Hunan-dyb a ffantasi ynghylch adfer grym byd-eang Prydain oedd y tu cefn i Brexit, ond nid yw wedi newid un dim ynghylch realiti economaidd a gwleidyddol y cyfnod ôl-ymerodraethol.
Yn ôl yn 1983 fe gyhoeddodd Raymond Williams ysgrif fechan yn dwyn y teitl ‘Wales and England’. Gan droi’r disgwyliadau arferol ar eu pen, byrdwn ei bregeth oedd fod gan y Saeson bethau o bwys i’w dysgu gan y Cymry.
A ninnau’n bobl fychan o ran ein niferoedd a chymharol eiddil ein hardrawiad ar y byd, ein ffawd ni’r Cymry fu treulio canrifoedd dirifedi yn ceisio cysoni ein hawydd i fyw fel cenedl gyda’n lleoliad yng nghesail cymydog sydd lawer iawn yn fwy niferus a grymus na ni. Efallai’n wir nad ydym wedi canfod y fformiwla hud ar gyfer gwneud hynny’n llwyddiannus. Serch hynny, rydym wedi meddwl yn ddwys am yr heriau sy’n codi ac o’r herwydd – os dim arall – yn ymwybodol o’r cwestiynau sydd angen eu gofyn ac am rai o’r atebion posibl.
Yn nhyb Williams yn 1983, roedd hyn oll yn gynyddol berthnasol i Loegr oherwydd y modd yr oedd diflaniad yr Ymerodraeth a’r rhwysg a’r golud a berthynai iddi’n golygu ei bod yn gynyddol anodd i’r Saeson hwythau osgoi cydnabod realiti eu sefyllfa fel cenedl lai yn byw dan gysgod pobloedd mwy grymus. Gyda chrib Prydain Fawr wedi ei thorri a’r wlad wedi colli ei statws fel grym byd-eang, ffawd Lloegr oedd ceisio canfod ffyrdd – yn wleidyddol, yn economaidd ac yn ddiwylliannol – o gysoni’r awydd i gynnal arwahanrwydd gyda’r ffaith ei bod yn genedl ganolog-ei-mantioli wedi ei lleoli oddi ar arfordir gogledd-orllewin tir mawr Ewrop. Mewn byr eiriau, roedd yr her a wynebai Lloegr yn debyg yn ei hanfod i’r un y bu Cymru’n ymgodymu â hi, a gallai’r Saeson ddysgu o’n profiad ni o geisio gwneud hynny.
Er gwaethaf ei alltudiaeth yng Nghaergrawnt, yr oedd Raymond Williams yn ‘Gymro Ewropeaidd’ o arddeliad, a go brin y gellir amau ei fod yn credu mai trwy goleddu’r cysylltiad Ewropeaidd y gallai Lloegr, fel Cymru hithau, ganfod modd o gydbwyso’r gwahanol densiynau a dyheadau y mae’n rhaid i bob gwlad, ac eithrio efallai’r Unol Daleithiau a Tsieina, orfod ymgodymu â hwy yn y byd cyfoes. Er mor flêr ac amherffaith oedd ac yw’r broses o integreiddio Ewropeaidd, y mae serch hynny wedi galluogi’r hyn a ddisgrifiwyd gan yr hanesydd Alan S. Milward yn nheitl ei gyfrol bwysig fel The European Rescue of the Nation State. Trwy gyfrwng Ewrop, llwyddwyd i gysoni’r awydd am hunanlywodraeth gyda’r gyd-ddibyniaeth rynglywodraethol sydd hefyd yn anorfod. Trwy Ewrop y cafwyd modd o gynnal peth ar ‘y glendid a fu’ wrth groesawu dylanwadau newydd. Trwy Ewrop y gellid amddiffyn y ‘bychanfyd’ o’n cwmpas tra’n coleddu’r hyn sy’n hollgyffredinol.
Hyd yn oed ar y pryd, roedd y syniad y byddai Lloegr yn fodlon ceisio dysgu rhywbeth o brofiad Cymru yn optimistaidd ar y naw. Mae’r dybiaeth eu bod uwchlaw ein teips ni wedi gwreiddio’n ddwfn iawn, iawn ymhlith deallusion Seisnig, boed y rheini’n ddeallusion y chwith neu’r dde. Beth bynnag eu gwahaniaethau, dyma garfan sy’n unedig yn y dybiaeth eu bod yn troedio llwyfan llawer iawn yn ehangach a mwy cwmpasog na Lloegr ‘yn unig’. Yn wir, onid un o broblemau mawr ein cymdogion yw nad oes gan Loegr – fel Lloegr – ei deallusion ei hun?
Ta waeth am hynny, hyd yn oed os na ellid disgwyl i unrhyw un edrych i gyfeiriad Cymru am ysbrydoliaeth, yr oedd yn rhesymol credu y byddai Lloegr yn graddol fwrw heibio’r rhwysg a’r hunan-dyb oedd yn waddol y gorffennol ymerodraethol ac yn coleddu dyfodol Ewropeaidd. Wedi’r cyfan, dyna oedd yr unig opsiwn rhesymegol a chall o ystyried sefyllfa geowleidyddol ac economaidd y wladwriaeth.
A hithau bellach bron iawn yn union bum mlynedd ers i’r rhan fwyaf (sic.) o’r Deyrnas Gyfunol droi ei chefn ar yr Undeb Ewropeaidd yn dilyn canlyniad refferendwm 2016, gwyddom nad derbyn yr opsiwn rhesymegol a wnaed yn yr hirdymor. Do, bu’r wladwriaeth y mae Lloegr yn galon iddi yn rhan o’r Undeb am gyfnod estynedig gan elwa’n sylweddol o’r profiad. Ond, yn y pen draw, profodd ffantasi a hunan-dyb yn drech na realiti materol, gan gynnwys hyd yn oed ffeithiau daearyddiaeth. Llwyddodd y Saeson – gyda chymorth cyfran dda o’n cydwladwyr mwy hygoelus – i lusgo’r wladwriaeth allan o’r Undeb.
Fel y dangosodd Ailsa Henderson a minnau yn ein hastudiaeth Englishness, roedd cefnogwyr Brexit yn credu y byddai ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn esgor ar gyfleon newydd. Yn benodol, credent y gellid ailafael yn y berthynas â rhai rhannau o’r hen Ymerodraeth – y ‘White Dominions’ fel y’u gelwid mewn oes lai goleuedig – gan sicrhau y byddai’r ‘famwlad’ unwaith yn rhagor yn chwarae yr hyn a ystyrient fel ei phriod swyddogaeth, sef arwain.
Ddigwyddodd hynny ddim, wrth gwrs. Mae Awstralia, Seland Newydd a Canada oll yn wahanol iawn i’r fersiynau dychmygol o’r gwledydd hynny y mae cymaint o gefnogwyr Brexit yn parhau i’w coleddu. Tra oedd dwy o’r tair gwlad yn fodlon arwyddo cytundebau masnach gyda Phrydain (ar delerau rhyfeddol o ffafriol iddynt hwy eu hunain, wrth gwrs!) nid oes ganddynt fwriad yn y byd o droi’r cloc yn ei ôl a chowtowio i Lundain.
Gan gadarnhau ymhellach fod Brexit wedi ei seilio ar freuddwyd gwrach, mae’r symudiad i ymadael â’r farchnad sengl Ewropeaidd wedi cyd-daro â symudiad cryf iawn yn yr economi ryngwladol – sydd ar fin cryfhau hyn yn oed ymhellach gydag ailethol Trump – tuag at greu rhwystrau i fasnach fyd-eang trwy gynyddu tariffau ac yn y blaen. Roedd Brexit yn syniad hurt o’r cychwyn cyntaf; ond hyd yn oed wedyn, go brin y gallai’r amseru ar ei gyfer fod wedi bod yn waeth.
Yn hytrach na dilyn esiampl Cymru a chydnabod bod yn rhaid i unrhyw wlad gymharol ddistadl ganfod ffyrdd o gydbwyso gwahanol ddyheadau, mae Lloegr wedi penderfynu fod ’na opsiwn hawdd ar gael wedi’r cyfan. Yn hytrach na derbyn yr holl gyfaddawdu a’r holl flerwch sy’n rhan annatod o gydbwyso breuddwydion mewnol a realiti allanol, penderfynwyd fod modd ‘gwneud Prydain yn FAWR eto’. Fe fethodd y Torïaid â gwneud hynny, wrth gwrs. Methiant fydd ymdrech Starmer a’i griw wrth iddynt hwythau geisio sicrhau bod Brexit yn ‘llwyddiant’. Methu fydd ffawd unrhyw ymdrech arall o’r fath yn y dyfodol hefyd a hynny’n syml oherwydd nad yw llwyddiant yn bosibl.
Dichon y daw’r dydd pan fydd yn rhaid i Loegr gydnabod realiti ac ailystyried ei lle yn y byd ac felly ei pherthynas ag Ewrop. Ond yn y cyfamser, fe fydd agwedd y rhan bwysicaf o’r wladwriaeth yr ydym yn parhau i berthyn iddi – a’i dylanwad yng Nghymru – yn rhywbeth y bydd yn rhaid i ni’r Cymry Ewropeaidd geisio ymdopi ag ef. Fydd hynny ddim yn hawdd chwaith. Byddai, fe fyddai wedi bod llawer iawn yn well i bawb petai cyngor Raymond Williams wedi ei dderbyn.