Mae perygl gwirioneddol fod llawer o’r deddfu yn Senedd Cymru yn ymwneud â’r symbolaidd yn hytrach nag egwyddorion ymarferol a allai wneud gwir wahaniaeth ar lawr gwlad. Gwaddol anffodus blynyddoedd cynnar Datganoli a ‘meddylfryd y Cynulliad’ yw hyn yn ôl ein colofnydd.
Un o freintiau mawr bod ar staff Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yw cael cydweithio hefo pobl sydd nid yn unig yn eithriadol o alluog ac ymroddgar, ond yn rhyfeddol o hwyliog hefyd. Mae chwerthin a thynnu coes yn rhan feunyddiol o fywyd y swyddfa, ond heb os y digwyddiad mwyaf hwyliog yn ein calendr blynyddol yw’r cinio Nadolig. A’r rhan fwyaf hwyliog o’r cinio hwnnw yw’r cwis arbennig a drefnir gan ein cyd-weithiwr ardderchog, yr arch-holwr Nye Davies.
Fel sy’n gwbl briodol mewn digwyddiad o’r fath, mae’r cwestiynau a osodir ganddo’n gyfuniad o’r gwirion a’r nerdaidd iawn, iawn. Ond yng nghanol yr hwyl mae Nye hefyd yn achub ar y cyfle i wneud ambell i bwynt cynnil ynglŷn â natur gwleidyddiaeth Cymru. Felly yr oedd hi rai blynyddoedd yn ôl pan estynnwyd pedwar dyfyniad i ni’r ciniawyr – y pedwar wedi eu codi o faniffesto pedair plaid wleidyddol wahanol oedd yn cystadlu â’i gilydd mewn etholiad datganoledig a gynhaliwyd yn gynharach y flwyddyn honno. Y dasg? Cysylltu’r dyfyniad hefo’r blaid gywir.
Y broblem – ac oni bai fy mod yn camgymryd yn fawr, dyma’r pwynt yr oedd Nye am dynnu’n sylw ato – oedd fod y dasg fwy neu lai’n amhosibl gan fod y pedwar dyfyniad mor debyg. Yn wir, roedd o leiaf ddau ohonynt air-am-air yr un fath. Mewn amgylchiadau o’r fath, er ein bod i gyd yn dilyn gwleidyddiaeth Cymru’n agos, nid oedd disgwyl i’r un ohonom wybod yr atebion cywir. Byddai’n rhaid dyfalu. Ac fel y gallwch ddychmygu, roedd yr atebion anghywir a oedd y siŵr o ddilyn – yn enwedig rhai’r Cyfarwyddwr – yn destun rhialtwch mawr.
Ond mae’r cwestiwn a osodwyd i ni’n codi cwestiwn mwy difrifol a diddorol yn ei dro. Sut oedd pedair plaid mor wahanol yn gallu cynnwys adrannau mor fanwl debyg yn eu maniffestoau? Mae’r ateb yn syml: roedd hi’n amlwg fod yna elusen benodol wedi bod yn lobïo’r pleidiau i gynnwys datganiad i’r perwyl eu bod yn cymryd clefyd arbennig ‘o ddifri’ ac i addunedu y byddent, petaent mewn sefyllfa i wneud hynny, yn cyflwyno polisi a fyddai’n tanlinellu difrifoldeb eu hymrwymiad i gymryd y clefyd dan sylw o ddifri. Gan nad oedd hi’n ymddangos bod oblygiadau gwariant yn dilyn o’r polisi, a chan fod y clefyd yr oedd yr elusen yn canolbwyntio arno’n ddi-os yn un annymunol, mae’n hawdd deall pam oedd y sawl oedd yn llunio’r maniffestoau ar ran y pleidiau wedi ildio i’r pwysau a chynnwys yr ymrwymiad. Wedi’r cwbl, nid oedd dim i’w golli o wneud, a’r perygl o beidio â gwneud oedd rhoi’r argraff nad oedd eu plaid hwy – yn wahanol i’r pleidiau eraill – yn hidio dim am y cyflwr. Mewn byr o eiriau: gan mai symbolaidd yn hytrach na sylweddol oedd yr ymrwymiad, nid oedd waeth i bawb chwarae’r gêm ddim.
Rwyf wedi meddwl llawer ers y noson honno ynglŷn ag arwyddocâd ehangach y pedwar dyfyniad a gynhwyswyd yng nghwis Nye, ac yn benodol, yr hyn yr oedd y cyfan yn ei ddweud am natur gwleidyddiaeth ddatganoledig. Ar y naill llaw, fe ellid ei ddehongli mewn golau cadarnhaol: fel arwydd fod gwleidyddiaeth Senedd Cymru yn fwy gwâr – ac yn sicr wedi pegynu’n llai eithafol – na gwleidyddiaeth San Steffan; fel tystiolaeth fod gwleidyddion Cymreig yn fwy parod i gydweithio ar draws ffiniau plaid i fynd i’r afael â phroblemau yn hytrach na checru a thynnu’n groes at ddibenion enwadol cul. Byddai’n braf meddwl bod elfen o wirionedd yn hynny.
Ond mae dehongliad arall yn bosibl, dehongliad llai cysurlon, sef bod y pleidiau sydd wedi cael eu cynrychioli yng Nghaerdydd ers gwawrddydd datganoli i gyd wedi syrthio i fagl yr hyn yr wyf yn ei alw’n ‘feddylfryd y Cynulliad’. Hanfod y meddylfryd hwn yw bod gwleidyddiaeth symbolaidd – gwleidyddiaeth sy’n dyrchafu dangos lliw neu ddangos ochr yn gyhoeddus – yn drech na gwleidyddiaeth y gweithredu ymarferol.
Mae arwyddion o’r math yma o wleidyddiaeth ar bob tu, rhai’n ddigon diniwed. Er enghraifft, bydd mynychwyr cynadleddau’r pleidiau gwleidyddol yn hen gyfarwydd â gweld y stondinwyr sy’n bresennol yn gofyn i wleidyddion am gael tynnu eu llun yn dal rhyw arwydd neu’i gilydd yn cefnogi’r hyn a’r llall. Ond i’m tyb i, mae’r effeithiau’n fwy negyddol o lawer pan welir yr un meddylfryd ar waith ym myd deddfu. Yn sicr, fe welodd Senedd Cymru fwy na’i chyfran o ddeddfau’n cael eu llunio a’u pasio sy’n brin iawn, iawn o sylwedd go-iawn. Yn hytrach na gosod ymrwymiadau cyfreithiol ar ddinasyddion neu draddodi hawliau cyfreithiol iddynt, yr hyn a geir yn amlach na pheidio yn sgil deddfau o’r fath yw gwŷs ar gyrff cyhoeddus i ‘ystyried’ neu i ‘baratoi adroddiadau’ ar gyfer rhyw gorff neu gomisiynydd – a bydd dangos parodrwydd i wneud hynny, ni waeth pa mor ffuantus yr ymdrech, yn ddigon ynddo’i hunan i fodloni gofynion cyfundrefn sylfaenol ddiddannedd. Yr enghraifft orau o hyn, efallai, yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 – deddf broffil uchel na chafodd nemor ddim ardrawiad ar lawr gwlad. Ond dagrau pethau yw fod yna lawer iawn mwy o enghreifftiau eraill y gellid cyfeirio atynt.
Wrth gwrs, nid Cymru yw’r unig wlad – ac nid Senedd Cymru yw’r unig ddeddfwrfa – sydd wedi gwneud llo aur o wleidyddiaeth a deddfwriaeth symbolaidd. Ers blynyddoedd bu llywodraethau o wahanol liwiau gwleidyddol yn San Steffan yn hyrwyddo deddfau di-rif ym maes cyfiawnder troseddol sy’n gwneud dim o sylwedd y tu hwnt i geisio dangos i’r cyhoedd, ac yn arbennig golygyddion y papurau newydd mwyaf dylanwadol, eu bod ‘o ddifri’ ynglŷn â mynd i’r afael â drwgweithredwyr. Mae barnwyr, megis y Cymro a’r cyn-Arglwydd Brif Ustus John Thomas (Arglwydd Cwmgïedd), wedi bod yn feirniadol o enghreifftiau eraill o ddeddfwriaeth symbolaidd sy’n cael eu llunio gan yr un ddeddfwrfa.
Serch hynny, mae lle i gredu bod hyn yn broblem benodol yn y cyd-destun Cymreig. Yn un peth, pan sefydlwyd y Cynulliad roedd ei rymoedd ymarferol mor gyfyngedig fel nad oedd llawer o opsiwn ac eithrio canolbwyntio ar y symbolaidd – yn enwedig mewn cyd-destun pan oedd hawl gan y Cynulliad i drafod unrhyw beth fwy neu lai. Dichon fod hynny wedi gosod y cywair ar gyfer y sefydliad hyd yn oed ar ôl i’r Cynulliad droi’n Senedd. ’Fyddwn i ddim am ddadlau chwaith fod y symbolaidd yn gwbl ddibwys neu’n ddiwerth. Weithiau mae’n bwysig dangos ochr.
Ond a ninnau bellach wedi dathlu chwarter canrif o ddatganoli, siawns ein bod yn gallu cytuno ei bod yn hwyr glas ffarwelio â ‘meddylfryd y Cynulliad’. Wedi’r cyfan, mae problemau’r wlad yn amlwg iawn – ystyrier, er enghraifft, yr ystadegau gwirioneddol uffernol ynglŷn â chyrhaeddiad disgyblion yn ysgolion Cymru o’i gymharu hefo Lloegr heb sôn am wledydd mwy goleuedig Llychlyn.
Yn hytrach na gwastraffu amser ac egni – a chapasiti deddfwriaethol prin – ar y sylfaenol ddisylwedd, fe fyddai’n rheitiach i’n gwleidyddion etholedig a’r gweision sifil sy’n eu gwasanaethu ganolbwyntio ar geisio sicrhau newid gwirioneddol drawsffurfiol ac arwyddocaol. Felly, wrth i’r pleidiau gwleidyddol fynd ati i baratoi eu maniffestoau ar gyfer yr etholiad sydd i’w gynnal ymhen blwyddyn, beth am geisio pwyso arnynt i ganolbwyntio ar y sylweddol yn hytrach na’r symbolaidd? Efallai’n wir y bydd mymryn yn llai o chwerthin yn ein cinio Nadolig ddiwedd y flwyddyn nesaf o’r herwydd. Ond dyna bris bychan i’w dalu.