Roeddynt i’w gweld yn fynych ym Mhorthmadog a’r cylch yn ystod y dyddiau hynny: bagiau melyn, sgwâr ac ysgrifen ddu arnynt, yn amlwg dan geseiliau ‘trwy heol fawr y dre’... o’r Queen’s i’r harbwr’, chwedl un o’n beirdd lleol.
Yn enwedig o gwmpas yr harbwr. Croesais innau’r bont ac un – neu ragor – o’r bagiau hyn dan fy nghesail wn i ddim faint o weithiau rhwng 1968 a 1975. Gormod o weithiau o beth wmbrath, yn ôl rhai – gan gynnwys fy rhieni, a wyliodd fy nghasgliad recordiau’n tyfu’n fwy eang gyda’r un ochneidiau be-gythral-ydan-ni-wedi’i-fagu ag y gwylion nhw fy ngwallt yn troi’n fwng nyth brân-aidd.
Ond chwarae teg, y blynyddoedd hynny oedd oes aur cerddoriaeth roc. Ar ei chychwyn, roedd breuddwydion heddychlon a lliwgar y chwedegau eto i gael eu gwireddu yn Woodstock a’u dinistrio yn Altamont; roedd nifer o’i duwiau’n dal gyda ni, cyn ffrwydro fesul un – Brian Jones yn ’69, Janis a Jimi yn ’70, Jim Morrison yn ’71, a Lennon oddeutu ddegawd ar eu holau. Datblygodd nifer o grwpiau pop y chwedegau cynnar i fod yn grwpiau roc yn y chwedegau hwyr, ac er mai teg yw cyfaddef fod digonedd o rwtsh ar frig y siartiau bryd hynny hefyd (cofiwch am Benny Hill ac Ernie: The Fastest Milkman in the West, a Clive Dunn a Grandad, i enwi ond dwy drosedd, a chrynwch), roedd llawer mwy o ‘stwff da’ yno’n ogystal.
Ac yn hyn o beth roeddem ni, pobol ifainc y Port, yn lwcus – oherwydd yr oedd gennym, ar garreg ein drws, siop fechan oedd yn byrlymu efo’r ‘stwff da’ hwn, sef Recordiau’r Cob – neu’r ‘Cob Caffi’, fel yr oeddem i gyd yn dal i feddwl amdani: ffynhonnell y bagiau melyn di-rif rheini. Trodd o fod yn gaffi yn 1967, y flwyddyn y dechreuais i a’m ffrindiau gymryd diddordeb go iawn mewn cerddoriaeth – un o’r ychydig droeon yn ystod fy mywyd y bu i mi ddigwydd bod yn y lle iawn ar yr adeg iawn.
Un digon diniwed oeddwn y tro cyntaf i mi groesi ei rhiniog. Mae rhywbeth yn dweud wrthyf mai gyda’m tad a’m chwaer yr oeddwn, wedi mynd yno i brynu anrheg penblwydd i’m tad, a ninnau newydd gael chwareydd recordiau am y tro cyntaf erioed (ac mae fy nghof yn mynnu dweud wrthyf mai’r Peer Gynt Suite, Grieg, oedd y record y gofynnodd dad amdani). Cofiaf yn iawn, fodd bynnag, mai ‘Bill’ a ‘Stan’ (sef Brian Davies, y perchennog, a Dafydd Wyn Jones) oedd y tu ôl i’r cownter, a bod fy nhad wedi cael cryn drafferth i’m llusgo oddi yno. Ac mai gwyn, ac ysgrifen goch arnynt, oedd y bagiau cynnar rheini.
Ni fu’n hir iawn wedi hynny cyn i mi a’m ffrindiau ddechrau aflonyddu ar y lle fel haid o ysbrydion aflan. Yr hyn oedd yn wych am siop y Cob oedd mai pur anaml y clywid cerddoriaeth ‘pop’ – hynny yw, cynnwys y siartiau poblogaidd – yn cael ei chwarae yno. Yn hytrach, enghreifftiau o’r ‘stwff da’ hwnnw a nofiai drwy’r siop gan amlaf, gan artistiaid cyffrous a chreadigol na wyddwn i’r peth cyntaf amdanynt ar y pryd.
Ond mi ddysgais, a hynny pan oeddwn yn yr oed rhodresgar hwnnw pan fyddwn yn wfftio at bopeth nad oedd yn cyd-fynd â’m chwaeth bersonol i – hynny yw, unrhyw beth na chynhwysai unawd gitâr ddiddiwedd. Dysgais am y blws, am artistiaid megis Robert Johnson, Howlin’ Wolf a Lightning Hopkins, ac am artistiaid eraill oedd o’r un oed â’m taid ar pryd; dysgais fod llawer mwy i gerddoriaeth soul na recordiau Tamla Motown a bod y gwir berlau i’w cael ar labeli eraill megis Chess ac Atlantic. Fel un o ddilynwyr Black Sabbath a Zeppelin, Pink Floyd a Deep Purple, roeddwn o- mor-ddilornus o ganu gwlad – nes i mi gael fy nysgu am ‘Americana’ gan athrawon chwaethus y Cob. Yma y clywais Kristofferson am y tro cyntaf, y Burritos, Gram Parsons ac Emmylou, a thrwyddyn nhw, dod i werthfawrogi artistiaid a chyfansoddwyr llai amlwg megis Townes Van Zandt, Guy Clark a John Hiatt.
Do, cludwyd sawl bag melyn dros bont yr harbwr yn y dyddiau hynny.
Wrth i’r blynyddoedd wibio heibio, ac wrth i fusnes siop y Cob dyfu, ymddangosodd nifer o wynebau cyfarwydd y tu ôl i’r cownter: ffrindiau bore oes oedd nifer ohonynt – pobol fel Tudur Wyn, Gwil a Huw Paul; eraill oedd yn adnabyddus i mi ers dyddiau ysgol, fel Jimmy Wallington a’r ddau frawd Chris a Geraint ‘Crynsh’ Davies. A minnau’n dal yn yr ysgol, yn gorfod brwydro’n erbyn arholiadau nad oedd gennyf lawer o amynedd â hwy, a bod yn onest, teimlwn yn llawn eiddigedd bob tro y gwelwn yr hen gyfeillion hyn, yn hirwallt ac yn hapus yng nghanol yr holl recordiau.
Yna, yn 1973, a minnau bellach yn fyfyriwr, cefais innau’r cyfle i ymuno â nhw pan gefais waith yn y siop fel job yn ystod y gwyliau. Erbyn hynny roedd y busnes wedi chwyddo cymaint nes bod archebion yn cyrraedd y siop yn feunyddiol o bedwar ban byd. Fy ngwaith i oedd craffu’n fanwl ar bob un record a anfonid i mewn ar gyfer ei gwerthu’n ail-law; eisteddwn â’m cefn at y ffenestr er mwyn i olau’r dydd fedru dangos unrhyw grafiad ar wyneb y feinyl (un o’m hofnau mwyaf oedd y byddai rhywun enwog fel John Peel – a alwodd i mewn fwy nag unwaith y dyddiau hynny – yn prynu record ail-law dim ond i ddarganfod crafiad bach cudd arni). Cyrhaeddai rhai recordiau mewn cyflwr erchyll, yn grafiadau i gyd fel cefn rhywun mewn ffilm oedd newydd gael ei chwipio; eraill wedi’u plygu cymaint nes eu bod yn debycach i ddysglau cawl na recordiau. Ond hwyliai’r mwyafrif drwy’r prawf; yn wir, cafwyd nifer helaeth oedd fel newydd, wedi’u hanfon i mewn gan ohebwyr papurau newydd cerddoriaeth fel Melody Maker a New Musical Express oedd wedi’u cael yn rhad ac am ddim oddi wrth y cwmnïau recordiau ar gyfer eu hadolygu. Yn aml iawn, felly, byddai siop y Cob yn gwerthu ambell i record yn ail-law oedd eto i ymddangos mewn siopau eraill fel recordiau newydd.
Diolch i anghytundeb gyda phrifysgol Bangor – doedd arnyn nhw ddim eisiau rhywun oedd â’i feddwl ar bopeth ond Cymraeg ac Efrydiau Beiblaidd, am ryw reswm – bûm yn gweithio yn siop y Cob am oddeutu deunaw mis i gyd. Ar yr un pryd, roeddwn i hefyd yn chwarae’r drymiau mewn grfip gyda’r gitarydd Dafydd Pierce, oedd newydd ddychwelyd i’r ardal ar ôl cyfnod yn Los Angeles: cerddoriaeth, felly, a lanwai fy nyddiau a’m nosweithiau. Fe’m dilynai i bobman, fel a ddigwyddodd i’r ddynes honno yn yr hwiangerdd Saesneg oedd â modrwyau am ei bysedd a chlychau ar fodiau ei thraed.
Ac oeddynt, roeddynt yn ddyddiau da. Hoffwn feddwl fod hogia’r Cob yn dal yn ffrindiau i mi hyd heddiw, er gwaetha’r milltiroedd a’r blynyddoedd sydd wedi dod rhyngom. Nid oedd y cyflog yn un anferth, ond roedd yn fwy na digon i mi ar y pryd. Roeddwn i’n hapus yno, ac ymhen ychydig o flynyddoedd wedyn, pan gefais fy hun yn stryffaglu i ddysgu Cymraeg i ddosbarthiadau anhydrin mewn ysgol uwchradd yn ardal Wrecsam, dyhewn yn aml am gael y dyddiau da rheini’n ôl.
A hyd yn oed heddiw, yn enwedig ar ôl prynu CD neu lwytho cân i’m cyfrifiadur a’m iPod oddi ar y We, cofiaf â phwl o hiraeth hoffus am yr hen, hen wefr honno o gerdded am adref dros bont yr harbwr ac un o’r bagiau melyn yn glyd o dan fy nghesail.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
