Thema dywyll Thema golau

Brifo Bob Dydd

Dwedodd ei bod wedi bwcio awyren yn ôl i’r Unol Daleithiau ar ei chyfer ei hun. Doedd dim sôn amdanaf i. Dim sôn amdanom ni. Nawr, wrth eistedd ar fainc ar Blatfform 1, roedd y cwestiynau’n rhuo trwy fy mhen. Ond ddwedais i ddim gair. Rhedasom allan o bethau i’w dweud. Roeddem yn eistedd yn ddistaw, ei llaw hi yn fy llaw i, pan ddaeth y trên. Helpais i hi gyda’i bag. Sefais nesaf at ei ffenestr y tu allan i’r trên yn edrych arni’n drist. Yna, sefais yno’n stond wrth weld y trên yn mynd. Es i adref ac wylo am wythnos.

Fyddwn i ddim yn ei gweld hi byth eto. Rai misoedd yn hwyrach, gofynnodd am ysgariad. Aeth hynny’n swyddogol ar 16 Mawrth 2010 – pedwar diwrnod cyn fy mhen-blwydd. ‘Chris, don’t you miss her?’ gofynnodd fy mam-gu wythnosau yn ôl. ‘Oh, sure,’ meddwn i. ‘Every day.’

Gallaf deimlo’r boen o hyd. Weithiau, edrychaf ar luniau o Rachel a theimlo fel petai lori’n gwasgu lawr ar fy mrest. Daw’r hen ddagrau. A’r cwestiynau.

Ond daw cwestiynau newydd erbyn hyn. Sut y gall y fath boen barhau mor hir? Mae blwyddyn wedi mynd heibio. Oni ddylwn i fod yn gwella bellach? Ond a dweud y gwir, rydw i yn gwella erbyn hyn. Mewn ffordd.

Yn aml, defnyddir geiriau fel ‘rhwygo’ a ‘thorri’ a ‘gwahanu’ i ddisgrifio ysgariad. Mae’n broses o un peth yn mynd yn ddau. Dydw i’n ddim ond hanner o rywbeth a fu, sef ein priodas. Ond, ynof fi fy hunan, hefyd, mae dwy ran.

Mae un rhan eisiau marw. Ers colli fy ngwraig, mae fel petai rhan ohonof ar gau. A ydych wedi clywed erioed am Faes Awyr Mojave, California, lle caiff cannoedd ar gannoedd o hen awyrennau eu storio? Does neb eisiau’r awyrennau hyn; mae’n debygol na fydd eu hangen byth. Teimla rhan o’m henaid fel un o’r awyrennau diangen hynny – yn gorwedd yn dawel, heb bwrpas, yn dadfeilio’n araf.

Gyda’r nos, gallaf deimlo gwacter a phoen yr awyren. Rydw i eisiau ffonio fy nghyn-wraig a dweud wrthi: ‘Dwi’n gweld dy eisiau ac eisiau dy weld. Dere ’nôl ata’ i. Plîs.’

Ond mae rhan arall ohonof yn symud ymlaen. Mae gennyf gariad newydd y dyddiau hyn. Merch dlos hyfryd gyda llygaid glas, sy’n edrych arnaf yn llawn caredigrwydd a chwant. Rydw i wrth fy modd yn cerdded law yn law gyda hi trwy’r parc ar ddydd heulog o haf, oedi o dan goeden a’i thynnu hi’n agos.

Teimlaf yn hapus. Teimlaf yn fyw. Gyda hi, edrychaf ymlaen at y dyfodol. Eisoes mae sôn am Nadolig a phob dim, gyda’r ddau ohonom yn defnyddio’r rhagenw arwyddocaol hwnnw: ‘ni’. Nid fi a hi, na hi a fi – ni. Ond o dan yr wyneb mae cwestiynau a phryderon. Dim ond rhan ohonof sydd ganddi. Alla’ i ddim ei charu hi â’m holl galon ac enaid. Nid oes gennyf y gallu. Dyw’r math hynny o beth ddim yn teimlo’n bosibl. Teimlaf yn anghyflawn. O hyd mae’r teimlad fy mod yn ddim ond hanner o rywbeth a fu.

Ond mae’n rhywbeth na fydd, chwaith. Ac yn sgil hynny rydw i’n dyheu am wella, rydw i ar dân i fod yn ddyn llawn eto. Am faint fydd y boen yn parhau? Pa mor hir fydd hi cyn y gallaf ddweud wrth rywun, ‘Dwi’n dy garu di’ unwaith eto?


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Login

Cofrestru


A link to set a new password will be sent to your email address.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein privacy policy.


 

Previous Post

Wrth Eu Llwythau…

Next Post

Cwrs Y Byd: Lle Aeth Pawb?