Thema dywyll Thema golau

Cyfrinachau’r mynyddoedd – Gwaith Lisa Eurgain Taylor

Wrthi’n paratoi at y sioe honno – ei harddangosfa unigol gyntaf – y mae Lisa wrth imi ymweld â hi yn ei chartref yn Rhos-meirch ger Llangefni. Yma, at ei rhieni, y dychwelodd i fyw yr haf diwethaf ar ôl graddio yng Ngholeg Celf Wimbledon. Mae ei lluniau wedi’u gosod am y tro yma ac acw o gwmpas ystafell ar lawr cyntaf y ty. Drwy’r drysau Ffrengig gwelir ehangder braf o gaeau gwastad, gyda gwartheg Dexter ei thad yn pori’n hamddenol yn un ohonynt; gwelir hefyd y lôn sy’n mynd i Blas Tre-Ysgawen ac mae Llyn Cefni gerllaw.

Golygfeydd gwahanol iawn i hynny sydd yn y lluniau, fodd bynnag. Mynyddoedd sydd yma – copaon uchel, creigiau ysgythrog, a’r cyfan yn glytwaith o bob math o liwiau gan gynnwys rhai go lachar. Os ydi’r lluniau’n dwyn mynyddoedd Eryri i gof, nid yw hynny’n syndod gan mai rhai o’r mynyddoedd hynny, yn enwedig rhai yng nghyffiniau Bethesda – y Carneddau a’r Glyderau a Thryfan – a’u hysbrydolodd. Ond eto, er mor gyfarwydd yr olwg ydi’r uchelderau, mae rhyw wedd arallfydol arnynt hefyd, a’r niwl nad yw fyth ymhell yn cyfrannu at hynny. Craffwch ac mi welwch ffigwr benywaidd noeth, mwy nag un weithiau, yn lled-orwedd yn amryw o’r lluniau – dim mwy nag awgrym weithiau ond dro arall yn bresenoldeb llawer mwy amlwg. Oes, ynghanol caledwch y creigiau, mae rhyw feddalwch annisgwyl i’w ganfod hefyd. Mae’r cyfan yn cyfuno i greu awyrgylch gyfriniol, hudol.

Beth yw apêl y mynyddoedd i ferch ifanc a fagwyd ynghanol gwastadedd Môn? Mae’r stori honno’n mynd yn ôl i gyfnod Lisa yng Ngholeg Celf Wimbledon. Yno’r oedd hi pan deimlodd dynfa’r tirlun mynyddig Cymreig yn gryf iawn. Er iddi lwyr fwynhau ei chwrs coleg, roedd arni hiraeth mawr am gartref.

‘Roedd o’n homar o sialens,’ meddai wrth edrych yn ôl. ‘Nid yn unig bod oddi cartref am dair blynedd ond hefyd gorfod dygymod efo’r profiad newydd o orfod byw’r rhan fwya o ’mywyd bob dydd drwy gyfrwng y Saesneg. Ac mi gafodd hynny effaith mawr ar y gwaith. Dyna pryd y dechreuais i wneud lluniau’r mynyddoedd, a dwi’n dal wrthi!’

Mae llenyddiaeth hefyd yn rhan o’r ysbrydoliaeth, yn enwedig gwaith Caradog Prichard. Mae wrth ei bodd gydag Un Nos Ola Leuad, ac roedd presenoldebau arallfydol y nofel honno, Brenhines y Llyn Du a Brenhines yr Wyddfa – rhyw fath o dduwiesau mamol eu natur – yn sicr yn ei meddwl wrth gyflwyno’r ffigurau benywaidd noeth i’r lluniau. Dylanwad arall yw barddoniaeth T.H. Parry-Williams gyda’i phwyslais ar fawredd a thragwyddoldeb y mynyddoedd a’r syniad fod dyn, wrth farw, yn mynd yn un â’r cread.

Bydd yn gweithio o’r cof yn bennaf ond o ffotograffau o Eryri hefyd ac weithiau o sgetsys yn dilyn ymweliadau â’r mynyddoedd. Ac mae wedi bod yn arbrofi ers tro bellach drwy gymysgu dau gyfrwng gwahanol, sef peintio ag olew a phrintio leino.

‘Yn Llundain y dechreuais i wneud hyn. Mae’r printio leino yn ddull mor syml, a dwi’n licio’r ffaith ei fod o’n dod ag amrywiaeth i olwg y gwaith ac i’w wead o, ac yn cynnig mwy o ddyfnder – mae’r effaith bron fel 3D weithiau. Hefyd mae o’n dod â rhyw elfen fwy rhydd i’r gwaith. Mae gen i reolaeth dros y brwsh ond efo’r printio leino mae’r cyfan yn dibynnu mwy ar siawns. Dwi’n licio meddwl fod y ddeuoliaeth yma’n adlewyrchu deuoliaeth oedd yn fy sefyllfa i tra oeddwn i yn Llundain, fel Cymraes oddi cartref, a’r sicrwydd a’r ansicrwydd sy’n perthyn i fi. Hefyd mae’r dull printio leino yn fodd i drosglwyddo gwahanol siapiau ar y canfas, yn debyg efallai i’r ffordd mae fy nghynefin, y tirlun dwi’n gyfarwydd ag o a’r diwylliant a’r iaith sy’n perthyn iddo, yn gadael eu hôl arnaf fi.’

Dywed nad oedd hi’n hawdd egluro teimladau a syniadau fel hyn wrth ei chyd-fyfyrwyr a’i thiwtoriaid ar y cwrs ond bu gorfod llunio datganiad am ei gwaith ar gyfer y sioe radd yn fodd iddi risialu’r cyfan, iddi hi ei hun yn gymaint ag iddynt hwy. Yn sicr, fe wnaeth y lluniau eu hunain greu argraff ar sawl un. Roedd Lisa’n un o tua deg ar hugain o raddedigion o dri o golegau celf Llundain a ddewiswyd gan Clyde&Co, cwmni o gyfreithwyr, ar gyfer arddangosfa arbennig yn eu pencadlys – swyddfa fawr hynod o fodern – yn y brifddinas, arddangosfa sy’n parhau am flwyddyn. Enillodd un o ddwy wobr ariannol hael a gynigiwyd gan y cwmni. Mae’r arddangosfa a’r gwobrau yn rhan o gynllun gan Clyde&Co i helpu graddedigion newydd sydd â’u bryd ar droi eu celfyddyd yn yrfa. Yn ogystal ag ennill Gwobr Pleidlais y Staff, llwyddodd Lisa i werthu dau o’r lluniau drwy’r ocsiwn a oedd hefyd yn rhan o’r project.

‘Mae ennill y wobr Clyde&Co wedi bod yn hwb anferth i mi. Roedd o’n help ariannol mawr, yn ei gwneud hi’n bosib imi brynu’r stwff celf gorau ac ati. Ond roedd bod yn rhan o’r cynllun yn werthfawr hefyd o ran fy nghyflwyno i agweddau ymarferol arddangos a gwerthu, ac o ran rhoi hyder i mi yn y gwaith.’

Mae comisiynau wedi dod i law yn barod am y tirluniau. Wrth i ambell un ofyn am lun o fynydd penodol, go iawn, mae rhywun yn synhwyro y gallai fod yma rywfaint o ddilema’n datblygu i artist ifanc sy’n amlwg yn hoffi rhoi ffrwyn i’w dychymyg wrth beintio. Cwestiwn arall fydd yn codi maes o law efallai fydd ble i fyw wrth geisio gwneud bywoliaeth fel artist. Er gwaethaf y pyliau o hiraeth yn Llundain, mae’n hoffi’r ddinas yn fawr ac yn llawn sylweddoli beth yw’r manteision o fyw yno o safbwynt cychwyn gyrfa yn y byd celf. Ond mae tynfa’r gwreiddiau yn gryfach ar hyn o bryd.

‘Mae’n wir mai yn Llundain mae pob dim yn digwydd. Dwi wrth fy modd yn bod yno ynghanol y bwrlwm a chael mynd i’r holl orielau. Ond dwi hefyd wrth fy modd yn byw adre ym Môn, ynghanol distawrwydd cefn gwlad, a chael llonydd i beintio – a gofod stiwdio am ddim!’

Yn sicr mae gan Lisa ddigon o waith ar hyn o bryd. Mae’n dilyn cwrs rhan-amser ar gelf mewn iechyd a lles yng Ngholeg Harlech, yn helpu yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ym Mangor a hefyd gyda gweithdai Criw Celf a drefnir drwy Gyngor Gwynedd. Rhwng hynny a pharatoi at yr arddangosfa yng Nghaernarfon, does dim llawer o oriau sbâr yn y dydd.

‘Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at yr arddangosfa yn Bocs. Dydi fy ffrindiau ddim wedi gweld fy ngwaith fel hyn o’r blaen – dim ond ar y we ac ati. Mae cael cyfle i’w arddangos o’n lleol yn golygu mwy i mi na’r arddangosfeydd yn Llundain, er mor gyffrous oedd hynny.’

Mae’n amser cinio bellach ac arogl cawl ffesant yn llenwi’r gegin. Mae prynhawn o waith caled – pethau ymarferol fel ymestyn y canfas dros y fframiau gyda help ei thad, ac anfon gwahoddiadau ar gyfer agoriad yr arddangosfa – o flaen Lisa. Mae’n rhaid dirwyn y sgwrs am fynyddoedd cyfriniol, am ddylanwad Eryri ar lenorion ac am brofiadau alltudiaeth i ben. Ond mae rhywun yn gadael y ty bychan llawn celf ym Môn gan synhwyro bod rhagor o waith eto yn mynd i ddeillio o’r pair syniadol a theimladol hwn.

Bydd gwaith Lisa Eurgain Taylor i’w weld yn Bocs, Caernarfon, o 6 Chwefror hyd 2 Mawrth.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Materion y Mis - Bwyell Williams yn Sbaddu Llywodraeth Leol

Ymlaen >

Papur Arholiad Plaid Cymru