Er colli’r refferendwm, nid yw chwyldro yn air rhy gryf am yr hyn a ddigwyddodd yn enw’r ymgyrch Ie ar strydoedd ar hyd a lled yr Alban, yn ôl un a oedd yno yn ystod yr wythnos yn arwain at 18 Medi.
Yn ymgyrch Ie yn yr Alban gwelwyd asiad rhyfeddol rhwng gwahanol garfanau cymdeithasol a gwleidyddol, ac nid yw hwnnw, na’r dyhead sylfaenol am newid yn y drefn, am ddiflannu ar chwarae bach.
‘Bydd Tommy Sheridan yn hwyr,’ meddai cynullydd y cyfarfod Ie yng nghlwb cymdeithasol Clwb Pêl-droed Motherwell, ‘gan ei fod yn sefyll ar ben car yn annerch cannoedd o bobl tu allan.’ Ac yn wir wrth graffu ar y trydar, mi welais mai dyna’n union a oedd yn digwydd. ‘The Yes campaign,’ meddai Sheridan pan gyrhaeddodd ymhen y rhawg, ‘is having bigger meetings outside its meetings than the No Campaign.’
Roedd hynny o leiaf yn wir. Ddiwrnod ynghynt, wrth geisio canfod maes parcio ar gyfer gwneud eitem i Good Morning Wales fore trannoeth, cerddais yn ddirybudd i blith torf o ryw ddwy fil o bobl y tu allan i swyddfeydd y BBC yn Glasgow a oedd yn llafarganu ‘Shame on you, BBC’, a phethau na ddylid eu dweud wrth unrhyw Anti megis ‘You can stick your licence up your arse’.
Ar hyd a lled y wlad, roedd strydoedd yr Alban yn frith o sectau sosialaidd yn ymgyrchu’n ddygn o blaid diwedd Prydeindod a therfyn cyfalafiaeth. Y Grwp Comiwnyddol Chwyldroadol ar y Byres Rd yn Glasgow, yr Ymgyrch Annibyniaeth Radicalaidd yn Dundee. Roedd yr Estelada, baner annibyniaeth Catalwnia, yn cyhwfan yn y gwynt. Meddyliais am Homage to Catalonia George Orwell, a gweld Glasgow yn debyg.
Roedd yn rhyfeddol cyn lleied o’r pamffledwyr a’r stondinwyr hyn a oedd yn aelodau o’r SNP. Roedd y byd wedi’i droi tu chwith allan, a faswn i ddim wedi synnu pe bai Diggers, Levellers a Ranters rhyw chwyldro arall wedi ymddangos ar y stryd yn eu carpiau. Roedd hyd yn oed y cardotwr ar Byres Rd wedi’i orchuddio ei hun efo sticeri gleision yr ymgyrch Ie.
Noson y bleidlais, dyma droi i mewn i George Square ynghanol Glasgow gyda’r hwyr, neu ‘Independence Square’ fel y’i galwyd er mwyn dwyn brwydr Maidan Kiev i’r cof, a gweld cannoedd o lanciau a llancesi yn dawnsio rave, ac alawon undonong a hypnotig eu canu aflêr yn lledu i’r nos – ‘Sgotland, Sgotland, Sgotland’.
Nid yn Glasgow yn unig yr oedd chwyldro ar frys. Yn Dundee, ‘Yes City’, dyma fentro i’r casino, rhoi cynnig ar ganfasio a chael Yes, Yes, Yes-towards-a-No-but-coming-back-to-a-Yes, Yes-and-all-my-mates-are-Yes, Yes, Yes a Yes. Aye. Yn Arbroath, tref tua maint Llandudno, gorymdeithiais gyda 500 o genedlaetholwyr yn unswydd er mwyn amgylchynu criw ffilmio o Channel 4 a oedd yn enw cydbwysedd wedi llwyddo i gael hyd hefyd i dri ymgyrchydd o’r garfan Na.
Ni welais i erioed y fath ffrwydrad o gelfyddyd a chlyfrwch gwleidyddol: yr ‘Ayes’ wedi’u torri i laswellt bryniau, y neges yn y Grassmarket, Caeredin, ‘Vote with Clean Pants!’ ar lein ddillad, a’r ‘Aye’ ar ei blwmars yn ei ateb. ‘Bu Chòir’ ar y traethau, y Bwyleg ac ieithoeddd Pacistan mewn taflenni, a’r Sgoteg ymhob man, Aye.
Nid esgyrn sychion cenedlaetholdeb sifig yn unig oedd chwyldro pobl ifanc yr Alban. Miss Asbri 69 oedd y cywair, diwygiad at iws gwlad yr 21g., gwrthsefydliadaeth, hunanhyder, cariad at iaith, rhyfel dosbarth, cenedlaetholdeb a hefyd ‘bywyd y tu hwnt i genedlaetholdeb’.
Mae deall y bu chwyldro yn yr Alban, er gwaetha methiant y bleidlais, yn hanfodol er mwyn amgyffred beth fydd dyfodol gwledydd Prydain o hyn allan. Nid ‘barn gytûn’ pobl yr Alban oedd y nacáu ond canlyniad gafael yr ymgyrch Na ar y wasg felen, ymddygiad gwaradwyddus a sobreiddiol y BBC, ac anallu’r to hyn i gael hyd i naratif amgen am mai’r unig beth heblaw am y Sunday Herald a oedd ym meddiant yr Ymgyrch Ie oedd y cyfryngau cymdeithasol...
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
