Rhoi’n Ffydd yn yr Ifanc
Yr awdur yw arweinydd Prosiect y Pwerdai, cynllun i ddatblygu cymdogaethau cynaliadwy yng Ngheredigion. Mae ganddo her i’r Urdd fel mudiad ieuenctid – ac i bawb sy’n ymwneud â’r ymdrech i sicrhau parhadi’r Gymraeg a’i diwylliant oddi mewn i gymunedau lle maent o fygythiad.
4 Ionawr 2010
ganEuros Lewis
Pererindod y Pwythau
Gwaith Cefyn BurgessProfiadau ymfudwyr o Gymry sydd wedi ysbrydoli gwaith tecstiliau diweddaraf Cefin Burgess, ond mae siwrnai fwy personol yn cuddio yn y plygion hefyd.
4 Ionawr 2010
Tangnefedd ac Ewyllys Da – ond nid i bawb
Mae materoliaeth a masnacheiddio rhemp yn gymaint rhan bellach o’r profiad Nadoligaidd fel ei bod hi’n hawdd anghofio mai gfiyl grefyddol yw hon yn ei hanfod, gfiyl i ddathlu genedigaeth sylfaenydd Cristnogaeth. Yn achos yr Alban mae’n eironig tu hwnt nad mewn lle o addoliad y ceir y mynegiant mwyaf tanbaid o ymrwymiad crefyddol.
4 Ionawr 2010
Byd y Bagiau Melyn
Recordiau'r Cob ddoe a heddiwMae dwy siop Recordiau’r Cob yn y gogledd ymhlith yr ychydig siopau recordiau annibynnol sydd ar ôl. Wrth i’r siop ym Mangor ddathlu ei phen-blwydd yn 30 oed, mae un a fu’n gwsmer ac yn weithiwr yn y siop wreiddiol ym Mhorthmadog yn hel atgofion am y dyddiau cynnar.
4 Ionawr 2010
BARN – Ymlaen â ni!
Ymateb y golygyddion i benderfyniad y Cyngor Llyfrau i barhau i gefnogi Barn.Os byddwch chi’n chwilio am Barn ar y we mae’n ofynnol teipio’r gair ‘cylchgrawn’ o flaen ‘Barn’ cyn cychwyn. Heb hynny rydych yn debygol o gael mwy o wybodaeth nag sydd ei angen arnoch am y gwahanol fathau sydd i’w cael led led y ddaear o’r adeilad amaethyddol hwnnw mae’r Sais yn ei alw’n ‘barn’.
15 Rhagfyr 2009
Y Theatr Gymraeg yn y Glorian
Bu rhai sylwebyddion yn ddiweddar yn darogan gwae i fyd y theatr Gymraeg. A yw’r sioe ar ben fel yr awgrymant hwy? Ai gorymateb i un cynhyrchiad siomedig oedd y storm hon?
10 Rhagfyr 2009
Crynoddisgiau Newydd
Cerddoriaeth Karl Jenkins, lleisiau côr meibion, Gwilym Morus a phedair cantores a gaiff y sylw y tro hwn, gan ddechrau â Fflur Dafydd a’r Barf.
10 Rhagfyr 2009
Drama mewn Dwy Act
Adroddiad Confensiwn Cymru Gyfan Dadleuir fod Syr Emyr Jones Parry a’i Gomisiwn yn llygad ei le yn rhoi’r flaenoriaeth i’r angen am lunio a gweithredu "Cyfraith Cymru." Ond mae’r Comisiwn hefyd wedi creu problemau dyrys i Lafur – ac yn sicr i Blaid Cymru.
10 Rhagfyr 2009
Anghrediniaeth Gad Fi’n Llonydd
Wel dyna ni ’de. Ymgais ddewr. Fel arfer. Yr un canlyniad serch hynny. Pumdeg a chwech o flynyddoedd o golli yn erbyn Seland Newydd i fynd yn bumdeg a saith. A finne’n agosáu’n anesmwyth at ganol fy nhridegau, fe darodd fi yn ystod y gêm, tybed oes gobaith y byddai fyw i weld Cymru’n curo’r Cryse Duon?
9 Rhagfyr 2009
ganDot Davies
Cwrs y Byd – Betio, Bwcis a Beirdd
Nid yw’r wasg na’r cyfryngau Prydeinig yn cymryd dim sylw o Gymru. Dyna ein cwyn barhaus ni ynte? Neu gwyn yr anoraciaid yn ein plith, beth bynnag. O’m rhan fy hun fyddai hynny ddim yn fy mhoeni i’n ormodol oni bai am y ffaith afiach mai papurau a rhaglenni Lloegr yw unig ffynhonnell gwybodaeth – neu anwybodaeth – cynifer o bobol Cymru. Does ’na fawr o dro er pan gafodd BBC Llundain chwip din haeddiannol am ymarweddu yn ei rhaglenni newyddion ar gyfer y rhwydwaith yn union fel pe na fyddai datganoli wedi digwydd o gwbl. Bu’n rhaid egluro iddyn nhw nad oedd straeon o San Steffan am newidiadau mewn meysydd datganoledig megis iechyd, er enghraifft, yn berthnasol i neb y tu allan i Loegr. Bu peth gwelliant, rhaid cyfaddef, yn ymddygiad y Bîb yn dilyn y gerydd honno. Ond nid yw Cymru’n ymddangos ar radar y wasg Lundeinig. A pha ryfedd hynny? Fel yr ysgrifenna Rhys Williams yn y rhifyn hwn oBarn(tud 6) dyna’r union ymadrodd a ddefnyddiodd pennaeth y gwasanaeth sifil yng Nghymru i gyfleu dirmyg gweision sifil Whitehall tuag at Gymru. A thuag at weision sifil ein Cynulliad. Pob clod i Gill Morgan, y Dêm o Lwynypia, am agor ei cheg yn gyhoeddus a dinoethi rhagfarn, snobyddiaeth, a rhywbeth nid annhebyg i hiliaeth y Prydeinwyr trahaus hynny sy’n dal i gredu mai ganddyn nhw yn Whitehall y mae’r hawl ddwyfol i reoli.
9 Rhagfyr 2009
Bwyell Cameron
Mae David Cameron â’i fryd ar leihau’r nifer o aelodau seneddol yn Nhy’r Cyffredin dan gochl arbed arian. Byddai hynny hefyd yn fanteisiol yn etholiadol i’r Ceidwadwyr. Beth tybed fyddai effaith hynny ar Gymru? Nid ar ein cynrychiolaeth yn San Steffan yn unig, ond yn y Cynulliad yn ogystal.
2 Tachwedd 2009
Cyfiawnder i bawb – gan gynnwys gwleidyddion!
Dal i lusgo ymlaen mae sgandal y treuliau a hawliwyd gan aelodau seneddol San Steffan. Wrth iBarn fynd i’r wasg datgelwyd bod awdurdodau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn amau 27 ohonyn nhw o dorri’r gyfraith drwy osgoi talu trethi. Am y tro cyntaf yn f’oes mae gen i bob cydymdeimlad efo’r Dyn Treth. Does dim cyfiawnhad yn y byd dros y modd yr oedd aelodau seneddol yn prynu tai efo’n cymorth ariannol ni, drethdalwyr, ac yna’n gwerthu’r cyfryw dai, am elw sylweddol, heb dalu’r un geiniog o dreth cyfalaf.
2 Tachwedd 2009
Colli Mam
Un o golledion chwerwaf bywyd sy’n cael y sylw pennaf yn y bennod ddiweddaraf o ddyddiadur y Dyn Mynd a Dwad.
2 Tachwedd 2009
Chwalfa
Mae’r darlledwr newyddion ar fin cyhoeddi cyfrol yn adrodd hanes capeli tref sy’n agos at ei galon. Ond wrth ymfalchïo yn hanes capeli Llanelli, mae’n arswydo at y modd y mae cynifer o’r adeiladau hyn – fel addoldai eraill ledled Cymru – wedi eu hesgeuluso nes maent mewn cyflwr enbydus. Ac mae’n galw am weithredu buan i achub y rhai sydd ar ôl.
2 Tachwedd 2009
ganHuw Edwards
Afon v Llyfrgell
Hwyrach fy mod i ar ei hôl hi braidd yn trafod dwy nofel arobryn Eisteddfod y Bala, ond ar y llaw arall hwyrach mai dyma’r adeg orau i wneud hynny, ar ôl i’r holl heip dawelu. Peth peryg ydi heip, yn yr un modd â gorganmoliaeth o du beirniaid ac adolygwyr. Nid ’mod i’n amau eu diffuantrwydd, dim ond yn tybio bod yna dueddiad i feirniaid wirioni mwy na darllenwyr cyffredin – yn rhannol o bosib am eu bod nhw mor falch fod yna deilyngdod.
2 Tachwedd 2009
Bugeiliaid newydd ar y Preselau – helynt yr ecobentref
Mae gwrthwynebiad yn lleol i’r bwriad i godi ecobentref newydd yn Sir Benfro. HEFIN WYN sy’n rhoi’r cefndir, gan ymhelaethu ar ei erthygl yn Barn mis Hydref (rhif 569).
1 Hydref 2009
ganHefin Wyn
Y Torïaid – Cwbl anghymwys i lywodraethu
Mae’r awdur, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru, yn gwaredu wrth feddwl bod y Ceidwadwyr yn debygol o ffurfio’r Llywodraeth nesaf yn San Steffan. Byddai’r dirwasgiad presennol wedi bod yn llawer iawn gwaeth, dadleua, petai David Cameron wedi bod wrth y llyw.
1 Hydref 2009
Pethau Poveyaidd
Ar drothwy taith ei ddrama ddiweddaraf, bu Barn yn holi’r dramodydd Meic Povey.
1 Hydref 2009
ganMenna Baines
Ar drywydd ditectif… a Dracula
Eleni, am y tro cynta’, ymwelais â Chaeredin yn ystod gwyl y Fringe– yr wyl gelfyddydau fwyaf yn y byd a gynhelir yno am dair wythnos bob mis Awst. Ond y prif atyniad i mi, ac eithrio cyfle arall i ymweld â’r ddinas hardd, llawn cymeriad yma, oedd cael mynd i weld yr awdur Ian Rankin yng Ngfiyl Lyfrau Ryngwladol Caeredin.
1 Hydref 2009
Ymadawiad Adam
Dwn i ddim pam y bu cyhoeddiad yr Aelod Seneddol Adam Price y bydd o’n rhoi’r gorau i gynrychioli Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn sioc i neb, mewn gwirionedd. Roedd o wedi dweud fwy nag unwaith nad oedd yn fwriad ganddo aros am oes yn San Steffan. Yn wir, wythnos union ynghynt roeddwn i’n gwrando arno fo’n annerch yn ysgubol yng nghynhadledd flynyddol Plaid Cymru yn Llandudno. Cyfaddefodd o’r llwyfan bryd hynny ei fod wedi cael llond bol ar San Steffan. ‘Rydw i eisie dod adre,’ medda fo’n gwbl ddiamwys. ‘Rydw i wedi blino curo ’mhen a ’nwylo yn erbyn muriau oer San Steffan.’ A rhag i neb amau maint ei ddiflastod efo’r lle hwnnw, cyhoeddodd ymhellach: ‘Wna i byth deimlo fy mod i’n perthyn i’r Senedd yn Llundain. Rydw i eisie bod mewn Senedd sy’n perthyn i mi ac i ni’r Cymry. Senedd a godwyd gennym ni.’
1 Hydref 2009
Ochr Dywyll Dulyn…
Mae’n sicr nad y fasnach gyffuriau a gangiau arfog yn saethu ei gilydd yn gelain yw’r ddelwedd gyfarwydd o brifddinas Iwerddon. Ond gan Ddulyn y mae’r record waethaf yn Ewrop am lofruddiaethau o’r fath. Mae Dulyn yn ddinas groesawgar. Ddim mor fawr a phrysur â Llundain. Ddim mor ffroenuchel â Pharis. Y Liffey, y GPO, St Stephen’s Green, Croke Park – dinas o gymeriad a chymeriadau, yn hanesyddol fyw ac yn llawn cyfeillgarwch.
1 Hydref 2009
Y Pridd a’r Concrid
Yn fwy o Ddyn Mynd a Dwad nag arfer, mae ein dyddiadurwr crwydrol yn ein cyfarch y tro hwn o America lle bu ar drywydd Cymry hynod a rhyfeddol.
4 Medi 2009
Dau Begwn – a Thwll yn y Canol
Arolwg o weithgareddau theatrig Eisteddfod Meirion gan GRUFFUDD OWEN, a fu’n crwydro’r Maes a’r neuaddau cyfagos.
4 Medi 2009
Cymru fel ‘rhanbarth’ Ewropeaidd
Barn yw’r cyhoeddiad cyntaf i ddatgelu cynnwys arolwg manwl o agweddau trigolion "rhanbarthau" Ewrop tuag at eu gwladwriaethau a thuag at yr Undeb Ewropeaidd.
4 Medi 2009
Dic yr Hendre
Parodd ei farwolaeth i don o hiraeth sgubo dros Gymru. Synhwyrwyd yn reddfol ein bod, ym marwolaeth Dic, wedi colli Cymro hynod.
4 Medi 2009
Gweithred anghyfreithlon Comisiwn y Cynulliad
Yng ngoleuni hyn, ni all rywun lai na gweld traha hynod ym mhenderfyniad Comisiwn y Cynulliad ddechrau Awst i roi’r gorau i gynhyrchu trawsgrifiadau cwbl ddwyieithog o gyfarfodydd llawn y Cynulliad.
4 Medi 2009
ganGwion Lewis
Arswyd y Byd
Dwy nofel sy’n cynnig gweledigaethau brawychus – a thra gwahanol – o’r dyfodol.
14 Gorffennaf 2009
ganMeg Elis
Diwedd Michael Jackson. Dechrau’r diwedd i deledu?
Ysgrifennir y golofn hon ar benwythnos pan fo’r papurau i gyd, y rhai trwm a’r rhai ysgafn, yn neilltuo erwau lawer o ofod i Michael Jackson a fu farw ar nos Iau 25 Mehefin yn hanner cant oed. Dyma’r canwr, y dawnsiwr a’r enaid clwyfus a dreuliodd ei oes fer yn chwilio am y plentyndod yr amddifadwyd ef ohono gan ofynion creulon showbiz. Enillodd sioe dalent efo’i frodyr, y Jackson Five, pan oedd o’n ddim ond chwech oed. Bu yn llygaid y cyhoedd o’r eiliad honno.
14 Gorffennaf 2009
Dyfodol Llafur: plaid ranbarthol, nid cenedlaethol?
Un o fân ryfeddodau canlyniadau’r etholiadau Ewropeaidd yw enwau’r ddwy blaid honno. Y prif bennawd, wrth gwrs, a hynny’n gwbl naturiol felly, oedd buddugoliaeth y Ceidwadwyr.
14 Gorffennaf 2009
Merched Lloyd George a Ffion
Mae hi’n wraig i gyn-arweinydd y Torïaid ac yn dal swyddi uchel ym myd busnes. Mae hi hefyd yn awdur cofiant i’r merched ym mywyd David Lloyd George. Yn awr mae hi’n brysur yn paratoi rhaglen deledu Gymraeg sydd wedi tyfu o’r llyfr. Ann Gruffydd Rhys fu’n holi FFION HAGUE.
14 Gorffennaf 2009
Cofiwch Dryweryn – Oes Angen?
Wrth i’r Eisteddfod Genedlaethol ddychwelyd i Benllyn, ai gweithred gysurlon a diystyr bellach yw cofio Tryweryn? Onid argyfyngau’r presennol a ddylai fod flaenaf yn ein meddyliau?
14 Gorffennaf 2009
ganIwan Edgar
Steddfod ar y Mall
Ddiwedd y mis bydd gwyl enfawr yn cael ei chynnal yn yr Unol Daleithiau, a Chymru fydd y genedl wadd.
11 Mehefin 2009
Dylanwad y Brawd Hwdini
Wrth i Meic Stevens gyhoeddi ail ran ei hunangofiant, yma cynigir dadansoddiad o natur ei ddylanwad ar y byd pop Cymraeg yn gyffredinol.
8 Mehefin 2009
Golwg ar wefan Golwg
Nid y lansiad gorau erioed i wefan newydd. Ymhen munudau o lansio Golwg360 ar 15 Mai, roedd y wefan yn chwalu o dan straen defnyddwyr. Ac erbyn ganol dydd, roedd gwefannau cymdeithasol ar dân gyda sylwadau yn bychanu’r chwaraewr newydd ym myd newyddiaduraeth Gymraeg, ei reolwyr, a’r gyfundrefn a ddosrannodd gymaint o arian iddo.
8 Mehefin 2009
ganChris Cope
“Parliment Uffernol”
Ellis Wynne, awdur Gweledigaeth Uffern, biau’r geiriau "Parliment Uffernol". Neu’n hytrach, yn yr hinsawdd dryloyw bresennol, fe ddylwn i esbonio nad y Bardd Cwsg, fel y cyfryw, biau’r geiriau. Milton ddaru eu defnyddio nhw gyntaf yn Paradise Lost. Teitl hynod o addas dan yr amgylchiadau. Ond, diolch i’r Daily Telegraph, mae’r baradwys faterol lle preswyliai cynifer o’n cynrychiolwyr etholedig bellach wedi diflannu. Am byth, gobeithio. Sôn am foch â’u trwynau budr o’r golwg yn y cafnau! Ni all yr un ohonom gofio cyfnod erioed o’r blaen pan fu gwerin gwlad mor ddirmygus â hyn o wleidyddion. Ac o wleidyddiaeh. Dyma, yng ngolwg y mwyafrif ohonom, beth yw ‘Parliment Uffernol’ go iawn...
8 Mehefin 2009
Zimbabwe – Pwy fydd yma ‘mhen can mlynedd?
Amlinelliad o hanes y wlad ddoe a heddiw, a rhan flaenllaw Cymro o Arfon yn yr ymelwa a fu ar Zimbabwe yn enw’r Ymerodraeth Brydeinig.
8 Mehefin 2009
Gerallt
Union ddeugain mlynedd yn ôl, yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Aberystwyth 1969, enillwyd y gadair gan Gerallt Lloyd Owen. Roedd ei ddilyniant buddugol yn cynnwys cerddi a ystyrir bellach fel rhai o glasuron pennaf barddoniaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif. Bu’r bardd yn sgwrsio â Vaughan Hughes.
8 Mehefin 2009
Adolygiad – Ty Bernarda Alba
Sut mae’r cynhyrchiad Cymraeg o un o drasiedïau enwocaf Lorca, sy’n teithio ar hyn o bryd, yn cymharu gyda chynhyrchiad Saesneg o’r un ddrama a lwyfannwyd yng Nghasnewydd yn gynharach eleni?
29 Mai 2009
O’r Alban – Sianel Deledu Genedlaethol?
Ym mis Medi’r llynedd aeth BBC Alba ar yr awyr. Hon yw’r sianel deledu a sefydlwyd ar y cyd gan y BBC a Seirbheis nam Meadhanan Gàidhlig (y Gaelic Media Service), a dalfyrrir yn MG Alba. Gaeleg yr Alban, wrth gwrs, yw iaith y sianel. Yn ei hwythnos gyntaf credir ei bod wedi denu 600,000 o wylwyr – mwy nag un rhan o ddeg o’r boblogaeth, a dengwaith yn fwy na chyfanswm y Gàidhealtachd – sef yr holl siaradwyr Gaeleg sy’n byw yn yr Alban.
13 Mai 2009
Ar ôl Rhodri
Mae’n anodd gorbwysleisio pwysigrwydd Rhodri Morgan. Bydd ei ymddeoliad yn cau pennod ffurfiannol yn hanes gwleidyddol Cymru.
13 Mai 2009
Y chwerthin sydd mor drist
Ryan a Ronnie: Bywyd Dau. Breuddwyd Un. Boom Films/S4C. Categori: 12A
13 Mai 2009
Emyr Price (1944–2009)
Boed fel hanesydd, newyddiadurwr neu ddarlledwr, roedd yr awydd i boblogeiddio ei ddeunydd yn nodweddu holl waith Emyr Price, a fu farw ym mis Mawrth. Un o’i gyfeillion agosaf sy’n ei goffáu.
13 Mai 2009
Chwyldro Amser Cinio’r Llew Du
Ymateb Llywydd y Cynulliad i gyfrol o gerddi sy’n cynnwys cân iddo ef ei hun – ‘Cân i’r Arg’ – ochr yn ochr â sylwebaeth ar ei blaid.A Gymri di Gymru? Robat Gruffudd Y Lolfa, £5.95
‘Yn excito gyda’r holl cyfryngau cyfathrebu newydd fi ’dod ar eu traws wythnos ’ma,’ oedd cofnod Twitter cyntaf fy ffrind pan ymunodd hi â’r wefan ym mis Mawrth.
9 Ebrill 2009
ganChris Cope
Hen, ond arwr o hyd
Bu tad llunyddiaeth yn gwylio ffilm ddiweddaraf Clint Eastwood fel actor ac yn ystyried natur arwriaeth.
9 Ebrill 2009
ganGwyn Thomas
Poteli Corona a photiau jam
Dandelion and Burdock Poteli Corona a photiau jam –yr hen ffordd Gymreig o ailgylchu. Naturiaethwraig a gwyddonydd yn amau effeithiolrwydd ein dulliau cyfoes o ailgylchu gwydr.
9 Ebrill 2009
Picil Sinn Féin – ac Iwerddon
Honna Sinn Fein mai hi yw'r blaid sydd am uno Iwerddon, ond dagrau pethau yw ei bod wedi methu a chreu undod, hyd yma. Yn sgil hynny mae rhai yn ailgydio yn y gwn.
9 Ebrill 2009
Golygyddol – Hawliau dynol a’r Cymry Cymraeg
Trwy sôn am yr ‘hawl’ i siarad Cymraeg, mae’r mudiad cenedlaethol mewn perygl o anghofio beth yw gwerth ein hawliau dynol sylfaenol.
18 Mawrth 2009
ganDyfrig Jones
Carol, Harry a ni – wynebu ein hiliaeth
Mae o wedi gwisgo lifrai Nazi i barti gwisg ffansi, wedi cyfeirio at ei fêt yn y fyddin fel ‘Paki’, ac mae’r Tywysog Harry mewn dwr poeth unwaith yn rhagor am ddweud wrth ddigrifwr ‘stand-up’ nad ydi o’n swnio fel ‘a black chap’. Daw hyn oll yn dynn ar sodlau ‘Gollygate’ wrth gwrs, lle y collodd Carol Thatcher ei swydd yn cyflwyno The One Show am iddi beidio ag ymddiheuro am gymharu chwaraewr tennis croenddu â’r ddoli a fu’n symbol anghysurus ers cyhyd o orthrwm y caethweision. Bu anghytuno am union natur yr hyn a ddywedodd hi – ai dweud ei fod yn debyg i Gollywog ynteu ei fod o’n Gollywog wnaeth hi? A bu llawer o drafod ar yr amgylchiadau yr oedd hi ynddyn nhw pan wnaeth hi’r gymhareb, os mai dyna oedd o – ydi Ystafell Werdd y BBC byth yn medru bod yn ‘breifat’? A bu dadlau chwyrn am y ‘PC brigade’, a’r dybiaeth ei fod wedi mynd dros ben llestri.
18 Mawrth 2009
ganBeca Brown
Cofio ’79 – Beth Petai……?
Beth petai Cymru wedi dweud ‘Ie’ yn 1979? Ar 26 Chwefror 1979, dridiau cyn cynnal y refferendwm ar ddatganoli, cyhoeddodd y Western Mail lythyr gan Saunders Lewis; ac yntau’n 86 oed dyna oedd ei ymyriad olaf yng ngwleidyddiaeth Cymru. O gofio ei sylwadau sarhaus yn y 1950au ynglyn â’r ymdrechion i sicrhau ymreolaeth trwy ddeiseb, o’r braidd iddo fod yn frwd ynglyn â chynulliad a gynigwyd gan lywodraeth Lafur. Ceir yng nghofiant Robin Chapman awgrym mai gweithred groes graen i S.L. oedd llunio’r llythyr. Ond mae ei gynnwys yn hynod ddiddorol.
6 Mawrth 2009
ganJohn Davies
Cwlt y Bydiaid
Efallai nad ydych chi wedi sylwi eto ar gwlt newydd a ddaeth i’r amlwg yng Nghymru yn ddiweddar, sef Y Bydiaid. Nhw yw’r Cymry ffyddlon sy’n credu y bydd Dyddiol Cyf yn eu harwain i Wlad yr Addewid lle ceir papur newydd dyddiol Cymraeg.
6 Mawrth 2009
ganChris Cope
Ambell bwl o chwerthin
‘Pan fydda I’n codi yn y bore, mi fydda i’n mynd draw at y ddes ‘Ambell bwl o chwerthin...’ Cofio Wil Sam
6 Mawrth 2009
Twr Ifori? Nid bellach
Newid parhaus fu hanes addysg brifysgol yn y cyfnod diweddar. Yma, codir rhai cwestiynau sylfaenol ynghylch y chwyldro a fu gan un sydd wedi ymddeol yn ddiweddar fel Athro’r Gymraeg yn Aberystwyth.
6 Mawrth 2009
Cymru las?
Mae ymchwil newydd herfeiddiol yn awgrymu mai dinistr a gwae sy’n aros Llafur yng Nghymru pan ddaw’r etholiad cyffredinol nesaf. Ond pwy fydd yn disodli Llafur? Mae’r ateb yn syfrdanol...
6 Mawrth 2009