Rhoi’n Ffydd yn yr Ifanc
Yr awdur yw arweinydd Prosiect y Pwerdai, cynllun i ddatblygu cymdogaethau cynaliadwy yng Ngheredigion. Mae ganddo her i’r Urdd fel mudiad ieuenctid – ac i bawb sy’n ymwneud â’r ymdrech i sicrhau parhadi’r Gymraeg a’i diwylliant oddi mewn i gymunedau lle maent o fygythiad.
4 Ionawr 2010
ganEuros Lewis
Pererindod y Pwythau
Gwaith Cefyn BurgessProfiadau ymfudwyr o Gymry sydd wedi ysbrydoli gwaith tecstiliau diweddaraf Cefin Burgess, ond mae siwrnai fwy personol yn cuddio yn y plygion hefyd.
4 Ionawr 2010
Tangnefedd ac Ewyllys Da – ond nid i bawb
Mae materoliaeth a masnacheiddio rhemp yn gymaint rhan bellach o’r profiad Nadoligaidd fel ei bod hi’n hawdd anghofio mai gfiyl grefyddol yw hon yn ei hanfod, gfiyl i ddathlu genedigaeth sylfaenydd Cristnogaeth. Yn achos yr Alban mae’n eironig tu hwnt nad mewn lle o addoliad y ceir y mynegiant mwyaf tanbaid o ymrwymiad crefyddol.
4 Ionawr 2010
Byd y Bagiau Melyn
Recordiau'r Cob ddoe a heddiwMae dwy siop Recordiau’r Cob yn y gogledd ymhlith yr ychydig siopau recordiau annibynnol sydd ar ôl. Wrth i’r siop ym Mangor ddathlu ei phen-blwydd yn 30 oed, mae un a fu’n gwsmer ac yn weithiwr yn y siop wreiddiol ym Mhorthmadog yn hel atgofion am y dyddiau cynnar.
4 Ionawr 2010
BARN – Ymlaen â ni!
Ymateb y golygyddion i benderfyniad y Cyngor Llyfrau i barhau i gefnogi Barn.Os byddwch chi’n chwilio am Barn ar y we mae’n ofynnol teipio’r gair ‘cylchgrawn’ o flaen ‘Barn’ cyn cychwyn. Heb hynny rydych yn debygol o gael mwy o wybodaeth nag sydd ei angen arnoch am y gwahanol fathau sydd i’w cael led led y ddaear o’r adeilad amaethyddol hwnnw mae’r Sais yn ei alw’n ‘barn’.
15 Rhagfyr 2009
Y Theatr Gymraeg yn y Glorian
Bu rhai sylwebyddion yn ddiweddar yn darogan gwae i fyd y theatr Gymraeg. A yw’r sioe ar ben fel yr awgrymant hwy? Ai gorymateb i un cynhyrchiad siomedig oedd y storm hon?
10 Rhagfyr 2009
Crynoddisgiau Newydd
Cerddoriaeth Karl Jenkins, lleisiau côr meibion, Gwilym Morus a phedair cantores a gaiff y sylw y tro hwn, gan ddechrau â Fflur Dafydd a’r Barf.
10 Rhagfyr 2009
Drama mewn Dwy Act
Adroddiad Confensiwn Cymru Gyfan Dadleuir fod Syr Emyr Jones Parry a’i Gomisiwn yn llygad ei le yn rhoi’r flaenoriaeth i’r angen am lunio a gweithredu "Cyfraith Cymru." Ond mae’r Comisiwn hefyd wedi creu problemau dyrys i Lafur – ac yn sicr i Blaid Cymru.
10 Rhagfyr 2009
Anghrediniaeth Gad Fi’n Llonydd
Wel dyna ni ’de. Ymgais ddewr. Fel arfer. Yr un canlyniad serch hynny. Pumdeg a chwech o flynyddoedd o golli yn erbyn Seland Newydd i fynd yn bumdeg a saith. A finne’n agosáu’n anesmwyth at ganol fy nhridegau, fe darodd fi yn ystod y gêm, tybed oes gobaith y byddai fyw i weld Cymru’n curo’r Cryse Duon?
9 Rhagfyr 2009
ganDot Davies
Cwrs y Byd – Betio, Bwcis a Beirdd
Nid yw’r wasg na’r cyfryngau Prydeinig yn cymryd dim sylw o Gymru. Dyna ein cwyn barhaus ni ynte? Neu gwyn yr anoraciaid yn ein plith, beth bynnag. O’m rhan fy hun fyddai hynny ddim yn fy mhoeni i’n ormodol oni bai am y ffaith afiach mai papurau a rhaglenni Lloegr yw unig ffynhonnell gwybodaeth – neu anwybodaeth – cynifer o bobol Cymru. Does ’na fawr o dro er pan gafodd BBC Llundain chwip din haeddiannol am ymarweddu yn ei rhaglenni newyddion ar gyfer y rhwydwaith yn union fel pe na fyddai datganoli wedi digwydd o gwbl. Bu’n rhaid egluro iddyn nhw nad oedd straeon o San Steffan am newidiadau mewn meysydd datganoledig megis iechyd, er enghraifft, yn berthnasol i neb y tu allan i Loegr. Bu peth gwelliant, rhaid cyfaddef, yn ymddygiad y Bîb yn dilyn y gerydd honno. Ond nid yw Cymru’n ymddangos ar radar y wasg Lundeinig. A pha ryfedd hynny? Fel yr ysgrifenna Rhys Williams yn y rhifyn hwn oBarn(tud 6) dyna’r union ymadrodd a ddefnyddiodd pennaeth y gwasanaeth sifil yng Nghymru i gyfleu dirmyg gweision sifil Whitehall tuag at Gymru. A thuag at weision sifil ein Cynulliad. Pob clod i Gill Morgan, y Dêm o Lwynypia, am agor ei cheg yn gyhoeddus a dinoethi rhagfarn, snobyddiaeth, a rhywbeth nid annhebyg i hiliaeth y Prydeinwyr trahaus hynny sy’n dal i gredu mai ganddyn nhw yn Whitehall y mae’r hawl ddwyfol i reoli.
9 Rhagfyr 2009