Daeth tymor y gwyliau cerddorol Cymreig i ben gyda dwy wyl dra gwahanol i’w gilydd, Gwyl Gwydir a Gwyl Rhif 6. Dyma argraffiadau un a fu yn y ddwy.
Mae wythnos gyntaf Medi wastad wedi bod yn wythnos o deimladau chwithig. Wythnos o glywed un drws yn cau a gweld un arall yn agor. Ac er fod y drysau hynny wedi cynrychioli pethau gwahanol wrth imi fynd yn hyn, yr un yw’r teimlad o wacter. Ddeng mlynedd yn ôl, diwedd ar haf o ryddid oedd hi, cyn mynd yn ôl i grafangau amserlen tymor ysgol. Ond dros y bum mlynedd ddiwethaf mae mis Medi wedi golygu diwedd ar ddigwyddiadau sydd wedi dod yn uchafbwynt y calendr roc, pop a gwerin yma yng Nghymru – a thu hwnt – ac eleni roedd y teimladau hiraethus yn gryfach nag erioed.
Fe wnaeth y bandiau, yr hyrwyddwyr a’r labeli recordio ein difetha ni’n rhacs eleni. Daeth Ywain Gwynedd a’i diwns bachog yn ôl i’n diddanu ni unwaith eto; daeth bandiau cyffrous megis Palenco, Y Ffug, I Fight Lions a Trwbz i’r amlwg, ac roedd gwyl ar ôl gwyl ar ôl gwyl yn cael eu cynnal ar hyd a lled y wlad, gan ffurfio cnewyllyn cryf a byw i’r Sin Roc Gymraeg. Roedd ’na wyliau sydd wedi hen sefydlu eu hunain, megis Gwyl y Dyn Gwyrdd, Gwyl Gardd Goll ac wrth gwrs, Maes B, yn ogystal â gwyliau sy’n parhau i fynd o nerth i nerth – Gwyl Arall, Gwyl Crug Mawr a Sesiwn Fawr ar ei newydd wedd, i enwi dim ond tair, heb sôn am gnwd da o wyliau lleol llwyddiannus mewn sawl man
Ond gyda’r wythnosau’n prysur wibio heibio, a’r holl wyliau yn mynd a dod, roedd ’na wastad deimlad fod yr haf yn adeiladu tuag at binacl arbennig – ac y byddai’r haf yn gorffen gyda chlec, fel petai. Ac yn sgil llwyddiant y ddwy wyl llynedd, dyna’n union yr oedd pawb yn disgwyl ei gael yn Ngwyl Gwydir a Gwyl Rhif 6 eto eleni.
Yn nhermau’r gwyliau llai yng Nghymru, mae Gwyl Gwydir yn esiampl berffaith o sut i ddatblygu a rhedeg gwyl yn llwyddiannus. Mae’r criw bychan o drefnwyr lleol wedi mynd ati i ehangu maint yr wyl yn raddol ers iddi gael ei sefydlu chwe mlynedd yn ôl. Yn wreiddiol roedd hi’n cael ei chynnal mewn amryw leoliadau yn Llanrwst, cyn symud i safle parhaol yng Nghlwb Rygbi’r dref gan ddenu mwy a mwy o gynulleidfa. Heb unrhyw gyllid allanol i helpu i ariannu’r wyl, mae’r trefnwyr wedi bod yn ofalus i beidio ehangu’n rhy gyflym. Mae’r pris mynediad wedi parhau’n rhesymol, mae’r awyrgylch cyffredinol wastad yn braf, heb fawr ddim helynt, ac mae’r lein-yp yn cael ei ddewis gan bobl sydd yng nghanol bwrlwm y SRG ac yn deall eu cerddoriaeth – sydd wastad yn help.
Ar y llaw arall, roedd trefnwyr Gwyl Rhif 6, a oedd yn dair oed eleni, wedi dangos eu bwriad o’r dechrau’n deg, gan wahodd bandiau mor enwog â New Order, y Manics, Chic a Johnny Marr yn y blynyddoedd cyntaf. Ac er fod y pris tocyn fymryn yn ddrud, mae’n adlewyrchu’r ffaith fod Gwyl Rhif 6 yn cystadlu gyda rhai o wyliau mwyaf Prydain.
Wrth gwrs, mae Portmeirion, lleoliad Gwyl Rhif 6, yn allweddol i ddelwedd yr wyl a’i llwyddiant. Ar wahân i hud y pentref ei hun, creadigaeth ryfeddol Clough Williams-Ellis, a golygfa ar draws aber afon Dwyryd sy’n dwyn eich anadl, mae’n lleoliad delfrydol ar gyfer cynnig pob mathau o berfformiadau ac atyniadau gwahanol yr un pryd, gan gynnwys ffilmiau, darlleniadau a chomedi. Mae hi’n wyl arbennig, foethus, ac yn sicr mae’n unigryw.
Ond beth am y gerddoriaeth ei hun? Dyma rai o’r uchafbwyntiau’r ddwy wyl i mi.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
