Thema dywyll Thema golau

Pwy a saif gyda ni?

Jeremy Corbyn a'r Blaid Lafur yn ymgyrchu dan faner 'Sefyll Cornel Cymru' Jeremy Corbyn a'r Blaid Lafur yn ymgyrchu dan faner 'Sefyll Cornel Cymru'

O ‘Sefyll Cornel Cymru’ yn y gorffennol, mae ein prif golofnydd gwleidyddol yn rhagweld mai ‘Sefyll Cornel Llundain’ y bydd Llafur Cymru ar ôl yr etholiad.

Dyma gwestiwn i chi: pa ddelweddau neu ddigwyddiadau a fydd yn cael eu cofio o etholiad cyffredinol 2024 yng Nghymru? Gan fy mod yn ysgrifennu hyn o eiriau cyn i unrhyw bleidleisiau gael eu cyfrif a chyn i unrhyw ganlyniad gael ei gyhoeddi, mae’n siŵr na ddylwn fod yn rhy bendant yn fy narogan. Serch hynny, mae’n anodd dychmygu y bydd unrhyw beth yn profi’n fwy cofiadwy – a phwysfawr – na pherfformiad y gwleidydd Llafur Jo Stevens yn ei chyfweliad gyda Catrin Haf Jones ar raglen S4C Y Byd yn ei Le ar 17 Mehefin.

Yn sicr, dyma’r unig elfen benodol-Gymreig o’r etholiad i ennyn sylw torfol sylweddol. Y tu hwnt i wylwyr y rhaglen ei hun, fe welwyd trydariad a oedd yn cynnwys y cyfweliad gan dros bedwar cant a hanner o filoedd o bobl. Dwn i ddim sawl un arall a’i gwelodd trwy ffynonellau eraill. Gellir casglu sut argraff a wnaeth y cyfweliad ar y gwylwyr hyn trwy nodi mai gwleidyddion a chefnogwyr Plaid Cymru, yn arbennig, ynghŷd â’r Blaid Geidwadol – yn hytrach na Llafurwyr – fu’n fwyaf awyddus i’w rannu â’u dilynwyr. Mewn ymgyrch etholiadol lle llwyddodd y Blaid Lafur i osgoi’r gwahanol faglau a osodwyd o’i blaen gan ei gwrthwynebwyr, roedd cyfweliad Stevens yn enghraifft brin o gam gwag.

Eto, ymddengys fod y gwleidydd a oedd adeg darlledu’r rhaglen yn Ysgrifennydd Gwladol cysgodol a’i chynghorwyr wedi eu synnu a’u siomi gan yr ymateb i’r cyfweliad. Mae deall pam eu bod mor ddall i effaith debygol ei geiriau a’i hosgo’n datgelu llawer ynglŷn â chyfeiriad tebygol gwleidyddiaeth Cymru dros y ddwy flynedd nesaf.

Go brin ei bod yn gyfrinach fod rhwygiadau dyfnion oddi mewn i’r Blaid Lafur Gymreig. Mae’r rhain yn cynnwys rhaniadau rhwng y dde a’r chwith, wrth gwrs, yn ogystal â thensiynau rhwng gwahanol bersonoliaethau nad oes a wnelo nhw ddim oll â safwynt nac egwyddor. Ond y gynnen fwyaf arwyddocaol yn wleidyddol yw honno rhwng aelodau seneddol Llafur o Gymru yn San Steffan a’r grŵp Llafur yn Senedd Cymru. Bydd pawb sy’n treulio amser yn cymysgu hefo gwleidyddion Llafur yn y ddau le wedi hen arfer clywed Llafurwyr Cymreig ar lannau Tafwys yn lambastio eu cydbleidwyr yn Llywodraeth Cymru, a Llafurwyr Cymreig ar lannau Taf yn rolio eu llygaid (neu waeth) wrth drafod eu ‘cymrodyr’ Llundeinig.

Gwraidd y tensiwn yw’r niwrosis – alla’i ddim meddwl am ddisgrifiad gwell – sydd wedi gafael yn y rhan fwyaf o aelodau cangen San Steffan o’r teulu cecrus hwn. Gellir disgrifio symptomau’r cyflwr fel â ganlyn:

  1. Cred mai nhw, Aelodau Seneddol San Steffan, sy’n cyfrif go iawn – nid yn unig oherwydd mai Llundain yw prifddinas ein Prydain Fawr ond hefyd gan mai nhw, Aelodau San Steffan, ydi ‘A team’ y Blaid Lafur Gymreig o ran talent a gallu.
  2. Tybiaeth gysylltiedig fod Aelodau Llafur Senedd Cymru wedi cael llawer gormod o sylw dros y blynyddoedd diwethaf ar draul Aelodau San Steffan a’u bod felly’n hwyr glas dangos bod na fistar ar Mistar Mostyn.
  3. Ffydd ddiysgog fod pobl Cymru’n cytuno â’u dyfarniad hwy ynglŷn â phwysigrwydd a gwerth cymharol y ddwy garfan o wleidyddion Llafur Cymreig.

Dyma’r agweddau a bennodd gynnwys Cymreig maniffesto etholiadol y Blaid Lafur. Ar ôl ymladd yn galed ac yn llwyddiannus i lastwreiddio’r ymrwymiad i ddatganoli grymoedd pellach i Gymru yn adroddiad Comisiwn Gordon Brown ar ddyfodol yr Undeb, mae’n amlwg fod Jo Stevens wedi mynd ati – eto’n llwyddiannus – i lastwreiddio’r glastwreiddiad yna hyd yn oed ymhellach wrth baratoi’r maniffesto. Erbyn hyn, ni cheir ymrwymiad i wneud mwy na ‘rhoi ystyriaeth’ i ddatganoli’r gwasanaeth prawf a chyfiawnder i’r ifanc. Bydd pawb a glywodd gyfweliad Jo Stevens yn sylweddoli’n burion nad oes fwriad yn y byd ganddi i weld yr ‘ystyriaeth’ yma’n esgor ar ddim oni bai fod rhaid.

Ond mae’r uchelgais yn mynd ymhellach na rhwystro mwy o ddatganoli. Mae’n amlwg o ddarllen y maniffesto a chlustfeinio y tu ôl i’r llenni mai’r bwriad yw sicrhau dylanwad pellgyrhaeddol i Swyddfa Cymru – ac felly, wrth gwrs, Aelodau Seneddol Llafur yn San Steffan – yn y modd y llywodraethir Cymru. Yn hyn o beth mae’r duedd Lundeinig oddi mewn i’r Blaid Lafur Gymreig â’i bryd ar barhau ag ymdrechion y Torïaid – ers Boris Johnson, yn arbennig – i danseilio’r model o ddatganoli a ddatblygodd ar ôl 2011 er mwyn sicrhau bod Llundain (yn enw ‘cydweithrediad’) yn goruchwylio a phennu cyfeiriad a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae’n union fel petai’r lefel ddatganoledig yn blentyn anystywallt sydd angen ei roi ar ben-ffordd gan y pater familias yn Whitehall...

Y tu hwnt i’r hunan-dyb nawddoglyd, mae o leiaf ddwy broblem ynghlwm â hyn, y naill yn ymarferol a’r llall yn wleidyddol. O ran y gyntaf, yn syml does mo’r staff na’r adnoddau eraill yn Swyddfa Cymru i ymgymryd â’r llwyth gwaith ychwanegol a arfaethir ar ei chyfer. Ychydig dros hanner cant sy’n gweithio yno. Mae’r syniad y gallai’r Swyddfa, er enghraifft, fod â swyddogaeth flaenllaw mewn dosrannu arian ar lefel lleol yng Nghymru heb gynnydd sylweddol iawn yn nifer ei gweision sifil yn nonsens. Ac er holl ddyheadau Aelodau Seneddol Llafur o Gymru yn Llundain, mae’n anodd iawn credu y bydd y Trysorlys yn fodlon caniatáu cynnydd o’r fath mewn cyfnod pan fydd arian cyhoeddus yn eithriadol o brin.

Ond ar ben hynny, mae gennym ddigon o brofiad o gyfnodau blaenorol pan geisiodd Ysgrifennydd Gwladol ac Aelodau Seneddol San Steffan ymyrryd mewn meysydd datganoledig i wybod bod ceisio gwneud hynny’n siŵr o droi’n ffradach. Ystyrier y cyfnod rhwng 2001 a 2003 pan oedd Helen Liddell yn Ysgrifennydd yr Alban neu’r hunllef yna o gyfnod rhwng 2007 a 2011 pan oedd Senedd a Llywodraeth Cymru’n gorfod gweithredu trwy gyfrwng y system LCOs bondigrybwyll. Yn y pen draw, yn gwbl groes i fwriadau’r duedd Lundeinig oddi mewn i Lafur, yn hytrach na chadarnhau awdurdod San Steffan a Whitehall y cwbl y llwyddwyd i’w wneud oedd ei danseilio ymhellach. Mae’n dweud llawer am grebwyll gwleidyddol yr ‘A team’ nad ydynt wedi dysgu megis dim o’r profiad.

Dagrau’r sefyllfa o ran Aelodau Llafur yn Senedd Cymru yw eu bod yn parhau i gael eu harwain gan ŵr na fydd yn gwneud unrhyw beth i eirioli ar ran buddiannau a breiniau’r Senedd a’r Llywodraeth y mae’n Brif Weinidog arnynt. Oherwydd hyd yn oed petai ganddo unrhyw awydd i wneud hynny, mae Vaughan Gething yn rhy ddibynnol ar gefnogaeth yr Aelodau Seneddol yn Llundain i feiddio cicio’n erbyn y tresi. Gall hynny yn ei dro wneud etholiad 2026 yn arteithiol o anodd i’r Blaid Lafur Gymreig. Tra mae ‘Sefyll Cornel Cymru’ wedi profi’n slogan ac yn osgo hynod effeithiol a llwyddiannus i’r blaid yn y gorffennol, rwy’n rhagweld na fydd ‘Sefyll Cornel Llundain’ yn apelio yr un fath.

< Yn ôl

Cip ar weddill rhifyn Gorffennaf/Awst

Ymlaen >
Siop Dylanwad, Dolgellau

Cwis i’n darllenwyr