Thema dywyll Thema golau

Arddangosfa sy’n chwalu myth

Edward Owen, Penrhos, Hunanbortread, 1732 Edward Owen, Penrhos, Hunanbortread, 1732
Pan gyhoeddodd yr hanesydd celf Peter Lord y gyfrol Delweddu’r Genedl yn 2000, dim ond un paentiad gan Edward Owen, Penrhos, y gwyddai amdano. Er bod llythyron yr artist o Benrhos, ger Caergybi, wedi goroesi, roedd ei waith ar chwâl. Un mlynedd ar ddeg wedi cyhoeddi’r gyfrol cysylltodd Piers Davies, gwerthwr celf o’r Unol Daleithiau, â Peter Lord a hynny ar ôl darllen troednodyn yn y gyfrol yn tynnu sylw at yr artist o’r 18g. Wrth ymhél â chasgliad celf un o’i ddiweddar gleientiaid sylwodd Piers Davies ar yr enw Penrhos ar gefn y cynfas. Bellach mae’r paentiad ym meddiant Peter Lord, ac mae’n cael lle anrhydeddus o dan y dyddiad ‘1732’ yn Oriel Gregynog yn y Llyfrgell Genedlaethol. Yn ôl y disgrifiad sydd wrtho, dyma’r hunanbortread cynharaf gan artist Cymreig. A dyma’r ddelwedd, gyda’r geiriau ‘DIM CELF GYMREIG’ ar draws llygaid Edward Owen, sydd ar ddeunydd hyrwyddo arddangosfa sy’n chwalu’r myth nad oes gan y Cymry draddodiad gweledol.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Llawysgrif yn cynnwys Cywydd y Gont, Gwerful Mechain

Merched yn eu geiriau eu hunain

Ymlaen >
Cyfres ddrama newydd Ar y Ffin

O Gasnewydd i Galisia