Rydym yn ffodus iawn yng Nghymru mai person sy’n meddu ar ruddin Gill Morgan yw pennaeth ein gwasanaeth sifil. Mae datblygu gwasanaeth sifil sy’n rhoi lles Cymru’n gyntaf yn gwbl hanfodol os yw Cymru i ddatblygu i fod yn ddemocratiaeth hunanlywodraethol lwyddiannus. ’Dyw biwrocratiaeth ddim yn rhamantaidd nac yn gyffrous. Ond mae o’n un o gonglfeini gwladwriaeth annibynnol effeithiol. Yn hytrach na pharhau i hefru yn erbyn dirmyg y wasg, y cyfryngau a Whitehall tuag at Gymru, cyfeiriaf rwan at y diddordeb byw y mae’r cwmnïau betio, o bawb – y bwcis – wedi dechrau ei gymryd yng ngwleidyddiaeth Cymru. Dim ond ers i’r Cynulliad gychwyn ar ei waith mae hyn wedi digwydd. Os ewch chi ar wefan un o’r bwcis mwyaf, Ladbrokes, fe gewch chi weld pwy ydi ffefrynnau’r bwci i ennill – a cholli – Môn, Aberconwy, Ceredigion, Maldwyn, Bro Morgannwg a phob sedd ddiddorol arall yng Nghymru.
Rydw i’n ymwybodol o’r trallod mae gamblo yn gallu ei achosi. Ond mewn cyfnod o ddadrithiad a difaterwch, mae o’n annisgwyl o galonogol fod pobl mor hirben â bwcis yn agor llyfr ar enillwyr a chollwyr y rasys a gynhelir yn y flwyddyn newydd ar gyfer San Steffan. Diau fod y ceffylau i gyd yn gwybod na fydd y ddarpariaeth stablu yn Llundain ddim mor gyfforddus o hyn ymlaen. Llai o wellt. A llai o geirch.
Hyd yn oed os ydi diddordeb proffesiynol y bwci yng ngwleidyddiaeth Cymru yn rhywbeth newydd, roedd ’na adeg pan fyddai gamblo’n digwydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn rheolaidd. Mae’r hanesydd hynaws o’r Barri, yr Athro Gareth Williams, wedi sgwennu’n ddifyr dros ben am y betio brwd a fyddai ar brif gystadlaethau corawl yr Eisteddfod Genedlaethol, ganrif yn ôl. Ac am y prisiau – neu’r odds – y byddai’r bwcis yn eu cynnig ar bob côr – 2/1 Treorci ac yn y blaen. Diau y byddai trefniant o’r fath yn bywiogi tipyn ar ras sydd mewn peryg o fynd yn un ddiflas ar y naw. Sôn ydw i am y ras – os ydi hi’n teilyngu’r fath air – i fod yn Archdderwydd Cymru. Mynegwyd siom ar ambell flog na fyddai cystadleuaeth y tro hwn ychwaith am yr anrhydedd o fod yn Archdderwydd. Os ydw i wedi deall yn iawn, wnaeth T. James Jones ddim sefyll y tro diwethaf er mwyn rhoi rhwydd hynt i Dic Jones ddringo ar y maen llog. A ninnau yn gwybod bellach mai un Eisteddfod yn unig, ysywaeth, a gafodd Dic yr Hendre fel Archdderwydd, mae pob un ohonom yn falch eithriadol ei fod o wedi cael ei gyfle. Fe gyflawnodd yntau ei ddyletswyddau yn raenus ac yn urddasol a rhadlon.
Yn dilyn marwolaeth Dic enwebwyd dau berson ar gyfer swydd yr Archdderwydd, Jim Parc Nest a Mererid Hopwood. Ond penderfynodd Mererid dynnu ei henw yn ôl. Jim, felly, fydd Archdderwydd nesaf Cymru. Mae o’n ddewis cymeradwy, yn berchen ar lais godidog, presenoldeb a chrebwyll theatrig. Erys y ffaith, fodd bynnag, ei bod hi’n siomedig nad ydi etholiad yn cael ei chynnal y tro hwn eto.
Dwi’n llawn sylweddoli na allai neb orfodi Mererid i sefyll. Ond ar ôl i berson dderbyn enwebiad – enwebiadau yn ei hachos hi, mae’n debyg – oni ddylai’r person hwnnw neu honno aros yn y ras? Yn gam neu’n gymwys, damcaniaethwyd mai bod yn ‘anrhydeddus’ tuag at Jim oedd Mererid am i Jim, dair blynedd ynghynt, beidio sefyll yn erbyn Dic. Iawn. Os mai felly y bu, mae rhywun yn deall hynny’n iawn.
Ond am ba hyd mae hyn yn mynd i barhau? Am fod Mererid wedi ‘gwneud y peth iawn’ drwy wneud lle i Jim, ydi o i bob pwrpas ymarferol, wedi ei benderfynu’n barod mai Mererid fydd yn dilyn Jim i’r Archdderwyddiaeth? Anodd fyddai meddwl am ddewis mwy poblogaidd. Ac afraid dweud mai priodol a dymunol fyddai i’r ferch gyntaf erioed i ennill y gadair fod hefyd y ferch gyntaf erioed i ddod yn Archdderwydd. Ond a ninnau wedi gorfod aros tan yr unfed ganrif ar hugain cyn y caniatawyd i aelodau’r Orsedd ethol Archdderwydd drwy bleidlais, mae’n resyn nad yw’r hawl hwnnw yn cael ei ddefnyddio. Dau Archdderwydd yn unig sydd wedi cael eu hethol i’r swydd, Robyn Llan a Selwyn Iolen.
Efallai na fydd Bwrdd yr Orsedd yn hoffi clywed hyn, ond ar lawr gwlad mae ’na anniddigrwydd cynyddol ymhlith deiliaid y cobanau. Mae ’na beth wmbredd o ferched sydd wedi cael eu siomi’n aruthrol yn Mererid am ei bod hi wedi tynnu’n ôl. Mae eraill o’r Gorseddogion yn defnyddio geiriau anllenyddol iawn megis ‘stitch up’ i ddisgrifio’r modd rywsut, rywfodd y cafodd hawl yr aelodaeth i bleidlais ei hatal. Eto. Nid drwy ddichell efallai. Ond drwy gyfrwystra yn sicr. Braf fyddai gweld Cofiadur newydd yr Orsedd, a ddewisir ym mis Ebrill, yn gwneud adfer democratiaeth yn flaenoriaeth. Wedi’r cyfan, onid yn haul llygad goleuni y dylai’r Orsedd o bawb fod yn gweithredu?
Adolf Ford
Byddai rhywun yn meddwl erbyn hyn bod popeth oedd i’w ddweud am Adolf Hitler wedi cael ei ddweud sawl gwaith drosodd. Ond yr awdur Timothy W. Ryback * yw’r cyntaf y gwn i amdano i fynd drwy lyfrgell helaeth Hitler er mwyn canfod o ble y cafodd o ei ddaliadau erchyll. Ac mae’n ymddangos mai arwr pennaf Adolf oedd y gwneuthurwr moduron, Henry Ford. Roedd ôl bodio trwm ar gopi Hitler o gyfrol ffiaidd Ford, The International Jew: the World’s Foremost Problem, a’r casgliad o 92 o erthyglau gwrth-Iddewig a gyhoeddodd Ford yn un o bapurau newydd Michigan rhwng 1920 a 1922. Ychydig yn ddiweddarach, Ford oedd gwrthwynebydd ffyrnicaf penderfyniad America i fynd i ryfel yn erbyn Natsïaeth. Nid y cyfieithiad i’r Almaeneg o gyfrol Ford yn llyfrgell Hitler ydi’r unig dystiolaeth sydd gan Ryback. Dywedodd Hitler wrth ohebydd yn hollol ddiamwys: ‘Ystyriaf Ford yn athrylith. Ef fu fy ysbrydoliaeth’. Ystyriwch hynny’r Nadolig hwn wrth yrru yn eich Ffordyn i gyngerdd y Geni.
* Hitler’s Private Library: The Books that shaped His Life.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
