. Yn ddwy ar bymtheg oed ffodd am ei bywyd i brofi rhyddid a manteision addysg mewn coleg celf yn y ddinas agosaf, Caerdydd. (Na, does dim yn newydd!) Ymhen amser dychwelodd i orllewin Cymru i fyw a chodi teulu, ond aeth blynyddoedd heibio cyn iddi ddarganfod y ffordd ymlaen gyda’i chelfyddyd. Ar ôl treulio blynyddoedd yn awyrgylch Seisnig y coleg celf a gorfod gwadu ei hunaniaeth Gymreig, gwelodd mai ei chynefin, wedi’r cyfan, oedd yr hyn a oedd yn gwir gyfrif iddi, o ran creu celfyddyd...
10 Rhagfyr 2014
Ymreolaeth i Loegr! – EVEL a Chymru
Drannoeth y bleidlais a setlodd, am y tro, ddyfodol cyfansoddiadol yr Alban, fe ymatebodd David Cameron drwy godi cwestiwn dyfodol cyfansoddiadol Lloegr. Rhag i unrhyw beth fynd ar goll yn y cyfieithiad, mae’r awdur yn cydio i gychwyn yn yr union eiriau a ddefnyddiodd Prif Weinidog Prydain. ‘I have long believed that a crucial part is missing from this national discussion is England. We have heard the voice of Scotland – and now the millions of voices of England must also be heard. The question of English votes for English laws – the so-called West Lothian question – requires a decisive answer.’Nid oedd dim yn annisgwyl yn ymateb Cameron i’r canlyniad. Bu’n amlwg ers tro fod y Blaid Geidwadol yn aros ei chyfle i godi baner Lloegr. Yn wir, gwn fod swyddfa Ed Miliband wedi derbyn rhybuddion penodol y byddai hynny’n digwydd yn syth petai’r Alban yn pleidleisio dros aros yn yr Undeb. Eto i gyd, pan gododd Cameron fater ‘pleidleisiau Seisnig ar gyfer cyfreithiau Seisnig’ (ac onid yw’r talfyriad Saesneg ‘EVEL’ yn rhy flasus i’w wrthod?) yr hyn a gafwyd gan Lafur oedd… tawelwch byddarol. Am gyfnod yr oedd arweinyddiaeth y Blaid Llafur fel petai wedi ei tharo’n fud yn wyneb strôc feistraidd y Prif Weinidog.Dim ond rai oriau’n ddiweddarach y cafwyd unrhyw lun ar ymateb. Ddwy flynedd a mwy ers i Carwyn Jones awgrymu’r syniad fe benderfynodd arweinyddiaeth y Blaid Lafur Brydeinig nad drwg o beth wedi’r cyfan fyddai cynnull Confensiwn Cyfansoddiadol i drafod dyfodol Lloegr a’r Deyrnas Gyfunol. Confensiwn a fyddai, mae dyn yn ei synhwyro, yn cymryd blynyddoedd maith i adrodd yn ôl. Ac yn achosi croes-dynnu mor ddifrifol rhwng ei aelodau nes esgor ar lu o wahanol gynlluniau anghymarus ar gyfer y dyfodol. Os bu ymdrech ddiweddar fwy amrwd ac amlwg i geisio claddu pwnc dadleuol yn y gwair hiraf a gwylltaf ei dyfiant ar ymyl eithaf y cae, yna ni fedraf i ei chofio.Ers 19 Medi mae Aelodau Seneddol Llafur o Gymru a’r Alban wedi ymateb i hyfdra Cameron wrth iddo dynnu sylw at anfodlonrwydd Seisnig gyda’r Deyrnas Gyfunol trwy fabwysiadu rhethreg gynyddol histeraidd. Yn ôl Owen Smith byddai EVEL yn gyfystyr â ‘Tory gerrymandering’. Yn ôl Peter Hain byddai’n ‘fatal to Balkanise Westminster’ trwy gyflwyno cynllun o’r fath. Ac yn goron ar y cyfan dyma Gordon Brown yn honni ‘If you had wanted to kill off the UK, you could not have devised a more lethal way’.I’r Llafurwyr hyn ymddengys fod hyd yn oed codi cwestiwn dyfodol Lloegr, heb sôn am y posibiliad o weithredu EVEL, yn weithred annilys. Hyn oherwydd nad oes unrhyw reswm gan y Saeson dros boeni am eu sefyllfa. Mewn darlith ddiweddar yng Nghaerdydd fe gyfeiriodd Rhodri Morgan at ‘Gwestiwn Gorllewin Lothian’ fel ‘minor constitutional anomaly’. Os felly, yr unig eglurhad posibl am y ffaith fod Cameron wedi codi’r mater yw ei fod â’i fryd ar wneud drygau. Yn benodol, am ei fod eisiau creu niwed gwleidyddol i’r Blaid Lafur.Yn ddiau yr oedd ystyriaethau pleidiol ynghlwm wrth benderfyniad Cameron i godi ‘cwestiwn Lloegr’. Mae anallu arweinwyr Llafur i ddweud unrhyw beth synhwyrol ynglyn â Lloegr yn hysbys i bawb sy’n ymddiddori yn y materion hyn. A bydd y Prif Weinidog wedi mwynhau eu gweld yn gwingo. Ar ben hynny mae cyflwyno’r Torïaid fel amddiffynwyr buddiannau Lloegr hefyd yn fodd i geisio gwrthsefyll llanw UKIP, sef blaenoriaeth amlwg strategwyr Ceidwadol megis Lynton Crosby. Ond yn fwy sylfaenol na hyn, mae’r Ceidwadwyr yn ymateb i ddatblygiadau yn y farn gyhoeddus yn Lloegr.Bydd darllenwyr Barn yn hen gyfarwydd bellach â chanlyniadau arolwg barn y Future of England Survey. Yn wir, cawsant fwy o sylw rhwng cloriau Barn nag ar dudalennau unrhyw bapur neu gyfnodolyn trwy’r ynysoedd hyn. Maent yn dangos yn eglur fod pobl Lloegr yn gyffredinol, ac yn arbennig felly pobl sy’n coleddu eu Seisnigrwydd yn hytrach na’u Prydeindod, yn teimlo fod Lloegr yn cael cam oddi mewn i’r Deyrnas Gyfunol. Maent am weld diwygio’r drefn er mwyn rhoi cydnabyddiaeth fwy eglur i Loegr (fel Lloegr) oddi mewn i’r wladwriaeth. Yn yr arolwg diweddaraf a gynhaliwyd ddiwedd mis Ebrill eleni, roedd 69% o bobl Lloegr yn cefnogi cyflwyno cyfundrefn EVEL. Nid yw’n ddoeth, yn deg nac yn wir yn ddemocrataidd i anwybyddu barn mwyafrif mor eglur...
10 Tachwedd 2014
Ar-lein, ar y bys ac ar ddu a gwyn – Holi Guto Dafydd
Brin dri mis wedi iddo ennill Coron y Genedlaethol, mae prifardd Llanelli ar fin cyhoeddi ei gyfrol gyntaf o gerddi. Bu’n sôn wrth Barn am y profiadau a’r teimladau sy’n eu bwydo. Amser cinio yn Galeri Caernarfon. Mae’n brysur yn y caffi ond nid yn rhy swnllyd i gynnal cyfweliad – os oes modd cael trefn ar y teclyn sy’n mynd i recordio. iPod fy mab ydyw a dydw i erioed wedi’i ddefnyddio, ond does dim problem – wrth weld fy ansicrwydd, mae’r cyfweledig wedi ei gymryd gen i a’i gael i weithio mewn chwinc. Dyma Guto Dafydd, Prifardd Eisteddod Sir Gâr, ac mae o’n gartrefol iawn ym myd y dechnoleg ddigidol. Mae Guto’n drydarwr cyson. Dyma’r gwr a lwyddodd i drydar wrth eistedd yn y gynulleidfa yn disgwyl i gael ei goroni, wrth i’r llifoleuadau chwilio’r pafiliwn – neges a oedd yn gorffen gyda’r geiriau ‘Sa’n well mi sefyll...’ Neu o leiaf fe anfonodd ei wraig, Lisa, a oedd wrth ei ochr, y neges ar ei ran.Ac yn wir, cerdd o’r enw ‘Trydar’, am y dull hwn o gyfathrebu, yw’r un olaf yn ei ddilyniant o gerddi buddugol. Yn honno mae coed noeth y gaeaf, heb eu dail a’u nythod yn wag, yn troi’n ddelwedd o bentref marw digymdeithas, ond daw gobaith wrth i’r bardd annog y darllenydd i gau ei lygaid ar wacter y coed a gwrando ar ‘y trydar diarbed’, sef swn cenhedlaeth newydd o Gymry sy’n cynnal math gwahanol o gymuned trwy’r rhwydweithiau cymdeithasol: ‘Mae’r coed yn noeth ond ni bia’r awyr’. O’r llinell hon y daw teitl cyfrol newydd Guto Dafydd, sef ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth. Mae Ni Bia’r Awyr yn cynnwys cerddi’r Goron ynghyd â’r cerddi a ddaeth yn agos at frig yr un gystadleuaeth yn Ninbych y llynedd a nifer o gerddi eraill diweddar. Mae proflenni’r gyfrol ar y bwrdd o’n blaenau yn Galeri, ynghyd â dau cappuccino. Dyma ddiod sy’n cael ei henwi, yn un o gerddi’r Goron, fel un o ddiodydd Cymry Cymraeg dosbarth canol Gwynedd (y llall yw prosecco ond mae hi braidd yn gynnar i hwnnw). ‘Ni’ yw teitl y gerdd ddychanol wych honno am hunanfodlonrwydd y garfan o bobl dan sylw, gyda’r bardd yn ei gynnwys ef ei hun yn y garfan honno. Ac wrth i ‘ni’ yn awr gyd-yfed ein coffi, mae’n fy nharo fod eironi ym mhob man ym myd Guto Dafydd.Ond, a’r peiriant wedi dechrau recordio, at dechnoleg y mae’r sgwrs yn troi i ddechrau. O weld bod yn y gyfrol sawl cerdd arall, ar wahân i ‘Trydar’, sy’n codi o fyd y dechnoleg ddigidol, gan gynnwys ‘selfieargopa’rEifl’ ac ‘Ar Google Maps’, gofynnaf i Guto a fyddai o’n ei alw ei hun yn ‘geek’ cyfrifiadurol.‘Na, ond dwi yn treulio lot o amser ar Trydar a Facebook. Mae o jest yn ffordd newydd o wneud yr un hen beth, hynny yw cymdeithasu. Mae gen i rai ffrindiau sy’n feirdd a gan ein bod ni i gyd yn byw mewn llefydd gwahanol mae hi’n gyfleus inni sgwrsio ar Facebook. Mae o’n esgor ar weithgarwch hefyd, yn ysgogiad inni gyfarfod i berfformio neu gyd-drefnu digwyddiadau. A phan fu farw Gerallt Lloyd Owen roedd o’n brofiad rhyfeddol gweld rheseidiau o bobl yn dyfynnu ei waith o ar Twitter.’Ydi, mae Guto Dafydd yn fardd ei genhedlaeth mewn sawl ffordd ac mae’r profiad o fod yn Gymro ifanc heddiw yn ganolog yn ei farddoniaeth. Ac eto, mae yna gyfeiriad mewn sawl un o’r cerddi at y cyflwr o fod yn ganol oed, bron fel petai’r bardd, weithiau, yn cael rhyw ymdeimlad cyn pryd o’r profiad hwnnw. Yn y gerdd ‘I Elis, fy mrawd bach, yn 21’, mae’n ei siarsio i ddal gafael yn ei ieuenctid a gochel rhag llithro i’r ‘llesgedd llwyd’, sef henaint. Hyn gan frawd mawr nad yw ond yn 24 (ef yw un o’r beirdd ieuengaf erioed i ennill y Goron)…
10 Tachwedd 2014
ganMenna Baines
Materion y Mis: Addysg uwch a’r Cynulliad – rhagor o ymyrraeth?
Y mae gweld ble y saif prifysgolion Cymru yn rhengoedd y Complete University Guide ar gyfer y Deyrnas Unedig am 2015 yn ddigon i dorri calon dyn. Prifysgol Caerdydd yw’r uchaf: y mae’n 23ain yn y rhestr. Nid teg dweud mai Glyndwr yw’r sefydliad Cymreig isaf ar y rhestr (110fed) am y rheswm syml nad yw’r Drindod Dewi Sant yno o gwbl (rhaid na lenwodd neb yng Nghaerfyrddin y ffurflenni perthnasol – pam, tybed?). 87fed truenus iawn yw Aberystwyth (yr oedd yn y deugain uchaf ddeng mlynedd yn ôl).Y mae’r Guide yn rhoi marciau am nifer o bethau pwysig, gan gynnwys safonau mynediad i’r prifysgolion a’u cyflawniadau ym meysydd dysgu ac ymchwil. Bu rhai ohonom yn cwyno ers blynyddoedd nad yw Llywodraeth Cymru yn ariannu prifysgolion Cymru cystal ag yr ariennir prifysgolion Lloegr a’r Alban; ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf buom yn feirniadol iawn o bolisi’r Llywodraeth yn talu rhan dda o ffî pob myfyriwr o Gymru sy’n dewis astudio yn Lloegr a’r Alban. Canlyniad hyn yw bod llai o fodd gennym i ddenu a chyflogi staff o’r radd flaenaf i Gymru, ac, yn wir, bod arian a ddylai aros yng Nghymru yn chwyddo coffrau sefydliadau mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Gyfunol.A beth yw ymateb y Llywodraeth? Ychwanegu at arian ymchwil a dysgu? Annog myfyrwyr i astudio yn eu mamwlad? Dim o’r pethau hyn. Ar hyn o bryd y mae bil gerbron y Cynulliad yng Nghaerdydd sy’n ‘ceisio deddfu’ er mwyn (1) ‘sicrhau trefn reoleiddio gadarn... ar gyfer sefydliadau yng Nghymru y mae eu cyrsiau’n cael eu cefnogi gan grantiau a benthyciadau Llywodraeth Cymru’; a (2) ‘diogelu’r cyfraniad at les y cyhoedd sy’n deillio’ o’r cymhorthdal ariannol hwnnw. Yr hyn a fyn yw atebolrwydd pellach ynghylch pethau na ellir hyd yn oed eu hiawn ddiffinio. A’r corff a fydd yn y pen draw yn arolygu’r broses atebol hon fydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, corff y mae ganddo lawer gormod o rym a dylanwad yn barod.Sefydliadau dysg yw prifysgolion. Eu gwaith yw ychwanegu at wybodaeth dyn, gan ddehongli’r wybodaeth honno yn y fath fodd ag i gyfrannu at adnabyddiaeth y ddynolryw o’i byd ac ohoni hi ei hun. Y mae gan y prifysgolion oll eu llywodraethwyr annibynnol eu hunain. A hwy ddylai benderfynu a ydynt yn cael eu rhedeg yn iawn, ac a ydynt yn cyflawni eu hamcanion...
10 Tachwedd 2014
Sebon yn dod i oed
Y mis diwethaf roedd y gyfres Pobol y Cwm yn dathlu ei phen-blwydd yn ddeugain oed. Ond beth yw apêl operâu sebon yn gyffredinol ac a oes dyfodol iddynt yn yr oes ddigidol? Cyfarwyddwr llawrydd sy’n ein tywys drwy’r swigod. Mae’n rhaid i mi gyffesu ’mod i wedi lladd dau ddyn yn ddiweddar, un efo gwn a’r llall drwy ei daro â photel whisgi a’i wthio i lawr y grisiau. Dwi wedi malu car yn rhacs a thaflu un arall i lawr dibyn rhyw chwarel ac mi wna’i sôn wrthoch chi rywbryd eto am anffawd fy mhriodas a hynny ar ddiwrnod ’Dolig! Coffa da a difaru dim. Dwi ddim yno mwyach ond mae hi’n bedair blynedd ers imi ymuno â thîm cynhyrchu Coronation Street fel cyfarwyddwr pan oedd y gyfres yn dathlu ei phen-blwydd yn hanner cant. Rydym newydd ddathlu pen-blwydd Pobol y Cwm yn ddeugain ac o’m safbwynt i (fel gwyliwr y tro hwn) roedd y cyfan yn wych, yn enwedig wrth nesáu at y cnebrwn tip top! Sori, fel hyn ’dan ni’n siarad ym myd y sebon.Ffrwydriad trasig dan y draphont a thram yn taro’n glatsh ar y cobls enwog gawson ni ar Corrie. O, a rhaglen awr o hyd, yn ‘fyw’ – nid fel y rhai o dan y tram. Doeddwn i ddim yn rhan o’r penodau hynny ond mi welais i’r cynnwrf o bob ochr; y balchder, yr ymffrost ac wrth gwrs yr heip. A phe bai gennych chi bowdwr golchi i’w hyrwyddo yr wythnos honno, fe fyddai’ch hysbyseb wedi costio tipyn mwy na’r arfer. Pris bron i 16 miliwn o wylwyr. Erbyn heddiw, mae ffigyrau gwylio sebon yn dipyn is. Nid fod y safon wedi dirywio (trafoder) ond mae colli gwylwyr yn duedd gyffredinol i bob math o raglenni teledu heddiw. Bellach, mae pob pennod o Eastenders, Emmerdale a Corrie yn diddori rhwng chwech ac wyth miliwn, gyda Corrie ar y blaen o drwch tri blewyn. Wrth gwrs, mae ’na gyfresi arbenigol megis The Great British Bake Off a Chwpan y Byd yn eu curo nhw’n rhacs, ond teledu ‘Achlysur’ ydi’r rhain. Bu Coronation Street yn ‘ddigwyddiad’ ynddo’i hun yn y 1980au cynnar pan ddenodd seremoni priodas Ken a Deirdre 24 miliwn o wylwyr – ie, mwy na phriodas Charles a Diana ar ITV – a bu mwy fyth ohonom yn bryfed ar y wal pan ddaeth Ken i wybod am garwriaeth Deirdre gyda’i hen elyn, Mike Baldwin. Bellach, mae ’na o leia ddwsin o gyfresi sebon ar gael i’n diddanu, pob un yn cystadlu am ein sylw. Tair sianel yn unig oedd yna pan oeddwn i’n blentyn. Teledu lliw – meddyliwch! – a Coronation Street yn ffefryn. ‘I live for Mondays and Wednesdays!’ meddai’r bardd John Betjeman. A ninnau, John. (Felly dychmygwch fy ymateb i’r alwad ffôn, rai blynyddoedd yn ddiweddarach, yn gofyn imi gyfarwyddo penodau o’r gyfres!) Y sebon – Nain yn licio Crossroads – oedd yr esgus i ruthro adref. Bryd hynny roedden ni’n falch o’r arlwy, ac o’r cyfle i eistedd o flaen y teledu. – Oes rhaid i mi godi oddi ar y soffa i newid sianel? – Oes... Ac wedyn – abracadabra – ymddangosodd y remote control. Peter Greenaway, y cyfarwyddwr ffilm o Gasnewydd, a ddywedodd am yr oes ddigidol, ‘Television died when they invented the remote control’. Mae’r teledu’n dal yn y ffrynt rwm, wrth gwrs, a hefyd yn y gegin a’r llofft, ond dyma ei bwynt: y gynulleidfa sydd bellach wrth y llyw. Gwers hanes frysiog... Cofio’r Sinclair? Y BBC Micro. PC! Mac? Ymlaen i’r ffôn symudol wedyn, y we – Y WE! Hwrê! – a rwan, y ‘smartphone’ a thabledi! A dyma ni, mewn penbleth – pawb wedi encilio i’w cornel fach eu hunain gyda’u teclynnau eu hunain, a darlledwyr a chynhyrchwyr yn rhedeg ar ôl cynulleidfa fel casglwyr pili-palas gyda’u rhwydi tyllog. Rhyw naws rhamantus, dosbarth gweithiol, oedd wrth wraidd llwyddiant ysgubol Corrie ar y dechrau. Ac ni chafwyd ei debyg am flynyddoedd. Daeth Crossroads a Pobol y Cwm wedyn ond ni chafwyd y trobwynt arloesol tan ddyfodiad y bedwaredd sianel. Er bod y ffrae ar Corrie rhwng Ken, Deirdre a Mike yn 1983 yn cael ei hystyried fel y digwyddiad a newidiodd bopeth yn y gêm sebonllyd, fe ddaeth yn sgil y cic-yn-din a gafodd y gyfres flwyddyn yn gynharach pan aned Brookside ar Channel 4. Eastenders wedyn yn dilyn yn 1985, a’r steil dywyll a gritty yn parhau...
10 Tachwedd 2014
Cwrs y Byd: Oscar a Ched
Fel yr hed y frân – nid fod y frân, mewn gwirionedd, yn mudo o gwbl o’r ynysoedd hyn – mae yn agos i chwe mil o filltiroedd rhwng Pretoria yn Ne Affrica a Chaernarfon yng Ngwynedd. Ond cysylltir nhw, os nad gan frain, yna’n sicr gan ddau dderyn drycin. Yn ystod Hydref eleni rhyddhawyd Ched Evans, pêl-droediwr 25 oed, o garchar. Bu dan glo am union hanner y ddedfryd o bum mlynedd a dderbyniodd wedi i reithgor yn Llys y Goron Caernarfon ei gael yn euog o dreisio merch 19 oed.Ychydig ddyddiau’n ddiweddarach carcharwyd, hefyd am bum mlynedd, un arall o sêr y campau, Oscar Pistorius, mabolgampwr 27 oed. Roedd o wedi ei gael yn euog o ladd – ond nid o lofruddio – ei gariad. (Culpable homicide maen nhw’n galw’r drosedd yn llysoedd De Affrica, term sy’n cyfateb, fwy neu lai, i’r hyn a elwir yma yn ddynladdiad.) Roedd Pistorius wedi tanio pedair ergyd o’i wn drwy ddrws ystafell molchi’r ty a rannai â’i gariad. Gwnaeth hynny yn y gred, meddai yn ei amddiffyniad, bod lleidr wedi torri i mewn i’r ty. Fel y gwyr y byd bellach doedd dim lleidr ar gyfyl y lle. Dim ond ei gariad 29 oed. Dyn gwyn yw Pistorius a dynes wen oedd ei gariad. Hyd yn oed ar ôl dymchwel trefn felltigedig apartheid mae lliw croen yn dal i fod yn arwyddocaol yn Ne Affrica – yn enwedig gan fod y cyhuddedig yn ddyn gwyn goludog ac enwog. Dyma, wedi’r cyfan, eilun rhyngwladol a lwyddodd, er iddo golli ei ddwy goes, i redeg yn y gemau Olympaidd agored yn ogystal â’r gemau Paralympaidd.Roedd yn arwyddocaol hefyd mai dynes ddu a ddewiswyd gan yr awdurdodau i fod yn farnwr, mewn achos a deledwyd yn fyd-eang. Efo pob cyfiawnhad ymfalchïai’r wladwriaeth yn y cynnydd calonogol mewn cydraddoldeb a wnaed er 1994. Mor ddiweddar â hynny, cofier, y daeth De Affrica’n wlad ddemocrataidd. Pa well cadarnhad o’r newid a fu na gweld Thokozile Masipa, dynes o Soweto, treflan y gorthrwm, a’r hynaf o ddeg o blant, yn eistedd mewn barn ar Oscar Pistorius o bawb?Ond gocheled neb rhag bod yn hunanfodlon. Amlygodd yr achos wedd frawychus ar ddiwylliant De Affrica yn yr 21g., yn enwedig diwylliant y dinasoedd. Fel yn Unol Daleithiau America mae ymlyniad cynifer o Dde Affricanwyr wrth y gwn yn destun pryder dwfn. Chwi gofiwch fod Pistorius, saethwr hyfforddedig, wedi cael ei gyhuddo hefyd yn yr un llys, a’i gael yn euog, o danio gwn mewn ty bwyta. Am hynny derbyniodd ddedfryd ohiriedig o dair blynedd yng ngharchar.Yn achos Ched Evans (talfyriad o Chedwyn, gyda llaw) argyhoeddwyd y rheithgor bod Miss X yn rhy feddw, mewn gwesty yn Rhuddlan yn oriau mân un bore, i gydsynio i gael rhyw efo Ched Evans, streicar Sheffield United, a’i gyfaill, pêl-droediwr arall, Clayton McDonalds, amddiffynnwr tîm Port Vale. Â’r ddau ddyn wedi cyfaddef iddyn nhw gael rhyw efo’r ferch, wn i ddim pam mai Ched yn unig a gyhuddwyd o’i threisio. Yn enwedig gan iddi ddweud mewn tystiolaeth nad oedd hi’n cofio cael rhyw efo ’run o’r ddau...
10 Tachwedd 2014
Gwannaf Gwaedded
Dywedodd Gandhi mai gwir fesur unrhyw gymdeithas yw’r modd y mae hi’n trin ei gweiniaid, ac fe ddylai gosodiad o’r fath fod mor amlwg nes ei fod yn ystrydeb am y rhesymau gorau.Ond ystyriwch bobol gydag anableddau, a myfyriwch ar y math o flwyddyn a gawson nhw eleni. Geoffrey Clark, ymgeisydd cyngor sir dros UKIP, yn cyhoeddi y dylai bod rheidrwydd ar rieni i erthylu babanod sydd â’r cyflyrau syndrom Down neu spina bifida, er mwyn arbed costau i’r Gwasanaeth Iechyd.Y gwyddonydd Richard Dawkins yn ychwanegu ei geiniogwerth ar wefan gymdeithasol Twitter mewn neges oedd yn dweud mai peth anfoesol yw cadw baban sydd â syndrom Down, ac y dylai unrhyw fam sy’n cario plentyn efo’r cyflwr yma gael gwared o’r babi a thrio eto.A dyna i chi Katie Hopkins, gynt o’r gyfres deledu The Apprentice, sydd bellach yn gwneud bywoliaeth o ddweud ar goedd y pethau hyllaf sy’n dod i’w meddwl. Fe ddywedodd hi ar Twitter am lefarydd Ty’r Cyffredin, ‘If women stopped mating with midgets like Bercow, we could ensure that the short gene was bred out of the human stock’. Does gan John Bercow ddim corachedd wrth gwrs, ond mae’r ensyniad ganddi bod angen cael gwared ar bobol sydd â’r cyflwr hwnnw yn hollol warthus, ynghyd â’i defnydd o’r gair ‘midget’, sydd yn air cwbwl sarhaus.Yr Aelod Seneddol Ceidwadol Guto Bebb wedyn, a’i awgrym mewn e-bost wrth ddyn gyda’r cyflwr Asperger y dylai efallai ymatal rhag ymuno yn y drafodaeth gyhoeddus gan y gallai hynny greu problemau iddo. A’r diweddaraf wrth gwrs, yr Arglwydd Freud, a gafodd ei hun mewn dwr poeth ar ôl awgrymu nad oedd cyflogwyr yn gweld pobl â rhai anableddau yn werth yr isafswm cyflog £6.50 yr awr. Ar ben hyn oll, mae’r newidiadau i’r sustem fudd-dal, y dreth ystafell wely a’r monitro ac ailasesu llawdrwm ar ba mor anabl ydi pobol yn gwneud i’r rhai y mae eu bywydau yn ddigon anodd yn barod deimlo eu bod dan amheuaeth parhaus. Mae’n ymddangos mai’r unig beth sy’n tanio’r Adran Gwaith a Phensiynau y dyddiau yma ydi’r dybiaeth bod rhywun yn rhywle yn cael rhywbeth na ddylan’ nhw mo’i gael.Rydw i wedi treulio’r ddwy flynedd ddiwethaf yn gwneud rhaglenni am anabledd, ac am bobol sy’n byw gyda chyflyrau corfforol neu feddyliol, neu sydd â phlant sydd wedi ei geni â chyflyrau o’r fath, ac yn aml iawn mae gen i gywilydd...
10 Tachwedd 2014
ganBeca Brown
Ymateb i’r Refferendwm – Y Chwyldro yn Ystrad Clud
Er colli’r refferendwm, nid yw chwyldro yn air rhy gryf am yr hyn a ddigwyddodd yn enw’r ymgyrch Ie ar strydoedd ar hyd a lled yr Alban, yn ôl un a oedd yno yn ystod yr wythnos yn arwain at 18 Medi. Yn ymgyrch Ie yn yr Alban gwelwyd asiad rhyfeddol rhwng gwahanol garfanau cymdeithasol a gwleidyddol, ac nid yw hwnnw, na’r dyhead sylfaenol am newid yn y drefn, am ddiflannu ar chwarae bach.‘Bydd Tommy Sheridan yn hwyr,’ meddai cynullydd y cyfarfod Ie yng nghlwb cymdeithasol Clwb Pêl-droed Motherwell, ‘gan ei fod yn sefyll ar ben car yn annerch cannoedd o bobl tu allan.’ Ac yn wir wrth graffu ar y trydar, mi welais mai dyna’n union a oedd yn digwydd. ‘The Yes campaign,’ meddai Sheridan pan gyrhaeddodd ymhen y rhawg, ‘is having bigger meetings outside its meetings than the No Campaign.’Roedd hynny o leiaf yn wir. Ddiwrnod ynghynt, wrth geisio canfod maes parcio ar gyfer gwneud eitem i Good Morning Wales fore trannoeth, cerddais yn ddirybudd i blith torf o ryw ddwy fil o bobl y tu allan i swyddfeydd y BBC yn Glasgow a oedd yn llafarganu ‘Shame on you, BBC’, a phethau na ddylid eu dweud wrth unrhyw Anti megis ‘You can stick your licence up your arse’.Ar hyd a lled y wlad, roedd strydoedd yr Alban yn frith o sectau sosialaidd yn ymgyrchu’n ddygn o blaid diwedd Prydeindod a therfyn cyfalafiaeth. Y Grwp Comiwnyddol Chwyldroadol ar y Byres Rd yn Glasgow, yr Ymgyrch Annibyniaeth Radicalaidd yn Dundee. Roedd yr Estelada, baner annibyniaeth Catalwnia, yn cyhwfan yn y gwynt. Meddyliais am Homage to Catalonia George Orwell, a gweld Glasgow yn debyg. Roedd yn rhyfeddol cyn lleied o’r pamffledwyr a’r stondinwyr hyn a oedd yn aelodau o’r SNP. Roedd y byd wedi’i droi tu chwith allan, a faswn i ddim wedi synnu pe bai Diggers, Levellers a Ranters rhyw chwyldro arall wedi ymddangos ar y stryd yn eu carpiau. Roedd hyd yn oed y cardotwr ar Byres Rd wedi’i orchuddio ei hun efo sticeri gleision yr ymgyrch Ie.Noson y bleidlais, dyma droi i mewn i George Square ynghanol Glasgow gyda’r hwyr, neu ‘Independence Square’ fel y’i galwyd er mwyn dwyn brwydr Maidan Kiev i’r cof, a gweld cannoedd o lanciau a llancesi yn dawnsio rave, ac alawon undonong a hypnotig eu canu aflêr yn lledu i’r nos – ‘Sgotland, Sgotland, Sgotland’.Nid yn Glasgow yn unig yr oedd chwyldro ar frys. Yn Dundee, ‘Yes City’, dyma fentro i’r casino, rhoi cynnig ar ganfasio a chael Yes, Yes, Yes-towards-a-No-but-coming-back-to-a-Yes, Yes-and-all-my-mates-are-Yes, Yes, Yes a Yes. Aye. Yn Arbroath, tref tua maint Llandudno, gorymdeithiais gyda 500 o genedlaetholwyr yn unswydd er mwyn amgylchynu criw ffilmio o Channel 4 a oedd yn enw cydbwysedd wedi llwyddo i gael hyd hefyd i dri ymgyrchydd o’r garfan Na. Ni welais i erioed y fath ffrwydrad o gelfyddyd a chlyfrwch gwleidyddol: yr ‘Ayes’ wedi’u torri i laswellt bryniau, y neges yn y Grassmarket, Caeredin, ‘Vote with Clean Pants!’ ar lein ddillad, a’r ‘Aye’ ar ei blwmars yn ei ateb. ‘Bu Chòir’ ar y traethau, y Bwyleg ac ieithoeddd Pacistan mewn taflenni, a’r Sgoteg ymhob man, Aye. Nid esgyrn sychion cenedlaetholdeb sifig yn unig oedd chwyldro pobl ifanc yr Alban. Miss Asbri 69 oedd y cywair, diwygiad at iws gwlad yr 21g., gwrthsefydliadaeth, hunanhyder, cariad at iaith, rhyfel dosbarth, cenedlaetholdeb a hefyd ‘bywyd y tu hwnt i genedlaetholdeb’.Mae deall y bu chwyldro yn yr Alban, er gwaetha methiant y bleidlais, yn hanfodol er mwyn amgyffred beth fydd dyfodol gwledydd Prydain o hyn allan. Nid ‘barn gytûn’ pobl yr Alban oedd y nacáu ond canlyniad gafael yr ymgyrch Na ar y wasg felen, ymddygiad gwaradwyddus a sobreiddiol y BBC, ac anallu’r to hyn i gael hyd i naratif amgen am mai’r unig beth heblaw am y Sunday Herald a oedd ym meddiant yr Ymgyrch Ie oedd y cyfryngau cymdeithasol...
1 Hydref 2014
ganSimon Brooks
Ymateb i’r Refferendwm – Colli’r Frwydr, Ond Parhau Mae’r Rhyfel
Adroddiad llygad dyst i ddadrithiad nifer sylweddol o Albanwyr â’r wladwriaeth Brydeinig a’i sefydliadau – yn enwedig y BBC. Ac onid oes sail pur gadarn i’r ofnau a fynegodd yr awdur droeon yn y tudalennau hyn am rwystredigaethau hollol ddilys Lloegr?‘Do you think that the BBC is playing fair by both sides in our referendum?’ Cwestiwn gofalus y llanc cringoch oedd yn gweini paned ar fore’r ail ar bymtheg o Fedi wrth i mi deithio ar y trên o Lundain i Gaeredin. Yr oeddwn eisoes wedi egluro wrtho fy mod yn teithio i’r gogledd er mwyn cyfrannu i raglenni BBC Cymru ar y bleidlais. Ac roedd crybwyll ‘y BBC’ yn ddigon i sicrhau ei fod yn edrych yn ôl dros ei ysgwydd o’r peiriant coffi er mwyn cymryd golwg fanylach arnaf.Roedd cyd-destun ei ymholiad yn gwbl amlwg: ymddygiad rhyfedd golygydd gwleidyddol y BBC, Nick Robinson, yn ystod ac ar ôl cynhadledd i’r wasg ryngwladol yn Glasgow chwe diwrnod ynghynt. Ymddygiad a oedd wedi sbarduno protest fawr y tu allan i swyddfeydd moethus y Gorfforaeth yn yr un ddinas ar y Sul cyn y bleidlais. Wedi inni ddechrau sgwrsio o ddifrif daeth yn amlwg fod y gwr yn gefnogwr brwd i achos annibyniaeth - ‘I’m mad for independence’. Yn wir, roedd yn perthyn i frid o bleidwyr annibyniaeth sydd wedi dod yn gyfarwydd iawn i unrhyw un a dreuliodd beth amser yn yr Alban dros yr wythnosau diwethaf. Dyn ifanc dosbarth gweithiol oedd o, un gwybodus a huawdl tu hwnt ynglyn â’r hyn a oedd yn y fantol yn y refferendwm. Gallai drafod Fformiwla Barnett a goblygiadau’r Transatlantic Trade and Investment Partnership (TTIP) ar gyfer y gwasanaeth iechyd gyda’r gorau. Yr oedd hefyd yn ddrwgdybus a chwbl ddirmygus o rôl y sefydliad Prydeinig yn ystod yr Ymgyrch. Gyda’r BBC a’r Blaid Lafur yn ennyn llid arbennig. Efallai oherwydd ei fod ar un adeg wedi disgwyl gwell ganddyn nhw…Yn ddiweddarach yr un diwrnod gwelais arwydd pellach o’r argyfwng hygrededd sydd bellach yn wynebu un o sefydliadau pwysicaf y wladwriaeth Brydeinig yng ngolwg cyfran go sylweddol o bobl yr Alban.Wrth grwydro ‘hen dref’ Caeredin fin nos fe darawais ar rali derfynol y Radical Independence Coalition, sef y glymblaid adain chwith a wnaeth gymaint i ennyn diddordeb yn y refferendwm yn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig gorllewin Ewrop. Pinacl y cyfarfod oedd araith gwbl wefreiddiol gan yr awdur Lesley Riddoch. Roedd yr araith yn clodfori’r ymdrechion byrfyfyr, creadigol, cwbl wirfoddol hynny a oedd wedi nodweddu’r Ymgyrch Ie. Y corau, y sioeau teithiol o feirdd a llenorion, yr orsaf radio, y cyfarfod stryd, y gwefannau lu. Ac yn y blaen, ac yn y blaen. Y rhain, meddai hi, oedd wedi llwyddo i godi cefnogaeth yr ymgyrch ymhell y tu hwnt i gefnogaeth graidd yr SNP. A hynny i’r pwynt lle’r oedd yn fygythiad gwirioneddol i barhad y Deyrnas Gyfunol.Ac fel petai trwy ryw ymyrraeth ddwyfol, wrth i’r gymeradwyaeth fyddarol ar ddiwedd ei haraith ddechrau distewi, dyma glywed canu o’r stryd a’r gynulleidfa sylweddol yn y neuadd yn edrych ar ei gilydd mewn syndod. Beth yn y byd.. Erbyn gweld, roedd gorymdaith yn pasio’r drws. Gorymdaith a oedd i bob golwg hefyd yn un fyrfyfyr ac yn cynnwys tua mil a hanner - roedd hi’n anodd iawn amcangyfrif yr union nifer yn y tywyllwch - o gefnogwyr ‘Ie’. Nid oedd dim amdani ond ymuno yn yr orymdaith er blasu mwy o’r awyrgylch drydanol a nodweddai Gaeredin y noson honno.Roedd yn orymdaith amryliw, a dweud y lleiaf. Gan gynnwys Catalwniaid, Basgiaid, brodorion Corsica a, siwr o fod, rhai Cymry’n ogystal. Ond Sgotiaid ifanc oedd y rhan fwyaf o ddigon ohonyn nhw, a’u bwriad oedd ymgynnull y tu allan i Senedd yr Alban ar waelod y Royal Mile.Wrth i ni gerdded lawr y stryd honno roedd sawl slogan yn cael eu gweiddi: ‘Hope not fear’, ‘Scotland says Yes’ a ‘Tories, Tories, Tories: out, out, out’. Ond wedi inni gyrraedd y llain o dir rhwng yn Senedd a hen Balas Holyrood dyma gân yn dechrau chwyddo a oedd yn amlwg yn rhyngu bodd y dorf: Where’s your cameras, where’s your cameras, where’s your cameras BBC?Gyda’r darlledwr gwladwriaethol wedi anwybyddu (mwy na heb) y ralïau sylweddol iawn a gynhaliwyd gan yr Ymgyrch Ie mewn dinasoedd a threfi ledled yr Alban ar y dydd Sadwrn blaenorol, yn gam neu’n gymwys, roedd y dorf yn disgwyl yr un driniaeth ar noswyl y refferendwm.
1 Hydref 2014
Cerddoriaeth – Mae Lle i’r Bach a’r Mawr
Daeth tymor y gwyliau cerddorol Cymreig i ben gyda dwy wyl dra gwahanol i’w gilydd, Gwyl Gwydir a Gwyl Rhif 6. Dyma argraffiadau un a fu yn y ddwy. Mae wythnos gyntaf Medi wastad wedi bod yn wythnos o deimladau chwithig. Wythnos o glywed un drws yn cau a gweld un arall yn agor. Ac er fod y drysau hynny wedi cynrychioli pethau gwahanol wrth imi fynd yn hyn, yr un yw’r teimlad o wacter. Ddeng mlynedd yn ôl, diwedd ar haf o ryddid oedd hi, cyn mynd yn ôl i grafangau amserlen tymor ysgol. Ond dros y bum mlynedd ddiwethaf mae mis Medi wedi golygu diwedd ar ddigwyddiadau sydd wedi dod yn uchafbwynt y calendr roc, pop a gwerin yma yng Nghymru – a thu hwnt – ac eleni roedd y teimladau hiraethus yn gryfach nag erioed.Fe wnaeth y bandiau, yr hyrwyddwyr a’r labeli recordio ein difetha ni’n rhacs eleni. Daeth Ywain Gwynedd a’i diwns bachog yn ôl i’n diddanu ni unwaith eto; daeth bandiau cyffrous megis Palenco, Y Ffug, I Fight Lions a Trwbz i’r amlwg, ac roedd gwyl ar ôl gwyl ar ôl gwyl yn cael eu cynnal ar hyd a lled y wlad, gan ffurfio cnewyllyn cryf a byw i’r Sin Roc Gymraeg. Roedd ’na wyliau sydd wedi hen sefydlu eu hunain, megis Gwyl y Dyn Gwyrdd, Gwyl Gardd Goll ac wrth gwrs, Maes B, yn ogystal â gwyliau sy’n parhau i fynd o nerth i nerth – Gwyl Arall, Gwyl Crug Mawr a Sesiwn Fawr ar ei newydd wedd, i enwi dim ond tair, heb sôn am gnwd da o wyliau lleol llwyddiannus mewn sawl manOnd gyda’r wythnosau’n prysur wibio heibio, a’r holl wyliau yn mynd a dod, roedd ’na wastad deimlad fod yr haf yn adeiladu tuag at binacl arbennig – ac y byddai’r haf yn gorffen gyda chlec, fel petai. Ac yn sgil llwyddiant y ddwy wyl llynedd, dyna’n union yr oedd pawb yn disgwyl ei gael yn Ngwyl Gwydir a Gwyl Rhif 6 eto eleni.Yn nhermau’r gwyliau llai yng Nghymru, mae Gwyl Gwydir yn esiampl berffaith o sut i ddatblygu a rhedeg gwyl yn llwyddiannus. Mae’r criw bychan o drefnwyr lleol wedi mynd ati i ehangu maint yr wyl yn raddol ers iddi gael ei sefydlu chwe mlynedd yn ôl. Yn wreiddiol roedd hi’n cael ei chynnal mewn amryw leoliadau yn Llanrwst, cyn symud i safle parhaol yng Nghlwb Rygbi’r dref gan ddenu mwy a mwy o gynulleidfa. Heb unrhyw gyllid allanol i helpu i ariannu’r wyl, mae’r trefnwyr wedi bod yn ofalus i beidio ehangu’n rhy gyflym. Mae’r pris mynediad wedi parhau’n rhesymol, mae’r awyrgylch cyffredinol wastad yn braf, heb fawr ddim helynt, ac mae’r lein-yp yn cael ei ddewis gan bobl sydd yng nghanol bwrlwm y SRG ac yn deall eu cerddoriaeth – sydd wastad yn help.Ar y llaw arall, roedd trefnwyr Gwyl Rhif 6, a oedd yn dair oed eleni, wedi dangos eu bwriad o’r dechrau’n deg, gan wahodd bandiau mor enwog â New Order, y Manics, Chic a Johnny Marr yn y blynyddoedd cyntaf. Ac er fod y pris tocyn fymryn yn ddrud, mae’n adlewyrchu’r ffaith fod Gwyl Rhif 6 yn cystadlu gyda rhai o wyliau mwyaf Prydain.Wrth gwrs, mae Portmeirion, lleoliad Gwyl Rhif 6, yn allweddol i ddelwedd yr wyl a’i llwyddiant. Ar wahân i hud y pentref ei hun, creadigaeth ryfeddol Clough Williams-Ellis, a golygfa ar draws aber afon Dwyryd sy’n dwyn eich anadl, mae’n lleoliad delfrydol ar gyfer cynnig pob mathau o berfformiadau ac atyniadau gwahanol yr un pryd, gan gynnwys ffilmiau, darlleniadau a chomedi. Mae hi’n wyl arbennig, foethus, ac yn sicr mae’n unigryw.Ond beth am y gerddoriaeth ei hun? Dyma rai o’r uchafbwyntiau’r ddwy wyl i mi.
1 Hydref 2014
Celfyddyd – Gweld Llais a Chlywed Llun
Mae prosiect a fydd yn cael ei gyflwyno mewn amryw leoliadau dros y misoedd nesaf yn cyfuno celf, cerddoriaeth a barddoniaeth, ac yn deyrnged i fardd ac awdur arbennig a fu farw’n gynharach eleni.Canol Medi, ac mae haul braf yr haf bach Mihangel wedi denu ymwelwyr i ganolfan ysgrifennu Ty Newydd, Llanystumdwy. Ond nid yr haul yn unig sydd wedi dod â nhw i’r plasty bychan gwyngalchog a fu’n gartref i Lloyd George. Mae rhai, minnau yn eu plith, wedi dod yno i weld lluniau a chlywed cerddoriaeth, gwaith newydd sy’n dathlu cyfraniad gwr a dreuliodd gryn dipyn o amser yn y ganolfan ysgrifennu, fel un o’i thiwtoriaid mwyaf poblogaidd. Y gwr hwnnw oedd Nigel Jenkins, y bardd a’r awdur o benrhyn Gwyr a fu farw’n gynharach eleni. Teyrnged iddo yw PROsiect hAIcw, ffrwyth cywaith rhwng merch Nigel, y cerddor Angharad Jenkins, a’r artist Iwan Bala (saif yr ‘AI’ am Angharad ac Iwan). Rhyw fath o ymarfer anffurfiol yw’r cyflwyniad yn Nhy Newydd, paratoad ar gyfer mynd â’r gwaith ar daith o gwmpas sawl canolfan yn ystod y misoedd nesaf. Mae Iwan yn dangos gwaith celf sydd wedi’i ysbrydoli gan lyfrau a cherddi Nigel gan gynnwys yr haicws y cyhoeddodd ddwy gyfrol ohonynt. Mae un gwaith o’r enw ‘Hoff Bethau’r Bardd’ sy’n rhestr orlawn o lefydd a phobl a phethau a oedd yn bwysig i Nigel – o graffu fe welwch chi enw un o draethau Gwyr, Rotherslade, lle hoffai gynnal barbeciws, enw siop win yn y Mwmbwls lle’r oedd yn byw, ac enwau cerddorion a edmygai, o Miles Davies i John Cale. Mae llun arall yn dangos cerdd gan Twm Morys i Nigel, ac yn wir mae Twm ei hun wedi dod i Dy Newydd heddiw i gyflwyno’r gerdd honno. Roedd Twm yn un o gyd-aelodau Nigel yn y Bechgyn Drwg, band a gyfunai gerddoriaeth gyda barddoniaeth ac a oedd hefyd yn cynnwys Iwan Llwyd a John Barnie. Mae Twm wedi dod â’i gitâr efo fo ond yn y diwedd, ar ôl baglu ar yr un cord dair gwaith, mae’n bodloni ar ddarllen y gerdd, gan addo dysgu’r cord tramgwyddus erbyn y perfformiadau go iawn. Mae dehongliad gweledol Iwan Bala o’r gerdd bellach wedi cael cartref parhaol yn Nhy Newydd, wedi i’r ganolfan ei brynu.Mae Angharad, wedyn, yn rhannu atgofion am ei thad ac yn adrodd rhai o’i haicws a’i gerddi eraill i gyfeiliant ei cherddoriaeth ei hun y mae’n ei chwarae ar ffidil drydanol. Gyda loop station i greu effeithiau arbennig a samplo, mae’r gerddoriaeth yn fodern ei swn ac yn dra gwahanol i gerddoriaeth Calan, y band gwerin y mae Angharad yn aelod ohono, ond yn hudolus. Ymhlith y cerddi a gyflwyna mae un lle mae Nigel yn sôn fel y bu i genhedlaeth flaenorol o’r teulu gefnu ar yr iaith Gymraeg; ei dysgu fel oedolyn a wnaeth ef ei hun. Cawn hefyd glywed ei lais ef ei hun, mewn recordiad ohono’n darllen cerdd hynod ddoniol o’r enw ‘Teetotalitarian Lament’ am y profiad o fod yn feddw.Ar ddiwedd y cyflwyniad, mae’r gynulleidfa fechan werthfawrogol yn gwasgaru a daw cyfle allan yn yr ardd i holi mwy am wreiddiau’r prosiect. Yn ôl Iwan Bala, mater o hap a damwain oedd hynny. Y man cychwyn, meddai, oedd derbyn copi o gerdd Twm i Nigel, ‘Rhydd’, a hynny’n weddol fuan wedi marwolaeth Nigel ym mis Ionawr. Mae’r gerdd, sy’n sôn am ryddid rhag y byd a’i bethau, yn un a ysgrifennodd Twm yn wreiddiol i Nigel pan oedd y Bechgyn Drwg ar daith dramor ond a addasodd yn dilyn ei farwolaeth.Aeth Iwan ati’n syth i ysgrifennu’r gerdd ar bapur Khadi yn ei lawysgrifen ei hun gan ychwanegu delweddau a oedd yn cynnwys fedora, het a brynodd Nigel mewn siop yn Syracuse yn yr Unol Daleithiau yn ystod taith arall gan y Bechgyn Drwg ac artistiaid eraill. Roedd Iwan yntau’n rhan o’r daith honno...
1 Hydref 2014
ganMenna Baines
Neuaddau Dawns a Thân a Brwmstan – Albert Reynolds ac Ian Paisley
Yn y byd gwleidyddol mae personoliaethau a pherthnasau personol yr un mor bwysig yn aml - os nad yn bwysicach - na pholisïau. Yn ddiweddar bu farw dau o’r personoliaethau mawr hynny. Dau wahanol iawn i’w gilydd ond dau a adawodd eu marc ar hanes diweddar Iwerddon.Efallai nad oedd Albert Reynolds yn adnabyddus iawn y tu draw i Iwerddon - ond roedd Albert, fel roedd pawb yn ei alw, yn un o gymeriadau mwyaf lliwgar y byd gwleidyddol Gwyddelig. Roedd o hefyd yn un o arwyr y Broses Heddwch. Bu’n Taoiseach am gyfnod byr - llai na thair blynedd - rhwng Chwefror 1992 a Thachwedd 1994. Ond roedd hwnnw’n gyfnod cythryblus ac fe wnaeth Reynolds ddefnydd rhagorol o’i amser wrth y llyw. Dyn busnes llwyddiannus a chyfoethog oedd o cyn troi at wleidyddiaeth. Cychwynnodd ei yrfa ym myd adloniant, fel trefnydd dawnsfeydd a rheolwr bandiau. Byd ‘showbands’ - ffenomen Wyddelig ryfeddol - yn ystod pumdegau a chwedegau’r ganrif ddiwethaf oedd byd Albert Reynolds. Offerynwyr a chantorion oedd y ‘showbands’ a fyddai’n perfformio caneuon pop y cyfnod mewn cannoedd o neuaddau dawns drwy Iwerddon benbaladr. Albert hefyd ddaeth â sêr fel Johnny Cash a Kenny Ball i Iwerddon. Symudodd wedyn i’r busnes cynhyrchu bwyd, gan brynu ffatri cig moch yn Nulyn ac adeiladu ffatri bwyd ci yn Longford a ddaeth yn un o fusnesau a chyflogwyr pwysica’r ardal.Daeth â nodweddion byd masnach i’w wleidyddiaeth. Roedd ganddo graffter di-lol dyn busnes cefn gwlad gydag elfen o’r gamblwr lliwgar. Roedd wrth ei fodd yn mentro ac wedi mentro roedd yn benderfynol o lwyddo. ‘Rhaid cadw’ch llygad ar y gwningen’ oedd un o’i hoff ddywediadau.Bu’n weinidog mewn sawl adran, gan gynnwys cyfnod gyda chyfrifoldeb dros ddatblygu cyfundrefn deliffon Iwerddon. Daeth yn enwog am yrru rownd y wlad efo llwyth o ffôns yng nghist ei gar gan eu dosbarthu i etholwyr diolchgar. Digwyddiad enwog arall yn ei yrfa oedd hwnnw yn 1981, ac yntau’n Weinidog Trafnidiaeth, pan fu’n rhaid iddo ymdrin â herwgipiad awyren Aer Lingus. Roedd yr herwgipiwr yn gyn-fynach Trapaidd a oedd yn bygwth ei roi ei hun ar dân os nad oedd yr awyren yn hedfan i Tehran ac os na fyddai’r Pab yn datgelu Trydedd Cyfrinach Ffatima. Mewn cyfres wych ar RTÉ, Reeling in the Years, mae’r bennod o 1981 sy’n dangos Reynolds ar darmac maes awyr yn Ffrainc yn ateb cwestiynau’r wasg am Drydedd Cyfrinach Ffatima yn glasur. (Mae ar YouTube os oes rhywun am ei weld.)Roedd Reynolds bron yn 60 oed pan ddilynodd Charles Haughey fel arweinydd Fianna Fáil ac fel Taoiseach. Ar ei ddiwrnod cyntaf fe gyhoeddodd mai ei amcan oedd gweithio tuag at heddwch yng Ngogledd Iwerddon. Ac fe gadwodd ei air...*** Mae rôl Ian Paisley yn hanes yr ynys hon yn un llawer mwy cymhleth a dadleuol. Do, fe gafodd ei dröedigaeth Ddamasgaidd ac fe drodd at heddwch tua diwedd ei oes. Ond roedd o’n rhannol gyfrifol am achosi’r erchyllterau yn y lle cyntaf. Mae bron yn amhosib peidio gweld bywyd a gyrfa Paisley mewn termau Beiblaidd. Y pregethwr tanllyd, y proffwyd o’r Hen Destament yn arwain ei bobl a’r Mab Afradlon yn edifarhau. Dyna sut yr oedd Paisley yn ei weld ei hun.Sefydlodd ei enwad ei hun a’i blaid wleidyddol ei hun. Mae’r Eglwys Bresbyteraidd Rydd yn ganlyniad ffrae efo’r Presbyteriaid eraill. Sefydlodd y Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd, y DUP, am fod Unoliaethwyr Ulster, yr UUP, yn llawer rhy llywaeth yn ei olwg. Fe roddodd Paisley lais i Brotestaniaid difreintiedig, dosbarth gweithiol y Gogledd oedd yn cael eu hesgeuluso gan yr UUP dosbarth canol. Roedd o hefyd yn bregethwr ysbrydoledig, medden nhw, ac yn gynrychiolydd da dros ei etholwyr, boed Brotestaniaid neu Babyddion.Ond roedd areithiau sectyddol, tanllyd Paisley, yn disgrifio Pabyddion fel pryfetach, yn annog dynion ifainc i derfysgu ac yn arwain at dywallt gwaed. Roedd ei grefydd yn un ddu a gwyn, a digyfaddawd; ei wleidyddiaeth yn ddinistriol. Roedd ei ‘Na! Byth! Dim ildio!’ yn atseinio drwy Ulster.Wedi dweud hynny i gyd, fe wnaeth Paisley newid, ac fe wnaeth o droi at heddwch, a hynny gyda’i holl egni. Fe gytunodd i rannu grym efo’i gyn-elynion, Sinn Féin, yn Stormont. Heb Paisley fyddai Cytundeb Dydd Gwener y Groglith, a sefydlu’r Cynulliad, ddim wedi bod yn bosib. Roedd siwrnai Paisley at y bwrdd trafod yn Stormont yr un mor syfrdanol ac annisgwyl â llwybr Martin McGuinness. A bu’r berthynas gwbl anhygoel rhwng y ddau gyn-elyn yn hollbwysig i weithrediad y Cynulliad...
1 Hydref 2014
Adolygiad Llyfr – Gohebiaeth yr Aderyn Brith
Dyma olygiad campus o lythyrau Goronwy Ddu o Fôn, meddai ALAN LLWYD, ond ai Goronwy mewn gwirionedd yw’r gwr sy’n syllu arnom oddi ar glawr y gyfrol?Llythyrau Goronwy Owen (Cyfrolau Cenedl 9) Gol. Dafydd Wyn Wiliam tt. 324, Dalen Newydd, £15.00 Hyd nes y cyhoeddwyd y gyfrol hon, y gyfrol safonol i’r sawl a fynnai astudio llythyrau Goronwy Owen oedd The Letters of Goronwy Owen (1723–1769), dan olygyddiaeth J. H. Davies. Bellach, dyma lythyrau Goronwy Owen wedi eu golygu o’r newydd gan Dafydd Wyn Wiliam, un o’n hysgolheigion pennaf ni fel cenedl a’n hawdurdod mwyaf ar Forrisiaid Môn. Afraid dweud bod y golygiad newydd hwn yn disodli cyfrol J.H. Davies, a hynny am sawl rheswm. Yn wahanol i’w ragflaenydd, penderfynodd Dafydd Wyn Wiliam ddiweddaru orgraff y llythyrau gwreiddiol, gan alluogi darllenwyr sy’n anghyfarwydd ag orgraff y 18g. i’w darllen yn haws. Ceir rhagymadrodd rhagorol ganddo hefyd, ond gwir ogoniant y llyfr hwn yw’r nodiadau a geir ar ddiwedd y llyfr. Yma y mae holl ysgolheictod y golygydd ar waith wrth iddo fwrw goleuni ar gynnwys y llythyrau, gan egluro pwy yw’r bobl y cyfeirir atynt, esbonio ambell bwynt hanesyddol neu lenyddol, a thraethu ar arwyddocâd ac ystyr ambell briod-ddull neu ddihareb – ac mae rhyddiaith Goronwy yn dryfrith o idiomau a diarhebion bachog a choeth. Yn ogystal, nodir ystyr rhai geiriau dieithr yn yr eirfa fuddiol a defnyddiol sy’n dilyn y nodiadau.Aderyn brith oedd Goronwy. Cafodd fywyd stormus, a bywyd trist hefyd ar lawer ystyr. Collodd sawl aelod o’i deulu. Am y rhan fwyaf o’i fywyd bu’n byw o’r llaw i’r genau, ac yn breuddwydio am greu arwrgerdd fawr yn y Gymraeg, nid annhebyg i Paradise Lost John Milton. ‘Nid oes gwadu nad oedd yn ymylu ar fod yn athrylith,’ meddai Dafydd Wyn Wiliam amdano, a hawdd cytuno â hynny. Roedd yn ysgolor, yn fardd gwych – er gwaethaf rhai gwendidau aml ac amlwg yn ei waith – ac yn rhyddieithwr tan gamp. Ond fe wnaeth ei amgylchiadau ei lesteirio rhag cyflawni ei addewid fel bardd. Ni lwyddodd i sicrhau iddo’i hun y rhyddid a’r hamdden a oedd yn angenrheidiol iddo fel artist creadigol. Erbyn diwedd ei fywyd roedd Goronwy wedi codi uwchlaw tlodi a chyni ei fywyd yng Nghymru ac yn Lloegr, ac wedi troi’n fonheddwr cefnog a oedd yn berchennog ar blanhigfa ac ar gaethweision, yn Swydd Brunswick bell yn y trefedigaethau Americanaidd, ond, ac yntau’n byw yng nghanol estroniaid ac yn gaeth i’w alcoholiaeth, aeth ei uchelgais i’r gwellt. Bu farw ym mis Gorffennaf 1769, yn 46 oed.Rwy’n amheus iawn o un peth, sef, yng ngeiriau’r golygydd, ‘y llun o Oronwy sy’n harddu clawr y gyfrol hon’. Fe’i cafwyd, meddai, ‘trwy Helen Bott, a’i gwelodd yng Ngholeg William a Mary, Williamsburg, Virginia’. Awgrymwyd fwy nag unwaith yn y gorffennol fod portread o Goronwy yn llechu yn rhywle yn nyfnderoedd Virginia, a phan oeddwn yn casglu deunydd ar gyfer llunio cofiant i Goronwy ar ddechrau’r 1990au, cysylltais â Choleg William a Mary yn Williamsburg ac â rhai o ddisgynyddion Goronwy i holi am y portread, ond ni wyddai neb ddim oll amdano. Nodir ar gefn Llythyrau Goronwy Owen mai ‘Goronwy Owen, paentiad ar ifori gan arlunydd anhysbys’ a geir ar y clawr blaen. Fel hyn y disgrifir y paentiad bychan hwn fel eitem yng nghasgliadau Llyfrgell Earl Gregg Swem yng Ngholeg William a Mary: Portrait in miniature oval, originally a brooch, now set in shadow box frame lined in burgundy velvet. Portrait appears to be on ivory covered with a chrystal and set in gold. Gentleman has brown eyes and light auburn or brown hair. There are no known portraits from the life of Goronwy Owen that have been accepted as authentic...
1 Hydref 2014
ganAlan Llwyd
Materion y Mis – Haf Cythryblus yn y Dwyrain Canol
Taflodd dau argyfwng yn y Dwyrain Canol gysgod enfawr dros yr haf – y rhyfel diweddaraf yn Gaza rhwng Israel a mudiad Hamas, ac ymgyrch waedlyd y Wladwriaeth Islamaidd (IS, neu ISIS) yn Irac. Newidiodd y cyntaf fawr ddim, tra mae’r ail wedi gweddnewid rhagolygon yr holl ranbarth.Lansiodd Israel gyrchoedd yn erbyn Gaza ddwywaith o’r blaen, yn 2008–9 a 2012, i atal ymosodiadau gan daflegrau Hamas ar ei dinasoedd a’i threfi. Gwanychu Hamas am sbel yw’r cyfan y mae Israel wedi’i gyflawni bob tro. Y gwir yw na all Israel, er gwaetha ei holl nerth milwrol, drechu Hamas unwaith ac am byth. Dim ond dulliau politicaidd a diplomyddol all ddatrys y broblem. Os na chawn gytundeb o’r fath, rydym yn rhwym o weld gwaed yn llifo yn Gaza eto rywbryd.Ar y llaw arall, mae datblygiadau yn Irac (a Syria drws nesa) wedi creu realiti newydd gyda goblygiadau hollbwysig nid yn unig i’r Dwyrain Canol ond i’r Gorllewin hefyd. Ymffrostiodd yr IS ei fod wedi dileu Cytundeb Sykes-Picot, y cynllwyn rhwng Prydain a Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a arweiniodd at sefydlu gwledydd modern Syria ac Irac. Ac mae’n wir fod y gwladwriaethau hynny i raddau helaeth wedi diflannu bellach. Methodd y gwrthryfel â disodli Bashar Assad, ond dim ond parthau gorllewinol Syria y mae ef yn eu rheoli erbyn hyn. Mae’r IS wedi concro’r rhan fwya o weddill y wlad (gan gynnwys meysydd olew yn y dwyrain). Cafodd yr elfen fwy cymedrol ymysg y gwrthryfelwyr, fel Byddin Rhydd Syria, ei thagu rhwng lluoedd Assad a’r IS, ac mae hi ar fin cael ei llwyr drechu.Ym mis Mehefin defnyddiodd yr IS ei droedle yn Syria i feddiannu darn enfawr o orllewin Irac, hyd at drothwy Baghdad ac Arbil, prifddinas Rhanbarth Ymreolaethol Cwrdistan. Gyrrwyd allan o’u cartrefi hynafol yng ngogledd y wlad ryw 1.2 miliwn o bobl, y rhan fwya ohonynt yn aelodau o’r lleiafrifoedd Cristnogol a Yazidi. Os na fydd y trueiniaid hyn yn cael lloches mewn gwledydd gorllewinol bydd angen eu cynnal mewn gwersylloedd ffoaduriaid yng Nghwrdistan a Thwrci am flynyddoedd i ddod. Dyma’r realiti newydd cyntaf y mae’n rhaid dygymod ag ef.
26 Awst 2014
ganPedr Jones
Swn Da A Digon Ohono – Cloriannu Gigs Eisteddfod Sir Gâr
Roedd amrywiaeth ryfeddol o gigs a gweithgareddau yn fodd i wneud Eisteddfod eleni’n un gofiadwy i ddilynwyr cerddoriaeth gyfoes Gymraeg.Nid yr un yw’r Eisteddfod i bawb. Diwrnod yn y pafiliwn a phic i’r Babell Lên cyn swper ac yna ciando yn y garafan i rai. Treps rownd y maes a gwin yn Pl@tiad cyn cyngerdd neu stomp neu noson lawen yn y pafiliwn i eraill. Ac i eraill eto, dau neu dri pnawn hwyr ar far y maes cyn dechrau ar noson arall o yfed ei hochr hi i gyfeiliant y gerddoriaeth gyfoes orau sydd gan y Gymraeg i’w chynnig. Ac nid campiwrs Maes B yn unig sydd â siâp niwlog felly i’w dyddiau. Daeth dechrau calonogol i’r wythnos wrth i bob tocyn gael ei werthu ar gyfer gig yn y Thomas Arms ar y Sadwrn cyntaf, gyda Jamie Bevan yn cynhesu’r ystafell i’r hedleinar gael mynd yn ail. Yn union fel y gwnaeth flwyddyn yn ôl mi aeth Meic Stevens i lawr ar y rhaglen gan adael Neil Rosser i orffen. Ar ben y ffaith ei fod eisiau noson dda o gwsg bellach, tebyg fod Swynwr Solfach yn ddigon hirben i sylweddoli ei bod yn haws cau cegau pobl gyda pheint neu dri’n llai ynddynt, er iddo, yn ôl ei arfer, fwrw ei lid ar y rhai oedd yn siarad yn y bar. A llawn oedd gigs nesaf Cymdeithas yr Iaith hefyd. Bu Crys yn ei waldio hi yng Nghlwb Rygbi’r Ffwrnes ar y nos Lun, gan beri ychydig o ddryswch ymysg ffans ifanc Y Bandana, Y Reu a Castro gyda roc a oedd mor hen ffasiwn i’w clustiau nes ei fod yn brofiad hollol newydd. Roedd y Thomas Arms yntau dan ei sang yn gig Steve Eaves a Geraint Løvgreen ar y nos Fawrth. Mae disgwyl i Eaves ei hoelio hi bob tro, ond roedd egni arbennig ganddo i ddilyn y parti o berfformiad a gafwyd gan Løvgreen gyda’i lwyth hegar newydd o ganeuon yn lambastio’r cambihafwyr-bwysigyddion cyfoes dros sylfaen o’r hen glasuron, a hynny ar ôl derbyniad gwresog i set sgleiniog Siddi. A gwresog oedd hi yno’r noson wedyn yn ogystal wrth i Ail Symudiad barhau â’u haf prysur yn dilyn cyhoeddi eu cyfrol o atgofion.Y nos Fercher oedd noson gyntaf Maes B hefyd, a chafwyd gig ychwanegol annisgwyl wrth i’ch gohebydd a’i gymdeithion dreulio awren dda ar falconi eu fflat ger y môr yn gwrando ar set Yr Ods a oedd yn glir fel grisial er eu bod yn chwarae o leiaf dair milltir i ffwrdd. Amheuwyd bod y dyn sain clodwiw Aled Ifan yn refio’r system i’r eithaf, ond dysgodd eich gohebydd ychydig o wyddoniaeth – gan fod y llanw i mewn roedd y sain yn bownsio’n syth o’r dwr i’r dre yr ochr arall, gan wylltio mamau plant cyndyn-o-gysgu a oedd eisiau gwybod beth oedd y cyffro. Doedd dim smic i’w glywed oddi yno’r noson wedyn gan fod y llanw allan (does bosib fod Aled Ifan wedi derbyn cerydd yr awdurdodau lleol). Y Ffug oedd yr enw poeth y tro yma. Roedd bygwth perfformiad gan y rhain a fyddai’n eu taflu i gae’r bois mawr ers tro, ac mi ddaeth. Yn wir, roedd dau neu dri mynychwr profiadol yn mynnu mai dyma’r peth gorau iddynt ei weld ym Maes B erioed.Lle sydd wedi mynd o o nerth i nerth ers ei sefydlu yn 2013 ydi Caffi Maes B a oedd yn orlawn drwy’r wythnos fwy neu lai. Roedd y sesiynau yn amrywio o set annisgwyl gan ddau aelod o’r Trwynau Coch i’r ddadl ddigri am y degawd gorau yn hanes canu cyfoes Cymraeg (er fod Rhys Mwyn, un o aelodau’r panel, wedi llwyddo i flogio am ei siom yn y digwyddiad fel petai o’r peth pwysicaf ers treialon Nuremberg) a’r perfformiadau gan fandiau newydd sefydledig fel Swnami a Candelas ynghyd ag ambell i syrpreis fel Jessop a’r Sgweiri. Dyma fand sy’n bygwth na fydd unrhyw gigs eraill o hyn ymlaen, ond mae’n debyg mai’r rheswm am hynny yw nad oes neb yn cynnig. Does dim ffryntman na band parti gwell. Drefnwyr, ewch ar eu holau canys bydd yn drychineb os gadewir i’r band yma farw. Plesio’n arw hefyd a wnaeth Saron, y ddeuawd hynod ifanc eu gwedd o’r ‘saithdegau’, a’u geiriau fel ‘Cân ddigalon yw hon am boen a phethau felly’ yn cyfuno doniolwch a chanu sicr, hyderus. Roedd ffordd agos-atoch-chi, hen ffasiwn Siân, Siwan ac Elfed wrth gyflwyno’u caneuon soniarus yn edliw inni oes gynhesach rywsut.
26 Awst 2014
ganHefin Jones
Prifwyl ddramatig – Cloriannu Theatr Eisteddfod Sir Gâr
Mewn cwt ac mewn caffi ar y maes, mewn awditoriwm ac mewn stiwdio deledu – roedd sioeau a gweithgareddau theatr yr Eisteddfod eleni yn digwydd ar hyd y lle i gyd, gan gadw ein gohebydd ar flaenau ei draed, ond yn hapus.Mae darpariaeth theatr yr Eisteddfod yn mynd o nerth i nerth bob blwyddyn, ac eleni gwelwyd datblygiad cyffrous arall ar y maes sef codi gofod perfformio newydd gan y Theatr Genedlaethol o’r enw Y Cwt Drama. Yn hwn y llwyfannwyd nifer o ddarlleniadau ‘gwaith ar waith’ y cwmni, sef darlleniadau sgript mewn llaw o waith sydd wrthi’n cael ei ddatblygu ganddynt gyda chyfle i’r gynulleidfa roi adborth. Yn y Cwt Drama hefyd y llwyfannwyd Dwr Mawr Dyfn (cyd-gynhyrchiad y Theatr Genedlaethol, Sherman Cymru a’r Eisteddfod) gan Glesni Haf Jones, drama fuddugol cystadleuaeth y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych y llynedd. Drama ddwys a dirdynnol yw hon sy’n adrodd hanes Tryweryn, merch ifanc sy’n ei boddi ei hun yn y llyn a roddodd iddi ei henw a chafwyd perfformiad ysgytwol gan Manon Vaughan Wilkinson yn y brif ran. Efallai fod y ddrama yn ceisio ymdrin â gormod o themâu trymion, megis hunanladdiad, llosgach, marwolaeth plentyn a salwch meddwl, ac yn gwegian braidd dan straen yr holl ddigalondid. Ond mae gan Glesni yn sicr ddawn i sgriptio a chymeriadu, ac edrychaf ymlaen at weld mwy o waith ganddi yn y blynyddoedd i ddod. Rhaid canmol y Theatr Genedlaethol am roi llwyfan teilwng i enillwyr y gystadleuaeth bwysig hon. Llongyfarchiadau hefyd i Dewi Wyn Williams ar ennill y Fedal Ddrama eleni. Gobeithio y bydd ei waith yntau’n cael ei berfformio yn fuan. Ar y dydd Llun gwelais Sharon Morgan a T. James Jones yn darllen detholiad o Dan y Wenallt, addasiad newydd yr olaf o Under Milk Wood. Gwyr pawb fod Sharon Morgan yn actores ragorol, ond wyddwn i ddim tan hyn fod T. James Jones yn actor cyfareddol hefyd. Profodd y darlleniad hwn nad i’r ifanc a’r ystwyth o gorff yn unig y perthyn y theatr Gymraeg, ac y gall gwylio dau actor hyn yn darllen clasur o addasiad fod yn brofiad cyfoethog iawn i gynulleidfa.A’r Eisteddfod yn ymweld ag ardal Llanelli, mae’n addas iawn fod y Theatr Genedlaethol wedi penderfynu ail-lwyfannu Dyled Eileen. Mae teitl y ddrama rymus hon nid yn unig yn cyfeirio at y ddyled y gwrthododd dau o gyn-drigolion y dref, Eileen a Trefor Beasley, ei thalu, ond hefyd y ddyled sydd arnom ni fel Cymry iddyn nhw am iddynt frwydro ac aberthu dros gydnabyddiaeth swyddogol i’n hiaith. Gwelsom y gwr a’r wraig angerddol ond annwyl yn dechrau ar eu bywyd priodasol drwy hel eu dodrefn ynghyd, dim ond i’r beili ddod a hawlio’r cyfan a gadael eu hystafell fyw mor foel ag Ystafell Gynddylan. Mae’r ddrama dyner hon yn deyrnged deilwng i frwydr y Beasleys ac roedd yn werth ei hail-lwyfannu.Un o gynyrchiadau mwyaf arbrofol yr Eisteddfod eleni oedd cynhyrchiad cwmni Pluen o Llais gan yr awdur ifanc Elgan Rhys Jones. Sioe un dyn ddieiriau ond egnïol oedd hon yn archwilio thema bwlio; cawsom olwg ysgytiol ar y gwewyr seicolegol hir dymor y gall bwlio ei achosi ac un o negeseuon y cyflwyniad oedd bod rhaid torri ar y patrymau negyddol hyn os am ddianc o’r cylch dieflig. Mae’n hynod o anodd creu sioe ddieiriau ac iddi naratif pendant; ac er i’r sioe hon gloffi a gogor-droi ar brydiau roedd yn gyflwyniad dirdynnol a heriol gan gwmni theatr ifanc a chyffrous. Edrychaf ymlaen at weld mwy ganddynt yn y dyfodol.I mi, un o uchafbwyntiau’r wythnos oedd Garw, cynhyrchiad Theatr Bara Caws o ddrama newydd Siôn Eirian.
26 Awst 2014
Twyll llwyddiannus clasur ‘Cymraeg’
Ar raglen ar S4C yn ddiweddar datgelwyd fod gwaith y credid tan hyn ei fod yn nofel Gymraeg wreiddiol am y Rhyfel Mawr mewn gwirionedd yn addasiad o lyfr Saesneg. Yr un a wnaeth y darganfyddiad, a chyflwynydd y rhaglen, sy’n cymharu’r ddau lyfr ac yn trafod ambell gwestiwn amserol sy’n codi yn sgil y gymhariaeth honno. Adroddir yr hanes yn llawn mewn rhagymadrodd i argraffiad newydd o Gwaed Gwirion.Byddai’n anodd peidio â thynnu cap yn edmygus i’r diweddar Emyr Jones a aeth i’w fedd yn 1999 gan wybod bod ‘cyfrinach’ Gwaed Gwirion (1965) wedi ei chadw. Dim ond yn ddiweddar y datgelwyd bod yr hyn a ystyriwyd ers ei chyhoeddi gyntaf bron hanner canrif yn ôl yn nofel orau’r Rhyfel Byd Cyntaf yn Gymraeg – aeth Tecwyn Lloyd mor bell â’i disgrifio fel yr ‘unig wir nofel ... am ryfel yn Gymraeg’ ar dudalennau’r cylchgrawn hwn yn 1969 – mewn gwirionedd yn gyfaddasiad o hunangofiant milwrol a gyhoeddwyd yn Saesneg yn 1930. Hell on Earth gan y Preifat F. Haydn Hornsey yw’r sail ar gyfer y gyfrol Gymraeg, a chyda’r naill bellach ar gael yn rhwydd fel e-lyfr ar wefan Amazon a’r llall mewn argraffiad newydd sbon, gall y chwilfrydig gymharu’r ddau destun wrth eu pwysau.Does dim modd osgoi’r ergyd foesol yn yr enw ‘llên-leidr’. Swnia plagarist rywsut yn grandiach a llai cyhuddgar, er bod tarddiad Lladin y gair hwnnw’n cyfeirio at un sy’n herwgipio plentyn neu gaethwas rhywun arall. Ond golyga’r datgeliad hwn fod rhaid ailystyried safle Emyr Jones fel awdur gwreiddiol a chreadigol. Nid ef a ddyfeisiodd Gwaed Gwirion o’i ben a’i bastwn ei hun wedi’r cyfan, ond yn hytrach, yr hyn a wnaeth oedd addasu stori wir Haydn Hornsey a’i chyflwyno’n gamarweiniol fel nofel hanesyddol o safbwynt cymeriad a alwodd yn ’Rhen Sarjant. Os oes gwreiddioldeb a chreadigrwydd yn dal i nodweddu Gwaed Gwirion – ac fe ddadleuwn i o blaid hynny – yna yn ei mynegiant y canfyddir hynny bellach. Ac os yw’r testun yn teilyngu statws clasur – ‘dyma ryfel 1914–18 wedi cael ei epig yn Gymraeg,’ chwedl neb llai na Saunders Lewis – yna rhaid seilio’r achos dros hynny ar y gamp o gyfaddasu ysbrydoledig a geir ynddo.Cymharer, er enghraifft, y mynegiant o ryddhad a deimla Dan a Meic a Chopper pan ddônt o hyd i babell i gysgu ynddi yn Gwaed Gwirion gyda’r hyn a geir yn Hell on Earth: ‘mi suddon i mewn i’r gwellt fel cathod mewn tas wair’; ‘So far this was the best bed we had had since we came out to France’. Onid mwy diddorol yw’r gyffelybiaeth ddomestig a chartrefol yn y trosiad Cymraeg? Onid bywiocach yw’r elfen o hiwmor yn y Gymraeg o gymharu â’r syndod plaen yn y Saesneg mewn enghraifft arall? ‘"Good God – Chester a Corporal!" I exclaimed as I looked at Bill in amazement, he at the same time looking at me simply staggered’; ‘"Chopper yn gorp’ral! Pan glywan nhw’r newydd yn Berlin mi fyddan yn lluchio’r tywal i mewn ar unwaith ac yn crefu am heddwch!"’
26 Awst 2014
Sefyll Yn Nrws Ei Fyd – Cofio Gerallt Lloyd Owen
Ym mis Gorffennaf eleni, yn 69 oed, bu farw Gerallt Lloyd Owen, un o feirdd Cymraeg mwyaf arwyddocaol ein hoes.Roedd hi’n addas rywsut ei bod yn hwyrhau pan glywais i am farwolaeth Gerallt gan mai i gysgodion y nos y perthynai’r newyddion, nid i oleuni llachar yr haul. Mi es i allan o’r ty ar fy union ac edrych i lawr ar y pentre a Broncaereini ei hen gartre sydd bellach yn wag, a daeth cwpled o un o’i englynion coffa i Bob Lloyd – Llwyd o’r Bryn – i’r meddwl: Ias hwyrnos sy’n y Sarnau Oer ias y bedd dros y bau. Roedd hi’n noson hafaidd gynnes, ond roeddwn i’n rhyw sgrytian wrth glywed yr ias a chael yr hen deimlad yna o chwithdod a hiraeth y gwyddon ni i gyd mor dda amdano, a’r gwacter na all neb ei lenwi.Un Gerallt oedd yna wrth gwrs, ond roedd iddo amryw weddau. I’w gyd-ddisgyblion yn y Sarne – a phwysig cofio mai un o blant y Sarne oedd o – y fo oedd yr hogyn direidus mentrus y bu bron iddo foddi yn Llyn Caereini er mawr ddychryn i’w fêts, y saethwr nad oedd yr un deryn yn ddiogel pan oedd o gwmpas, y tynnwr coes a’r chwaraewr tricie a oedd yn gollwng llygod bach o drapie yn yr ysgol, y math o drapie oedd yn eu dal yn fyw a Gerallt yn rhoi ail gynnig ar fywyd iddyn nhw, heb yn wybod i’r prifathro wrth gwrs. I’w dad a’i fam y fo oedd yr hogyn a fu’n ddifrifol wael pan oedd o’n blentyn ac un oedd angen ei fwydo’n gorfforol a meddyliol. Ac i Bob Lloyd, dyma’r athrylith ifanc yr oedd angen ei feithrin a’i ddatbygu a hynny yn y gymdeithas lawen, glos, ddiwylliedig, gapelog a oedd yn nodweddu’r Sarne ym mlynyddoddedd canol y ganrif ddiwethaf.I ni fel teulu, bardd dwy ar bymtheg oed oedd Gerallt pan ddaethon ni i’w nabod o gynta, yn astudio at ei lefel A ac yn gwneud popeth ond astudio, un o deulu o feirdd, wedi ei fagu ar aelwyd lle y trafodid barddoniaeth yn amlach na’r tywydd. Mi fydde’n galw heibio ty ni ddwywaith neu dair yr wythnos yn y cyfnod hwnnw i drafod y gerdd ddiweddaraf a gyfansoddwyd ganddo, i dynnu coes gyda pharodïau, i chwerthin, gyda’r wich yn ei frest yn nodwedd ohono hyd yn oed bryd hynny, i ofyn mewn cywydd am fenthyg fan i fynd i Eisteddfod Dyffryn Conwy.
26 Awst 2014
Geiriau a Gormes
Fel rhywun sy’n gwirioni ar eiriau, mae gofyn cofio beth ydi grym gair, a mwy na hynny ’w’rach, beth ydi grym gair anghywir. Hanner yr hwyl wrth ysgrifennu ydi cael chwarae efo geiriau – creu cyfuniadau annisgwyl neu anghydnaws ac adeiladu ergyd brawddeg wrth roi’r union air yn yr union le, neu drio beth bynnag. Mae rhywun yn cael y cyfle i ’sidro wrth sgwennu – tafoli geiriau a phenderfynu beth i’w ddweud a sut i’w ddweud o, ac i saernïo swn y dweud. Gellir datgymalu brawddeg a’i gwnïo hi ’nôl mewn edau o liw gwahanol. Tydi’r un moeth ddim gan y sawl sy’n siarad neu areithio, ac mae hi’n llawer haws mynd i ddwr poeth wrth i lifeiriant o eiriau gario ambell i garreg fwy eger na’r disgwyl pan fydd rhywun yn mynd i hwyl. Gwell ’w’rach i’r penboeth aros wrth y gliniadur yn hytrach na mentro o flaen cynulleidfa... Ond ai dyna’r math o fywyd cyhoeddus ’dan ni isho? Rheseidiau o bobol lugoer sydd ofn tanio gormod rhag ofn iddyn nhw ddweud rhywbeth o’i le? Yn yr Eisteddfod eleni ro’n i’n cerdded y maes ac mi es i heibio i babell ble roedd cân Y Trwynau Coch, ‘Niggers Cymraeg’, yn chwarae. Mi wnes i feddwl yn syth am hanes Myfanwy Alexander, a ymddiswyddodd o gabinet Cyngor Powys ar ôl iddi ddefnyddio’r gair ‘N’ wrth drafod y driniaeth wael y mae cleifion o Gymru, yn ei golwg hi, yn ei chael mewn ysbytai dros y ffin. Cyn ymddiswyddo mi ymddiheurodd am ddefnyddio’r gair, gan esbonio ei bod wedi ei ddefnyddio ar ôl darllen disgrifiadau Maya Angelou o annhegwch y system iechyd yn America. Hynny yw, doedd hi ddim yn defnyddio’r gair mewn ffordd hiliol, ond yn hytrach yn ei ddefnyddio i ddisgrifio sefyllfa lle mae pobol, yn ei thyb hi, yn cael eu gormesu.Nid Myfanwy Alexander yw’r gyntaf o bell ffordd i ddwyn cymhariaeth rhwng y driniaeth o Gymry – a Chymry Cymraeg yn arbennig – a’r driniaeth o bobol dduon. Roedd y poster ‘Nigger Boy, John Boy, Cymro’ yn boblogaidd iawn ar un cyfnod, ac rydan ni’n hen gyfarwydd â chlywed mewnfudwyr i Gymru yn cael eu disgrifio fel ‘white settlers’. Wrth gwrs, mae’r gair ‘N’ yn symbol o bopeth sy’n erchyll am hiliaeth, ac mae’r sawl sy’n ei ddefnyddio, waeth be fo’r cyd-destun, mewn peryg o beri loes anferth i bobol eraill. Ond wedi dweud hynny, mae’n rhaid edrych ar fwriad geiriau hefyd.
26 Awst 2014
ganBeca Brown
Sgandal y cartrefi mamau a babanod / Bethan Kilfoil
<em>Siglwyd Iwerddon gan stori arall am gam-drin, esgeulustod a chreulondeb. Sgrechiai’r penawdau: ‘Wyth cant o fabis wedi eu dympio mewn tanc septig’; ‘Cannoedd o blant a babanod wedi marw mewn cartrefi dan ofal lleianod a’u claddu’n ddienw’. A holwyd: faint yn rhagor o feddi torfol o’r fath sydd yn Iwerddon?</em><p><img src="images/stories/2014_07/bethankilfoil.jpg" border="0" width="380" height="285" /> </p><p>Aeth y penawdau erchyll a’r cwestiynau rownd y byd ym mis Mehefin yn sgil y datgelu bod sgerbydau ac esgyrn wedi eu darganfod ger cyn-gartref i famau a babanod yn Tuam, swydd Galway. </p><p>Ond mae’r stori y tu ôl i’r penawdau yn fwy cymhleth na’r hyn a ymddangosodd ar y cyfryngau rhyngwladol. Ac, ysywaeth, dydy hi ddim yn stori anghyfarwydd yn Iwerddon. Nid am y tro cyntaf, dim ond ar ôl i’r mater dderbyn cyhoeddusrwydd y tu allan i Iwerddon y talwyd y sylw dyladwy iddo adre.</p><p>Dydy hanes trist a chreulon y Cartrefi Mamau a Babanod ddim yn stori newydd. Daethpwyd o hyd i’r esgyrn yn Tuam bron i ddeugain mlynedd yn ôl, ond dim ond rwan y mae’r holl hanes yn cael ei gydnabod a’i archwilio.</p><p>Mae Catherine Corless yn byw yn Tuam, ac yn ei disgrifio ei hun fel ffarmwraig, gwraig ty a garddwraig. Mae hi hefyd yn hanesydd lleol – ac erbyn hyn yn enw cyfarwydd ac yn dipyn o arwres yn Iwerddon. Ei hymdrechion hi i sicrhau sylw teilwng i blant bach a gafodd eu gwthio o’r neilltu gan gymdeithas, ac i godi cofeb iddyn nhw, sydd wedi arwain at yr holl benawdau. </p><p>Tua thair blynedd yn ôl fe benderfynodd Catherine sgwennu erthygl i’r papur lleol, y Tuam Journal, am gartref Bon Secours yn y dre. (Cartref oedd hwn a gâi ei redeg gan urdd o leianod a ddechreuodd ym Mharis yn 1822; Iwerddon oedd eu cenhadaeth dramor gyntaf yn 1861 pan oedd effeithiau’r Newyn Mawr yn amlwg o hyd.)</p><p>Roedd y cartref yn Tuam yn un o blith dwsinau o Gartrefi i Famau a Babanod ledled y wlad – y rhan fwyaf yn Babyddol, ond rhai dan ofal yr Eglwys Brotestannaidd. <br />Dyma lle'r oedd merched di-briod beichiog yn mynd i roi genedigaeth. Nid mynd yn wirfoddol wrth gwrs, ond cael eu hanfon yno gan eu teuluoedd i osgoi sgandal a chywilydd. Roedd y rhan fwyaf o’r merched yn cael eu gorfodi i roi eu babanod i gael eu mabwysiadu.</p><p>Hynny yw, wrth gwrs, os oedd y babi’n fyw ac yn iach. Roedd lefel salwch difrifol a marwolaethau tua theirgwaith yn uwch yn y cartrefi hyn nag yn y gymdeithas yn gyffredinol. Roedd y ffliw neu’r frech goch yn gallu cydio’n gyflym o fewn y cartrefi. Ac roedd y merched (lawer ohonyn nhw’n dlawd ac mewn gwendid) yn esgor dan amgylchiadau afiach. Roedd y cartrefi yn aml yn oer, weithiau’n fudr, a’r bwyd yn brin ac yn annigonol.</p><p>Gwyddai pobl Tuam fod bedd torfol ger y Bon Secours ar gyfer yr holl fabanod a phlant a drengodd yn y Cartref. Pan godwyd stad newydd o dai gerllaw yn y 1970au fe edrychodd y trigolion ar ôl y safle lle y tybiwyd yr oedd y bedd wedi ei leoli. Torrwyd y glaswellt, a chodwyd cerflun o’r Forwyn Fair.</p><p>Ond roedd Catherine Corless eisiau gwybod rhagor...</p><hr width="100%" /><p align="center"></p>
12 Gorffennaf 2014
Blas yr Afal a Gwin Gwyn Gwahanol
Seidr o’r Gororau a gwin gwyn o Libanus sy’n plesio ein colofnydd y tro hwn. Yn oriau mân y bore mewn tafarn yng nghanol ein prifddinas, dyma gyfaill mynwesol yn rhoi potel o’m blaen gyda’r gorchymyn: ‘Tria hwn – y seidr gorau gest ti erioed’. Am unwaith, roedd o’n dweud y gwir. Cynhyrchydd y seidr oedd Gwatkin, busnes bach teuluol ar fferm yn Abbey Dore, dros y ffin yn Swydd Henffordd, ac ar ôl Gwglo gwelsom fod trip beics yno yn bosibilrwydd cadarn. Da gennyf adrodd nad aeth y syniad gwych yn y dafarn, fel y rhan fwyaf o syniadau gwych mewn tafarndai, yn angof yn sobrwydd trannoeth. Gwta wythnos yn ddiweddarach, roeddem wedi dal y trên i’r Fenni ac wedi beicio’r ugain milltir yno drwy ffyrdd cefn siroedd Mynwy a Henffordd. Y peth diddorol i ni selogion gwin oedd pa mor agos oedd patrwm cynhyrchu y fferm seidr yn ymdebygu i’r hyn a fyddai’n nodweddiadol o gynhyrchydd gwin o safon uchel. Dim ond seidr a pherai o fathau unigol a wneir, sy’n sichrau bod blas cynhenid yr afal neu’r ellygen ar ôl gwasgu’r ffrwyth yno’n gryf o hyd. Fel y gallech ddisgwyl, mae rhai o’r diodydd yn sych grimp, eraill yn felys a’r lleill yn felys iawn, ond does dim yn cael ei ychwanegu – y syniad yw gadael i natur wneud ei gwaith. Mae’r blasau mae Gwatkin yn llwyddo i’w cael yn bur iawn, gydag arlliw o danin sych a surni’r afal weithiau yn dod i’r amlwg ar yr ôl-flas. Gwelsom y gwahanol fathau o gasgenni a ddefnyddir i aeddfedu, gan efelychu unwaith eto y patrwm cynhyrchu gwin. Daeth rhai o’r casgenni o ddistyllfeydd yr Alban ac o Sbaen gan gynhyrchwyr sieri, a oedd yn ychwanegu blas cynnil at y cynnyrch gorffenedig. Fy ffefryn ohonynt i gyd yw’r Yarlington Mill, afal hynafol sy’n gynhenid i Wlad yr Haf ond a dyfir yn helaeth drwy Swydd Henffordd. Dyma seidr sy’n llawn haeddu ystyriaeth ochr yn ochr â’r gwinoedd gorau, cymaint yw dyfnder a chymhlethdod ei arogleuon a’i flasau. Daeth fy nhro i gynnal ein noson blasu dall ymysg fy ffrindiau. Fe wyddoch y drefn bellach – pawb yn dod â photel o rywbeth da a diddorol, a’r gweddill ohonom yn mwynhau dyfalu beth ydyw ac o ble y daeth. Mae llawer o selogion Chateau Musar yn ein plith, gwin unigryw o Lebanon ac iddo hanes rhyfeddol – er enghraifft, yn y rhyfel cartref yn Libanus yr 1980au roedd yn rhaid i’r casglwyr grawnwin osgoi bwledi er mwyn dod â’r cynnyrch o’r winllan yn ddiogel. Nodwedd arall ar Musar yw y caiff ei gadw’n ôl a’i ryddhau ar ôl pump i ddeng mlynedd. Efallai fod consensws cryf fod y coch ymysg y goreuon, ond nid felly y farn am y gwyn, a dyna oedd fy ngwin dall i.
12 Gorffennaf 2014
Gwybod Dim, Malio Dim – Y Cyhoedd a Gwleidyddiaeth Gymreig
Pam nad oes mwy o ddiddordeb gan bobl Cymru yng ngwleidyddiaeth Bae Caerdydd? A fyddai trefn ffederal o ethol llywodraethwr ar y wlad yn fodd i fywiogi pethau? Ym mis Mehefin datgelodd arolwg a gynhaliwyd gan y BBC pa mor anwybodus yw’r cyhoedd am y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru wedi 15 mlynedd o ddatganoli.Gellid maddau i’r cyhoedd am rywfaint o ddryswch. Mae’n wir nad yw’r ffin rhwng grymoedd y Cynulliad a San Steffan yn gwbl eglur i’r gwleidyddion, y gweision sifil na’r newyddiadurwyr sy’n adrodd ar y sefydliad hyd yn oed – ddeallais i erioed sut roedd Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol (yr LCOs) yn gweithio! Ond mae’n destun pryder mawr bod llai na hanner poblogaeth y wlad yn gwybod mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am iechyd, a thua’r un faint wedi tybio ar gam mai nhw sy’n gyfrifol am yr heddlu. Mae’r gamdybiaeth ynghylch iechyd hyd yn oed yn fwy syfrdanol o ystyried bod yr un arolwg yn cynnwys cwestiwn sy’n gofyn pa mor llwyddiannus y bu Llywodraeth Cymru wrth reoli’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.A ellir cael unrhyw fath o ddemocratiaeth weithredol pan fo etholwyr mor anwybodus? Y peryg yw, pan ddaw etholiad, mai pleidleisio ar sail gwleidyddiaeth San Steffan y bydd pobl – er mwyn ‘gyrru neges’, chwedl y Blaid Lafur – yn hytrach nag ar sail yr hyn mae’r pleidiau a’r gwleidyddion wedi ei gyflawni yn y Cynulliad. Felly pwy neu beth sydd ar fai?Gellir pwyntio bys at y cyfryngau Llundeinig am beidio â chynnwys rhagor o newyddion am Gymru. Cyfeiriwyd yn aml yn ddiweddar at amharodrwydd Question Time i gynnwys gwleidyddion a phynciau trafod Cymreig, hyd yn oed pan maen nhw’n ffilmio’r ochr yma i Glawdd Offa. Ond o safbwynt darlledwyr a chyhoeddwyr papurau newydd Llundain, canran fechan iawn o’u gwylwyr a’u darllenwyr yw’r Cymry. Nid yw’n annisgwyl eu bod yn dewis canolbwyntio ar straeon a phynciau sydd o ddiddordeb i fwyafrif eu cynulleidfa – hynny yw, trigolion de-ddwyrain Lloegr. Mae yna beryg hefyd ein bod ni’n rhoi gormod o bwyslais ar gyfrifoldeb y wasg yn yr oes ddigidol sydd ohoni – nid yw’r golygyddion yn gwarchod pyrth gwybodaeth yn yr un modd ag yr oedden nhw. Mae’r we o fewn cyrraedd pawb, bron, erbyn hyn, ac mae ffeithiau syml am drefn lywodraethol Cymru vis-à-vis gweddill y Deyrnas Unedig ar gael o fewn clic ar borwr Google.Mae’n amlwg fod yna broblem fwy sylfaenol fan hyn na diffyg sylw gan y cyfryngau. Nid yw’r Senedd wedi llwyddo i ddal dychymyg y bobl. Does gan bobl ddim diddordeb.Mae’r ‘wleidyddiaeth gonsensws’ sy’n nodweddiadol o Fae Caerdydd yn beth da ym marn nifer, ond braidd yn ddiflas yn nhyb eraill. Nid oes rhyw lawer o wahaniaeth barn rhwng y prif bleidiau. Ac nid yw o gymorth yn hynny o beth fod yr un blaid wedi dal awenau grym yng Nghymru ers 15 mlynedd, ac yn debygol o wneud hynny am ddegawdau eto. Fel y dywedodd yr Athro Gerald Holtham yn ddiweddar, mae angen polau piniwn agos, a dadleuon da rhwng y pleidiau, os yw gwleidyddiaeth am fod yn ddiddorol.Gellir cynnig dau ateb i’r broblem hon.
12 Gorffennaf 2014
Miles sy’n dweud…Algeria a’r freuddwyd goll
Gareth Miles<br /> <p><em>Cofio ei ymweliad, yn ôl yn y 1960au, â gwlad a gafodd ddylanwad mawr ar ei wleidyddiaeth y mae’r colofnydd y tro hwn, er y bu tro ar fyd yn y gyn-drefedigaeth Ffrengig ers y dyddiau delfrytgar hynny. </em></p><p><img src="images/stories/2014_07/gareth%20miles3.jpg" border="0" width="353" height="212" /> </p><p>Byddaf, o bryd i’w gilydd, yn dyfalu beth fuasai fy hanes petawn i heb daro ar y diweddar W.J. Davies, prifathro cyntaf Ysgol Morgan Llwyd a ffrind i ffrind i mi – Gwenlyn Parry – yn hen faes parcio Stryd Llyn, yng Nghaernarfon, fis Mehefin 1964, bron union hanner canrif yn ôl. </p><p>Roeddwn newydd gyflwyno fy ymddiswyddiad i brifathro Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch, gyda’r bwriad o dreulio cyfnod amhenodol yn Algeria yn helpu, orau gallwn, drigolion y wlad honno i’w chodi ar ei thraed wedi canrif a mwy o orthrwm trefedigaethol a degawd o ryfel annibyniaeth gyda’r creulonaf a welwyd yn yr 20g. </p><p>Deilliai fy niddordeb yn y wlad o’r flwyddyn-ysgol, 1960–61, a dreuliaswn yn Bordeaux fel<em> assistant de langue anglaise</em>. Cefnogwn yr FLN (<em>Front de Libération Nationale</em>), cyfeillachwn gyda myfyrwyr o Algeria a mynychwn gyfarfodydd yr undebau llafur a’r Blaid Gomiwnyddol a alwai ar yr Arlywydd Charles de Gaulle i ddirwyn y rhyfel i ben. Cofiaf yn arbennig y rali enfawr a gynhaliwyd fis Ionawr 1961 yn y sgwâr o flaen Eglwys Gadeiriol Bordeaux pan fygythiai cadfridogion yn Algeria a Corsica groesi Môr y Canoldir gyda’u lluoedd a dymchwel y Llywodraeth. </p><p>Drylliwyd fy ffrancoffiliaeth ramantus a cheidwadol gan y profiadau hynny a phenderfynais mai ar y Chwith y byddai fy nhrigfan wleidyddol. </p><p>Gwlad drist a diobaith oedd Cymru 1964 i genedlaetholwr ifanc a siomwyd gan aflwydd Tryweryn. Methiant truenus fu protest dorfol, gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, fis Chwefror 1963, yn Aberystwyth, yn fy marn i ac eraill. Rhoddodd y Comisiwn Brenhinol a ddeilliodd ohoni esgus i adrannau o’r llywodraeth ganol a llywodraeth leol ohirio ystyried codi statws swyddogol y Gymraeg ‘nes byddwn ni wedi darllen Adroddiad Syr David Hughes-Parry’. </p><p>Dyna pam y penderfynais yr awn i wasanaethu cenedl a werthfawrogai fy nelfrydiaeth a gwlad lle y dysgwn bethau a fyddai o fudd i ’ngwlad fy hun pe deffrai honno. Sgrifennais at ryw adran o Lywodraeth Algeria a derbyn gair yn ôl yn cynnig swydd i mi fel athro neu gyfieithydd. </p><p>Ond roedd gan W.J. broblem ddifrifol: neb i ddysgu Saesneg na Ffrangeg yn ei ysgol gyfun Gymraeg newydd sbon ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Pan grybwyllais fod gen i’r cymwysterau perthnasol anogodd fi i gynnig am y swydd. Gwnes hynny a’i chael. </p><p>Mi es i Algeria y flwyddyn honno ond ar bererindod yn hytrach nag i weithio; taith a ysgogwyd gan euogrwydd ac awydd i dalu teyrnged i genedl a edmygwn ac a ddylanwadodd i’r fath raddau ar fy naliadau gwleidyddol. </p><p><em>Comet </em>– yr awyren jet gyntaf imi hedfan ynddi – o Lundain i Gibraltar. Croesi’r ffin i borthladd Algeciras yn Sbaen a chwch o fan’no i Ceuta, dinas ar arfordir Moroco sy’n dal yn drefedigaeth Sbaenaidd. Bws o Ceuta i Tetouan. Bws arall i Oujda ger y ffin ag Algeria. Croesi’r ffin ac ymlaen tuag Algiers mewn tacsi efo chwech o Arabiaid hynafol mewn <em>djebellas </em>gwynion, llaes ac un Affricanwr mawr, hwyliog a wnaeth i mi chwerthin lawn cymaint â’r lleill, gydol y siwrnai dros yr anialwch, er na ddeallwn air a ddywedai. Bore Llun Eisteddfod Genedlaethol Abertawe oedd hi a meddyliais am Orsedd y Beirdd ac Eirwyn Pont-siân. Cyrhaeddais Algiers mewn trên o’r math a welir mewn ffilmiau cowbois. </p><hr width="100%" /><p align="center"></p>
12 Gorffennaf 2014
Mynd i’r Capel – Eto
Dwi wedi bod yn sgwennu colofn i rywun ers bron i ugain mlynedd bellach, a’r rhan fwyaf ohonyn nhw i’r cylchgrawn hwn. Mae pynciau wedi mynd a dod, a rhai – gormod ’w’rach – wedi dod rownd unwaith eto. Wel trïwch chi sgwennu rhywbeth gwreiddiol am y Steddfod neu’r Nadolig bob blwyddyn am ugain mlynedd... Mae’r ymateb hefyd wedi mynd a dod – dim gair weithiau, ac wedyn llythyrau. Rhai i’w trysori am byth, ac ambell un sy’n neidio o’r amlen i’ch brathu chi. Yn sicr, nid wrth sgwennu colofn mae ennill enw am fod yn annwyl a hoffus. Mae ’na ambell i golofn yn sefyll yn y cof am eu bod nhw wedi ennyn ymateb mawr, neu ymateb annisgwyl – neu’r ddau. Mi wnaeth un fy landio ar dudalennau blaen y tabloids yma yng Nghymru, am imi feiddio trio cael trafodaeth onest ac agored am y gair ‘hiliaeth’ yng nghyd-destun Cymru a Lloegr. Colofn yn ymateb i’r nofel Fifty Shades of Grey oedd un arall, a’r un fwya’ diweddar oedd colofn yn trafod y capel, a’r ffaith ’mod i wedi dechra’ mynychu un. Dwn ’im faint o arwyddocâd sydd ’na i’r ffaith mai ysgrifau ar Saeson, secs a Christnogaeth sydd wedi ysgogi’r ymateb mwya’, ond dyna sut mae hi wedi bod hyd yma. Yr ola’ o’r uchod dwi am ei drafod tro ’ma, a’r ymateb cymysg ac annisgwyl ges i i’r golofn ‘Mynd i’r capel’. I’r rhai ohonoch na welodd y darn hwnnw, cychwyn mynd ddaru mi yn sgil y plant, am eu bod nhw wedi gofyn i gael mynd i’r Ysgol Sul. Fy ngreddf, os ydw i’n onest, oedd i ddweud ‘na’, yn rhannol oherwydd nad o’n i erioed wedi bod i’r un oedfa – ac oherwydd rhagfarn, ofn ’w’rach, a’r ffaith nad ydw i’n credu. Ond mi es i, a chanfod mod i’n mwynhau mynd, er ’mod i ddim bob tro yn siwr iawn pam. Doeddwn i’n sicr ddim yn cyd-weld â phob dim ddaeth o’r pulpud, ond roedd ’na rywbeth am yr iaith, y canu, y teimlad o gymuned, a’r cysylltiad cyson efo pobol hyn y pentref a oedd yn rhoi rhywbeth imi nad o’n i’n ei gael yn nunlle arall. Roedd yr ymateb yn dilyn cyhoeddi’r golofn yn ddiddorol iawn. Derbyniais i lythyrau hyfryd gan bobol na fyddwn i byth yn disgwyl eu bod nhw’n darllen fy ngwaith i heb sôn am ei fwynhau o, a mi ges i sylwadau llawn amheuon gan bobol eraill. ‘Wt ti ’di cael tröedigaeth?’ oedd un o’r rhai mwya’ poblogaidd. Doeddwn i ddim, a dydw i ddim, ond mi rydw i’n dal i fynd i’r capel. ‘Fysa fo’m yn well i ti fynd am dro yn lle mynd i fan’na?’ oedd un arall ges i. Ond mi fyswn i’n deud bod yr hyn dwi’n ‘ei gael’ o fynd i’r capel yn rhywbeth reit debyg i’r hyn dwi’n ei gael o fynd am dro. Weithiau, mae rhywun angen rhywbeth sy’n fwy na fo’i hun, a dyna dwi’n ei gael wrth glywed hen iaith, a chanu hen ganeuon ac wrth droedio hen lwybrau.
12 Gorffennaf 2014
ganBeca Brown
Arwyddocâd twf UKIP / Richard Wyn Jones
<em>Enillwyd Lloegr gan blaid Nigel Farage yn etholiadau Ewrop ym mis Mai. Ond y syndod pennaf oedd y ffaith fod UKIP wedi dod o fewn 0. 5% i gipio’r mwyafrif o’r pleidleisiau yng Nghymru hefyd. Sut tybed fydd hynny’n effeithio ar ddeinameg wleidyddol Cymru o hyn ymlaen? </em><p><img src="images/stories/2014_07/nigelfarage.jpg" border="0" width="378" height="358" /> </p><p>Dwn i ddim faint o ddarllenwyr Barn a glywodd erioed am Seymour Martin Lipset a Stein Rokkan? Ddim llawer, mae’n siwr. Ond i ni efrydwyr gwleidyddiaeth maent ymysg y mawrion: saif gwaith y ddau yn gonglfeini ar gyfer y maes. </p><p>Yn ddiddorol ddigon roedd gan yr ail ohonynt gysylltiad clos iawn â Chymru. Er iddo gael ei eni ar un o ynysoedd Lofoten – cyfres o ynysoedd hardd sy’n ymwthio’n dalog i ddyfroedd gwyllt yr Iwerydd oddi ar arfordir gogledd Norwy – fe briododd Gymraes a gyfarfu ar siwrnai trên yn yr Eidal yn fuan wedi’r Ail Ryfel Byd. Ar ôl iddo briodi Elizabeth, merch i Athro Cymraeg Coleg Llambed, bu’r ddau’n treulio’u gwyliau haf yn Nhyddewi hyd at farwolaeth ddisymwth y cawr o ysgolhaig yn haf 1979. Eglura hynny’n rhannol y cyfeiriadau digon mynych a geir at Gymru yng ngwaith Rokkan, rhai anarferol o wybodus a threiddgar – yn sicr o’u cymharu â’r llu ysgolheigion Seisnig ac Americanaidd a arferai anwybyddu Cymru’n llwyr wrth drafod gwleidyddiaeth ‘Prydain’.</p><p>Fe ysgrifennodd Lipset a Rokkan doreth o lyfrau ac erthyglau pwysig ond fel deuawd, fel petai, maent fwyaf enwog am eu gwaith ar ‘raniadau’. (‘Cleavages’ ydi’r gair Saesneg a ddefnyddir ganddynt – gan sicrhau felly fod darlithwyr prifysgol flwyddyn ar ôl blwyddyn yn gorfod wynebu dosbarthiadau o fyfyrwyr isradd yn crechwenu bob y trafodir eu syniadau... Mae eisiau gras!)</p><p>Tybiai’r ddau fod pedwar rhaniad yn nodweddu gwleidyddiaeth y gorllewin ers y chwyldro diwydiannol, fel a ganlyn: rhaniad rhwng gwlad a thref; rhwng yr eglwys a’r wladwriaeth; rhwng llafur a chyfalaf; a rhwng y craidd a’r cyrion. Er mwyn deall gwleidyddiaeth, y gamp oedd ceisio dirnad sut yr oedd y rhaniadau yma’n rhyngweithio a chyd-blethu â’i gilydd yn amgylchiadau penodol gwahanol gymdeithasau.</p><p>Un o ddadleuon mwyaf trawiadol Lipset a Rokkan oedd bod systemau pleidiol wedi eu ‘rhewi’. Hyn yn yr ystyr fod y pleidiau a rhaniadau pleidiol wedi aros yr un fath tra mae’r patrwm o raniadau cymdeithasol a fu unwaith yn sail iddynt wedi newid yn ddirfawr yn y cyfamser. Yn benodol, ‘The party systems of the 1960s,’ meddai’r ddau yn 1967, ‘reflect, with few but significant exceptions, the cleavage structures of the 1920s.’</p><p>Hyd yn ddiweddar iawn, beth bynnag, er bod dadl Lipset a Rokkan erbyn hyn bron hanner canrif yn hwn, roedd hi’n ymddangos fod eu tybiaeth ynglyn â ‘rhewi’r gyfundrefn bleidiol’ yn parhau i ddal dwr. Ar lefel Brydeinig, y Torïaid a Llafur oedd y ddwy blaid fawr a dra-arglwyddiaethai, gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol yn parhau’n rym mewn ambell i gornel benodol. Yn ddiau, er gwaetha’r ffaith fod Plaid Cymru wedi ei sefydlu ganol y 1920au, roedd twf cenedlaetholdeb yn yr Alban a Chymru wedi 1966 – datblygiad a oedd o ddiddordeb mawr i Rokkan ei hun – yn cymhlethu pethau o ran perthnasedd y ddamcaniaeth i wleidyddiaeth y ddwy wlad honno. Efallai fod y rhain ymysg y ‘significant exceptions’ a grybwyllir yn y dyfyniad. Eto i gyd, go brin y gallai unrhyw un honni fod cyfundrefn bleidiol Lloegr yn sylfaenol wahanol yn negawd cyntaf yr 21g. i’r hyn ydoedd yn ail ddegawd y ganrif o’i blaen.</p><p align="center">* * *</p><p>Daeth Lipset a Rokkan i’r cof yn y dyddiau wedi canlyniadau rhyfeddol yr etholiad Ewropeaidd ym Mhrydain ddiwedd Mai. Gan fod y canlyniad wedi ei ragweld; ac am fod gan y pleidiau mwyaf ill dwy ddiddordeb mewn bychanu ei arwyddocâd; a chan fod cymaint o sylwebwyr gwleidyddol mor ddirmygus o Nigel Farage a’i griw, rwy’n tybio fod tuedd i ddiystyru pa mor rhyfeddol oedd perfformiad UKIP. Ond mae’r syniad y gallai plaid gymharol newydd ac ymylol ddod yn fuddugol mewn etholiad ‘cenedlaethol’ yn un y byddem, gwta ddegawd yn ôl, wedi ei wfftio’n llwyr. Mae UKIP wedi cyflawni camp aruthrol. Y cwestiwn mawr yn awr yw hyn: a yw buddugoliaeth UKIP yn arwyddo fod y gyfundrefn bleidiol a ‘rewodd’ yn Lloegr/Prydain y 1920au bellach yn ‘meirioli’ ac y gwelwn gyfundrefn bleidiol newydd yn cymryd ei lle? Neu ai dim ond rhyw dân siafins fydd hyn oll?</p>Amser a ddengys, wrth gwrs...<br /><br /><hr width="100%" /><p align="center"></p>
12 Gorffennaf 2014
Theatr – holi Sion Eirian
<p>THEATR<br /><strong>Drama Mewn Llaw</strong><br />Menna Baines</p><p><em>Mae drama newydd a fydd yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod wedi’i lleoli yn nwyrain Sir Gaerfyrddin mewn cyfnod pan oedd y diwydiant glo’n dirwyn i ben. Bu Barn yn holi ei hawdur, SIÔN EIRIAN.</em></p><p><img src="images/stories/2014_07/sioneirian.jpg" border="0" width="371" height="522" /> </p><p>O glywed fod drama newydd Siôn Eirian yn ymwneud â chymuned Gymreig mewn ardal lofaol yn y de-orllewin a’i bod wedi’i gosod yn yr 1980au, efallai y bydd rhai yn neidio i’r casgliad mai drama am Streic y Glowyr yw hi. Wedi’r cwbl, mae digon o ddrama yn perthyn i hanes y streic honno (1984–5) i fodloni unrhyw ysgrifennwr creadigol. Ac yn wir, nid dyma fyddai’r tro cyntaf i Siôn Eirian i ysgrifennu am y streic – dyma un o’r digwyddiadau hanesyddol a bortreadwyd yn y gyfres ddrama deledu <em>Pen Talar</em>, a gyd-ysgrifennwyd ganddo ef ac Ed Thomas ac a ddarlledwyd ar S4C rai blynyddoedd yn ôl. Roedd honno wedi’i gosod yn Sir Gaerfyrddin, fel y ddrama lwyfan hithau. Ond mae <em>Garw</em>, sydd wedi’i lleoli mewn pentref dienw yn Nyffryn Aman ac a fydd yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf yn yr yr Eisteddfod, yn cychwyn yn 1986, flwyddyn ar ôl i’r streic ddod i ben.</p><p>Roedd yr amseriad yn ddewis bwriadol ar ran yr awdur. Dywed Siôn Eirian ei fod yn awyddus i osgoi mynd ar ôl stori gyfarwydd y streic. Roedd ei ddiddordeb yn hytrach mewn pwnc mwy cyffredinol na fu llawn cymaint o drafod arno mewn cyfrwng creadigol, sef y modd y newidiodd y gymdeithas yn sgil crebachiad diwydiannau trwm fel y diwydiant glo. Ac felly, er mai cyn-löwr sydd wedi colli ei waith yw un o brif gymeriadau’r ddrama, mae’r awdur wedi dewis ei bortreadu nid fel rhywun a fu’n gweithio yn un o’r pyllau mawr, ond yn hytrach fel un a arferai gael ei gyflogi mewn pwll bach cyntefig lle nad oedd undebaeth yn rym o bwys.</p><p>Ni fydd y rhai sy’n gyfarwydd â gwaith blaenorol yr awdur yn synnu bod y ddrama hon eto’n wleidyddol ei chefndir a chymdeithasegol ei diddordeb. Dywed Siôn Eirian mai cymdeithas ar groesffordd sy’n cael ei darlunio yn <em>Garw</em>. Wrth ymchwilio ar ei chyfer bu’n cnoi cil ar yr hyn mae gwahanol haneswyr wedi’i ddweud am y cyfnod dan sylw, gan gynnwys yr hanesydd Marcsaidd Eric Hobsbawm.</p><p>‘Yn ei lyfr <em>The Age of Extremes</em>, sef ei ddehongliad o hanes yr 20g., mae Eric Hobsbawm yn dweud mai canol yr 1980au yw’r hyn mae’n ei alw’n ‘<em>tip-over point</em>’ wrth i natur gwaith y rhan fwyaf o bobl yn y gwledydd gorllewinol newid yn llwyr, o fod yn waith bôn braich a chaib a rhaw i fod yn waith hollol wahanol a oedd yn perthyn i fyd mwy technolegol. Dyma’r cyfnod pan aeth gweithwyr corfforol yn lleiafrif. Erbyn hyn roedd yna fwy o waith i fenywod a graddedigion a phobl oedd wedi cael rhyw fath o hyfforddiant, boed hwnnw’n waith mewn ffatrïoedd neu yn y sector ariannol neu ym myd hamdden neu beth bynnag, nag oedd yna i ffermwyr, glowyr a phobol eraill oedd yn gweithio gyda’u dwylo.</p><p>‘Yng Nghymru roedd y newid yma’n cyd-ddigwydd â chau nifer o lofeydd a diswyddiadau mawr yn y diwydiant dur. Mae rhai pobol yn credu mai Thatcher wnaeth gau’r pyllau glo ond y tebygrwydd yw y bydden nhw wedi cau beth bynnag ac mai prysuro newid anochel oedd y cwbl a wnaeth hi.’</p><p>Mae’n disgrifio Llew, prif gymeriad y ddrama, nid yn unig fel cyn-löwr ond fel ‘cyn-focsiwr, cyn-benteulu, cyn-bopeth’....</p><hr width="100%" /><p align="center"></p>
12 Gorffennaf 2014
Llanelli Huw Edwards
<strong>Trwy Lygaid Tri</strong><br /> <p dir="ltr"><em>Dros y blynyddoedd mae Llanelli wedi cynhyrchu nifer o Gymry amlwg mewn sawl maes. Gofynnodd BARN i dri a fagwyd yno rannu eu hatgofion a'u hargraffiadau o'r lle. Dyma un ohonynt.</em></p><p><strong>Huw Edwards<br />Fy Llanelli i – Tref heb ei thebyg</strong></p><p><img src="images/stories/2014_07/llanelli.jpg" border="0" width="380" height="262" /> </p><p>Eisteddfod ‘Sir Gâr’ yw hon, medden nhw, ond mae pawb yn gwybod mai lol yw hynny. O’r funud gyntaf i’r olaf, Eisteddfod Llanelli yw hi. Eisteddfod Bro’r Sosban. Dyna yw hanfod a lliw a chymeriad y brifwyl hon ar lannau aber Llwchwr.</p><p>Do, fe gynhaliwyd cymanfa’r cyhoeddi yn Bethani, Rhydaman, hen gapel Nantlais, a pheth da oedd gweld hynny, er bod gan Llanelli gapeli mwy godidog o lawer at y pwrpas. Ta waeth. Trigolion Llanelli sy’n croesawu eu cyd-Gymry i’r Brifwyl, nid trigolion graslon Rhydaman na’r un dref arall yn y sir.</p><p>Y gobaith a’r bwriad yw ail-greu llwyddiant prifwyl 2000, un o’r goreuon. Rhoes y brifwyl honno gyfle arbennig i Lanelli ddangos ei chryfder arbennig, sef cyfuniad o dreftadaeth ddiwydiannol a diwylliant Cymraeg gyda’r mwyaf cyfoethog yng Nghymru. Y mae hynny yn sicr yn destun balchder dwfn i ni drigolion a chyn-drigolion y dref.</p><p>Ond ai’r un dref, er tegwch, sy’n croesawu eisteddfodwyr 2014?</p><p>Y mae cymeriad Llanelli wedi newid yn sylfaenol yn y blynyddoedd diwethaf. Dylai pob ymwelydd â’r brifwyl dreulio bore yng nghanol y dref i werthfawrogi’r hyn a gyflawnwyd, er bod mynydd o waith yn dal heb ei orffen. Rhaid mynd yn ol i’r 1970au cynnar i olrhain yr hanes. Bu Llanelli yn elfen bwysig yn arbrawf fwlgar cynghorau lleol i ‘foderneiddio’ trefi De Cymru.</p><p>Dymchwelwyd y neuadd farchnad eang o oes Fictoria a chodwyd bocs concrid enfawr yn ei lle. Maes parcio aml-lawr oedd hwnnw, yn naturiol, yn ôl diléit y cyfnod, a chladdwyd y neuadd farchnad newydd oddi tani. Hen le tywyll, diflas, yw hwnnw, ac mae’r ffaith bod marchnadwyr Llanelli yn dal i weithio yno yn destun rhyfeddod i bawb. Codwyd canolfan siopa yn ardal Trostre, y tu allan i’r dref, a dinistriwyd bywyd masnachol canol Llanelli i bob pwrpas. ‘Asynnod’ oedd y sawl a fu’n gyfrifol, medde Dad, ac mae’n anodd anghytuno.</p><p>Peth braf, felly, yw cael dychwelyd i Lanelli a gweld gwelliannau amlwg...</p><hr width="100%" /><p align="center"></p>
12 Gorffennaf 2014
‘Re zo re!’ (Digon yw digon) Y Llydawyr yn dangos eu hochr
Mae cynlluniau i ad-drefnu’r rhanbarthau yn Ffrainc yn bygwth hunaniaeth Llydaw fel gwlad ac mae hynny, ynghyd â materion fel diweithdra a chyflwr y sector amaeth, wedi sbarduno protestiadau mawr yn ystod y misoedd diwethaf. Dyma olwg ar y sefyllfa gan Lydäwr sy’n byw yng Nghymru ond sydd ynghanol yr ymgyrch am gyfiawnder i’w wlad enedigol. I’r Llydawyr hynny sy’n poeni am ddyfodol eu gwlad dan y newidiadau i’r ffiniau rhanbarthol sydd ar droed yn Ffrainc, roedd pethau’n ymddangos yn bur ddrwg ychydig wythnosau’n ôl. Nid yw’r datblygiadau diweddaraf yn y broses yn gwireddu’r ofnau gwaethaf, ond maent yn dod yn agos iawn at hynny, ac mae pob golau wedi troi’n goch.Ad-drefnu gweinyddol yw’r cefndir i’r cyfan. Mae llywodraeth Ffrainc yn bwriadu cael gwared â’r unedau gweinyddol a elwir yn départements (ceir 101 ohonynt i gyd gan gynnwys ambell un tramor). Y nod yw symleiddio’r ‘millefeuille administratif’, neu’r sleisen hufen weinyddol os mynnwch, fel bod y wlad yn cael ei rhedeg yn fwy effeithiol. Does dim o’i le ar y syniad hwnnw. Go brin fod y départements yn gwneud fawr o synnwyr erbyn hyn ac mae’n debyg y bydd rhan fwyaf o bobl Ffrainc yn ddigon parod i ffarwelio â nhw, pan ddaw’r amser. Ond cyn cael gwared â’r départements, mae’r Llywodraeth, fel y cyhoeddodd y Prif Weinidog newydd, Manuel Valls, ym mis Ebrill, yn bwriadu ad-drefnu map y wlad drwy leihau nifer y rhanbarthau. Ceir 22 ohonynt ar hyn o bryd. Mae’r bwriad i uno rhai rhanbarthau, gan ddod â dau neu hyd yn oed dri rhanbarth at ei gilydd mewn ambell achos a hynny heb fawr o drafodaeth na hyblygrwydd mae’n ymddangos, wedi bod yn achos dicter yn ddiweddar mewn sawl rhan o Ffrainc. Mae hynny’n arbennig o wir am y rhannau hynny o’r wlad lle ceir ymhlith y trigolion ymdeimlad cryf o hunaniaeth ranbarthol. Does yr un man lle mae’r ymdeimlad hwnnw’n gryfach nag yn Llydaw wrth gwrs; ac mae nifer o bobl yno yn anhapus iawn wrth weld Ffrainc yn ymyrryd unwaith eto â ffin hanesyddol y wlad. Un syniad sydd wedi cael ei wyntyllu yw dod ag ambell département gorllewinol ynghyd i greu rhanbarth ‘Grand-Ouest’ newydd. I lawer o Lydawyr, hyn fyddai’r senario waethaf. Pe gwireddid y syniad byddai Llydaw’n colli ei henw wrth gael ei llyncu oddi mewn i’r rhanbarth mawr newydd a byddai hynny wedi bod yn ergyd drom i hunaniaeth Lydewig...Mae’n sefyllfa sydd wedi creu anniddigrwydd cynyddol ac mae pobl yn dechrau dangos eu hochr. Wythnos wedi rhyddhau’r map cyntaf, ar 19 Ebrill, ymgynullodd dros 10,000 o bobl yn Naoned, ger castell duges olaf Llydaw, Anna Vreizh (Anna o Lydaw), mewn protest heddychlon dros aduno’r wlad a rhoi mwy o annibyniaeth weinyddol a gwleidyddol iddi fel rhanbarth oddi mewn i Ffrainc. Trefnwyd y brotest gan y ddau fudiad cenedlaetholgar, 44=Breizh a Bretagne Réunie. Ond cafodd gefnogaeth fawr hefyd gan aelodau mudiad Llydewig newydd sbon sydd wedi bod yn cipio’r penawdau yn Ffrainc ers ei sefydlu y llynedd. Os oedd unrhyw un yn dechrau amau bod Ffrainc wedi llwyddo i dawelu Llydaw o’r diwedd, gwrthbrofwyd hyn mewn dull go ddramatig gan y Bonnets Rouges (Capiau Coch)...
12 Gorffennaf 2014
Y Gymraeg yn Sir Gâr – cyfweliad gyda Cefin Campbell
<p>IAITH<br /><strong>Gobaith i’r Gymraeg yn Sir Gâr – ond a fydd y Cyngor yn ymateb i’r her?</strong></p><p><em>Mae’r Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin wedi diflannu’n araf ‘fel tywod mân rhwng ein bysedd’, yn ôl adroddiad Gweithgor y Cyfrifiad, Y Gymraeg yn Sir Gâr, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, a rhaid gweithredu ar frys ‘i atal y dirywiad hwn ac atgyfnerthu’r iaith i’r dyfodol’. Bu BARN yn holi Cadeirydd y Gweithgor, Cefin Campbell, pa mor obeithiol ydyw y bydd y Cyngor Sir yn ymateb i’r her a chreu hanes wrth adfer y Gymraeg yn y sir, gan osod cynsail i siroedd eraill. </em></p><p><img src="images/stories/2014_07/neuadd%20sir%20gar.jpg" border="0" width="383" height="263" /></p><table border="1" width="473" height="146"><tbody><tr><td><p>‘Daeth canlyniadau Cyfrifiad 2011 yn sioc i garedigion yr iaith yn Sir Gâr ac mewn rhannau eraill o Gymru. Collwyd 6,148 o siaradwyr Cymraeg mewn degawd, sef lleihad o 6.4%, ac am y tro cyntaf yn ein hanes mae canran siaradwyr Cymraeg Sir Gâr wedi cwympo dan yr hanner (43.9%). Dyma’r gostyngiad mwyaf a welwyd yn unrhyw ran o Gymru. Dros ganrif yn ôl, roedd dros 90% o boblogaeth y sir yn ddwyieithog, gyda chanran sylweddol ohonynt yn uniaith Gymraeg. Bellach mae’r siaradwyr Cymraeg yn y lleiafrif.’ </p><p>Geiriau Cefin Campbell, Cadeirydd Gweithgor y Cyfrifiad, yn ei ragair i’r adroddiad Y Gymraeg yn Sir Gâr, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth eleni.</p></td></tr></tbody></table><div align="left"><p>Un o straeon pennawd mwyaf digalon ffigurau cyfrifiad 2011 oedd y gostyngiad yng nghanran siaradwyr Cymraeg Sir Gaerfyrddin. Cymaint oedd y cwymp fel y penderfynodd y Cyngor Sir fod rhaid gwneud rhywbeth, a sefydlwyd gweithgor. <br />Bu’r cyfnod diweddar yn un digon tymhestlog yn hanes y Cyngor, ac mae modd gweld y gweithgaredd a ddilynodd y penderfyniad hwn yn ffordd i’r Cyngor uno o gwmpas ‘stori dda’. Ond roedd hefyd yn ymateb dilys i’r sioc a brofodd pawb wrth glywed canlyniadau Cyfrifiad 2011. Oedd, roedd rhyw newid yn y gwynt.</p><p>Ar ôl cyfarfod 17 o weithiau rhwng Ebrill 2013 ac Ebrill 2014 daeth y gweithgor trawsbleidiol i gasgliadau unfrydol, a chyflwynwyd adroddiad, Y Gymraeg yn Sir Gâr*, dogfen gynhwysfawr gyda 73 o argymhellion pellgyrhaeddol. Fe’i derbyniwyd yn ei chrynswth gan y Cyngor Sir ac fe’i cymeradwywyd gan Gymdeithas yr Iaith, ond nid heb addo cadw llygad manwl ar amserlen y gweithredu. </p><table border="1" width="473"><tbody><tr><td><p>Wrth baratoi’r adroddiad aed ati i gomisiynu ymchwil allanol ac edrychwyd yn benodol ar wyth o feysydd arbennig:</p><ul><li>Cynllunio </li><li>Addysg </li><li>Iaith ac Economi</li><li>Gweithleoedd cyfrwng Cymraeg a Gweinyddiaeth y Cyngor</li><li>Effaith sefydliadau sy’n gweithio er budd y Gymraeg megis y Mentrau Iaith</li><li>Cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yng nghymunedau’r sir</li><li>Trosglwyddo’r iaith yn y teulu</li><li>Marchnata’r iaith </li></ul></td></tr></tbody></table><p> </p><p>Cefin Campbell, cynghorydd sir ward Llanfihangel Aberbythych yn Nyffryn Tywi, Cyfarwyddwr cyntaf Menter Cwm Gwendraeth (y fenter iaith gyntaf), a gwr a chanddo CV helaeth ym myd cynllunio iaith, oedd Cadeirydd ‘Gweithgor y Cyfrifiad’. Wrth sôn am y gwaith mewn llaw a’i obeithion ar gyfer y dyfodol yn Sir Gaerfyrddin mae ei frwdfrydedd yn heintus. Mae hefyd yn barod ei ganmoliaeth i aelodau’r gweithgor, gan grybwyll yr aelodau Llafur wrth eu henwau, a’r berthynas dda rhyngddo ac un ohonynt, ei is-gadeirydd Calum Higgins o Dy-croes.</p></div><p>Rhoddwyd gwleidyddiaeth o’r neilltu,’ meddai Cefin, ‘ac roedd y ffocws yn gyfan gwbl ar yr iaith. Roedd consensws ar bob un o’r argymhellion – dim anghytuno o gwbl.’....<br /><br />... Ydi hi felly’n bosib adfer yr iaith yng Nghymru?</p><p>‘Ydi,’ yw ateb Cefin. ‘Does dim rheswm pam na allai ddigwydd. Mae ’run peth ag adeiladu ty – rhaid deall ble ’ry’n ni eisiau gorffen a chynllunio ar gyfer hynny. A’r cam nesaf fydd gweithredu’r argymhellion. Mae gennym y strwythur. O’i weithredu’n llawn gallwn weld newid sylweddol yn y deng mlynedd nesaf. Dw i’n eithaf calonogol, yn hyderus y gallwn ei wneud.’</p><p>Ond mae cwestiynau’n codi. Sut y caiff yr argymhellion hyn eu gweithredu? Pwy sy’n gyfrifol am roi hyn ar waith? I bwy maen nhw’n atebol? Pwy sy’n monitro hyn? Mae amser yn brin, felly ymhen deuddeg mis ble fyddwn wedi cyrraedd a phwy fydd yn mesur y cynnydd? Er mor grefftus y gamp wleidyddol o sicrhau derbyniad i adroddiad radical a chynhwysfawr, nid yw’r gwaith ond megis dechrau. </p><p>Mae cwmwl ar y gorwel eisoes. Bwriad y Cyngor yw sefydlu Panel Iaith Ymgynghorol, a’r Panel hwnnw fydd yn arolygu’r gwaith, yn gyrru’r argymhellion yn eu blaenau. Neu – a man a man i ni wynebu’r perygl – yn arafu, yn glastwreiddio, yn rhwystro, neu’n oddefol yn y gwaith monitro. Mae cadeiryddiaeth y Panel newydd hwn yn gwbl allweddol, felly, ond wrth i Barn fynd i’r wasg daeth y newyddion syfrdanol nad Cefin Campbell fyddai’r cadeirydd hwnnw. Er ei lwyddiant digamsyniol fel Cadeirydd y Gweithgor, a’i holl brofiad ym maes cynllunio iaith, mae’n amlwg nad yw pawb am ei weld fel cadeirydd egnïol ar banel fyddai’n bwrw iddi ar frys, ac mae brys, i weithredu argymhellion yr Adroddiad yn eu holl gyflawnder. </p><strong>Mae modd darllen y ddogfen Y Gymraeg yn Sir Gâr drwy ddilyn y ddolen:<br /></p>
12 Gorffennaf 2014
Gerry Adams: Simsan yw’r Heddwch o Hyd
Yn y cylchgrawn hwn yn Chwefror 2012 bu’r awdur yn trafod arwyddocâd gwleidyddol penderfyniad Prifysgol Boston i ryddhau casgliad o gyfweliadau gyda chyn-derfysgwyr i’r awdurdodau yn Ulster. Mewn dau ohonynt honnwyd mai Gerry Adams oedd wedi gorchymyn yr IRA i lofruddio mam i ddeg o blant. Dyna a arweiniodd at arestio’r gwleidydd yn ddiweddar. Yn ôl Gerry Adams roedd cael ei holi gan y PSNI – Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon – ym mis Ebrill mewn cysylltiad â llofruddiaeth Jean McConville yn ymgais gan elynion gwleidyddol Sinn Féin i achosi niwed i obeithion y blaid yn y Weriniaeth ar drothwy’r etholiadau lleol ac Ewropeaidd. Roedd amseriad yr arést yn rhan o gynllwyn budr gan wrthwynebwyr Sinn Féin, meddai Mr Adams, i’w bardduo ef a’i blaid am ddigwyddiadau tywyll y gorffennol.Wel os hynny, cynllwyn go aflwyddiannus ydoedd. A dweud y gwir, os oedd cynllwyn ar waith, bron na ellir amau mai Sinn Féin eu hunain oedd yn gyfrifol. Oherwydd yn dilyn y ddrama, ar i fyny yn y polau piniwn yn y Weriniaeth yr aeth Sinn Féin – gyda mwy o seddi cyngor ac Ewropeaidd nag erioed o fewn eu gafael.Daeth y newyddion syfrdanol bod Gerry Adams wedi cael ei arestio ar ffurf datganiad newyddion moel gan y PSNI ar 30 Ebrill. Cyhoeddwyd bod gwr 65 oed i gael ei holi yn Antrim mewn cysylltiad â llofruddiaeth Jean McConville. O fewn awr roedd Gerry Adams yn gwneud cyfweliad teledu yn Dundalk, ar ei ffordd i Antrim, yn dweud mai o’i wirfodd yr oedd o’n mynd at yr heddlu. Esboniodd Mr Adams ei fod wedi dweud fis ynghynt ei fod yn fodlon cael ei holi. Amseriad yr arestio oedd yn amheus meddai.Ond mewn gwirionedd doedd gan Gerry Adams ddim dewis ond cydsynio. Ni ddylai neb fod wedi synnu gormod pan gafodd ei arestio. Roedd y datblygiad dramatig hwnnw yn anochel ar ôl i’r PSNI gael gafael ar Dapiau Boston: casgliad o gyfweliadau gyda chyn-derfysgwyr gogledd Iwerddon a gafodd eu recordio fel rhan o brosiect hanes yng Ngholeg Boston yn UDA. Ar ôl brwydr yn y llysoedd trosglwyddwyd y tapiau i’r PSNI fel rhan o’u hymchwiliad i lofruddiaeth Jean McConville, gwraig weddw 37 oed a mam i ddeg o blant.
31 Mai 2014
I Grombil Cyfandir Pell; Antur Amlgyfrwng Gruff Rhys
Hanes a daearyddiaeth, golygfeydd a mapiau, grym chwedlau, diflaniad a goroesiad diwylliannau ac ieithoedd... mae’r cyfan yn bwydo prosiect diweddaraf y canwr Gruff Rhys. Bu’n sôn wrth Barn am wreiddiau a datblygiad y gwaith a’i harweiniodd ar daith i America. Mae pedair rhan i brosiect American Interior – ffilm, ap, llyfr ac albwm. Tybed pa fath o stori a allai fod wedi sbarduno cymaint o ddeunydd creadigol? Ar noson heulog braf mae Gruff Rhys yn agor y drws ei dy yng Nglan yr Afon, Caerdydd, led y pen ac yn gwenu gwên lydan sy’n llenwi ei farf ddu. Cyn pen dim mae’n pwyso’n ôl yn ei gadair, ei lygaid ynghau, ac yn dechrau siarad am ei berthynas pell o’r gorffennol, dyn o’r enw John Evans, Cymro a aeth i America ar ddiwedd y 18g. gydag un nod a phwrpas.Dyma’r stori, y stori sydd wedi swyno’r cerddor ers blynyddoedd maith, y stori sydd wedi ei gymell i deithio ar draws gogledd America gyda sioe sleidiau, ffigwr ffelt dwy droedfedd o daldra (ymgnawdoliad o John Evans, gan nad oes unrhyw lun ohono ar gof a chadw) a gitâr. Dyma’r stori sydd wedi arwain at brosiect American Interior.‘Ro’n i a Dylan (Goch) wedi bod yn sôn am John Evans ers tipyn a, tua pum mlynedd yn ôl mae’n siwr, ddaeth Dyl ar draws rhaglen archif yn y BBC roedd Wil Aaron wedi’i gwneud i gyd-fynd ag un o lyfrau Gwyn Alf Williams am Madog. Roedd gen i dipyn o obsesiwn efo stwff Wil Aaron ar y pryd, a ’nath hwnna ’nghyffroi i,’ esbonia Gruff, wrth i mi ei holi am ddechreuadau’r daith a’r prosiect. ‘Ond stori John Evans o’n i isio mynd ar ei hôl, doedd gen i ddim diddordeb yn Madog.’Yn 1792 roedd John Evans, gwas fferm a Methodist dwy ar hugain oed o Waunfawr, yn camu dros riniog ei gartref am y tro olaf ac yn cychwyn ar antur ryfeddol yn llawn gobaith o fedru ennill bet a wnaeth, fe honnir, gyda neb llai na Iolo Morganwg. Roedd yn canu’n iach i Gymru er mwyn ceisio darganfod unwaith ac am byth a oedd chwedl y Tywysog Madog yn wir. A oedd llwyth cyntefig o ddisgynyddion Madog yn dal i fyw ar gyfandir dieithr America ac yn medru’r Gymraeg? Ai cig a gwaed ynteu creadigaeth ddychmygol oedd y Madogwys?
31 Mai 2014
ganCasia Wiliam
Gwefr i’r Synhwyrau
Arlunydd a elwid yn ‘Kandinsky Cymreig’ ac a ymlafniodd i greu dan gysgod afiechyd oedd James Dickson Innes, y gwelir arddangosfa o’i waith yng Nghaerdydd tan ganol mis Gorffennaf. Dwylo i fyny pwy sy’ wedi laru braidd ar ddathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas, gyda hydoedd i fynd eto tan ei ben-blwydd ym mis Hydref? Os am ysbaid amheuthun oddi wrth y brolio di-ben-draw, beth am gip ar yrfa Cymro a esgeuluswyd?Tan 20 Gorffennaf yn Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Caerdydd ceir cyfle i brofi gwaith celf y ‘Kandinsky Cymreig’. Fel nifer o sêr roc mawr yr 20g., bu farw James Dickson Innes (1887–1914) yn 27 oed. O ran pryd a gwedd, yn ôl ei gyfoedion, ymdebygai i ddiafol a sant – a’i fentor mawr oedd y Cymro carismataidd Augustus John.Y mae’r arddangosfa fendigedig Gogoniant y Gwyllt yn deyrnged deilwng i gyw-artist oedd yn dal ar ei brifiant ac a fu farw’n llawer rhy gynnar o’r diciâu.Yr hyn sy’n taro’r gwyliwr fel gordd – yn enwedig newydd-ddyfodiaid i’w waith – yw ei feistrolaeth lwyr o liw a’i reddf gyda golau. A serch ei grwydro cyfandirol a’i ddylanwadau di-ri, tirlun Cymru – a’r Arenig Fawr – oedd ei awen barhaol.Cyfleir trasiedi ei hanes trwy gyfrwng gwych ei gelf wrth iddo frwydro i wireddu’i weledigaeth dan gysgod angau. Mae’r arddangosfa arbennig hon yn ddathliad amserol iawn o yrfa artist a fu bron â mynd yn angof llwyr...... Ailddeffrodd ei grwydro cyfandirol ei awydd i archwilio ei famwlad ymhellach, gan ddechrau carwriaeth â gogledd Cymru a barhaodd hyd ddiwedd ei oes. A thra aeth ei garwriaeth fawr ag Euphemia Lamb – ‘merch ei freuddwydion’, chwedl Augustus John – i’r gwellt, yr awgrym a geir yw i’r Arenig brofi’n ddihangfa iddo, gan lenwi’r gwacter emosiynol. Wrth i’w iechyd ddirywio daeth mynegiant swreal ac arallfydol i’w waith, wrth i’r lliwiau uwch-real efelychu Afallon bell.Seren yr arddangosfa, heb os nac oni bai, yw’r clamp o lun Arenig, Gogledd Cymru (1913) a ddarluniwyd o berspectif Nant-ddu; dyma uchafbwynt ei astudiaethau taer o olau a thirlun...
31 Mai 2014
Statws Lleiafrif Swyddogol i Bobl Cernyw – Hen Bryd
Yn ddiweddar cyhoeddwyd bod pobl Cernyw i dderbyn statws lleiafrif swyddogol oddi mewn i’r Deyrnas Unedig, o dan reolau Ewropeaidd. Ymunant felly â’r Cymry, yr Albanwyr a’r Gwyddelod yn hyn o beth.Gwell hwyr na hwyrach. Er na lifai ffynhonnau Porth Bud a Bosvenegh, Truru, Pensans ac Aber Fala â gwin, roedd trigolion Cernyw wrth eu bodd i glywed fod y Llywodraeth Brydeinig wedi cydnabod ffeithiau o’r diwedd. Ni fu Deddf Uno erioed, mae cyfreithiau Cernyw yn dal mewn grym, mae’r iaith Gernyweg yn dechrau ymlwybro oddi ar yr arwyddion ffyrdd ac yn mynnu gael ei chlywed eto, ac Afon Tamer yw’r ffin fwyaf sefydlog rhwng dwy wlad yn Ewrop ers dros fil o flynyddoedd. Fel yn aml pan ddaw hi’n ddydd o brysur bwyso, mae’r amseru yn ddiddorol. Cyhoeddwyd y Confensiwn Fframwaith ar Amddiffyn Lleiafrifoedd Cenedlaethol yn 1998. Er bod bwriad Cyngor Ewrop i’w ganmol, erys un diffyg eithaf elfennol yn y Confensiwn: nid yw’n cynnwys diffiniad o leiafrif cenedlaethol. Bu’r Wladwriaeth Ffrengig a Gweriniaeth Twrci yn ddigon onest i beidio â chadarnau’r Confensiwn o gwbl. Ond bu’r Deyrnas Unedig yn dipyn fwy cyfrwys, a datgan mai grwpiau a amddiffynnir drwy orfodi Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 yw unig leiafrifoedd cenedlaethol y ddywededig Deyrnas. Gan fod y cyrff swyddogol wedi gwrthod a priori ymdrin â chwynion gan Gernywiaid, nid oes corff o gyfraith achosion a fyddai’n eu gwneud yn destun amddiffyn o dan y Confensiwn. Dyna fu agwedd Whitehall a San Steffan o’r cychwyn – hyd yn awr.
31 Mai 2014
ganTim Saunders
Nigel Farage – neu Nigel ap Enoch?
Erbyn i’r rhifyn hwn o Barn ymddangos byddwn yn gwybod a lwyddodd UKIP i droi’r drol wleidyddol Brydeinig yn etholiadau Ewrop. Byddwn yn gwybod hefyd a oes sail i’r darogan y gall UKIP ennill cymaint â phum sedd yn yr etholiadau nesaf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Ond beth yw gwir farn eu harweinydd Nigel Farage am Gymru, ei phobl a’i hiaith? Bu Andrew Misell yn ei holi yn ystod ymweliad ag Abertawe. Doedd pethau ddim yn mynd yn arbennig o dda i Nigel Farage pan gwrddais i ag e. Roedd e newydd roi’r gorau i’w fwriad i ymgyrchu yng nghanol Abertawe oherwydd fod llond dwrn o brotestwyr yn barod i’w ‘groesawu’. Ond roedd rhai o’r hen filwyr a ddaeth draw i gefnogi Farage – mae digon o’r rheini yn UKIP – i’w gweld yn bur anfodlon bod eu harweinydd wedi ei heglu hi yn hytrach na wynebu bygythiad mor bitw. Nid bod hynny i’w weld yn menu dim ar y Nigel fythol siriol a adleolodd ( hynny yw, a ddihangodd ar frys) i Stadiwm bêl-droed Liberty. Yno, gyda gwydraid o ddwr yn ei law (nid cwrw – daeth hwnnw’n nes ymlaen) cafodd ei holi gan yr haid o newyddiadurwyr a fu’n ei ddilyn yn ddi-baid drwy gydol yr ymgyrch.Fel mae llawer o gyfwelwyr wedi sylwi, mae Farage ar delerau anghyffredin o dda ag ef ei hun. Wrth ymweld â Chymru nid yw’r Sais o dde-ddwyrain Lloegr ddim yn ymhyfrydu nac yn ymddiheuro am fod yr hyn ydyw. ‘Mae hunaniaeth yn bwysig,’ meddai Farage, yn hyderus fod ei hunaniaeth e cyn bwysiced bob tamaid â’n hunaniaeth ninnau...... Beth, gofynnais iddo, am y cymunedau lle y bu’r Gymraeg yn brif iaith am ganrifoedd, cyn graddol foddi dan donnau o Saesneg? A yw yntau’n cydymdeimlo â Chymry Cymraeg yn y fath sefyllfa? ‘Dwi’n deall hynny’n llwyr. Wrth gwrs ’mod i. Mae gwlad ddwyieithog gyda chi yma. Dwi’n gwybod bod y mwyafrif yn siarad Saesneg ond mae’r lleiafrif Cymraeg yn bwysig iawn.’ ...... Ac os oes bygythiad i Gymreictod nid o du Lloegr y daw ond o Frwsel: ‘Un o’r rhesymau mae’r Prosiect Ewropeaidd mor wrthun yw ei fod e’n cymryd pobloedd gwahanol iawn ac yn ceisio eu gwthio at ei gilydd mewn hunaniaeth newydd nad oes neb ei heisiau’.
31 Mai 2014
Ceidwadaeth yn y Gymru Gyfoes
Gwleidyddiaeth ar ffurf opera sebon sy’n mynd â bryd yr awdur y mis hwn wrth iddo ddilyn y troeon diweddaraf yn helyntion a helbulon Teulu Ty Glas.(Nid dychmygol yw’r cymeriadau.) Reit, gadewch i mi weld a ydw i wedi deall y sefyllfa’n iawn… Mae Byron yn meddwl fod Nick wedi cael cam gan Andrew felly mae o wedi pwdu a mynd ar streic. Ar ben hynny, mae Byron wedi llyncu mul hefo William gan ei fod yn meddwl fod William wedi bod yn dan din wrth gymryd lle Nick ar ôl i Nick gan y sac gan Andrew. O ganlyniad mae Byron yn mynnu na fydd ei streic yn dod i ben nes bod Andrew yn rhoi’r sac i William hefyd.Craidd y drwg yw bod Nick, Antoinette, Mohammad a Janet wedi myllio hefo Andrew, ac Andrew yntau hefo hwythau. Hynny oherwydd bod Nick, Antoinette, Mohammad a Janet yn anghytuno hefo syniadau Andrew ac yn hytrach wedi dewis cytuno hefo syniadau David J, George a David C. Serch fod George a David C ar fin newid eu safbwynt (erbyn i’r rhifyn yma o Barn gyrraedd o’r wasg, debyg) a chefnogi syniadau Andrew wedi’r cyfan. Ar y pwynt hwnnw bydd David J wedi martsio Nick, Antoinette, Mohammad a Janet i ben y bryn – gyda Byron i’w canlyn – gan eu gadael wedi eu hynysu yno oddi wrth Paul, Angela, Darren, David M, Suzy, Russell a Mark, heb sôn, wrth gwrs, am William ac Andrew. A dagrau pethau yw nad oes unrhyw lwybr amlwg yn ôl iddynt at lawr y dyffryn...Dyna’n fras, gyfeillion, yw cyflwr presennol truenus y Blaid Geidwadol Gymreig.* * *Yn y blynyddoedd ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru fe ddaeth yr haeriad mai’r Torïaid sydd wedi addasu orau i ddatganoli yn dipyn o diwn gron ymysg sylwebwyr. A pha ryfedd? Mae’r gosodiad yn agor y drws ar sawl strôc rethregol ogleisiol. Fe aed cyn belled â honni fod y blaid a fu mor daer ei gwrthwynebiad i ddatganoli wedi ei hachub gan yr hyn a oedd unwaith yn esgymun yn ei golwg – ac yn benodol gan gyfundrefn etholiadol fwy cyfrannol a ystyriai’n gwbl wrthun. Y fath eironi!A dyna chi wedyn y ffaith fod cenedlaetholwyr Cymreig, hyd yn oed os ydynt bellach wedi hen gefnu ar y math o genedlaetholdeb Cristnogol a anwylwyd gan Gwynfor a Dr Tudur, yn dal yn driw i ergyd dameg y ddafad golledig: ‘bydd mwy o lawenydd yn y nef am un pechadur sy’n edifarhau nag am naw deg a naw o ddynion sy’n meddwl nad oes arnynt angen edifeirwch’...
31 Mai 2014
O’r Alban – Margo MacDonald: Gwerthfawrogiad
Fedra i ddim peidio meddwl am fy nghyfarfyddiad cyntaf â Margo MacDonald a fu farw’r mis diwethaf yn 70 oed. Gorffennodd y cyfarfyddiad hwnnw’n gymodlon – sy’n hollol wahanol i’r ffordd y cychwynnodd. Trafodaeth gyhoeddus am y rhyfel yn Affganistan oedd yr achlysur. Roeddwn i’n fyfyriwr hollwybodus a wnaeth araith o’r llawr yn cefnogi’r rhyfel. Roedd hi’n Aelod o Senedd yr Alban dros yr SNP ac fe wrthwynebai hi’r rhyfel.Aeth pawb, bron, am beint ar ôl y cyfarfod, Margo yn ein plith. Fe ges i fy sodro ganddi yn erbyn y bar. Doedd dim dianc rhag y storom eiriol a hyrddiodd hi ataf. Ond dyma sy’n rhyfedd. Rywsut, rywfodd, ar ôl iddi gael dweud ei dweud, roedd hi’n ddigon cyfeillgar tuag ataf. Adroddwyd gan sawl un arall eu bod hwythau wedi cael profiad o’r ymfflamychu a’r ymdawelu hwn.Cychwynnodd gyrfa wleidyddol Margo MacDonald o ddifrif gyda’i buddugoliaeth fyrhoedlog yn isetholiad Glasgow Govan yn 1973. Gallai colli’r sedd fod wedi hyrddio Margo – mae hi’n un o’r criw dethol hwnnw a adnabyddir wrth eu henwau cyntaf yn unig – i ebargofiant. Ond roedd hi eisoes wedi dod yn un o sêr yr SNP – y flondan dymhestlog, alluog.
22 Ebrill 2014
Trigain Llun – Gwaith ffotograffig Marian Delyth
Y mis hwn mae arddangosfa o waith y ffotograffydd Marian Delyth i’w gweld yn y Llyfrgell Genedlaethol, trigain o luniau wedi eu dewis yn ofalus i gynrychioli oes o dynnu lluniau. Yn ôl i’w chynefin y daeth Marian Delyth wedi gadael coleg, i Flaen-plwyf yng Ngheredigion lle bu ei chyndadau yn amaethu. A’i mam-gu, yn arbennig, na welodd hi erioed mohoni. Chafodd Marian erioed gydio yn llaw Mam-gu, felly cydiodd mewn llun ohoni, mynd allan i’r union gae lle y tynnwyd y llun, a rhoi clic ar ei chamera. Fel hyn roedd Marian yn pontio’r blynyddoedd rhyngddi hi a’i hynafiaid. Wrth edrych i mewn i ffenest y Canon EOS 5 medrai gyfuno dau gyfnod mewn un ddelwedd, gan fynegi teimlad y byddai eraill, efallai, wedi ei roi mewn geiriau ond a gafodd ei gyfleu ganddi hi mewn llun. Tynnwyd y ffotograff gwreiddiol gan ei thad tua 1948, yntau’n tynnu llun ei fam oedrannus, Margaret Jones Trefedlyn, wrth iddi edrych ar ôl ei da byw yn ei chaeau bach gwelltog. Mae mwy nag olyniaeth tras yn y llun – mae’r lle wedi goroesi hefyd. Ar un o gaeau Trefedlyn y saif cartref Marian heddiw. Bu’r awydd i gofnodi yn gryf yn Marian erioed. Roedd ei thad yn gofnodwr heb ei ail ac fel ffotograffydd amatur medrus cadwai albwm gwyliau o’i luniau a’i nodiadau bob tro yr âi â’i deulu ar eu gwyliau tramor. Yn y coleg celf tynnodd Marian gyfres o luniau a ddangosai’r newid a ddaeth i’r dinasoedd yn sgil ailddatblygu trefol, ac mae ganddi nifer o ddelweddau grymus o ddigartrefedd a thlodi, adeiladau adfeiliedig a graffiti. Yn Birmingham roedd plant yn ei dilyn gan grefu ‘Take our picture!’, a diddorol yw edrych yn ôl ar y wynebau llawen yma heddiw gyda’u beiciau ‘chopper’ a’u dillad saithdegaidd. Mae’r ffotograffau yma a dynnodd Marian o bobl yn tystio i amrywiaeth y testunau y trodd ei lens atynt dros y blynyddoedd. ‘Mae pobol yn fy nghysylltu i efo tirluniau,’ meddai. ‘Dw i’n hoffi tirluniau, ond dw i hefyd eisiau dangos fod yna gymuned, fod pobol yn byw yn y tirlun hwnnw.’ Bu Marian yn bresennol mewn nifer fawr o brif ddigwyddiadau ein cenedl, ac roedd hi yno yng Nghwm Cynon pan ddaeth y gwaith i ben yng Nglofa’r Twr yn 2008. Allan o’r pwll y deuai’r dynion, yn tynnu coes a chael hwyl a chwerthin. Ond pan alwodd rhywun ar un ohonynt, a John Woods yn codi ei ben, ar yr amrantiad hwnnw daliodd camera Marian yr olwg ar ei wyneb a ddywedai’r cwbwl – diwedd cyfnod, diwedd cwmnïaeth, diwedd cymdeithas. 60 Lluniau Marian Delyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, tan 14 Mehefin
22 Ebrill 2014
Cameron yng Nghymru: Carwyn Dan Warchae?
Cafodd Prif Weinidog Prydain a’i gwn bach yn y wasg Lundeinig fodd i fyw wrth i ddiffygion Llywodraeth Lafur Cymru ddod dan y lach. Ond onid oes lle i gredu mai gwrthgynhyrchiol fydd yr holl ymosodiadau hynny yn y diwedd? Ers rhai blynyddoedd ymunodd eich colofnydd â’r garfan frith honno o lobïwyr a newyddiadurwyr sy’n mynychu cynadleddau gwanwyn ein pleidiau gwleidyddol. Eleni cynhaliwyd nhw yng Nghaerdydd, Llandudno, Casnewydd a Llangollen. Am ychydig dros fis buom wrthi’n crwydro’r gwahanol ganolfannau hyn, yn fy achos i er mwyn annerch cynulleidfaoedd a ddenwyd i gyfarfodydd ymylol gan abwyd brechdanau tiwna a chreision halen a finegr.O ddarllen y wasg Brydeinig byddai dyn yn taeru fod rhai, o leiaf, o brif gynadleddau gwleidyddol Prydeinig yr hydref yn ymdebygu i ryw Sodom a Gomorra cyfoes. Dwn i ddim am hynny, ond yn sicr nid felly oedd cynadleddau Cymreig y gwanwyn. O’u mynychu cewch y pleser o letya mewn cyfres o westai di-raen a’u stafelloedd molchi brwnt, a threulio eich awr ginio’n cnoi brechdanau digrystyn i gyfeiliant swyddogion Sustrans Cymru yn efengylu dros ragoriaethau beicio; swyddogion Ffederasiwn y Busnesau Bach yn canmol – sioc a syndod! – cyfraniad amheuthun busnesau bychain; neu bobl odiach fyth – fel myfi – yn dadlau achos Cynulliad Cenedlaethol 100 aelod. Onid yw’n rhyfedd o beth, dywedwch, nad yw cwmnïau Edwards neu Seren Arian yn trefnu bysus er mwyn cludo’r miloedd i fwynhau’r fath arlwy...?Ond o droi o’r ymylon at brif waith y cynadleddau, mae’n ddi-os mai digwyddiad mwyaf arwyddocaol tymor 2014 – digwyddiad trydanol i’r rhai ohonom oedd yn bresennol i’w chlywed – oedd araith David Cameron gerbron rhai cannoedd o Geidwadwyr Cymreig yn Llangollen.Nid wyf yn disgwyl i lawer o ddarllenwyr Barn fy nghredu, ond rhaid dweud fod Prif Weinidog y Deyrnas Gyfunol yn areithiwr tan gamp. Mae ganddo’r ddawn anghyffredin honno i allu cyfleu cynhesrwydd personol hyd yn oed yng nghyd-destun araith wleidyddol gwbl unllygeidiog o enwadol. Yn rhannol mae hynny’n adlewyrchu’r ffaith fod gan y Torïaid ddigon o arian i allu llwyfannu eu cynhadledd Gymreig mewn modd hynod broffesiynol. Roedd sgrin fawr yn dangos close up o wyneb Cameron trwy gydol ei araith gan ganiatáu i bawb yn y neuadd weld pob ystum. Ond mae mwy na thechnoleg i’w gyfrif am yr argraff sy’n cael ei chreu ganddo. Beth bynnag ein barn am ei wleidyddiaeth, rwy’n tybio fod cynhesrwydd y person ‘go iawn’ yn brigo i’r wyneb wrth iddo areithio. Mewn gwrthgyferbyniad – beth bynnag ei rinweddau eraill – mae dyn yn amau’n fawr a fydd unrhyw dechneg llwyfannu fyth yn ddigon i wneud areithiwr o Ed Miliband.Ond nid safon y traddodi’n unig a’i gwnaeth yn araith mor gofiadwy, wrth gwrs. Yn hytrach, y cynnwys sy’n aros yn y cof.
22 Ebrill 2014
Materion y Mis – Rwanda
Deg oed oedd Angelique Umugwanza yn 1994 pan ddechreuodd y brwydro yn Rwanda rhwng y Tutsi a’r Hutu. Eleni ar 6 Ebrill, yn y brifddinas Kigali, union ugain mlynedd ers cychwyn y lladd, cynhaliwyd seremoni i gofio’r hyn a ddaeth i gael ei adnabod fel hil-laddiad melltigedig. Wrth annerch y dorf a’r gwesteion o wledydd tramor hawliodd yr Ysgrifennydd Cyffredinol Ban ki-Moon fod y Cenhedloedd Unedig wedi dysgu gwersi pwysig ers y lladd. Gofidiodd hefyd nad oedd y byd wedi codi bys ar y pryd i atal y fath dywallt gwaed. ‘Ddaru ni ddysgu gwers galed yn Rwanda,’ meddai, ‘ond bu hil-laddiad arall flwyddyn yn ddiweddarach yn Srebrenica yn 1995.’ Mae Angelique Umugwanza’n benderfynol na chawn ni ddim anghofio ac mae hi wedi sgwennu llyfr er mwyn rhannu ei phrofiadau efo’r byd. Pobol o lwyth y Tutsi oedd mwyafrif y meirwon ond un o lwyth yr Hutu yw Angelique. Bu farw ei mam a’i brawd mawr wrth iddyn nhw ffoi i geisio lloches. Tydi hi ddim wedi gosod troed ar dir ei mamwlad ers 1994.Y gred yw bod rhagor nag 800,000 o lwyth y Tutsi wedi marw yn ystod deg wythnos cyntaf y gyflafan. Wedyn lladdwyd yn agos i 200,000 o’r Hutu wedi i’w gelynion ymhlith y Tutsi ddial arnyn nhw. Dyna, felly, bron i filiwn yn marw dros gyfnod o ddim ond deufis a hanner. Yn ogystal â hynny bu’n rhaid i filoedd yn rhagor, o’r ddwy ochr, ffoi am eu bywydau i wledydd cyfagos.Trwy hyn i gyd penderfynodd y ‘Gymuned Ryngwladol’, er mawr gywilydd iddi, wrthod yn llwyr ag ymyrryd. Wrth i’r lladd gyrraedd ei anterth cafodd Ysgrifennydd Tramor Prydain, Douglas Hurd, ei herio yn y Senedd gan Aelod Seneddol Pontypridd, Kim Howells. ‘Esboniwch pam nad ydi Prydain yn ymyrryd,’ mynnodd Dr Howells. ‘Am nad oes cyfiawnhad milwrol clir dros wneud hynny,’ oedd ateb Mr Hurd. H’m...
22 Ebrill 2014
Cwrs y Byd – Gymerwch chi sigarét?
Yn 1955 pan sgwennodd Saunders Lewis ei ddrama sigarennaidd doedd o, mwy na’r mwyafrif o bobol y cyfnod, ddim yn credu bod sigaréts yn angheuol. Yn wir yn y ddrama nid y sigarét eponymaidd sy’n beryglus ond y cas lle cedwir sigarennau. Lleolir y ddrama yn Fienna yn anterth y Rhyfel Oer. Yn nhraddodiad gorau Q yn ffilmiau James Bond yn ddiweddarach, mae’r cas wedi cael ei gynllunio i guddio’r ffaith mai pistol ydi o mewn gwirionedd! (Oes ’na faes ymchwil yma i rywun, dydwch? Dylanwad Saunders Lewis ar Ian Fleming?) Dair blynedd cyn perfformio’r ddrama Gymraeg, a blwyddyn cyn i Stanley Matthews yn 1953 serennu ar lwyfan Wembley yn un o’r gemau gorau a fu erioed yn ffeinal Cwpan yr FA, roedd yr asgellwr yn canmol i’r cymylau (o fwg) y boddhad dihafal a gâi o smygu Craven A. Mae pêl-droedwyr heddiw yn bachu ar bob cyfle i ymelwa drwy hyrwyddo nwyddau. Ond fyddai’r un ohonyn nhw’n meiddio cymeradwyo sigaréts. Mae’r oes wedi newid.Roedd adeg pan fyddai pobol yn tyrru i wrando ar wleidyddion yn eu hannerch mewn neuaddau mawr a bach. Un o’r pethau sy’n mynd â sylw rhywun gyntaf heddiw wrth wylio ffilm o Nye Bevan, dyweder, yn areithio yw’r cwmwl o fwg tybaco sy’n cuddio nenfwd pob neuadd.Nigel Farage ydi’r unig wleidydd cyfoes sy’n ymfalchïo mewn cael ei weld efo ffag yn ei geg a pheint o gwrw yn ei law. Os bydd UKIP yn llwyddo, fel sy’n ymddangos yn bur debygol, i chwipio penolau’r pleidiau eraill yn etholiadau Ewrop ddiwedd y mis ’ma, beth ddaw o hynny? Fydd y fyddin luosog sydd wrthi’n dylunio delweddau cyhoeddus ein gwleidyddion yn efelychu Farage? Pa well ffordd i Lafur Cymru ymbellhau unwaith ac am byth oddi wrth Lafur Miliband na thrwy roi paced o Rizla a thun o Golden Virginia i Carwyn Jones?
22 Ebrill 2014
#galar
Pan dorrodd y newyddion am farwolaeth disymwth Peaches Geldof yn 25 oed, mi wnes i deimlo’n annisgwyl o drist. Ond yn sydyn, ar sodla’r tristwch, mi wnes i deimlo’n andros o sili, gan nad ydw i’n nabod dim ar Peaches nac erioed wedi ei chyfarfod hi, a dydw i ddim wedi bod yn edmygydd o’i gwaith na dim byd felly chwaith. ‘Syndrom Lady Diana’ medda fi wrtha fi’n hun, llif o emosiwn gwirion dros rhywun cwbwl ddiarth. Pam na wnawn ni gadw’n dagrau i bobol ’dan ni’n eu nabod, yn lle eu sbydu nhw ar enwogion sydd yn ddim byd amgenach i ni na lluniau mewn cylchronau sglein. Dwi’n cael fy manipiwleiddio gan y wasg, medda fi wrtha fi’n hun, wrth i’r stori gael ei diweddaru’n ddidrugaredd ar bob gorsaf a safle newyddion hyd yn oed pan nad oedd diweddariad i’w gael. Roedd y gwefannau cymdeithasu yn llawn o’r hanes wrth gwrs, a’r ymateb yn pegynnu rhwng y rhai oedd yn drist a syfrdan, a’r rhai oedd yn cwestiynu cymhelliad y rheiny oedd yn drist a syfrdan. Fel un sy’n hoff o botshian ar Facebook, mi fyddwn i fel arfer wedi nodi fy ymateb i unrhywbeth sydd wedi fy styrbio, ond wnes i ddim y tro yma. Teimlo cywilydd o’n i, am deimlo rhywbeth wrach nad o’n i ‘i fod’ i’w deimlo.Yr wythnos wedyn bu farw’r awdures Sue Townsend. Unwaith eto, daeth ton o dristwch ar fy nhraws i, ond y tro yma mi wnes i nodi fy nheimladau. Roedd hi’n haws rhywsut, am fy mod i wedi fy magu ar nofelau Adrian Mole ac am ’mod i newydd ddarllen The Woman Who Went To Bed For a Year. Mi allwn i guddio tu ôl i edmygedd proffesiynol. Ond tybed pam bod un tristwch yn ddilys a’r llall ddim?
22 Ebrill 2014
ganBeca Brown
Plaid Lafur yr Alban yn bradychu Cymru
Mae dogfen bolisi a gyhoeddwyd gan yr arweinyddiaeth Lafur yn yr Alban chwe mis i’r diwrnod cyn y refferendwm annibyniaeth yn brawf digamsyniol nad yw unoliaethwyr y blaid yn malio botwm corn am Gymru. Byddai eu cynllun sinigaidd i atal pleidlais ‘Ie’ yn peri niwed anferthol i Gymru. Yn ddiau mae yna gyfnodau pan fydd pobl yn fwy tueddol nag arfer o bendroni dros y cwestiynau mawr a sylfaenol sy’n ymwneud ag Ystyr a Phwrpas Bywyd. Mae’r adegau hynny yn dod ar achlysuron arbennig. Ymhlith yr adegau hynny yn sicr mae’r profiad o enedigaeth neu brofedigaeth. Mae ysgariad hefyd yn brofiad sy’n siglo pobol at eu seiliau ac yn peri iddyn nhw ddwys ystyried eu gweithredoedd. Ni ddylai ein synnu, felly, fod y drafodaeth sy’n rhagflaenu refferendwm annibyniaeth yr Alban wedi arwain at ystyriaeth ddifrifol ar fy rhan i o Ystyr a Phwrpas y Deyrnas Gyfunol. Eisoes clywyd sawl dadansoddiad a barn wahanol ynglyn â’r mater, a gellir disgwyl llawer iawn mwy o drafod o’r fath wrth i’r refferendwm ddynesu. Tybed a oes posibilrwydd o gwbl y bydd S4C, hyd yn oed, yn codi ei golygon uwchlaw’r chwaraeon a’r nostalgia arferol i gynnig persbectif Cymreig ystyrlon ar y drafodaeth? Cawn weld. Ond y farn sy’n cyfrif mewn termau gwleidyddol, wrth gwrs, yw barn y Blaid Lafur. Gyda’r Ceidwadwyr wedi edwino’n llwyr fel grym gwleidyddol i’r gogledd o Fur Hadrian, a gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol mewn peryg difrifol o brofi’r un ffawd, Llafur bellach yw’r unig blaid sy’n hawlio cefnogaeth dorfol ar draws ynys Prydain. Mae dealltwriaeth a gweledigaeth y blaid honno ar gyfer y Deyrnas felly’n gyfan gwbl ganolog.A dyna pam y dylai unrhyw un sy’n meddu’r diddordeb lleiaf yn nyfodol y wladwriaeth yr ydym yn byw ynddi – a lle Cymru oddi mewn i’r wladwriaeth honno – ddarllen dogfen bolisi Comisiwn Datganoli Plaid Lafur yr Alban – Powers for a purpose: Strengthening Accountability and Empowering People – a gyhoeddwyd ar 18 Mawrth eleni, sef union chwe mis cyn y refferendwm. Dyma’r ddogfen sy’n amlinellu’r hyn y mae Llafur yn ei ddeisyfu ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol yr Alban petai pleidlais ‘Na’ ar 18 Medi. Honnir ynddi eu bod yn gwneud hynny ar sail gweledigaeth eglur ac ‘egwyddorol’ o bwrpas yr Undeb.
29 Mawrth 2014
Materion y Mis – Pencadlys S4C – oes angen symud?
Mae’n syndod cymaint o drafod sydd wedi bod am ail-leoli pencadlys S4C. Mwy o drafod yn wir nag am gynnyrch y sianel sy’n destun llawer mwy dyrys. Pan sefydlwyd S4C yn 1982, o dy yng Nghlos Soffia, Caerdydd, yr oedd y sianel yn cael ei gweinyddu. Symudwyd yn ddiweddarach i uned ar stad ddiwydiannol yn Llanisien ac mae gen i gof da cael cryn drafferth dod o hyd i’r lle ar ôl taith o’r Gogledd pell. Doedd y sat nav ddim wedi ei ddyfeisio bryd hynny nac ychwaith Skype, e-bost na’r ffôn symudol clyfar. Pe bydden nhw ar gael fyddai dim angen teithio i Gaerdydd o gwbl. Ond ar y pryd byddai cael pencadlys dipyn nes adra, yn Aberystwyth er enghraifft, wedi bod yn gaffaeliad mawr. Roedd hi’r un mor anghyfleus i gomisiynwyr y sianel hwythau ac fe gawson nhw geir cwmni cwl, Golfs GTI ac Audis, er mwyn gwibio ar hyd ac ar led Cymru i fugeilio eu praidd o gyflenwyr.Bu gan y sianel bresenoldeb yng Nghaernarfon ers pan dwi’n cofio ac mae eu swyddfa yn Noc Victoria yn gartref i ddau o’u prif gomisiynwyr. Prin iawn ydi’r achlysuron pan fydd yn rhaid i gynhyrchydd deithio i’r pencadlys bellach a phan fues i yno i chwilio yn eu llyfrgell y llynedd roedd y lle fel y bedd gyda llawer llai o staff nag a fu. Yn wir fasa waeth i’r pencadlys fod yn y gofod seibr erbyn hyn.
29 Mawrth 2014
Miwsig y merched colledig
Tymor y Merched Colledig Opera Cenedlaethol Cymru Canolfan y Mileniwm, Caerdydd, Gwanwyn 2014 Mae tymor o operâu ar un thema yn syniad da yn ôl GERAINT LEWIS.Mae David Pountney, cyfarwyddwr artistig Opera Cenedlaethol Cymru, wedi trawsnewid y profiad o fynd i’r opera yng Nghymru. Trwy dynnu’r tri chynhyrchiad a geir bob tymor gan y cwmni dan ymbarél un thema benodol mae’n cynnig ffocws arbennig sy’n taflu pob math o gysgodion diddorol ac yn creu cysylltiadau difyr rhwng gweithiau o wahanol ganrifoedd neu hyd yn oed rhwng gweithiau un cyfansoddwr. Cawsom yr ‘Eneidiau Rhydd’, ‘Breuddwyd Wagner’, ‘Y Tuduriaid’ ac yn awr y ‘Merched Colledig’. Daw ‘Ffydd’ yn yr haf. Dyma syniad da sy’n ymestyn ein dealltwriaeth o’r gelfyddyd – ac y mae Pountney yn credu’n angerddol fod opera yn fwy na noson o adloniant yn unig. Er bod gwireddu’r weledigaeth wedi arwain yn anorfod at ambell elfen o gyfaddawd, rhaid cymeradwyo’r fenter fel un ddewr a dyfeisgar.Cymeriad ysgytwol Lulu ym mhortread Alban Berg oedd uchafbwynt tymor yr ‘Eneidiau Rhydd’ a dyma hi nawr yn hofran eto yng nghefndir y ‘Merched Colledig’: La Traviata (Verdi), Manon Lescaut (Puccini) ac ymdriniaeth arall o stori Manon gan Hans Werner Henze yn Boulevard Solitude. Mae operâu tymor y Merched Colledig ar daith ar hyn o bryd gan gynnwys perfformiadau yn Venue Cymru, Llandudno, ddechrau Ebrill. Am fanylion ewch i
29 Mawrth 2014
Cynllunio Niweidiol – Llundain a Chaerdydd sydd ar fai
Mae’r awdur, sy’n gynghorydd sir, yn dadlau bod Cymdeithas yr Iaith yn beirniadu adrannau a phwyllgorau cynllunio Gwynedd a Môn am ddilyn polisïau a orfodwyd arnyn nhw gan lywodraethau San Steffan a Chymru. Digon diddiolch ydi gwaith cynghorydd sir yn amlach na pheidio. Fe glywch rai yn cwyno mai swyddogion cyflogedig sydd yn rhedeg ein cynghorau yn hytrach na’r aelodau etholedig. Ond nid dyna wraidd y broblem mewn gwirionedd. Deddfwriaeth, canllawiau, strategaethau a rheoliadau allanol sy’n bennaf gyfrifol am droi ein cynghorau sir o fod yn gyrff llywodraethu lleol i fod yn gyrff gweinyddu lleol. Saethu’r negesydd mae cynghorwyr wrth feio swyddogion y cyngor am danseilio eu hawdurdod. Llywodraethau Llundain (gyda chymorth o Gaerdydd ers 1999) sydd ar fai am danseilio democratiaeth leol yng Nghymru.Prin fod unrhyw ran o waith ein cynghorau lle mae hyn yn fwy gwir na’r drefn gynllunio. A chynllunio ydi’r pwnc diweddaraf sydd yn debygol o ddod â chynghorau sir Cymreiciaf Cymru benben â charfan arbennig o genedlaetholwyr. Asgwrn y gynnen ydi Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn; dogfen drom, drwchus, sy’n amlinellu sut y bydd y ddau gyngor yn dehongli rheolau Arolygiaeth Gynllunio Cymru a Lloegr dros y degawd nesaf.Mae hon yn ddogfen sydd wedi bod yn yr arfaeth ers blynyddoedd lawer. Cyn belled yn ôl â 2011 roedd y ddau gyngor yn ymgynghori ar ei chynnwys, gan deithio neuaddau pentref a chynghorau cymuned yn gofyn i drigolion yr ardal am eu barn. Serch hynny, dim ond yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf mae’r CDLl wedi dod yn bwnc llosg, a hynny’n bennaf oherwydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Mae’r Gymdeithas wedi penderfynu bod y cynllun yn fygythiad i’r Gymraeg yn ei chadarnleoedd ac wedi galw ar y ffyddloniaid i ymuno yn y frwydr yn ei erbyn. Bu beirdd a chantorion, pobl ddrama a phobl farfog yn llythyru â’r wasg, yn gofyn am ailystyried, a gohirio, a gwrthwynebu.
29 Mawrth 2014
ganDyfrig Jones
Y Wyddeleg – Iaith Swyddogol Mewn Enw’n Unig
Mae ymddiswyddiad Comisiynydd yr Iaith wedi bod yn sbardun i filoedd o bobl brotestio ar y strydoedd yn erbyn yr anghyfiawnderau dyddiol mae defnyddwyr y Wyddeleg yn eu dioddef wrth ymwneud â’r awdurdodau. Rhyw chwe wythnos yn ôl ar bnawn Sadwrn yn Chwefror ymgasglodd pobl o bob oed ynghyd â’u plant a’u hwyrion yng nghanol Dulyn ar gyfer rali fawr o blaid y Wyddeleg. Roedd eu nod yn ddeublyg. Dathlu’r iaith – ‘Ry’m ni Yma o Hyd’. A phrotestio hefyd.Roedd llawer ohonyn nhw’n gwisgo coch er mwyn dangos eu dicter eirias tuag at agwedd y llywodraeth a chyrff cyhoeddus – yn y Gogledd yn ogystal â’r Weriniaeth – tuag at yr iaith. Yn ôl y trefnwyr, Conradh na Gaeilge (corff annibynnol sy’n hyrwyddo’r Wyddeleg), roedd 10,000 o bobl yno. Teithiasant o bob rhan o’r ynys. Roedd y rali, medden nhw, yn gychwyn ar ymgyrch newydd egnïol i geisio sicrhau hawliau cyfartal i siaradwyr Gwyddeleg. Mae ’na gyfres o ralïau tebyg wedi eu trefnu – gan gynnwys un fawr ym Melffast ar 12 Ebrill. Bydd yr ymgyrchwyr hefyd yn targedu’r etholiadau lleol ac Ewropeaidd ym mis Mai.Dyma i chi rai o’r anghyfiawnderau a oedd wedi ysgogi’r brotest: gwr ifanc yn ceisio dal pen rheswm yn y Wyddeleg gyda phlismon ar ôl cael ei stopio am drosedd fodurol. Cafodd ei gludo mewn cyffion i orsaf yr heddlu. A bu’n rhaid iddo aros am oriau nes y daethpwyd o hyd i rywun oedd yn medru’r iaith.Protestiwyd hefyd yn erbyn sefyllfa lle mae’r sawl sy’n sgwennu mewn Gwyddeleg at y Gwasanaeth Iechyd yn cael ateb yn Saesneg.Cythruddwyd eraill gan y ffaith bod cais gweddol rad a syml i osod labeli dwyieithog ar DVDs i ddynodi ar gyfer pa oedran y’u bwriadwyd wedi ei wrthod ar sail cwyn gan un person.Protestiwyd yn erbyn sefyllfa lle mae nifer cynyddol o’r cynlluniau i sicrhau darpariaeth drwy’r Wyddeleg yn dibynnu ar ‘yr adnoddau sydd ar gael’. Hynny yw, bod y defnydd o’r iaith yn amodol, nid yn hawl diamwys.. Eto i gyd, y Wyddeleg yw iaith swyddogol Iwerddon. Os oes dadl gyfreithiol dros union ystyr neu ddehongliad geiriau’r Cyfansoddiad yn y Llys Uchaf, er enghraifft, y fersiwn Wyddeleg sy’n cael y flaenoriaeth. Er hynny, yn ymarferol, does gan ei siaradwyr ddim o’r un hawl i gyfathrebu gyda’r awdurdodau yn eu hiaith eu hunain ag sydd gan siaradwyr Saesneg. Hynny oherwydd agweddau rhai pobl mewn awdurdod a diffyg staff sy’n medru’r iaith mewn adrannau o’r llywodraeth. Mae hon yn broblem ddifrifol yn y Gaeltacht yn arbennig lle mae pobl yn ceisio byw eu bywydau trwy gyfrwng y Wyddeleg.Ysywaeth, dydy hi ddim yn broblem newydd. Ond yn ôl yr ymgyrchwyr iaith mae’n gwaethygu. A hynny oedd wrth wraidd ymddiswyddiad Comisiynydd yr Iaith Wyddeleg ym mis Rhagfyr y llynedd.
29 Mawrth 2014
Wedi’r Chwalfa – Beth Sydd ar ôl
Ffotograffau Andrew MorrisCynhelir dwy arddangosfa yng Nghaerdydd y mis hwn, un gan ffotograffydd profiadol ac uchel ei barch yng Nghymru, a’r llall gan ffotograffydd sy’n dechrau ar ei yrfa, enillydd cyntaf Gwobr Artist Ifanc Rhyngwladol Cymru. Trwy gyd-ddigwyddiad mae’r ddwy arddangosfa yn ymweld â’r un thema. Un o luniau Andrew Morris yn ei arddangosfa What's Left Behind? Dyn ifanc 23 oed yn dechrau byw yw ANDREW MORRIS, ond aeth i’r afael â thestun sy’n perthyn i ben arall bywyd – diwedd oes, a chwalu’r cartref. Mae’n anodd deall y dynfa at destun mor brudd, ond gwrandawaf yn eiddgar wrth iddo siarad am ei waith, a hynny dros goffi ym Marina Abertawe, yn ei dref enedigol. Bu’n tynnu lluniau gyda’i gamera ers blynyddoedd, meddai, a graddiodd mewn ffotograffiaeth o Brifysgol y Drindod Dewi Sant yn Abertawe y llynedd. Wrth chwilio am destun dechreuodd gydag adfeiledigrwydd, ac o hynny daeth y syniad iddo am dynnu lluniau tu mewn i gartrefi oedd ar fynd ar y farchnad, ar ôl i’w perchnogion farw neu oherwydd atafaeliad.Sut aeth o’i chwmpas hi, gofynnais, ac eglurodd yntau am y modd yr âi at y gwerthwyr tai gyda’i gais, a hwythau’n cael caniatâd y teulu. Ymwelodd â thros ddeg ty i gyd, gan gymryd ei amser i osod ei gamera fformat-canol Mamyia ar ei drybedd, i wirio’r golau a’r cyfansoddiad, a chyfyngu ei hun i ddeg ffram o ffilm i bob ty. Erbyn i Andrew gael mynediad i’r tai roedd y teuluoedd wedi cael amser i fynd â phopeth o werth oddi yno, ond y syndod mawr a gafodd oedd cymaint o bethau oedd yn dal hyd y lle. A dyna deitl ei arddangosfa – ‘Yr hyn a adawyd ar ôl’. ********************Arddangosfa unigol gyntaf Andrew Morris, enillydd cyntaf Gwobr Artist Ifanc Rhyngwladol Cymru 2013: What’s Left Behind; Chapter, Caerdydd, 14 Mawrth – 18 Mai.********************"Yn y manion mae einioes" Ffotograffau Aled Rhys HughesPan ysgrifennais am y casgliad ffotograffig yma gyntaf bron ugain mlynedd yn ôl (‘Llawnder Aelwyd Wag’, Barn 390/391, Gorffennaf/Awst 1995), roedd llinellau o awdl Ieuan Wyn ‘Llanw a Thrai’ yn benthyg eu hunain yn naturiol i’r erthygl, a dyma nhw unwaith eto, yn mynd law yn llaw â’r lluniau. Pan aeth y bardd i aelwyd wag taid a nain mynegodd ei brofiad mewn cynghanedd. Aeth ALED RHYS HUGHES yno gyda’i gamera, ac mae’n rhyfedd fel y mae’r ddau gyfrwng yn gorgyffwrdd. Ers pan oedd yn bum mlwydd oed bu Aled yn treulio’i hafau gyda’i daid a’i nain yn Llansannan, yn y byngalo a gododd y ddau ar ôl ymddeol o’u fferm. Gallai’r plant rannu gyda Ieuan Wyn y profiad o redeg ‘i dy hyfrydwch, a’r Gymraeg / Ym mro diogelwch’, a derbyn croeso o’r math na all neb ond taid a nain ei roi i blentyn. Does ryfedd fod yr atgofion yn tywynnu’n gynnes o’r gorffennol.Ugain mlynedd a mwy ar ôl i Dafydd ac Elizabeth Hughes godi’r bwthyn, safai Aled yn eu parlwr yn graddol dderbyn na ddeuent yn ôl i Lys Euryn i gynnau’r tân nac i hulio’r bwrdd. Bu’r ty’n wag ers peth amser gan fod Taid a Nain bellach mewn cartref preswyl, a daeth yn rheidrwydd ar Aled i gofnodi hynny a fedrai o’u cartref tra oedd yn dal yn llawn o’u presenoldeb. Tynnodd dros ddau gant o ffotograffau cyn y chwalfa anochel a ddaeth yn fuan wedyn, ar ôl marw Dafydd yn 1993 ac Elizabeth yn 1994. Lluniau yw’r rhain a dynnwyd o safbwynt personol am resymau personol, i roi ar gof a chadw atgofion am ddau a fu’n annwyl ganddo ac a fu’n ddylanwad arno o’i blentyndod. ********************Bydd lluniau Aled Rhys Hughes i’w gweld yn Adeilad y Cynulliad yng Nghaerdydd o 4 Ebrill ymlaen, a byddant i fyny am dri mis.
29 Mawrth 2014
Archgarchar Wrecsam – Carchar ar Gyfer Lloegr
Yn wleidydd a bargyfreithiwr, mae’r awdur yn dadlau na fydd codi carchar mwyaf Prydain yn Wrecsam yn gwneud dim lles o gwbl i garcharorion Gogledd Cymru ac na fydd yr economi leol yn elwa nemor ddim o ddatblygiad mor sylweddol. Fydd o ddim ychwaith o les i garcharorion yn gyffredinol. Am flynyddoedd lawer, rwyf wedi dadlau o blaid carchar i wasanaethu gogledd a chanolbarth Cymru. Ond fel sydd wedi ei amlinellu gan sawl arbenigwr, nid yw carchar enfawr arfaethedig Wrecsam wedi ei ddylunio gydag anghenion y boblogaeth leol mewn golwg. Bwriadwyd ef yn hytrach i ateb anghenion gogledd-orllewin Lloegr. Ac i arbed arian.Ar ben hynny, mae’r mwyafrif helaeth o arbenigwyr yn y maes hwn yn cytuno nad ydi carchardai enfawr o fudd i garcharorion yn gyffredinol, heb sôn am leoliad y carchar. Mae’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol ei hun wedi derbyn hynny mewn adroddiad diweddar. Felly hefyd y Prif Arolygydd Carchardai. Bydd y carchar arfaethedig yn Wrecsam yn gweithredu’n bennaf fel carchar Categori C ar gyfer oedolion gwrywaidd. Eithrir, felly, holl garcharorion gwrywaidd gogledd a chanolbarth Cymru sy’n cael eu dal fel carcharorion Categori A a B ar hyn o bryd, heb sôn am fenywod a phobl ifanc. Amcangyfrifir y byddai nifer y carcharorion Cymreig yn y ddalfa yn Wrecsam yn nes at 500. Golyga hynny y byddai bron i dri chwarter poblogaeth y carchar yn dod o ogledd-orllewin Lloegr.Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ei hun, hyd yn oed, wedi awgrymu y byddai agor safle yn Wrecsam yn cyd-ddigwydd â chau hen safleoedd carchar yng ngogledd-orllewin Lloegr.
28 Chwefror 2014
ganElfyn Llwyd
Dewi, Tad Dirwest
Llwyrymwrthodwr a yfai ddim ond dwr oedd Dewi Sant, neu ‘Dewi Ddyfrwr’, yn ôl yr hanes. O’r hyn a wn am yr hanes hwnnw, rhaid cyfaddef bod ein nawddsant yn swnio’n greadur go boring i mi, a’r peth mwyaf diddorol a ddysgais amdano oedd iddo gael ei fedyddio gan sant o’r enw Elvis (o Munster, nid o Memphis). Yr unig seintiau i greu argraff arna’i erioed oedd dwy Ffrances – Jeanne D’Arc, y cadlywydd milwrol a losgwyd wrth y stanc; a Bernadette, merch i felinydd o’r 19g. a lwyddodd i droi tref fach Lourdes yn bererinfa fydenwog yn sgil ei gweledigaethau ar lan afon o’r Forwyn Fair. Y naill yn action woman ganoloesol a’r llall wedi dal fy nychymyg yn blentyn drwy gyfrwng y ffilm amdani, The Song of Bernadette, gan fy arwain i a’m ffrind Janice ar sawl pererindod at lan Afon Seilo ym Mhenrhyn-coch yn y gobaith o weld drychiolaethau o’r fath yno. Ond nid cyfrinydd mohona’i, na dirwestrwaig, ac ni’m temtiwyd eleni i ymuno â’r giwed sy’n neidio ar wagan flynyddol Ionawr Sych.
28 Chwefror 2014
S4C yn Cofio Iwan Llwyd – Prifardd Roc a Rôl
Ar 9 Mawrth teledir rhaglen awr am y bardd, y gitarydd a’r teithiwr fu farw ym mis Mai 2010 yn 52 oed. Yma mae lluniwr y rhaglen, Rhwng gwên nos Sadwrn a gwg y Sul, yn trafod ei ymwneud creadigol ag Iwan dros gyfnod o ddau ddegawd. Nid bardd cadair freichiau oedd Iwan Llwyd. Yng ngeiriau Myrddin ap Dafydd, roedd Iwan yn ‘byw ei gerddi’ ac yn tynnu ar brofiadau ei deithiau yng Nghymru a thu hwnt. Trwy’r teithiau hynny llwyddodd yn fwy na neb i gario’r ddraig farddol i lefydd na wyddent cynt am fodolaeth Cymru heb sôn am yr iaith Gymraeg. Er ei fod o wedi ei drwytho yn ein traddodiad barddol, wedi sgwennu traethawd MA swmpus ar hanes noddwyr y beirdd yn yr oesoedd canol, ac wedi ennill coron yr Eisteddfod Genedlaethol, roedd o hefyd yn hyddysg yn y diwylliant roc Eingl Americanaidd.Roedd ei gynfas yn eang. Mae ei gerdd ‘Pedair awr ar hugain o Tulsa’, er enghraifft, wedi ei hysbrydoli gan atgofion amdano’n gwrando ar gân Gene Pitney a oedd yn y siartiau pan oedd Iwan yn tyfu i fyny yn Nyffryn Conwy yn y Chwedegau. Mae’r gerdd yn pwysleisio pwysigrwydd dal gafael mewn atgofion sydd, fel cysgodion ar ymylon y cof, yn ‘ffurfiau aneglur sy’n symud ac yn sibrwd fel darluniau dyfrlliw’r plant yn y glaw’. Yn ein rhaglen mae yna ffilm o Iwan yn darllen y gerdd honno i gynulleidfa yn Philadelphia yn nawdegau’r ganrif ddiwethaf. Ar adegau felly byddai’n darllen ei gerddi yn y Gymraeg ac mewn cyfieithiad Saesneg. Mae gen i gof i’w gerdd ‘Safeways’, am yr archfarchnad ym Mangor, gael derbyniad brwdfrydig hefyd yr un noson.Mae’r ddwy gerdd honno’n ymddangos yn ei gyfrol Dan Anesthetig, wedi ei darlunio gan Iwan Bala. Dyma’r llyfr a’m denodd i at waith Iwan yn y lle cyntaf a’m harwain i gydweithio efo fo ar dair cyfres deledu oedd yn cyfuno teithio efo barddoniaeth. Roedd Iwan yn credu’n gryf mewn asio barddoniaeth wrth gyfryngau eraill fel ffotograffiaeth neu arlunio ac felly roedd y syniad o blethu ffilm efo’i gerddi’n apelio ato.
28 Chwefror 2014
Dinistrio’r Undeb er Mwyn Achub yr Undeb
A hithau’n flwyddyn y refferendwm annibyniaeth, mae gwleidyddion y pleidiau unoliaethol yn Lloegr wedi bod yn dyrchafu eu llygaid – a’u lleisiau – i’r Alban. Ond ai rhwystr yn hytrach na chymorth i achos Prydeindod fydd ymyrraeth Llundain yn y pen draw? Ai unoliaethwyr Lloegr fydd yn chwalu’r Undeb? Ganol mis Chwefror, yn sydyn reit, fe ffrwydrodd ymgyrch y refferendwm annibyniaeth. Hyd hynny bu’r ymgyrch yn gymysgedd rhyfedd o drafodaethau cyhoeddus digon gwâr mewn neuaddau a darlithfeydd hyd a lled y wlad. Yn ogystal bu paratoi dyfal y tu ôl i’r llenni ar gyfer yr ymgyrchu ‘go iawn’ – paratoi gan yr ochr Ie, o leiaf. Nad oes unrhyw siâp ar yr ymgyrch Na ar lawr gwlad. Ond yn ddisymwth, ganol y mis, fe ddechreuwyd tanio’r gynnau mawrion.Ar y naill law, gwthiwyd Big Bertha’r Unoliaethwyr – George Osborne – o’i seidin yn y Trysorlys a’i anelu i gyfeiriad y ffosydd Cenedlaetholgar. Clec! Chaiff Alban annibynnol ddim rhannu’r bunt! Yn atseiniau’r glec fawr honno, taniwyd ergydion pellach gan Ed Balls a Danny Alexander: ‘Dan ni’n cytuno hefo George!’ Yna daeth ergyd o fagnel Ewropeaidd y Cadfridog Barroso a awgrymai y gallai’r Alban annibynnol – fel Cosofo – gael ei chau allan o’r Undeb Ewropeaidd fel cosb am ei hyfdra’n herio’r drefn diriogaethol yn Ewrop.Mewn ymateb, galwyd ar Alex Salmond – capten dreadnought yr SNP – i danio ’nôl: ‘Dach chi’n bwlio a chwythu bygythion, bobl, a bydd yn rhaid i chi ddod at eich coed wedi i ni fod yn fuddugol.’ Ac yn y blaen, ac yn y blaen...
28 Chwefror 2014
Cwis Gwyl Ddewi
Cyfle i ennill tocynnau mynediad ar gyfer teulu i ddau o brif atyniadau Cymru, sef GARDD FOTANEG GENEDLAETHOL CYMRU yn Sir Gaerfyrddin a PHORTMEIRION yng Ngwynedd (gwerth dros £40 i gyd). Mae'r Cwis ar dud. 38 o'r rhifyn cyfredol (Barn 614, Mawrth 2014), ac mae'r atebion i bob un o’r cwestiynau i’w cael ar dudalennau eraill yn y rhifyn hwnnw, dim ond i chi ddarllen yn ofalus. Anfonwch eich atebion naill ai i Swyddfa Barn, Y Llwyfan, Caerfyrddin, SA31 3EQ gyda’ch enw, eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn – neu yr un modd at swyddfa@cylchgrawnbarn.com , erbyn Dydd Llun 31 Mawrth. Bydd yr atebion, ac enw’r enillydd, yn rhifyn Mai, ond ceisiwn gael y gwobrau allan i’r enillydd mewn pryd ar gyfer gwyliau’r Pasg.
28 Chwefror 2014
Mae Lle i Fratiaith ar y We
Mae iaith gwefannau cymdeithasol yn destun llosg cyson ymhlith caredigion yr iaith Saesneg, wrth i eiriau gael eu cywasgu a’u ’stumio i siwtio brys y neges destun, a gofod cyfyngedig byd y Trydar. Mae hi’n ffwl stop ar nifer o elfennau gramadegol hefyd, gyda llawer gormod o !!!!!! ac ychydig iawn o unrhyw beth arall. Mae’r ebychnod yn cael y fath lwyfan yn y byd digidol nes ei fod o mewn peryg o golli’i ebwch. ‘Wedi dyweddïo!!!!!’ ‘Bîns ar dost di ffefryn fi!!!!’ ‘Taid wedi marw ddoe!!!! Mor drist!!!!!’ ‘R.I.P!!!!!!’ Beth bynnag fo’r cyd-destun, does yr un cyfraniad ar na Gweplyfr nac Instagram yn gyflawn heb goedwig o ebychnodau, er mwyn dangos eich bod chi wir yn ei feddwl o!!! Be bynnag ydi o!!!Ond rhyw gyfathrebu ffwrdd-â-hi ar y cyfan ydi’r cyfraniadau a welwch chi ar y gwefannau yma, ac mae’r iaith anffurfiol a welir yno yn adlewyrchu hynny. Mae ’na sawl math o iaith anffurfiol wrth gwrs – ac mae rhai mathau yn fwy bratiog na’i gilydd.
28 Chwefror 2014
ganBeca Brown
Stori Eos – Dwy Ochr
Cyn y Nadolig daeth brwydr hir a chwerw rhwng y BBC ac Eos ynghylch breindaliadau i ben pan ddyfarnodd tribiwnlys mai £100,000 y flwyddyn oedd y swm y dylai’r Gorfforaeth ei dalu i’r asiantaeth hawliau darlledu am gael chwarae cerddoriaeth ei haelodau. Dyma ddau ymateb tra gwahanol i’r dyfarniad hwnnw.
29 Ionawr 2014
Papur Arholiad Plaid Cymru
Anodd tynnu cast o hen geffyl, meddai’r ddihareb. Hyd yn oed wrth sgwennu i Barn, parhau i osod cwestiynau arholiad mae’r Athro’n ei wneud. Ac fe gaiff cabinet newydd Leanne Wood ei sylw hefyd. Nhw, wedi’r cyfan, fydd yn gorfod dod o hyd i atebion tyngedfennol yn 2016.
29 Ionawr 2014
Cyfrinachau’r mynyddoedd – Gwaith Lisa Eurgain Taylor
Tirlun Eryri sy’n ysbrydoli artist ifanc y bydd ei gwaith i’w weld mewn arddangosfa yng Nghaernarfon ym mis Chwefror.Mae Lisa Eurgain Taylor wedi cael blwyddyn brysur a llwyddiannus. Graddiodd gyda BA mewn Celfyddyd Gain (Peintio) yn yr haf a bu ei gwaith yn rhan o sawl arddangosfa. Roedd lluniau ganddi mewn ffair o waith graddedigion yn Battersea Park, Llundain, ym mis Hydref y llynedd, a chyn hynny, yn yr haf, mewn arddangosfa agored yn Bocs, Caernarfon, oriel sy’n canolbwyntio ar artistiaid newydd ac ifanc. Yn wir, hi oedd yr artist buddugol yn yr arddangosfa honno, Bocs Agored ’13, a’r wobr am hynny yw cael ei harddangosfa ei hun yn yr oriel hon y mis hwn.
29 Ionawr 2014
ganMenna Baines
Materion y Mis – Bwyell Williams yn Sbaddu Llywodraeth Leol
Ar 20 Ionawr cyhoeddwyd argymhellion y criw fu’n llafurio dan Syr Paul Williams i ailddylunio (am y trydydd tro mewn deugain mlynedd) map llywodraeth leol Cymru. Bydd gennym 12 o gynghorau (neu efallai 10 neu o bosib 11 – y fath bendantrwydd!) yn hytrach na’r 22 presennol. Dyna’r prif argymhelliad. Pam? Oherwydd bod unedau mwy, ym marn Williams, yn rhatach. Ond a fedr economi Cymru fforddio colli 15,000 ymhellach o swyddi llywodraeth leol a thalu am ad-drefnu a fydd, yn ôl un ffynhonnell, yn costio £200 miliwn? Tacteg beryglus mewn cyfnod o ddirwasgiad.
29 Ionawr 2014
Cwrs y Byd – Kitchener a Brynsiencyn
Dwi ddim yn credu y byddai neb yn disgwyl i ganmlwyddiant cychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf gael ei anwybyddu. Yn wir cytunai’r militarydd a’r heddychwr ei bod yn ddyletswydd arnom i gofio’r fath gyflafan a’r fath aberth. A chofio ydi’r gair allweddol. Yn sicr nid dathlu. Dyna a ddywedai ambell ohebydd a darllenydd newyddion Cymraeg anystyriol pan ddechreuodd llywodraethau’r ynysoedd hyn drafod sut y dylid mynd ati drwy gydol 2014 i nodi cychwyn y Rhyfel Mawr. Anweddus – na, gwaeth na hynny, annynol – fyddai peidio cofio rhyfel melltigedig a hawliodd, yn ôl yr Encyclopedia Britannica, 9,750,103 o fywydau. (Sut ar wyneb y ddaear y gallai neb fentro bod mor gysáct â hynny sy’n ddirgelwch.)
29 Ionawr 2014
Y Brymis a’r Cofis
A finna’ wedi cael ’madal o’r diwedd â gwaelodion y tun Quality Street ’Dolig, dyma ista i lawr i wylio’r gyfres newydd Benefits Street ar Channel 4, yn y gobaith y byswn i’n rhy flin i flysio am unrhyw beth melys am awr o leia. Wedi darllen erthyglau a llythyrau dirifedi yn beirniadu’r rhaglen yr o’n i, a phawb bron yn cyhuddo gwneuthurwyr y gyfres o bortreadu’r cyfranwyr fel pobol ddrwg a dieflig a thrwy hynny roi darlun annheg o bobol ar fudd-daliadau. ‘Poverty porn’ oedd y cyhuddiad gan amryw o feirniaid.
29 Ionawr 2014
ganBeca Brown